Tag Archif: technoleg gwybodaeth

Pam mae Safonau Agored yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell

Read this blog post in English

Sut y gall defnyddio Safonau Agored sicrhau y caiff systemau Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau cyhoeddus eu hintegreiddio’n well? Mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd drwy gymryd rhan yng ngweminar y Gyfnewidfa Arfer Da ar Safonau Agored.

Mae digidol wedi bod yn un o themâu allweddol ein gwaith ers sbel. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar y thema, o’n seminar ar Dechnoleg Gwybodaeth fel rhan o’n gwaith ar asedau yn 2013, i’n gweminar diweddaraf ar Safonau Agored.

Hwn yw’r digwyddiad â’r thema fwyaf technolegol a gynhaliwyd gennym ers ein gweminar ar Gyfrifiadura Cwmwl, ond mae’n bwnc roeddem yn awyddus iawn i roi sylw i gan fod Safonau Agored yn bwysig iawn i integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ledled Prydain yn anfon deunydd marchnata sy’n gwerthu pob math o gynnyrch a gwasanaethau â’r rhagddodiad “digidol”. Mae Safonau Agored yn allweddol i’w gwneud yn bosibl i lawer o’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu i integreiddio â’i gilydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod ein gweminar, disgrifiais Safonau Agored fel safonau a ddatblygir drwy broses gydweithrediadol ar gyfer data, fformatau dogfennau a rhyngweithredadwyedd meddalwedd. Ond fel y nododd Evan Jones, nid oes unrhyw ddiffiniad cyffredinol y cytunwyd arno o Safonau Agored – sy’n eironig! Felly, am y rheswm hwnnw yn unig, mae’n werth cael gwybod am y weminar!

Felly, beth oedd fy mhwyntiau dysgu allweddol?

“Gwnewch y gwaith caled i wneud pethau’n hawdd”

Rhoddodd Terence Eden o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i ni feddwl amdano yn ystod y weminar. Dilynwyd y perl hwn gan un arall, sef “Dyw e ddim amdano chi, mae fe amdano’r defnyddwyr.” Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd gan un o’r cynadleddwyr oedd a fyddai’n anodd rhoi’r Safonau Agored ar waith gyda’u technoleg bresennol. Fe wnaeth ymateb Terence gwneud i mi feddwl fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn hytrach na bod yn nod ynddynt eu hunain. Dylem fod yn meddwl am sut y gallwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’r defnyddiwr terfynol, ac nid yw defnyddio safonau perchenogol sy’n rhwystro integreiddio yn helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Fel y dywedodd Terence, “Gall Safonau Agored achub bywydau!”

Rydym wedi meddwl llawer yn y Gyfnewidfa Arfer Da am yr amgylcheddau cymhleth ac anodd lle y darperir gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Chris Bolton wedi ysgrifennu’r eitem wych hon ar y problemau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu un dull i ddatrys pob problem mewn sefyllfa lle y ceir llawer o newidynnau. Y broblem sy’n gysylltiedig â pharhau i ddilyn y llwybr perchenogol yw ein bod yn ychwanegu haenau o gymhlethdod at amgylchedd sydd eisoes yn gymhleth. Mae’n lleihau’r opsiynau ar gyfer gwasanaethau ac yn golygu bod yn rhaid i’r atebion eu hunain fod yn fwyfwy cymhleth, a all greu rhagor o broblemau a lleihau dibynadwyedd. Mae’n werth darllen sut y trefnodd Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Seland Newydd fod eu systemau gwybodaeth yn rhai agored yn ddiofyn, a arweiniodd at system Technoleg Gwybodaeth fwy dibynadwy a chadarn oherwydd y cyfluniad mwy trefnus heb ganiatadau a chyfyngiadau di-ben-draw.

Nid yw Safonau Agored ar gyfer arbenigwyr ym maes Technoleg Gwybodaeth yn unig

Nid oedd y trafodaethau yn ystod y weminar yn ymwneud â systemau Technoleg Gwybodaeth yn cydweithio’n dda yn unig. Nodais uchod fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell ac, felly, ni ddylai gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ohonynt fod yn gyfyngedig i adrannau Technoleg Gwybodaeth. Maent yn helpu i integreiddio systemau a galluogi cydweithredu. Gellir defnyddio’r data a gasglwyd i gynllunio ar gyfer yr hirdymor, felly mae’n amlwg sut y gallant fod o fudd mawr i alluogi sefydliadau i weithio drwy rai o’r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os ydym am gasglu data i wneud gwaith cynllunio effeithiol a chydweithio er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yna mae’n bwysig bod cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o Aelodau Etholedig i Reolwyr Prosiectau Cyfalaf, yn ymwybodol o Safonau Agored.

Pŵer caffael

Yn gysylltiedig â’r pwynt uchod sy’n nodi bod Safonau Agored yn bwysig y tu hwnt i faes Technoleg Gwybodaeth, mae’n rhywbeth y dylai staff mewn rolau caffael ei ystyried. Maen nwh’n lleihau cymhlethdod er mwyn galluogi integreiddio, a hefyd maent hefyd yn agor cyfleoedd caffael y tu hwnt i werthwyr mawr i fusnesau bach a chanolig. Mae’n amlwg bod hyn yn gysylltiedig â rhai o’r Canlyniadau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â Chymru Lewyrchus a Chymru gydnerth (yn economaidd).

Fel y nododd Evan Jones yn ystod y weminar, mae Safonau Agored hefyd yn eich helpu i ystyried systemau o safbwynt mwy hirdymor, achos y byddan nhw’n rhyngweithredadwy â chi yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth dda hefyd ynghylch annog gwerthwyr i weithio gyda Safonau Agored yn ystod y weminar, ac fel y dywedodd Jess Hoare, mae’n bwysig cofio mai ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, sy’n caffael gwasanaethau. Efallai ei bod yn hawdd anghofio yn y sefyllfaoedd hyn mai gyda ni, fel caffaelwyr, y mae’r pŵer yn ystod trafodaethau. Anogodd Evan bob un ohonom i drafod â gwerthwyr – os na allant storio data mewn Safon Agored, dylech amau eu cymhellion.

Y camau nesaf

Caiff adnoddau o’r gwaith hwn ar Safonau Agored eu bwydo i mewn i’n gwaith Digidol er mwyn sicrhau y bydd ei effaith yn parhau a hefyd roi i bobl sydd â diddordeb yn yr agenda rywbeth i gnoi cil drosto. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r gwaith hwn yn fewnol hefyd. Rwyf wedi bwydo’r hyn a ddysgais o’r weminar i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, ac rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r hyn a ddysgwyd ag archwilwyr, gan fod gan Safonau Agored rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau y gall systemau a sefydliadau gydweithio’n effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mae meddwl byrdymor yma yn cael effaith fawr yn y tymor hwy.

Rydym hefyd wedi trefnu gweminar ar gaffael fel rhan o raglen eleni, sy’n rhoi cyfle i ni edrych unwaith eto ar rai o’r materion a godir yma. Rydym wedi dod ar draws rhai enghreifftiau o arfer diddorol yn ystod ein gwaith cwmpasu cychwynnol ar gaffael, yn enwedig sut mae CivTech wedi mabwysiadu dull gwahanol o ysgogi arloesedd yn yr Alban. Hoffem glywed gennych os oes gennych enghreifftiau eraill o arfer y gallwn dynnu sylw atynt. Oherwydd wedi’r cwbl, dim ond os bydd yn dysgu o’r materion allweddol rydych yn eu hwynebu fel gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn eu hadlewyrchu y bydd ein gwaith yn llwyddiannus.

Unmentoring 2: Treialon Coffi ar Hap

Beth all gwasanaethau cyhoeddus Cymreig dysgu o Gyngor Kirklees? Fe wnaeth Dyfrig Williams trafod ‘bod yn ddigidol’ gyda Steve Langrick.

Unmentoring

Rydyn ni wedi bod yn cynnal Treialon Coffi ar Hap, lle mae cyfranogwyr yn cael eu tynnu at ei gilydd ar hap i drafod eu gwaith, ers ein seminar Lles ym mis Mawrth. Rydyn ni wedi cael adborth gwych ac mae pobl wedi trafod materion amrywiol, gan gynnwys cyfweliadau am swyddi, mentora a chydweithio.

Ar yr un pryd, rydw i wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Dadfentora (neu Unmentoring) LocalGov Digital, sy’n syniad tebyg iawn i Dreialon Coffi ar Hap. Edrychodd fy mlog Dadfentora cyntaf i ar fy sgwrs i gyda Paul Inman o Gyngor Swydd Warwick, a’r tro yma, wnes i gael y cyfle i siarad â Steve Langrick o Gyngor Kirklees.

Am ran fwyaf y sgwrs roeddwn i’n trio cael cymaint o wybodaeth a phosib allan o Steve, ac yn ffodus roedd e’n ddigon hapus i rannu ei waith ar sut mae’r cyngor yn mynd ati i roi datblygiadau digidol ar waith.

Troi’n symudol

Mae mwy o bobl yng Nghymru yn mynd ar y we drwy eu ffonau symudol nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, felly roedd gen i ddiddordeb i glywed sut mae pobl yn mynd ar wefan Kirklees a sut mae hyn yn dylanwadu ar waith y cyngor. Mewn dwy flynedd, bu cynnydd o 300% yn y defnydd o ffonau symudol i fynd i’r wefan, ac erbyn hyn mae bron 50% o’r traffig yn dod o ddyfeisiau symudol. Gydag ystadegau  fel ‘na, dyw wefan ymatebol ddim jyst yn rhywbeth sy’n braf ei gael, mae’n angenrheidiol.

Kirklees Council

BetterOff

Chwarae teg, mae Kirklees yn teilwra eu dulliau wrth i fwy a mwy o bobl mynd i’w wefan trwy ddyfeisiau symudol. Maen nhw wedi datblygu gwefan newydd o’r enw BetterOff, sy’n helpu pobl trwy eu budd-daliadau ac mae’n dangos faint mwy o arian byddai gyda nhw os bydden nhw’n gweithio. Gan fod hyn yn broses hir, gall y cyngor arbed lot o arian drwy symud y gwasanaeth ar-lein. Yna gallant ganolbwyntio eu hadnoddau ar yr ymholiadau cymhleth maen nhw’n cael. Mae’r syniad yma hefyd yn ataliol gan ei fod yn mynd â phobl trwy’r camau cywir ymlaen llaw, sy’n helpu nhw i osgoi cosbau posibl.

Mae BetterOff hefyd yn cynnwys cysyniad Digidol a Gynorthwyir (neu ‘Assisted Digital’), lle mae pobl sydd ddim yn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein yn cael eu helpu i’w ddefnyddio. Nid yw’r wefan ei hun yn rhwystr i hawlio budd-dal, achos mae pobl yn gallu dod i mewn a chael cymorth i fynd i’r afael â’r safle a’r gwasanaeth.

Beth sydd nesaf i Kirklees?

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu’n gyson ac maen nhw’n addasu i’r amgylchedd maen nhw’n gweithio ynddo. Mae Cyngor Kirkless yn enghraifft dda o hynny, achos maen nhw wastad yn edrych i wella er bod nhw wedi gwneud lot o waith yn y maes yn barod. Mae fersiwn Alpha eu gwefan newydd ar-lein nawr fel bod pobl yn gallu gweld beth fydd y safle newydd yn edrych fel, a hefyd fel bod nhw’n gallu rhoi sylwadau ar sut mae’n diwallu eu hanghenion. Fel Cyngor Kirklees, ni allwn orffwys os ydyn ni eisiau darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobl Cymru.

Gwasanaethau ar adeg o newid

Consortiwm Pwrcasu Cymru

Sut gall mudiadau cynllunio ar gyfer y dyfodol mewn amser o newid? Yn y blogbost yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar waith Consortiwm Pwrcasu Cymru a sut maen nhw’n rhoi meddalwedd cwmwl hyblyg ar waith.

Mae diwygio llywodraeth leol yn bwnc llosg yma yng Nghymru. Roedd yna lot o negeseuon diddorol yn adroddiad Comisiwn Williams, ond yr argymhelliad i gael llai o gynghorau wnaeth cael y sylw i gyd.

Gyda newidiadau ar y gorwel, mae’n bwysig bod cynghorau yn parhau i ganolbwyntio ar eu gwaith ymarferol, a chadw llygad ar beth all digwydd yn y dyfodol. Byddai’n lot rhy hawdd gwneud dim byd tra’n aros i’r ad-drefnu cymryd lle.

Felly roedd e’n amserol a diddorol i glywed am sut mae Consortiwm Pwrcasu Cymru wedi rhoi Fframwaith Meddalwedd Amddiffyn y Cyhoedd ar waith er mwyn hybu cydweithio ac effeithlonrwydd o fewn cynghorau yng Nghymru.

Byddai dod â’r systemau presennol at ei gilydd yn ddrud, felly wnaethon nhw gaffael system newydd a allai gweithredu dros Gymru gyfan. Mae hyn yn golygu bod y system yn gallu cael ei addasu pan fydd unrhyw uno yn cymryd lle, a’i wneud yn haws i ddehongli data ar lefel genedlaethol. Fe wnaeth un deg naw o gynghorau mynegi diddordeb mewn cymryd rhan, felly penderfynwyd mabwysiadu system gwmwl. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â chyfrifiadura cwmwl, gallwch wylio Evan Jones yn trafod y manteision yn y fideo isod o’n gweminar Technoleg Gwybodaeth.

Bydd y datrysiad cwmwl hwn yn arbed costau gweinydd a hefyd yn rhyddhau adnoddau TG o fewn cynghorau unigol. Mae’r system yn fwy hyblyg hefyd achos mae’n gallu cael ei defnyddio ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr gwe.

Os hoffech wybod mwy, mae astudiaeth achos o’r gwaith ar ein gwefan. Yn amlwg mae natur gwaith yn amrywio o gyngor i gyngor ac o wasanaeth i wasanaeth, ond mae yna lot o bethau diddorol i’w dysgu o’r gwaith hwn sy’n gallu cael eu haddasu i gwrdd â’ch anghenion.

Gweminar a chwmwl: torri tir newydd

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Seminar Defnydd Effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth oedd y digwyddiad cyntaf gweithiais yn uniongyrchol arno ar gyfer y Gyfnewidfa Arfer Da, ond nid dyna’r unig beth ddigwyddodd am y tro cyntaf – dyma’r tro cyntaf i seminar gofyn mwy o gwestiynau na chynnig atebion. Fe wnaeth y sesiwn cwmwl darparu man cychwyn diddorol ar gyfer mudiadau a oedd yn awyddus i weithio’n wahanol, ond yn ymarferol sut gallent symud heibio’r tâp coch i’r ffordd newydd ‘ma o weithio?

Fel mae unrhyw un sy’n cynnal digwyddiadau yn gwybod, maen nhw’n gallu fod yn bethau costus. Roedden ni eisoes wedi cynnal digwyddiadau yng Ngogledd a De Cymru, ac roedden ni am wneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i gael atebion i’w cwestiynau.

Byddai’r sesiwn yn edrych ar gyfrifiadura cwmwl, pwnc mwy penodol na’r seminar Technoleg Gwybodaeth, ac felly ni fyddai’n rhedeg mor hir. Penderfynom gynnal gweminar, ac yn ffodus roedd e’n ffitio’n dda ‘da’r pwnc, gan ei fod ar lwyfan cwmwl. Roedd hwn yn ddull newydd i bawb, ond eto’n syniad cyffrous i ni gyd.

Gan fod y gweminar yn ddigwyddiad peilot, penderfynom ei gadw ar raddfa fach gyda 20 o fynychwyr. Roedd y cyflwyniadau eu hunain yn wych, gyda Evan Jones, Llywodraeth Cymru yn ffocysu ar faterion Cyfrifiadura Cwmwl, a Peter Middleton Swyddfa’r Cabinet yn trafod rhinweddau’r G-Cloud. Un o fanteision y system dewisom oedd bod ni’n gallu cael fideo o’r weminar, a gallwch weld rhannau ohono uchod ac isod.

Fe wnaethon ni cael copi sain o’r weminar hefyd, felly fe wnaethon ni torri hwn i lawr i gael bodlediadau bach ar Audioboo, fel y gall pobl canfod y rhai sy’n ymwneud a’u materion nhw’n gyflym.

Efallai dyw e ddim yn syndod bod yna pethau byddem yn newid os byddem yn cael y cyfle eto, gan roedd y gweminar yn un peilot. Roedd cael sawl gliniadur yn yr un ‘stafell yn golygu bod yna sawl microffon, ac fe wnaeth hyn creu adlais o’r sain am hanner munud cyntaf y gweminar. Wrth edrych yn ôl, mae’n glir gallwn ni wedi osgoi hwn os byddai’r cyflwynwyr a’r hwyluswyr wedi eistedd mewn ‘stafelloedd ar wahân.

Mae ‘na hefyd elfennau hoffwn ddatblygu yn y dyfodol. Doeddwn ni ddim eisiau cymryd gormod ‘mlaen ar ein cynnig cyntaf, ond yn bendant hoffwn ni annog rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd mwy o gyfranogwyr a datrys materion ehangach. Mae’r sesiwn holi ac ateb yn golygu bod ni’n gallu mynd i’r afael â phryderon pobl yn uniongyrchol, felly byddai’n wych i ymhelaethu ar y potensial trwy ddefnyddio hashnod.

Ar y cyfan mae’r weminar wedi rhoi llawer inni feddwl amdano. Dyw e ddim yn rhoi’r un potensial i rwydweithio, rhannu syniadau a datrysiadau a mynychu digwyddiad mewn person, ond fe wnaeth e alluogi i ni edrych ar bwnc yn fanwl mewn ffordd oedd yn gyfleus i gyfranogwyr. Dyw e ddim yn ateb i bob anhawster, ond mae’n declyn arall gallwn ddefnyddio er mwyn rhannu gwybodaeth a gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dyfrig

Rheol 1%. Pam mae’n bwysig i’ch cymuned ar-lein.

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Llun o Victor Meldrew o wefan y BBC / Picture of Victor Meldrew from the BBC website

Llun o Victor Meldrew o wefan y BBC / Picture of Victor Meldrew from the BBC website

Mae’n rhaid i mi fod yn ofalus yma a cheisio osgoi swnio’n ddiflas.

Dyma ychydig o eiriau o rybudd i unrhyw un sydd ar fin lansio cymuned ar-lein;

Byddwch yn ofalus!

  • Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd rhan (hyd yn oed os ydynt yn dweud mai nhw’n mynd i),
  • Bydd llawer o bobl sy’n cymryd rhan i ddechrau yn stopio ar ôl ychydig o fisoedd (wythnosau yn ôl pob tebyg ),
  • Craidd o bobl â diddordeb bydd ar ôl, sef y ‘die hards’ (yn siarad â’i gilydd), a
  • Bydd yr ‘hwylusydd cymunedol’ (sydd wedi’i dadrithio’n fwyfwy)                                          yn gweithio i’r eithaf i gadw’r gymuned yn fyw.

Sori os yw hynny’n swnio’n negyddol iawn, ond mae’n adlewyrchiad teg o’r realiti mewn rhai o’r cymunedau ar-lein rydw i wedi bod yn rhan o. Mae fe hefyd yn rhan o’r rheol 1% o ddiwylliant y rhyngrwyd.

Mae’r rheol 1%, neu’r egwyddor 90-9-1, yn ddamcaniaeth ble mae mwy o bobl yn debygol o wylio beth sy’n digwydd mewn cymuned rithiol yn hytrach na chyfranogi‘n uniongyrchol. Mae’r damcaniaeth wedi bod o gwmpas ers canol y blynyddoedd 2000, ac mae fe wedi cael ei gymharu i’r rheol 80/20 (Egwyddor Pareto), lle bydd 20% o grŵp yn cyflawni 80% o’r gweithgaredd.

Ar gyfer cymunedau ar-lein mae’r 1% rheol yn datgan:

  • Mai 1% sy’n creu cynnwys mewn gwirionedd;
  • 9 % o bobl sydd yn golygu, addasu neu roi sylwadau ar y cynnwys; a
  • Bydd 90 % o bobl yn gweld y cynnwys heb gyfrannu.

Mae hyn yn teimlo’n iawn wrth i fi feddwl dros fy mhrofiadau i, ac mae’n ymddangos i fod yn ddamcaniaeth gredadwy iawn. Gallai hefyd fod yn berthnasol i rai o’r cymunedau corfforol all-lein rydw i wedi bod yn rhan o hefyd.

Rwy’n sylweddoli bod hyn yn swnio’n ofnadwy. Pam byddai unrhyw un yn trafferthu â chymuned ar-lein gyda chyfraddau cyfranogi fel ‘na ?

Wel, mae yna lawer o bethau cadarnhaol a all ddod o gymuned ar-lein, ac mae gan rai ohonynt gyfraddau cyfranogiad llawer uwch na 1% (wedi’r cyfan dyma’r ffigwr cyfartalog ar draws y rhyngrwyd).

Y newyddion da yw gallech chi roi hwb i’ch cyfraddau cyfranogiad, ac mae llawer o adnoddau defnyddiol ( gyda llawer ohonynt ar-lein) gallai helpu chi i gyflawni hyn .

Un o’r gweithgareddau allweddol a byddwn yn awgrymu yw gofyn ‘pam’? Pam mae angen y gymuned ar-lein?

I ateb y cwestiwn yma, mae’n werth meddwl amdano pam byddai pobl yn cymryd rhan mewn cymuned ar-lein, a dylunio’r gymuned i ddiwallu’r anghenion yma. Mae llawer o’r cyngor ar-lein yn awgrymu chwe phrif reswm dros gymryd rhan. Os gallwch roi ateb sy’n benodol ar gyfer aelodau potensial eich cymuned, mae’n debyg eich bod chi’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Dim ond gofyn, “bydd ein cymuned ar-lein yn cwrdd ag anghenion ein haelodau ni i gael?”

  1. Y dwyochredd a ragwelir (byddwch yn cael rhywbeth yn ôl) ,
  2. Enw da (bydd e’n gwneud i chi edrych yn dda),
  3. Teimlad o gyflawniad,
  4. Anhunanoldeb (gwneud da er budd eraill),
  5. Teimlad o berthyn i rywbeth (mae’r gymuned yn rhoi hyn), a
  6. Cysylltiad emosiynol.

Un o’r negeseuon allweddol mewn llawer o’r cyngor am gymunedau ar-lein yw bydd cyfraddau cyfranogiad yn dirywio ar ôl brig cychwynnol. Mae’r gyfrinach i gadw’r gymuned yn fyw yn ymwneud â sicrhau bod gweithgaredd yn bownsio ‘nôl i lefel gynaliadwy sy’n gwneud e’n werth y buddsoddiad, ac unwaith eto , mae yna lawer o gyngor ar-lein ar hyn.

Yn olaf, fe wnes i glywed am enghraifft o gymuned ar-lein lwyddiannus ar y mân fanylion o reoli perfformiad gyda 1,700 o aelodau. Cafodd y gymuned yma ei ddal i fyny fel enghraifft o lwyddiant a ‘sut gallai pethau fod’ . Pan ofynnais i’r Rheolwr Cymunedol beth oedd cyfrinach y llwyddiant, dywedodd “y craidd caled o tua 20 o bobl sydd ar-lein trwy’r amser, yn gofyn cwestiynau a rhoi sylwadau ar yr hyn sydd gan eraill i’w ddweud” .

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r rheol 1% ar y pryd, ond mae 20 o bobl yn weithgar mewn cymuned o 1,700 yn teimlo’n eithaf agos i’r rheol 1% i mi (1.2% mewn gwirionedd).

3 peth rydw i wedi dysgu:

  • Dyw cymunedau ar-lein ddim yn ‘adnodd rhad ac am ddim’. Rhaid cael rhywun i hwyluso’r gymuned ac i helpu cadw pethau’n ‘ ticio drosodd’ yn y rhan fwyaf o achosion.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o bobl mewn cymunedau ar-lein yn mynd ati i gymryd rhan. Ym mhob tebygolrwydd mae’r rheol 1% yn berthnasol , hyd yn oed i’ch cymuned ar-lein .
  • Bydd gweithgarwch cychwynnol pan fydd y gymuned yn cael ei ffurfio. Bydd hyn yn lleihau dros gyfnod o amser. Os does dim byd yn cael ei wneud i fywiogi’r gymuned, mae yna berygl gallai fynd yn segur.

Mae’r blogbost yma yn seiliedig ar ddwy wnes i ysgrifennu ar fy mlog personol ym mis Mai a Mehefin 2012. http://whatsthepont.com/ Dolenni isod:

http://whatsthepont.com/2012/05/17/the-rule-of-1-is-dead-well-not-quite-round-these-parts/

http://whatsthepont.com/2012/06/26/getting-beyond-the-1-rule-intrinsic-motivation-and-online-communities/

Chris

Rhoi cynllun adfer ar ôl drychineb ar waith

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Cyn symudais i i Gaerdydd cwpl o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n byw yn Aberystwyth am bron i ddegawd. Pan fyddai fi’n cerdded i’r gwaith byddai fi’n stopio ar bwys adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn edrych ar yr olygfa wych o’r dref o ‘na.

Pan roedd yna dân yn y Llyfrgell, roedd cyfrifau cyfryngau cymdeithasol fy ffrindiau i gyd yn ffocysu ar y stori, wrth iddyn nhw boeni am eu ffrindiau oedd yn gweithio yna, yr adeilad ei hun, a’r adnoddau sy’n cael eu trysori yn lleol ac yn genedlaethol.

Tân Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llun o effaith y tân ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru o wefan y BBC

Serch hynny roedd maint yr ymateb yn fychan iawn i’w gymharu gydag effaith y tân. Pan gafodd lluniau eu cyhoeddi roeddwn ni gyd wedi synnu.

Siaradodd Einion Gruffudd ac Owain Pritchard yn ein seminar dysgu a rennir ar Dechnoleg Gwybodaeth am sut wnaeth y Llyfrgell llwyddo i gael ei systemau yn ôl ar-lein. Dechreuodd y tân ar y dydd Gwener, ond mae’n rhyfeddol i feddwl roedd gwasanaethau cyfrifiadurol ‘nôl fyny ar ddydd Llun, ac roedd y llyfrgell ar agor fel yr arfer ar ddydd Mawrth.

Owain Pritchard yn siarad am effaith y tân

Roedd llawer o wersi i’w dysgu a phrofiadau i’w rhannu o sesiynau arddangos Einion ac Owain. Doeddwn i ddim yn gwybod bod rhan fwyaf o’r difrod wedi’i achosi gan y dŵr a diffodd y tân yn hytrach na’r tân ei hun, ond cafodd data ei adennill o 90% o’r offer yr effeithir arnynt. Clywsom sut wnaeth dau ganolfan data, rhwydwaith “mesh” a thechnoleg rithiol chwarae rôl mewn adfer y system.

Cafodd llawer o’r prif negeseuon y sesiwn eu hamlygu ar Twitter a gellir ei weld ar Storify. Fi ‘n bendant yn awgrymu eich bod chi’n gwylio ein cyfweliad gydag Einion hefyd. Yn ffodus does byth rhaid i lawer ohonom roi ein systemau adfer ar ôl drychineb ar waith, felly mae llawer o bethau i ni ddysgu oddi wrth bobl sydd wedi gweithredu eu cynlluniau.

Dyfrig

Busnes peryglus?

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Ar ôl pob seminar ni’n ceisio rhannu gwybodaeth gyda chyfranogwyr cyn gynted â phosib fel bod ni’n gallu gwneud y fwyaf o’r momentwm o’r digwyddiad. Felly yn yr wythnos ar ôl ein Seminar Dysgu a Rennir ar Dechnoleg Gwybodaeth creuwyd bwrdd Pinterest, casglom ddefnydd cyfryngau cymdeithasol trwy Storify, llwython ni cyfweliadau gyda chyflwynwyr ar Vimeo ac anfonon ni negeseuon e-bost gyda’r allbynnau o’r seminarau i fynychwyr.

Roedd yna dipyn o gyffro yn seminar Gogledd Cymru pan wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru annog mudiadau i gymryd risgiau sydd wedi’u cynllunio’n dda.

Cymryd risgiau?

Fe wnaethon ni anfon y neges yma ymlaen drwy e-bost i gyfranogwyr fel y gallan nhw rannu fe gyda’u mudiadau er mwyn annog gwelliant.

Er wnaeth y ddarlith gyweirnod cymryd lle yn ein seminar ar dechnoleg gwybodaeth, nid jyst i’r maes yma mae’r neges yn berthnasol. Dyma beth ddywedodd yr Archwilydd Cyffredinol yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Weithio ar draws y Cenedlaethau:

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal y seminar yma fel rhan o’i hymrwymiad i gefnogi cyfnewid gwybodaeth a dod ag arferion a phrofiadau byd-eang i Gymru. Yn fy marn i mae hyrwyddo dulliau newydd arloesol yn unol â’n swyddogaeth ni i hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus a rhoi sicrwydd i bobl Cymru. Mae gan wasanaethau cyhoeddus dyletswydd i newid yn unol â’r amgylchedd maent yn gweithredu ynddo ac i gymryd risg yn wybodus a chyfrifol. Mae’r gwaith rydym eisoes wedi gwneud ar hyrwyddo, lledaenu ac addasu arfer da wedi cael derbyniad da, felly rydw i wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddilyn hyn i fyny gyda hyd yn oed mwy o bwyslais ar ddysgu a rennir.

Rôl y Gyfnewidfa Arfer Dda yw rhannu neges yr Archwilydd Cyffredinol gyda dulliau newydd neu ddiddorol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ni’n ymwybodol bod pobl yn delio gyda materion tebyg, ac rydyn ni eisiau rhannu sut mae mudiad wedi rheoli problem ac annog mudiadau eraill i feddwl os gallai gweithio iddyn nhw trwy addasu’r dull i gwrdd â’i anghenion nhw.

Yn realiti mae hwn yn meddwl bod lot o’r gwaith caled wedi cael ei wneud yn barod a thrwy rannu gwybodaeth gyda mudiadau eraill gall mudiadau elwa mewn sawl ffordd wahanol. Ni’n teimlo bod hyn yn hollbwysig, achos rhaid gwneud y fwyaf o bob cyfle mewn amser ble mae adnoddau’n prinhau.

Rhaid rhoi’r gair olaf i’r Archwilydd Cyffredinol ei hun, a wnaeth atgyfnerthu’r neges yma ar Twitter yn dilyn seminar Rhanddeiliaid Allanol Swyddfa Archwilio Cymru.

Cymryd risgiau?

Dyfrig