Skip to content

Tag: satori lab

Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital. Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu ffurf bresennol. Mae Phil Rumens wedi ysgrifennu blogbost grêt ar y pum cam o drawsnewid digidol. Mae hyn yn dangos y gwerth ychwanegol o feddwl am wasanaethau o ran darpariaeth ddigidol. Rydw i wedi bod… Read more Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Edrych nôl dros GovCamp Cymru

Er doeddwn i byth wedi bod yn rhan o anghynhadledd o’r blaen, roedd gen i ychydig o syniadau o beth byddai’n digwydd fel rhan o GovCamp Cymru. Roedd gen i ddiddordeb i weld beth fyddai’n wahanol i beth rwy’n galw yn gynhadledd darlledu draddodiadol, lle mae siaradwyr yn rhannu eu barn am bwnc arbennig fel rhan o agenda sydd wedi cael ei benderfynu o flaen llaw. Cafodd fy mhrofiad blaenorol ei droi yn wyneb i waered mewn y ffordd gorau posib. Roedd gwylio a gwrando ar bobl yn pitsio syniadau… Read more Edrych nôl dros GovCamp Cymru

GovCamp Cymru

Y blwyddyn yma bydd y Gyfnewidfa Arfer Da yn cefnogi GovCamp Cymru, sydd yn anghynhadledd i bobl sy’n gweithio mewn, neu gyda gwasanaethau cyhoeddus Cymreig. Nod y digwyddiad yw i dod â phobl at ei gilydd a gwella darpariaeth a datblygiad gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio i rannu gwybodaeth ac arfer da yng ngwasanaeth cyhoeddus, felly mae hyn yn ddigwyddiad delfrydol i ni gefnogi. Gan bod ni di cefnogi Diwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd, ni ‘di gweld beth sy’n digwydd ein hunain pan mae gan bobl sydd ‘da… Read more GovCamp Cymru