YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan.

Ffotograff o YMCA Plas

YMCA Plas

Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos wnes i fynd i sefydliad sy’n datblygu eu cynllun busnes ar gyfer safle. Fe wnes i ymweld â’r YMCA, sydd wedi cymryd drosto hen adeilad Canolfan Gymunedol Plasnewydd ar sail prydles am 100 mlynedd o Gyngor Caerdydd. Maen nhw’n edrych i ailddatblygu’r safle, ac yn wreiddiol roedden nhw eisiau’r adeilad ar sail rhydd-ddaliad i wneud y mwyaf ohono.

Fel yn achos pob un o’r asedau yn y gyfres yma o flogbostau, byddai’r trosglwyddiad ddim wedi digwydd os na fyddai’r sefydliad wedi gweithio’n agos â’r cyngor. Mae’r trosglwyddiad yn dod gyda chytundeb am 25 mlynedd heb rent, a heb hynny byddai’r YMCA ddim wedi bod mewn sefyllfa i gymryd yr adeilad. Mae hyn wedi galluogi nhw i roi’r blociau adeiladu cywir mewn lle i sicrhau twf cynaliadwy.

Mae pris tir ac adeiladau yng Nghaerdydd wedi gwneud e’n anodd dod o hyd i safle addas, yn enwedig gyda’r cynnydd enfawr yn y nifer o fyfyrwyr yn yr ardal. Ond nawr mae’r cytundeb mewn lle, mae’n bosib i Adran Ieuenctid a Chymuned y YMCA i symud o gysgod y gwaith digartrefedd mae’r YMCA yn gwneud yn yr ardal.

Doedd y cyngor ddim eisiau cyfyngu ar sut gellir defnyddio’r safle, ond mae’r trosglwyddiad ar yr amod bod y safle yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned. Yr unig amod arall yw dim ond 33% o’r adeilad all yr YMCA rhentu allan. Trwy gydol y broses wnaeth yr YMCA dweud nad ydyn nhw’n gallu cymryd y staff cyflogedig trwy TUPE achos nad oedd ganddynt y gallu i wneud hynny.

Beth yw’r strategaeth ar gyfer YMCA Plas?

Gan fod y brydles ar gyfer yr adeilad mor hir, mae’n rhaid i YMCA Plas fod yn aml-ddefnydd. Bydd hwn yn galluogi iddynt newid yr adeilad os mae’r amgylchiadau’n newid. Mae llai o bobl wedi bod yn dod i’r adeilad gan ei fod wedi cael ei glustnodi i’w cau ers peth amser, felly ar hyn o bryd mae’r YMCA yn cynnal digwyddiadau i ail-ymgysylltu â’r gymuned, ac maen nhw’n edrych i ymgynghori ar ei ddyfodol.

Y nod yw i YMCA Plas fod yn ganolbwynt cymunedol ar gyfer grwpiau lleol a phobl yr ardal. Maent yn awyddus i ddatblygu cyfleuster chwaraeon gyda champfa, er mwyn cynhyrchu incwm, ac fe fydd hwn yn rhoi ffocws iechyd a lles i’r ganolfan.

Mae’r sefydliad hefyd yn datblygu strategaeth gofal plant a meithrinfa. Maen nhw wedi nodi, trwy weithio gyda Chymunedau yn Gyntaf, bod yna prinder o ofal plant fforddiadwy yn yr ardal. Does dim lot o bobl yn gwybod mai’r YMCA yw’r darparwr gofal plant mwyaf yn y DU, ac mae’r sefydliad yn edrych i wneud y fwyaf o’i gapasiti a gwybodaeth i gymryd y rhan hon o’r cynllun ymlaen. Maent hefyd yn edrych i rentu ystafelloedd lle mae’n bosib ac i rentu lle i fudiadau sydd â’r un dibenion â’u nodau a’u hamcanion.

Mae’r fynedfa i’r adeilad ar ochr y stryd, felly mae’r sefydliad hefyd yn bwriadu symud y fynedfa fel ei fod yn fwy amlwg i ymwelwyr. Bydd hyn yn dangos yn glir ei fod yn agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd, yn hytrach na dibynnu ar bobl i fynd i lawr yr ochr stryd.

Gwersi a ddysgwyd

Roedd y YMCA yn canolbwyntio ar amserlenni’r cyngor trwy gydol y proses, a golygodd hyn nad oedd y ffocws bob amser ar eu gofynion eu hunain. Gan nad oedd y staff yn trosglwyddo drosodd i’r sefydliad, roedd ymsefydlu staff newydd wrth gymryd drosto gyfleuster newydd yn her fawr. Roedd hyn yn golygu na allent ddechrau gweithio yn y ffordd y byddent wedi hoffi, ac roedd cymaint o sylw ar y trosglwyddiad roedd e’n anodd canolbwyntio ar beth oedd yn mynd i ddigwydd wedyn. Fodd bynnag, y neges graidd yn y tymor byr oedd cynnal y busnes presennol. Er nad yw’n talu’r biliau, mae’n cyfrannu ato. A gan fod y mudiad wedi cynllunio’n effeithiol, maen nhw’n gallu amsugno colledion uniongyrchol tra mae’r cynllun busnes yn cael ei ddatblygu. Yr her nawr yw i’r sefydliad i barhau i redeg y busnes wrth ddatblygu’i gynllun.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Rydw i wedi bod yn byw yn y Rhath sawl flwyddyn nawr, ac mae’n lle bywiog i fyw. Rydw i wedi rhoi gwaed yn y ganolfan, ond rhaid imi gyfaddef fy mod i heb wneud y gorau o’r cyfleuster sydd wedi bod ar fy stepen drws.

Mae gan yr ardal lot o bobl amrywiol yn fyw yn ochr yn ochr, ond dydyn nhw ddim wastad yn integreiddio. Mae unrhyw beth sy’n dod a phobl at ei gilydd yn ddatblygiad positif, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r YMCA yn gwneud eu gweledigaeth ar gyfer y ganolfan gymunedol yn realiti drwy gynnwys grwpiau cymunedol a phobl Rhath.

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Cafodd democratiaeth leol ei adfywio ar ôl i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud o’i hen adeilad i’r llyfrgell yn Nhŷ Carnegie. Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Cyngor i ffeindio allan mwy am yr adeilad newydd a sut mae’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i gelfyddydau’r dref.

Llun o Dŷ Carnegie

Tŷ Carnegie

Roedd Cyngor Tref Pen-y-bont wedi ei leoli yn hen swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nglanogwr nes iddynt symud yn ddiweddar. Yn 1987 cafodd ei gyn-swyddfeydd ei droi’n unedau henoed a symudodd y Cyngor Tref i hen adeilad Adran Penseiri Cyngor Bwrdeistref Ogwr (a oedd hefyd yn Glanogwr), lle wnaethon nhw aros nes fis Ionawr 2014. Ond pan ddaeth eu cytundeb tenantiaeth i ben, roedd yr amser yn iawn i symud. Yn ffodus roedd llyfrgell Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i gyfleuster arall ar yr un pryd. Manteisiodd Cyngor y Dref ar y cyfle i symud i ganol y dref a’r gymuned.

Roedd grŵp allanol hefyd yn edrych i greu canolfan gelfyddydau ar gyfer y dref ar yr un pryd. Mae gan Dŷ Carnegie lot mwy o le na’r adeilad blaenorol, felly penderfynodd y Cyngor Tref i ddatblygu’r llawr gwaelod i fod yn ganolfan gelfyddydau ac i ddefnyddio’r llawr cyntaf i gartrefi’r cyngor tref.

Sut wnaethon nhw wneud hynny?

A photo of the Town Council Chambers inside Carnegie House

Siambrau’r Cyngor Tref tu fewn i Dŷ Carnegie

Prynodd y Cyngor Tref yr adeilad ar sail rhydd-ddaliad am £1, a golygodd hyn bod y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gallu dadlwytho adeilad doedd ddim yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn hefyd yn golygu bod yr adeilad yn cael ei gadw fel cyfleuster cymunedol, ac fe wnaeth y Cyngor Tref y fwyaf o’r cyfle trwy gynnal noson ymgynghori i glywed o’r gymuned beth yn union roedden nhw eisiau o’r prosiect.

Byddai fe wedi bod yn amhosib i’r Cyngor Tref i gymryd cyfrifoldeb llawn am symud swyddfeydd achos byddai fe ddim wedi gallu ymateb yn ddigon cyflym i’r gofynion. Felly cafwyd grŵp annibynnol o 6 chynghorydd ei sefydlu fel grŵp adleoli a wnaeth delio â phob agwedd o drosglwyddo’r ased.

Mae perthynas da rhwng y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir wedi bod yn allweddol i lwyddiant y trosglwyddiad yma. Mae’r Cyngor Sir wedi bod yn help mawr yn ystod y broses drwy ddarparu cymorth drwy eu swyddogion cadwraeth, penseiri a syrfewyr. Mae’r berthynas gadarnhaol hefyd yn caniatáu i’r Cyngor Tref i gymryd drosodd yr adeilad dan drwydded yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu bod yr hyn y byddan nhw wedi’i dalu mewn rhent yn cael ei ddefnyddio i wella’r adeilad yn lle. Ni fyddai’r Cyngor Tref wedi gallu fforddio gwneud y ddau, felly mae hyn yn rhoi hwb mawr i’r broses.

Mae’r cydweithrediad yma hefyd yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu gwneud y mwyaf o gytundebau lefel gwasanaeth y Cyngor Sir am bethau fel gwaith cynnal a chadw. Byddai fe wedi bod yn anodd i’r Cyngor Tref cael yr un gwerth o’i gytundebau oherwydd dyw e ddim gweithio ar yr un raddfa a’r Cyngor Sir. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu cael bargeinion gwell ac mae’n gallu defnyddio systemau teleffoni a mewnrwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Treftadaeth

Ffoto o gloch Neuadd y Dref a gafodd ei roi i'r Cyngor Tref

Tŷ Carnegie

Mae Cyngor y Dref wedi gwneud ymdrech i ailwampio Tŷ Carnegie yn gydnaws â hanes yr adeilad. Maen nhw wedi mabwysiadu cynlluniau lliw Edwardaidd ac yn gweithio gyda staff Cadwraeth y Cyngor Sir i ddatblygu’r gofod. Maent hefyd wedi derbyn eitemau o’r gymuned, gan gynnwys y gloch o neuadd y dref wreiddiol yn y 18fed ganrif, ac mae yna fwrdd coffa o ysgol leol a gafodd ei roi mewn seremoni ymroddiad. Doedd dim gofod cymunedol ar gyfer digwyddiadau dinesig o’r blaen achos does dim neuadd yn y dref, ond erbyn hyn mae pobl leol yn cysylltu gyda’r cyngor i helpu nhw i warchod a chofio eu hanes.

Mae Cyngor y Dref ei hun wedi tyfu, gan fod ei leoliad yng nghanol y dref yn golygu bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o’i waith. Mae’r adleoli wedi bod yn gatalydd i symud y Cyngor Tref ymhellach i mewn i’r parth cyhoeddus, ac yn awr mae aelodau’r cyhoedd yn gwylio cyfarfodydd y Cyngor Tref yn fwy rheolaidd. Mae’r cyfleuster newydd wedi rhoi hwb i gapasiti y sefydliad, ac felly mae’r tîm staff wedi ehangu o 1 person i 4 aelod o staff rhan-amser. Mae’r capasiti hyn yn bwysig mewn cyfnod ble mae’r Cyngor Tref yn cymryd drosodd mwy o wasanaethau anstatudol.

Yr Hwb Celfyddydau

Mae’r Cyngor Tref yn gwneud cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid i weithio ar y llawr gwaelod. Cafodd rhaglen gweithgareddau’r flwyddyn gyntaf ei redeg rhwng Mawrth a Thachwedd 2015. Erbyn diwedd y rhaglen, roedd tua 1700 o bobl wedi mynd i ddigwyddiadau yn y neuadd, gan gynnwys nosweithiau barddoniaeth, cyngherddau a nosweithiau jazz. Roedd rhaglen llynedd yn siawns i brofi a methu, ond eleni bydd y Cyngor Tref yn adeiladu ar beth mae’n ei ddysgu drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth glasurol a jazz.

Mae lot o waith yn cael ei wneud ar yr adeilad gan ei fod yn adeilad rhestredig. Mae grant Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cael ei roi ar gyfer y gwaith (gydag arian cyfatebol gan o’r Cynghorau Sir a Thref) gan fod y gwaith cerrig yn dadfeilio, ac mae’r hen nenfwd artiffisial yn cael ei dynnu i lawr i wella’r sŵn yn y neuadd. Mae Cyngor y Dref hefyd wedi prynu system PA, ac mae ganddynt wefan am y tro cyntaf.

Beth mae’r dyfodol yn edrych?

Felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gyngor y Dref, a bydd unrhyw arian dros ben a wneir gan y mentrau’r Celfyddydau yn cael ei ail-fuddsoddi ar gyfer offer ac yn y rhaglen. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion a chymunedol yn y dref wedi dod i ben, felly mae’r Cyngor Tref yn edrych i ddatblygu dosbarthiadau annibynnol ar y celfyddydau a diwylliant (fel gwnïo, paentio a serameg) fel bod pobl leol yn cael y cyfle i wneud y fwyaf o’r adeilad.

Dysgais gymaint o fy ymweliad â Thŷ Carnegie, yn enwedig ynghylch y pwysigrwydd o fod yn hyblyg ac i feddwl tu allan i’r bocs. Mae ailwampio’r adeilad yn amlwg yn broses llafurus, ond drwy weithio ar y cyd â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, mae Cyngor y Dref wedi gallu gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd wedi dod atynt i drosglwyddo’r ased. Mewn cyfnod lle mae adnoddau mor brin, mae’n wych gweld sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod nhw’n darparu’r gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl i bobl eu hardal.

Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo.

Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut all cythruddo eich dinasyddion arwain at weithredu cymunedol. Mae’n darn pryfoclyd am sut all cau ased cymunedol arwain at ymateb cryf o’r cyhoedd, a sut gall gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar gryfder yr ymateb yma.

Clywais am sut mae hynny wedi digwydd yng Nghanolfan Gelf y Miwni, lle wnaeth ymgyrch ar lawr gwlad i achub a datblygu’r ganolfan deillio o’r penderfyniad i gau’r adeilad gan y cyngor.

Cefndir

Llun o Ganolfan Celfyddydau'r Miwni

Canolfan Celfyddydau’r Miwni

Roedd protestiadau anferth pan wnaeth gwasanaethau diwylliannol y cyngor penderfynu roi’r gorau i Ganolfan y Miwni. Aeth 150 o bobl i ddigwyddiad ymgynghori ar ddyfodol yr adeilad mewn cwpl o oriau. Roedd nifer o grwpiau yn awyddus i wneud yn siŵr bod y ganolfan yn aros ar agor, a mynegodd nifer o gwmnïau ddiddordeb mewn prynu’r adeilad ar gyfer eu busnes. Daeth Artis Cymuned, Cyngor Tref Pontypridd, Cylch Cymreig ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gyda’i gilydd fel Gweithgor y Miwni a wnaethant ffurfio Ganolfan Gelf y Miwni Cyf. yn gyflym. Maent yn adeiladu ar eu cryfderau i ddatblygu’r cais, sy’n hynod o debyg i’r dull Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau ar wefan Nurture Development a wnaeth Chris cyfeirio ato yn ei flog.

Does dim lle gwell i ddechrau o ran adeiladu ar gryfderau’r gymuned na’r bwrdd ei hun. Roedd cymryd rheolaeth o adeilad fel y Miwni yn gyfrifoldeb enfawr, ond roedd aelodau’r bwrdd mewn sefyllfa dda i wneud hynny ac i roi prosesau llywodraethu cadarn mewn lle. Mae Jon Huish yn gyn-gynghorydd ac mae ganddo ddealltwriaeth grêt o brosesau’r cyngor a’r sector cyhoeddus. Mae Alun Taylor o Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn arbenigo mewn llywodraethu. Mae Rob Hughes, Cadeirydd y Cylch Cymreig, yn rhedeg gŵyl yn Ynysybwl, ac mae Gethin Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Tref hefyd yn Gyfreithiwr. Mae gan Wendy York, Prif Weithredwr Artis Cymuned, a oedd yn gyfrifol am lawer o’r gwaith sylfaenol, lot o brofiad o’r celfyddydau a rhwydweithiau cryf yn y sector gwirfoddol.

Wynebodd y cyngor beirniadaeth o’r gymuned dros ei benderfyniad, ac roedd y trosglwyddiad o asedau blaenorol wedi bod ar raddfa lot llai. Roeddent yn glir bod nhw eisiau helpu’r broses a wnaethant greu cronfa grant i alluogi hyn. Fe wnaethon nhw gymryd risg wrth ddewis i drosglwyddo’r ased i’r gymuned, pan fyddai datblygiad sector preifat wedi cael manteision masnachol clir. Mae hyn yn enghraifft o wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar yr hirdymor, a bydd rhaid i wasanaethau cyhoeddus datblygu’r math yma o feddylfryd wrth iddynt gyflawni ei gwaith o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

Y gymuned

Achos bod ganddynt fwrdd cryf, byddai’n hawdd gwneud beth mae llawer o sefydliadau eraill wedi ei wneud dros y blynyddoedd a defnyddio eu gweledigaethau eu hunain fel cynllun am y Miwni. Ond mae achos busnes y Ganolfan yn seiliedig ar weledigaeth y 150 o bobl a daeth i’r digwyddiad ymgynghori. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned, ac mae’r Miwni yn edrych i fod y canolbwynt ar gyfer adfywio’r ardal ehangach a lle’r celfyddydau o fewn hynny.

Ffoto o Gaffi Think Food Life yn y Miwni

Caffi Think Food Life yn y Miwni

Mae caffi’r Miwni yn fenter gymdeithasol o’r enw Think Food Life, sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles pobl drwy cynnig bwyd maethlon. Y caffi yw’r un cyntaf ym Mhontypridd sy’n gwerthu bwyd ar gyfer anghenion deietegol penodol, ac mae’n anelu i gael 80% o’i bwyd o ffynonellau lleol. Roedd diddordeb gan Mind Merthyr a’r Cymoedd i sefydlu rhandir i dyfu llysiau ar gyfer y Miwni, a chafodd y syniad ei gryfhau wrth i grŵp Prosiect Cyn-filwyr y Miwni. Fe wnaethon nhw cynnig gweithio ar dir yn y Miwni, ac mae yna gefnogaeth posibl o’r gymdeithas rhandiroedd. Mae’r Miwni wedi derbyn cyllid o Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog achos roedd y ganolfan recriwtio arfer bod drws nesaf. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gyn-filwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Miwni trwy wirfoddoli neu trwy weithio’n uniongyrchol yn y celfyddydau.

Bydd prosiect Addas am Oes hefyd yn edrych i gysylltu gwaith iechyd a ffitrwydd i waith y caffi, sy’n dangos sut mae’r Miwni yn edrych i fynd y tu hwnt i’r celfyddydau ac i fod yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan. Mae’r Miwni hefyd yn edrych ar ddod â sefydliadau at ei gilydd ar lefel strategol i alluogi pobl i wneud mwy drostynt eu hunain trwy weithio gyda YMCA Pontypridd a datblygiad y Courthouse, a fydd yn cefnogi’r proses dechreuol a thwf mentrau cymdeithasol.

Angerdd

Mae hyn i gyd yn dangos beth sy’n bosib pan mae prosiectau yn seiliedig ar angerdd a thalent y gymuned. Mae’r adeilad ei hun yn wirioneddol drawiadol, yn union fel egni ac ymdrech y bwrdd a’r gymuned wrth iddynt ffocysu ar wneud y prosiect yn llwyddiant. Os ydych chi eisiau trosglwyddo ased i’r gymuned, mae’n werth gofyn sut allwch chi weithio gyda’r gymuned i adeiladu ar eu cryfderau?

Neuadd Ogwen: Y Cyllell Byddin y Swistir o Leoliadau Cerddoriaeth

Mae Neuadd Ogwen yn ased sydd wedi cael ei drosglwyddo i’r gymuned. Beth all grwpiau eraill dysgu o’i llwyddiant a’i hyblygrwydd? Aeth Dyfrig Williams i ffeindio allan.

Fel rhywun sy’n caru cerddoriaeth byw, mae fe wedi bod yn dorcalonnus i weld cymaint o leoliadau cerddoriaeth cau. Cefais fy magu yng Nghaerfyrddin, ble mae’r Parrot wedi cau (a bellach wedi’i ail agor yn dilyn ymgyrch ariannu torfol llwyddiannus), a hyd yn oed yn fy nghartref newydd yng Nghaerdydd mae lleoliadau fel y Barfly wedi cau oherwydd diffyg arian. Os mae yna broblemau mewn llefydd eithaf mawr, pa siawns sydd gyda thref fach fel Bethesda o gynnal lleoliad?

Eithaf da fel mae’n troi mas. Mae Neuadd Ogwen wedi gwneud y fwyaf o Gadeirydd a staff sy’n angerddol am ddiwylliant y dref. A phan wnaethon ni ymweld â’r neuadd, roedden nhw’n paratoi am gig Sweet Baboo, sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac sy’n cael ei chwarae’n reolaidd gan 6 Music.

Cefndir y Neuadd

Mae’r lleoliad wedi bod yn neuadd gymunedol am dros 100 mlynedd, ac yn yr amser hynny mae’r neuadd wedi cael ei ddefnyddio am sawl bwrpas, gan gynnwys gwerthu anifeiliaid a chynnal cyngherddau anffurfiol.

Llun o Neuadd Ogwen

Neuadd Ogwen

Cwpl o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth Cwmni Tabernacl cais i wneud y Neuadd yn ganolfan broffesiynol, gyda goleuadau da a digwyddiadau o safon, wrth ffocysu ar anghenion tra-leol. Ac achos rydym mewn cyfnod ble mae arian cyhoeddus yn brin, mae’n debyg fe fydd sawl mudiad gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn ffeindio ei hunain mewn sefyllfa debyg.

Beth ddigwyddodd

Dyfrig Jones, Cadeirydd y Tabernacl, wnaeth y gwaith sylfaenol trwy wneud y gwaith papur a wnaeth troi’r breuddwyd yn realiti. Ac er bod yr adeilad bellach yn agored, mae dal gan y neuadd sgôp eang ar gyfer beth sy’n bosib.

Siaradais â Dilwyn Llwyd, Rheolwr y Neuadd, amdano sut maen nhw wedi gwneud yr adeilad mor aml-ddefnydd a phosib. Meddyliwyd amdano ffynonellau incwm, achos bod mwy o weithgareddau yn meddwl mwy o ddefnydd gan y gymuned. Cafodd holiadur ei greu er mwyn derbyn syniadau aelodau’r cyhoedd ac i ffeindio allan os oeddynt eisiau gwirfoddoli. Mae hyn wedi cynhyrchu rhestr o 50 gwirfoddolwr. Y cam nesaf ar gyfer y gwirfoddolwyr yma yw hyfforddiant priodol, er enghraifft hyfforddiant ar safon bwyd, fel gall y defnydd o’r caffi a bar helpu i dyfu incwm y neuadd.

Llun o du fewn i Neuadd Ogwen

Tu fewn i Neuadd Ogwen

Mae canlyniadau’r holiadur hefyd wedi helpu creu rhaglen y Neuadd. Mae pobl wedi dod a syniadau eu hunain, fel yoga. Mae yna hefyd marchnad unwaith y mis, cic focsio, digwyddiadau i’r henoed, cyngherddau a chawl a chan, a digwyddiadau un-tro fel partïon pen-blwydd a phriodasau.

Mae’r Neuadd hefyd yn gweithredu fel sinema – mae’n dangos 3 ffilm y mis. Mae ffilmiau plant yn hynod o lwyddiannus, gan fod y sinema agosaf yn bell i ffwrdd. Mae’r rhain i gyd yn cynyddu’r nifer o ymwelwyr, ac yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o beth sy’n digwydd yn rheolaidd. A gan fod hwn yn brosiect cymunedol, mae’r arian i gyd yn cael ei fuddsoddi yn ôl i’r safle.

Mae’r ffaith bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio mor aml yn profi angen a bod yna werth cymunedol i’r adeilad. Mae gan y Neuadd targed o fod ar agor am 100 awr yr wythnos, sy’n darged uchelgeisiol, ond mae’n helpu i ffocysu’r staff i edrych ar sut allant hybu defnydd y Neuadd er fudd y gymuned.

Staffio

Roedd e hefyd yn ddiddorol i glywed am sut mae Neuadd Ogwen wedi gwneud y fwyaf o gynllun Twf Swyddi Cymru er mwyn hybu capasiti staff y lleoliad. Mae’r cynllun wedi galluogi iddynt gyflogi dau aelod o staff er mwyn gwneud gwaith marchnata, gwaith gweinyddol a gofalu am y lleoliad. Mae hyn wedi galluogi Dilwyn i ffocysu ar adeiladu rhaglenni a’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd.

Felly nid jyst edrych i oroesi mae’r neuadd, ond edrych i ffynnu. A gan fod y Neuadd yn edrych ar holl anghenion y gymuned yn ei gyfanrwydd, mae’n sefyllfa dda i wneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i weld gig yna tro nesaf rydw i yn y Gogledd.

Trosglwyddo Asedau: Popeth y mae arnoch angen ei wybod

Beth oedd y pwyntiau dysgu allweddol o’r digwyddiad Trosglwyddo Asedau WCVA? Yn y blogbost yma mae Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn edrych nôl dros y diwrnod.

Trosglwyddo AsedauRoedd y digwyddiad Trosglwyddo Asedau a drefnwyd gan WCVA yn ddiwrnod o ddysgu i bawb ohonym sy’n rhan o drosglwyddo asedau cymunedol – grwpiau cymunedol, cynghorau lleol ac aelodau o NAWG (Gweithgor Asedau Cenedlaethol). I ni sy’n rhan o NAWG, roedd y digwyddiad yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â grwpiau sy’n cymryd rhan mewn trosglwyddiadau asedau cymunedol.

Codi’n stondin

Gan rannu ein stondin â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad Amddiffyn Asedau Cymunedol, daethom â llond gwlad o lyfrynnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru – Canllawiau Arferion Gorau. Erbyn i Lyn Cadwallader, Cadeirydd Un Llais Cymru, argymell y canllawiau, roedd pob copi Saesneg wedi mynd (yn ffodus, mae’r we yn ffynhonnell ddi-ben-draw!)

Hefyd, roedd ein cydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn cynnig copïau o’u hymgynghoriad ar Amddiffyn Asedau Cymunedol (dyddiad cau 11 Medi 2015) – dywedwch eich dweud.

Areithiau Agoriadol

Amlinellodd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, gefnogaeth Llywodraeth Cymru dros drosglwyddo asedau cymunedol a derbyniodd hi gwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol. Gofynnodd un ynghylch cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb i grwpiau cymunedol sydd eisiau mabwysiadu asedau cymunedol – cwestiwn heb ateb hawdd.

Ar ôl araith y Gweinidog, cafwyd anerchiadau gan ddau siaradwr o’r sector menter gymdeithasol; trafododd Louise Barr o Monwel ehangiad y cwmni fel cynhyrchwyr arwyddion mwyaf Cymru. Amlinellodd yr ail siaradwr, Dinah Pye o Amgueddfa Cwm Cynon, hanes eu trafodaethau â chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn ailagor eu hamgueddfa dreftadaeth. Amlinellodd yr heriau sy’n codi o ddechrau fel carfan bwyso, a’r heriau o drawsffurfio’n Ymddiriedolwyr ar gyfer y cyfleuster; hynny yw yr heriau o feddu ar y sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol a gwybod y pwysigrwydd o gael cyngor arbenigol ynghylch cytundebau a chyfraith cyflogaeth ar yr amser cywir.

Gweithdai

Roeddem mor awyddus i ddysgu o’r digwyddiad ag yr oeddem i siarad â phobl ac aethom i weithdai gwahanol er mwyn clywed trafodaethau ar y materion amrywiol dan sylw. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdy DTA Cymru ar sefydlu hyfywedd y fenter gymunedol/ y gwasanaeth cymunedol – dysgu sut y gallai ased ddod yn ddyled os nad oedd yn hyfyw.

Darparodd Empower weithdy diddorol ar ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd oddi mewn i dîm – gan bwysleisio’r angen i osod targedau clir ar gyfer canlyniadau; eglurder am pam yr oedd y targedau hynny’n angenrheidiol (faint o arian y byddai’r tîm ei angen pob mis i aros yn hyfyw); a’r angen i bawb sy’n rhan o’r tîm gymryd cyfrifoldeb dros yr atebion. Hefyd, roedd sawl enghraifft ddifrifol o reoli gwael a cholli gafael ar gostau, sy’n gadael elusennau ar fin distryw ariannol.

Roedd llawer o bwyslais ar yr angen i baratoi cymaint ag sy’n bosibl – roedd cynlluniau busnes, cyfraith cyflogaeth a TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981) yn themâu cyson.

Siaradodd cynrychiolwyr Unity Trust Bank (banc cymdeithasol ac ethegol) a chynrychiolwyr rhaglen ariannu’r WCVA am sut a phryd i wneud cais am yr arian sydd ar gael i grwpiau cymunedol a grwpiau menter gymdeithasol ar gyfer trosglwyddo’r asedau cymunedol yn y lle cyntaf ac unrhyw fuddsoddiad cyfalaf a allai fod yn angenrheidiol ar ôl hynny. Y neges i’w chofio oedd y ffaith y gall cyllid trwy fenthyciadau helpu i denu ariannu trwy grantiau eraill, gan fod y banc yn hapus i fod yn rhan o gyllideb gyfatebol gyda phartneriaid ariannu eraill. Ni ddylai ymgeiswyr ofni ystyried ystod o ddewisiadau ariannu a dylent baratoi i feddwl yn wreiddiol. Mae digon o gyngor a chymorth ar gael, felly eu neges oedd: byddwch yn ddewr!

Siaradodd Geldards am y materion cyfreithiol a all godi pan fydd grwpiau ac unigolion yn ceisio mynd ati i drosglwyddo asedau. Aethant ati i dywys y gynulleidfa ar hyd camau posibl y daith o’r syniad bach cyntaf i gorfforaeth lawn fel cymdeithas menter gymdeithasol neu elusennol, gan ganolbwyntio ar sut y gellir rheoli’r risg o atebolrwydd personol dros asedau.

Logos sefydliadau a gyfrannodd i'r digwyddiad

Sefydliadau a gyfrannodd i’r digwyddiad

Myfyrio ar y diwrnod

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl gael gwybodaeth a chyngor proffesiynol hanfodol. Gallwch gael yr wybodaeth a’r cyngor trwy gysylltu â’r WCVA ar: 0800 2888 329.

Er bod NAWG yn canolbwyntio ar sector cyhoeddus Cymru, gyda’r sylw ar drosglwyddo asedau cymunedol, roedd yn ddefnyddiol dysgu am brofiadau cynrychiolwyr o lygad y ffynnon. Bydd hyn yn siŵr o lywio ein gwaith yn y maes hwn ac o safbwynt ymarferol, yn ein helpu i ddatblygu ein gwefan www.assetscymru.org.uk a’n canllawiau ar gyfer y dyfodol. Siaradwch â ni trwy anfon e-bost i assetscymru@wales.gsi.gov.uk.

Trosglwyddo asedau i’r sector gwirfoddol

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn ceisio sicrhau nad yw’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym yn golygu mai dyna ddiwedd y daith i bwnc rydym yn gweithio arno. Rydym yn ceisio rhannu syniadau, adnoddau a safbwyntiau er mwyn dechrau trafodaethau ac annog pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i wella’u gwaith.

Nid oedd rhaid inni aros yn hir cyn i’r arfer da cyntaf gael ei rannu ar Twitter yn ystod ein seminar Gwneud Defnydd Gwell o Asedau Cyhoeddus, wrth i Wasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedau’n Gyntaf gysylltu â ni i’n hysbysu am waith diddorol yng Nghaerdydd i helpu sefydliad cymunedol i ddod yn gyfrifol am reoli ased.

Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am hyn oherwydd roedd yn cyd-fynd yn dda â gweithdy Richard Davies a oedd yn ystyried y cymorth sydd ei angen ar sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Siaradais â Gareth Kiddie, a oedd yn gweithio fel ymgynghorydd wrth drosglwyddo ased ym Mhentre-baen, a Michelle Powell o ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) a gefnogodd y broses.
Yn y seminar siaradodd Richard am yr heriau niferus y mae sefydliadau cymunedol yn eu hwynebu, lle mae capasiti yn broblem allweddol. Mae sefydliadau cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr, felly nid yw’n syndod bod Gareth wedi dweud bod y broses Dendro Gystadleuol yn rhwystr i drosglwyddo ased, yn hytrach na galluogwr. Yn hytrach awgrymodd Gareth y dylid cefnogi sefydliadau yn gynnar yn y proses er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r wybodaeth a’r arbenigedd cywir a chyfle go iawn i lwyddo.

Amlygodd Gareth hefyd y broblem capasiti mewn cyd-destun arall, sef y ffaith bod TUPE hefyd yn fater i sefydliadau cymunedol. Nid yw sefydliadau gwirfoddol bach fel arfer mewn sefyllfa i gynnig yr un termau â’r sector cyhoeddus i’w staff. Eto, drwy weithio gyda’r sefydliad cymunedol ar gam cynnar, llwyddwyd i’w helpu i oresgyn y problemau sydd ynghlwm wrth hyn.

Richard Davies o GAVO

Richard Davies o GAVO

Yn ystod fy ngalwad ffôn gyda Michelle, soniodd am bwysigrwydd bod yn hyblyg yn ystod y broses. Roedd yr adeilad ar fin cau, ond o ganlyniad i ddatganiad o ddiddordeb i’r cyngor, rhoddwyd trwydded i’r sefydliad ddefnyddio’r lle. Rhoddodd y drwydded hon gyfle i ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) weithio ochr yn ochr â’r sefydliad. Roedd hyn yn golygu ei bod yn bosibl i’r sefydliad ddatblygu cyfres o weithgareddau, a arweiniodd at roi cynllun busnes at ei gilydd a rhagweld costau’n well.

Soniodd Michelle hefyd am ba mor hanfodol oedd cyfathrebu parhaus rhwng y cyngor a’r sefydliad cymunedol er mwyn sicrhau bod y ddau sefydliad yn gwybod lle maent yn sefyll. Mae cyfathrebu wedi gwella ers i’r cyngor penodi swyddog sydd wedi’i neilltuo i roi cymorth, a dylai hyn symleiddio’r proses yn y dyfodol. Mae hefyd yn wych bod Llawlyfr Camu Fyny ar gyfer datblygu a rheoli gwasanaethau ac asedau wedi cael ei lunio. Credaf fod yr iaith a ddefnyddir yn y pecyn cymorth yn wych – mae’n hawdd ei deall ac mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae hyn o gymorth mawr gan fod y broses ei hun yn gallu bod yn gymhleth.

Bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus o dan bwysau ariannol am gryn amser, felly mae’n debygol y caiff rhagor o asedau eu trosglwyddo i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o ddulliau gweithredu ein gilydd er mwyn i ni sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r asedau hyn ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Dyfrig