Skip to content

Tag: pobl hŷn

Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Yn gynharach y mis hwn, aeth Bethan Smith i’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru a gynhaliwyd ym Mangor o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y blog hwn, mae Bethan yn rhannu ei hargraffiadau o’r diwrnod… Mae’r Tîm Cyfnewid Arfer Da wedi cydweithio â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur erbyn hyn, felly roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru. I roi ychydig o wybodaeth gefndir i chi, rhaglen genedlaethol o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw Heneiddio’n Dda… Read more Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni… Read more Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth. Roedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. Dyma ddwy seminar ragorol a drefnwyd gan dîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Roedd yn bleser gweld cymaint o ddarparwyr gwasanaeth o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â’r bobl hŷn eu hunain, yn bresennol.… Read more Datganiad o annibyniaeth