Skip to content

Tag: sector cyhoeddus

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at… Read more Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn. Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i ychydig o waith ymlaen llaw ar beth roeddwn i’n ystyried yn faterion allweddol a sut allwn eu datrys, ond roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y syniadau a phrofiadau’r bobl a oedd yn… Read more GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd. Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd. Dyma… Read more Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth nesaf?

Blogbost gwadd gan Alastair Blair o The Potent Mix, sy’n adlewyrchu ar Seminar Dysgu a Rennir Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir. Gallwch weld y blogbost wreiddiol yma, a gallwch weld Alastair a siaradwyr eraill yn trafod y digwyddiad yn y fideo isod. Mewn byd trefnus, mae’r Cynghorau yng Nghymru (a Lloegr) a chyrff cyhoeddus eraill yn dysgu sut i arbed arian yn yr un ffordd ag y mae Cynghorau yn yr Alban wedi’i wneud, ac yna maent yn mabwysiadu porth sy’n debyg i tellmescotland. Yn y byd go iawn, mae’n werth… Read more Beth nesaf?

Rôl Graffu y Cynghorydd Rhwydwaith

Tuag at ddiwedd blwyddyn ddiwethaf mi wnes i redeg un neu ddau o sesiynau Rhwydwaith Cynghorydd mewn cynhadledd Craffu wych a gafodd ei drefnu’n dda yng Nghymru. Un o’r pethau sy’n creu argraff arnaf i pan rwy’n ymweld â Chymru yw’r ymrwymiad gwirioneddol tuag at ddysgu amdano a ffeindio arfer da o fewn llywodraeth genedlaethol a lleol. Un o’r ffyrdd mae’r gynhadledd hon yn gwneud hyn yw trwy ofyn i bob un o’r hwyluswyr i gyfrannu blogbost dilynol. Dyma, yn hwyr braidd, fy ymdrech i. Yn fy marn i o… Read more Rôl Graffu y Cynghorydd Rhwydwaith

Gwneud y mwyaf o’ch asedau

Oeddech chi’n gwybod bod costau ynni busnes wedi codi o 243% ers 2006? Na, doeddem ni ddim chwaith. Mae sector cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o’r angen i leihau costau a gwella gwasanaethau. Ond beth ydych chi’n ei wneud pan rydych yn wynebu costau sydd yn ymddangos i fod allan o’ch rheolaeth? Gallwch geisio reoli eich asedau yn well trwy ddefnyddio syniadau neu ddulliau newydd. Bwriad Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yw’ch cynorthwyo i ddod ar draws y syniadau a’r dulliau newydd trwy gynnig seminarau, adnoddau a chanllawiau am ddim ar reoli… Read more Gwneud y mwyaf o’ch asedau