Tag Archif: sefydliad data agored

Gwneud defnydd o ddata agored

Read this blog post in English

Yn ddiweddar fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein Dataset Agored cyntaf. Beth ddigwyddodd nesaf? Isod mae Ben Proctor o Sefydliad Data Agored Caerdydd yn trafod sut y gwnaeth ddefnydd o’r data.

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Www! Data newydd

Roeddwn yn gyffro i gyd pan welais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddata fel data agored. Mae data agored yn ddata y gall unrhyw un gael mynediad atynt a’u defnyddio a dyma’r math mwyaf defnyddiol o ddata.

Ysgrifennodd Dyfrig Williams o Swyddfa Archwilio Cymru am y broses roeddent wedi mynd drwyddi er mwyn cyhoeddi’r set hon o ddata (crynodeb o ddata archwilio pob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ). Mae’r data ar ffurf tabl syml a gallwch ei lawrlwytho fel ffeil CSV (yn y bôn ffeil a fydd yn gweithio mewn unrhyw raglen taenlen) yma.

Ond mae problemau

Lawrlwythais y ffeil a gweld rhai problemau’n fuan. Nid gwallau yw’r rhain yn union, ond maent yn bethau sydd ar goll neu’n anghyson a fydd yn gwneud rhai defnyddiau o’r data ychydig yn anoddach. Ond nid cwyn yw hyn, oherwydd mai un o nodweddion deniadol data agored yw y gallwn ddatrys y problemau hyn. Gallaf wneud hyn oherwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi’r data o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn dweud wrthyf nad oes angen ei chaniatâd arnaf i wneud unrhyw beth gyda’r data ac nad oes terfynau o ran yr hyn y gallaf ei wneud gyda nhw (heblaw bod yn rhaid i mi fod yn glir o ble y daethant).

Gallaf unioni’r problemau

Dyma’r pethau a wneuthum i’m copi i o’r data.

Newidiais fformat “y golofn blwyddyn ariannol” oherwydd bod rhai o’r rhain yn rhifau ac mae rhai’n destun yn ffeil Swyddfa Archwilio Cymru.

Ychwanegais golofn o godau Gwasanaeth Ystadegol y llywodraeth (GSS). Mae codau GSS yn godau a ddefnyddir er mwyn nodi awdurdodau lleol (a ffiniau eraill). Mae cael cod GSS yn golygu nad oes rhaid i chi boeni a yw’r data’n dweud Cyngor Môn, Cyngor Ynys Môn neu Anglesey Council. A chyda chod GSS, gallwn ychwanegu “polygonau” ar gyfer pob cyngor. Yn y bôn, mae polygonau’n gyfarwyddiadau ar sut mae darlunio amlinell o bob cyngor a gwybodaeth am ble i roi’r darlun ar fap.

Gyda’r newidiadau hyn, roeddwn yn gallu darlunio cyfres o fapiau a oedd yn dangos lefel y Dreth Gyngor y pen ym mhob awdurdod lleol a sut mae hyn wedi newid gyda threigl amser.

A rhoi ffeil well i Swyddfa Archwilio Cymru

Ac rwyf wedi gallu rhoi ffeil KML yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma ffeil y mae’n addas ei defnyddio mewn meddalwedd mapio. Mae unrhyw un sydd am weld data Swyddfa Archwilio Cymru ar fap yn gallu agor ffeil KML a dechrau arni.

Gallwch lawrlwytho’r ffeil fapio hon eich hun.

Pam gwnes i hyn?

Rwy’n rhan o’r tîm craidd yn ODI-Caerdydd, felly mae data agored yn beth cyffrous i mi.
Cymerodd ychydig iawn o funudau i mi.
Rwy’n ceisio gwella ar ddefnyddio gwasanaeth Google o’r enw Fusion Tables a dyma gyfle da i ymarfer.
Mae gennyf dipyn o ddiddordeb yn yr hyn y gallai’r data hyn ei ddweud wrthym.

Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal Google Hangout ar Ddata Agored. Fe fydd y Hangout yn edrych ar sut all Data Agored helpu ni i ddarparu gwasanaethau ar y cyd sy’n dryloyw ac effeithiol. Yn blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mae gan y Gyfnewidfa Arfer Da diddordeb yn y pwnc.

Blwyddyn ddiwethaf fe wnaeth tîm Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau sy’n Agored i Niwed Llywodraeth Cymru gysylltu â ni am y posibilrwydd o wneud ychydig o waith ar amlygu arfer da ar rannu data mewn modd effeithiol. Pan wnaethon ni cynnal cyfarfod cwmpasu, cawsom ein tynnu i mewn i ddwy drafodaeth wahanol – un ar rannu data personol, ac un arall ar Ddata Agored. Er mwyn bod yn deg i’r ddau bwnc, fe wnaethon ni penderfynu cynnal dau ddigwyddiad ar wahân. Fe wnaeth y digwyddiad data personol helpu pobl i adnabod camsyniadau diogelu, ac fe wnaeth Comisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol Cymru mynd i’r afael â’r materion mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu.

Fe wnaethon ni ychwanegu Data Agored i’n rhestr o ddigwyddiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Wrth i ni wneud hynny, clywsom fod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddiddordeb mewn rhedeg gweminar ar y pwnc. Felly rydyn ni’n cynnal Google Hangout ar y cyd gyda nhw.

Felly beth yw Data Agored?

Data agored yw data y gall unrhyw un cael gafael arno, defnyddio neu rannu. Pan mae cwmnïau mawr neu lywodraethau yn rhyddhau data amhersonol, mae’n galluogi busnesau a dinasyddion i wneud gwelliannau i’w cymunedau. Mae’r Sefydliad Data Agored wedi cynhyrchu fideo rhagarweiniol i egluro rhai o fanteision Data Agored.

Mae Open Data Impact wedi nodi pedair ffordd y gall Data Agored newid y byd:

  • Gwella llywodraethu (drwy fynd i’r afael â thwyll a llygredd, cynyddu tryloywder a gwella gwasanaethau cyhoeddus)
  • Grymuso dinasyddion (i gymryd rheolaeth dros eu bywydau drwy wneud penderfyniadau gwybodus)
  • Creu cyfleoedd (trwy feithrin arloesedd, hyrwyddo twf economaidd a chreu swyddi)
  • Datrys problemau cyhoeddus (trwy alluogi ffyrdd newydd o asesu sy’n cael ei yrru gan ddata. Gellir hefyd targedu ymyriadau ac annog cydweithio gwell)

Beth mae hyn yn golygu mewn gwirionedd?

Mae yna lot o astudiaethau achos lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi rhyddhau Data Agored er budd y gymdeithas. Mae Trafnidiaeth Llundain wedi rhyddhau data sydd wedi rhoi adenillion ar fuddsoddiad o 58:1. Mae’r weithred yma wedi arwain ato’r datblygiad o gwmnïau fel Citymapper.

Yng Nghanada, fe wnaeth Data Agored amlygu un o’r twyllon dreth fwyaf yn hanes y wlad drwy archwiliad o Ffurflenni Gwybodaeth Blynyddol.

Mae yna hefyd enghreifftiau gwych mewn llywodraeth leol. Mae gan Felin Data Leeds Dangosfwrdd Dinas wych sy’n rhannu Data Agored trwy raffeg syml i roi cipolwg o’r ddinas ar unrhyw adeg. Mae Hwb Hampshire wedi gwneud lot hefyd, gan gynnwys gwaith ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i ddigwyddiad tywydd. Mae’r Hwb hefyd wedi nodi’r meddygfeydd sydd yn debyg o fod o dan bwysau achos cynnydd mewn galw.

Felly pam nad ydyn ni gyd yn mynd i’r afael â Data Agored?

Un o’r problemau yw dealltwriaeth. Mae Dan Slee wedi ysgrifennu blogbost grêt ar pam mae jargon a diffyg dealltwriaeth yn broblem fawr wrth i ni rannu arfer da ar Ddata Agored. Ac os (fel fi!) nad ydych chi’n berson technegol, mae’n anodd rhoi’r wybodaeth yma ar waith i wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn y byd go iawn.

Rhaid bod sefydliadau hefyd yn glir amdano pam maen nhw eisiau rhyddhau data a pha ganlyniadau maen nhw eisiau. Beth mae llwyddiant yn edrych fel? Sut all gwasanaethau cyhoeddus rhannu tystiolaeth o’r ffordd maen nhw wedi gwella’u cymunedau? Fe wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol cynhyrchu adroddiad diddorol ar Weithredu Tryloywder yn 2012, ble wnaethon nhw ffeindio bod “angen i lywodraeth cael dealltwriaeth well o’r costau, y buddion a’r defnydd er mwyn asesu os yw tryloywder yn cyflawni ei amcanion o gynyddu atebolrwydd, cefnogi gwelliant ac ysgogi twf economaidd.” Rwy’n amau mai jyst am Lywodraeth y DU mae hyn yn wir.

Sut all gweminar helpu?

Bydd y gweminar gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ein helpu ni i edrych ar sut all Data Agored helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus tryloyw, effeithiol a chyd-gysylltiedig. Byddwn yn edrych ar:

  • Beth yw Data Agored
  • Sut y gallwn wneud data yn agored
  • Y buddion sylweddol
  • Y camau nesaf

Mae’r panel yn cynnwys Rob Davidson o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Esko ReinikainenCainc Caerdydd y Sefydliad Data Agored, ac fe fydd Helen Wilkinson o Adnoddau Naturiol Cymru yn rhannu gwybodaeth ymarferol o’i Phorth Lle.

Bydd y Hangout yn gyfranogol iawn, felly rydyn ni rili eisiau derbyn eich cwestiynau cyn, ac yn ystod, y drafodaeth. Ac os ydych chi eisoes yn gwneud defnydd da o Ddata Agored, hoffwn glywed sut mae’n eich helpu chi i rymuso pobl, gwella gwasanaethau a gwneud cymunedau’n llefydd gwell i fyw.