Tag Archif: peter watkin jones

Craffu ariannol mewn cyfnod heriol

Craffu

Mae’r naw mis ers Seminar Dysgu a Rennir Goleuni ar Graffu wedi hedfan heibio, ac mae lot wedi digwydd ers hynny. O Ddigwyddiad Her Gwent, a wnaeth cynnwys Peter Watkin Jones (uchafbwynt y gynhadledd craffu i lot o bobl), i ScrutinyCamp, yr anghynhadledd i weithwyr craffu proffesiynol a chynghorwyr.

Rydyn ni hyd yn oed wedi cael canllaw ar graffu ariannol mewn cyfnod heriol gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, a gefnogwyd gan Grant Thornton. Mae Disgwyliadau Uwch: Craffu ariannol mewn cyfnod heriol yn rhoi cyngor ar sut gall craffu wella’r ffyrdd mae cynghorau yn rheoli eu harian a gosod eu cyllidebau.

Disgwyliadau Uwch

Mae’r canllaw yn ddefnyddiol iawn gan ei fod e’n edrych ar beth allai’r dyfodol edrych fel i gynghorau Cymreig. Mae fe hefyd yn cynnwys adnoddau defnyddiol i wella’r ffyrdd mae mudiadau’n gweithio. Er enghraifft, sut i wella cyfranogiad dinasyddion drwy weithio i’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru.

Gan fod ni’n gweithio i rannu arfer da, cawsom ein taro gan yr astudiaethau achos. Mae ‘na lot o enghreifftiau o waith da o fewn y canllaw. Mae’r rhain yn cynnwys sut wnaeth Cyngor Sir Swydd Buckingham cwestiynu tystion yn effeithiol (gallwch wylio trafodaeth y pwyllgor ar ymateb y cabinet i argymhellion craffu’r cyllideb), a sut wnaeth Cyngor Caerdydd asesu eu hanghenion hyfforddi. Mae’r arolwg o’r asesiad ar gael fel atodiad defnyddiol yn y ddogfen.

Mae’r canllaw hwn yn un o nifer o adnoddau defnyddiol rydyn ni wedi ychwanegu i’n bwrdd Pinterest ers digwyddiad Goleuni ar Graffu. Byddwn yn ychwanegu ato rhain wrth i ni ddod ar draws enghreifftiau pellach. Pa adnoddau craffu da chi’n ffeindio’n ddefnyddiol? Cysylltwch â ni os ydym wedi anghofio am rywbeth, carwn ni rhannu nhw ymhellach.

Dyfrig

Craffu tu hwnt i ffiniau

Craffu

Dim jyst mewn Llywodraeth Leol ffeindiwch graffu. Mae’n cymryd sawl ffurf ar draws y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, a gallwch roi’r un egwyddorion craffu ar waith yn unrhyw sector.

Canolbwyntiodd cynhadledd Goleuni ar Graffu ar lywodraeth leol, ond serch hynny prif siaradwr y prynhawn oedd Peter Watkin Jones o Eversheds, ac fe wnaeth cyflwyno ei sylwadau ar Ymholiad Canol Swydd Stafford.

Roedd y negeseuon yn berthnasol i’r sector cyhoeddus gyfan. Roedd Peter yn ddigon caredig i ganiatáu i ni ei gyfweld ar ôl ei gyflwyniad hynod lwyddiannus er mwyn i ni amlygu’r pwyntiau allweddol. Mae dwsinau o fudiadau wedi gofyn am gopi o’r fideo er mwyn ei rannu gyda’u Pwyllgorau Archwilio, cydweithwyr Craffu ac Aelodau yn gyffredinol.

Roedd y diddordeb dros Gyfryngau Cymdeithasol ar ei anterth yn ystod cyflwyniad Peter, a dyma rhai o’r trydar gan gynrychiolwyr wrth iddynt rannu beth roedden nhw’n cymryd o’r cyflwyniad .

Peter Watkin Jones

Peter Watkin Jones

Dyma ‘r ddolen at ei bwyntiau allweddol.

Craffu Celtaidd – rhannu gwersi ar draws Môr Iwerddon

Craffu

Yn gyntaf, diolch i Swyddfa Archwilio Cymru am y gwahoddiad i’r seminar ‘Goleuni ar Graffu’ a’r cyfle i weld â’m llygaid fy hun y dysgu a rennir sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cychwynnais o Ddulyn gyda thri nod

  1. Dysgu mwy am y Craffu ‘ma mae pawb yng Nghymru’n canu ei glodydd!
  2. Gweld sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ati i weinyddu a chynnal seminarau dysgu a rennir.
  3. Edrych ar y posibilrwydd y gallai swyddfeydd archwilio Cymru ac Iwerddon gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cyn y seminar, rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n amheus a fyddai’r trafodaethau am y swyddogaeth graffu mewn llywodraeth leol yn berthnasol i mi (nid yw awdurdodau lleol Iwerddon yn rhan o gylch gwaith ein swyddfa ac maen nhw’n cael eu harchwilio gan Wasanaeth Archwilio Llywodraeth Leol ar wahân). Fodd bynnag, sylweddolais yn un o’r gweithdai fod craffu yn ei ystyr ehangach yn rhan o unrhyw drefn lywodraethu effeithiol.

Irish Audit Office

Efallai mod i’n anghywir (nid dyma’r tro cyntaf), ond rwy’n credu mai agwedd hollbwysig ar graffu llwyddiannus yw gofyn y cwestiynau iawn i’r bobl iawn ar yr adeg iawn (a’u gofyn drosodd a throsodd nes i chi gael atebion boddhaol!). Mae’r egwyddor honno’r un mor berthnasol i’r rhai sy’n llywodraethu ysgol yn Cork neu ysbyty yn Galway, ag y mae i lywodraeth leol yng Nghymru.

O ran fy ail nod, roeddwn i’n arbennig o awyddus i weld a allai’r pum partner a oedd yn hwyluso’r seminar weithio gyda’i gilydd i gyflwyno rhaglen gydlynol. Gyda chymaint o bartïon yn cyfrannu, roedd perygl o gael negeseuon cymysg neu agenda orlawn. Yn hynny o beth, rwy’n credu bod y fformat gweithdai wedi gweithio’n dda iawn, gan roi’r cyfle i edrych ar sawl thema wahanol a rhoi’r cyfle i’r sawl a oedd yno ddewis y rhai mwyaf perthnasol i’w gwaith.

Hoffwn ddweud hefyd mai uchafbwynt y diwrnod i mi oedd cyflwyniad Peter Watkin Jones ar yr ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Canol Swydd Stafford. Er y gallai’r pwnc fod wedi bwrw cysgod dros y digwyddiad, llwyddodd y siaradwr i daflu goleuni ar y methiannau a welwyd a chynnig gobaith am ddyfodol gwell. Er y gwyddom i gyd pa mor bwysig yw dysgu o’n camgymeriadau a’n profiadau ni’n hunain, gall dysgu o fethiannau mewn awdurdodaethau eraill fod llawn mor werthfawr (ac yn llai poenus o lawer).

I brofi bod swyddfeydd archwilio yn gwrando ar eu cyngor nhw’u hunain, cefais gyfarfod gydag aelodau’r tîm cyfnewid arfer da drannoeth y seminar i drafod cyfleoedd i’n swyddfeydd gydweithio a rhannu dysgu yn y dyfodol.

Felly, a minnau wedi cyflawni’r tri nod (coron driphlyg, fel petai), dyma fi’n troi am adre.

I gloi, rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan nifer y cyfraniadau Cymraeg yn y seminar a sut y cawsant eu hwyluso (heb ffws na ffwdan) gan y trefnwyr. Credaf ei bod hi’n deg dweud bod yr iaith Wyddeleg yn wynebu llawer o anawsterau tebyg, felly hwyrach bod hwn yn faes arall addas ar gyfer rhannu dysgu.

Slán agus beannacht libh go léir.

Shane Carton

Oifig ân Ard Reachtaire Cuntas agus Ciste/ Office of the Comptroller and Auditor General (Swyddfa Archwilio Genedlaethol Iwerddon)