Mynd i'r cynnwys

Tag: ymgysylltiad cyhoeddus

Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Sut all cynghorwyr defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’u gwaith? Siaradodd Dyfrig Williams gyda’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen. Edrychodd y gynhadledd #PSDigital ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna lot i feddwl amdano yn sgil y gynhadledd. Siaradodd Ben Black am ei safle hyperlleol ar gyfer Cwmbrân, ac fe wnes i gael y cyfle i siarad ag ef am y ffordd mae’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chymuned Abersychan. Os ydych chi am weld beth sy’n digwydd… Read more Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Pam roedd pawb eisiau dweud eu dweud yng Ngwlad yr Iâ mewn cyfnod o ymddiriedaeth isel? Fe wnaeth Dyfrig Williams cymryd rhan mewn sgwrs gwe gyda Kevin Davies a Dean George o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gunnar Grímsson o’r Sefydliad Dinasyddion i ddysgu mwy am Reykjavik Gwell. Roedd 2008 yn adeg anodd yng Ngwlad yr Iâ. Aeth tri phrif fanc sector preifat y wlad i’r wal, a dechreuodd hyn argyfwng ariannol a wnaeth hyd yn oed effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru. Pa mor llwyddiannus oedd y gwefan? Lansiwyd gwefan… Read more Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Beth sy’n debyg am ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgysylltu â staff?

Ar 12 Mai, cynhaliodd y Gyfnewidfa Arfer Da gweminar gydag ideasUK, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan ar Syniadau Staff. Yn y blog yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar y negeseuon allweddol ar gynnwys staff a’r cyhoedd. Pan oeddwn i’n gweithio i Gyfranogaeth Cymru, sylwais i bod y mudiadau sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd yn effeithiol yn dueddu i ymgysylltu â staff yn dda hefyd. Dyw e ddim yn syndod felly bod e’n werth ystyried rhai o’r themâu o gweminar Syniadau Staff wrth gynnwys y cyhoedd. Mae… Read more Beth sy’n debyg am ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgysylltu â staff?

Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Y tro cyntaf imi ddod yn ymwybodol o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chynnwys y cyhoedd mewn gwaith craffu oedd yn ystod y gynhadledd Graffu a gynhaliwyd yn 2013. Gan fy mod wedi gweithio ym maes cyfranogiad y cyhoedd am ychydig flynyddoedd cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru, fe wnaeth ei ddulliau gweithredu ddenu fy sylw. Gwnaeth natur ymarferol ei becyn cymorth ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gryn argraff arnaf, ac wrth imi glywed rhagor am ei waith, roeddwn yn fwy awyddus i ddysgu. O glywed am ei ddefnydd o… Read more Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Hawliau a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro

Cafodd Cyngor Sir Penfro ei enwebu ar gyfer pob categori yng Ngwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, brawf o’u ffocws ar welliant. Arweiniodd hwn i’r cyngor ennill Gwobr Arbennig y Beirniaid. Yn y blog yma, mae Rose Davis yn ysgrifennu am Gyfranogiad a Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn y sir. Yr Her Un thema oedd yn codi ei phen dro ar ôl tro pan oedd cyrff allanol yn arolygu a chraffu ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Benfro yn 2011/12 oedd nad yw llais y… Read more Hawliau a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen. Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Wrth i gyfryngau cymdeithasol… Read more Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru