Tag Archif: #nhshd

Diwrnod Hacio’r GIG: ‘If This Then That’ ar gyfer y gwasanaeth iechyd

Grŵp Dr. Keith Grimes /  Dr. Keith Grimes' group

Mae Keith Grimes yn feddyg teulu mewn canolfan ‘galw i mewn’ yn Eastbourne. Nododd ei grŵp comisiynu bod pobl yn mynd i adran Damweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty lleol pan oedd apwyntiadau ar gael yn eu meddygfa.

Mae Keith a chyd-aelodau ei grŵp wedi dod at ei gilydd yn Niwrnod Hacio’r GIG i greu Gwyb, sy’n deillio o ‘gwybodaeth’. Nod Gwyb yw bod yn ‘If This Then That’ (a all gychwyn ystod o gamau gweithredu sy’n seiliedig ar weithred ar-lein) ar gyfer gofal meddygol neu gymdeithasol. Mae’n bennaf yn system hysbysu sy’n caniatáu i gleifion a chlinigwyr i greu rheolau sy’n galluogi camau gweithredu awtomatig i gymryd lle os mae claf yn mynd i adran Damweiniau ac Achosion Brys neu wasanaethau eraill.

Mae hyn yn gyffrous ar lot o lefelau. Os bydd claf yn mynd i adran Damweiniau ac Achosion Brys, gallai Gwyb hysbysu’r meddyg teulu fel bod nhw’n gallu cysylltu â’r claf a dod â nhw at y feddygfa er mwyn cael cymorth cyflymach a mwy priodol.

Grŵp Dr. Keith Grimes yn Niwrnod Hacio'r GIG /  Dr. Keith Grimes' group  at the NHS Hack DayGallai’r system hefyd sicrhau bod yr adran yn derbyn manylion am hanes meddygol y claf yn awtomatig, fel bod anghenion y claf yn cael eu hadnabod mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.

Os bydd claf yn derbyn gofal lliniarol, gallai’r system hefyd roi gwybod i’r tîm hosbis, fel bod y claf yn gallu derbyn ymateb personol sy’n seiliedig ar eu hamgylchiadau personol.

Fel lot o syniadau da, mae cynnwys y claf yn y cynllunio wedi ychwanegu gwerth enfawr i’r gwaith. Mae cleifion wedi awgrymu ffyrdd eraill gallai’r system fod yn effeithiol. Er enghraifft gallai hysbysu  perthynas agosaf y claf, neu gallai anfon copi o’u cyfarwyddeb ymlaen llaw i’r ysbyty. Mae cynnwys y claf wrth setio fyny’r system yn golygu ei bod nhw’n gallu nodi camau gweithredu ei hunain. Ei chaniatâd nhw sy’n creu’r rheolau.

Mae hwn i gyd yn gyffrous achos gallai’r syniad cael ei ddatblygu ymhellach. Os yw’n profi i fod yn effeithiol, gellir cynnwys camau gweithredu a sbardunau bellach fel bod pethau fel pwysedd gwaed uchel y claf rhoi gwybod i’r meddyg teulu yn awtomatig.

Yn union fel gyda Diwrnod Hacio’r GIG ei hun, mae yna bosibiliadau enfawr.

Dyfrig

Diwrnod Hacio’r GIG: Delweddu Data

Data Visualisation / Delweddu Data

Mae sesiwn gyntaf Diwrnod Hacio’r GIG wedi bod yn llawn dop. Rydyn ni wedi clywed syniadau pobl, ac mae mynychwyr wedi dewis ble i roi eu hegni a’u hymdrechion. Mae’r gwaith caled wedi dechrau.

Rydw i wedi dal i fyny gyda Martin Chorley, sy’n ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r grŵp sy’n gweithio gyda fe yn cynnwys myfyrwyr Newyddiaduraeth Cyfrifiadurol, sy’n edrych i wneud e’n haws i ffeindio a deall ystadegau iechyd ar gyfer gwahanol ardaloedd.

Bydd y data yn cael ei arddangos ar fap o Gymru. Mae’r map yn anelu i arddangos y data mewn ffordd sy’n hawdd i’w ddeall. Fe fydd yn cyfleu gwybodaeth sy’n ymwneud â materion fel rhestrau aros ar gyfer cleifion Canser, nifer y gwelyau sydd mewn ysbytai a hyd yn oed lefelau gwariant Byrddau Iechyd.

Mae’r dull yma’n cymryd ysbrydoliaeth o NHSmaps.co.uk, sy’n dangos data ar gyfer grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr, ond fe fydd hefyd yn ychwanegu rhagor o wybodaeth i beth sydd ar gael ar y safle.

NHS Hack Day: Data Visualisation / Diwrnod Hacio'r GIG: Delweddu DataBydd unrhyw un sy’n gweithio yn awdurdodau lleol neu’r GIG yng Nghymru yn gwybod bod ôl troed gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol iawn. Dyw ffiniau’r Byrddau Iechyd ddim yn cyfateb yn union â ffiniau un o’r awdurdodau lleol.

Yn hytrach na gadael i hyn fod yn rhwystr, maen nhw wedi datrys y broblem trwy deilwra metadata’r gwybodaeth maen nhw’n casglu. Bydd hyn yn arwain at newid y ffiniau ar y map yn unol â ffynhonnell y wybodaeth wreiddiol. Mae hyd yn oed y posibilrwydd o arddangos y wybodaeth i lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is.

Mae fe wedi bod yn drawiadol i weld sut mae pobl yn trafod materion sydd yn aml wedi bod yn rhwystrau wrth i ni edrych i wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae heddiw yn brawf bod gweithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol yn gallu arwain at atebion diddorol i hen broblemau.

Dyfrig

Cardiff NHS Hackday #nhshd Live! Here’s a taster. | What’s the PONT

Blogbost gan Tanwen Grover, Swyddog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru gyda blas o beth wnaeth cymryd lle yn Niwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd

Tanwen Grover, Officer at the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office gives a flavour of what’s taking place at the NHS Hack Day in Cardiff.

Cardiff NHS Hackday #nhshd Live! Here’s a taster. | What’s the PONT.

Better Learning from Quality Improvement Audits. NHS Hackday Cardiff #nhshd | What’s the PONT

Blog da gan Chris Bolton, Rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddysgu Gwell o Archwiliadau Gwella Ansawdd yn Niwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd.

Chris Bolton, Manager of the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office blogs Better Learning from Quality Improvement Audits at the NHS Hackday in Cardiff.

Better Learning from Quality Improvement Audits. NHS Hackday Cardiff #nhshd | What’s the PONT.

NHS Hackday Cardiff #nhshd. Medical Student Work Based Placement Assessment Records

Blog da gan Chris Bolton, Rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar Gofnodion Asesu Lleoliad ar gyfer Gwaith i Fyfyriwr Meddygol. 

Chris Bolton, Manager of the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office blogs on Medical Student Work Based Placement Assessment Records.

NHS Hackday Cardiff #nhshd. Medical Student Work Based Placement Assessment Records.

Diwrnod Hacio’r GIG: Cleifion wrth wraidd datblygiad gwasanaethau

Y grwp ar eu cyfrifiaduron / The group on their computers

Mae Rakesh Patel yn byw bywyd prysur – mae hanner ei fywyd gwaith yn cael ei wario fel darlithydd mewn addysg feddygol, a’r hanner arall fel meddyg arennol. Daeth e ‘ma trwy ei ddiddordeb e mewn addysgu a dysgu gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion. Pan siaradais i ‘da fe, dywedodd e “I mi, os dyw beth ni’n wneud ddim yn helpu perfformiad proffesiynol yn y GIG, neu os nad yw’n gwella’r gwybodaeth sydd gan gleifion amdano’u hunain a’u clefyd, dyw e ddim yn werth gwneud e”.

Mae Rakesh a’i grŵp wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd â diddordeb mewn metrigau, ond maen nhw eisiau mynd tu hwnt i rifau. Dim ond atebion i’r cwestiynau da chi’n gofyn da chi’n cael o arolygon boddhad syml, felly maen nhw’n awyddus i archwilio profiad y claf yn ei gyfanrwydd, ac i dargedu ymyriadau i wella’r metrigau hynny.

Mae’r grŵp yma’n awyddus i greu safle sy’n gadael i gleifion fewngofnodi a rhannu eu profiadau. Beth sy’n allweddol yw taw’r cleifion sydd mewn rheolaeth, a nhw sy’n nodi’r digwyddiadau sy’n effeithio arnynt, er enghraifft eu llawdriniaeth gyntaf. Maen nhw’n awyddus i gadw’r safle mor syml â phosib, fel bod e’n hygyrch a bod pobl yn gallu llwytho fideos o’u ffonau clyfar. Yna bydd y safle yn cynnal llinellau amser o brofiadau pobl, ac yn dogfennu eu teithiau unigol.

Hard at work / Gweithio'n galed

Dywedodd Rakesh bod “addysg gleifion wedi cael ei leihau i ddarn o bapur gyda ffeithiau a ffigurau sydd yn aml yn ddiystyr i gleifion. Beth am ddefnyddio profiad y claf a’u gwybodaeth am eu clefyd i addysgu eraill?”

Dyma’r cwestiynau mae Rakesh yn gofyn er mwyn gwneud hynny :

Event – beth sydd wedi digwydd ?
Symptoms – pa symptomau sydd gennych?
Share –beth da chi eisiau rhannu ag eraill?
Emotion – sut mae fe’n gwneud i chi teimlo?
Nuances – beth yw’r ystyr personol i chi?
Communicate – beth ydych chi eisiau cyfleu i bobl eraill?
Experience – beth oedd e fel i chi a’ch teulu?

Gall pobl uniaethu â phrofiadau pobl eraill, ac mae’r grŵp yn gobeithio gall y safle creu a rhannu ystyr a dealltwriaeth bwerus. Mae’r safle ‘ma’n anelu i helpu pobl eraill i wneud synnwyr o ddigwyddiadau yn eu bywydau eu hunain trwy brofiadau pobl eraill.

Fel pawb rydw i wedi siarad ‘da yn y digwyddiad ‘ma, dydyn nhw ddim eisiau i’w brosiect i fodoli ar ei phen ei hun. Mae’r grŵp yn edrych i weithio ‘da grwpiau eiriolaeth gleifion a NHS Choices.

Mae wedi bod yn wych gweld cleifion mor weithgar yn Niwrnod Hacio’r GIG, fel cyfranogwyr ac fel beirniaid. Felly mae fe dim ond yn iawn fod prosiect sy’n canolbwyntio ar brofiad y claf ‘da siawns i gipio’r wobr fawr.

Dyfrig

Diwrnod Hacio’r GIG: Coffi, Apps a Gweledigaeth

Y grwp yn gweithio'n galed / The group hard at work

Mae ail ddydd Diwrnod Hacio’r GIG wedi dechrau, ac rydw i jyst wedi bod yn sgwrsio â Peter Davies, sy’n Ymgynghorydd mewn Diabetes yn Sandwell a Gorllewin Birmingham dros gwpl o gwpanau mawr o goffi. Teithiodd Peter i Gaerdydd er mwyn bod yn rhan o’r digwyddiad.

Roedd e’n ddiddorol clywed Peter yn siarad am sut gall digwyddiadau fel yr un ‘ma ychwanegu gwerth i’r GIG drwy gynnwys pobl yn gynnar yn y broses ddylunio.

“Os da chi ddim yn cynnwys pobl yn gynnar yn y broses glinigol, anghofiwch e, dyw e ddim yn mynd i weithio. Mae profiad o bob cwr o’r byd yn dweud os da chi ddim yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn defnyddio’u sgiliau, yna fe wnewch chi wastraffu amser ac ymdrech”.

Mae ‘na apps gwych ar gyfer gofal iechyd yn cael eu datblygu, fel yr app Futisu sy’n defnyddio camera i ganfod newidiadau mewn lliw’r wyneb er mwyn monitro cyfradd curiad y galon. Mae grŵp Peter yn ceisio datblygu un arall er mwyn helpu i wella gofal iechyd.

Luke Anderson da enghraifft o'r cardiau / Luke Anderson with an example of teh cards

Fe wnaeth Luke Anderson, Offthalmolegydd yn Ysbyty’r Heath, esbonio i mi sut maen nhw’n defnyddio cardiau i ganfod symudiad y llygaid gan blant sydd o dan 2 oed a phobl sydd ddim yn gallu lleisio. Gall hyn fod yn oddrychol gan fod e’n dibynnu ar ble da chi’n meddwl mai’r claf yn edrych. Mae’r grŵp yn edrych i greu offer sgrinio ar iPad i fesur golwg. Fe fydd e’n fflachio delweddau hwyl i ddenu’r llygaid, a bydd yr app yn gweld lle mae’r llygaid yn edrych. Os dyw llygaid y claf ddim yn edrych i ble dylai nhw fod, yna efallai mai ‘na problemau. Bydd y lluniau i gyd mewn llwyd niwtral, achos byddai gwahanol lefelau o liw yn sgiwio’r canlyniadau oherwydd byddan nhw’n denu’r llygaid yn wahanol. Bydd yr app yn rhoi lefel gywir o graffter gweledol ac yn helpu i osgoi llawdriniaeth ddiangen.

Mae’r grŵp yn defnyddio cod ffynhonnell agored o OpenCV sy’n galluogi camera’r iPad i bennu ble mae’ch wyneb, ac wedyn maen nhw’n addasu fe ar gyfer eu hanghenion. Nawr byddant yn rhannu’r newidiadau maen nhw wedi gwneud i’r cod fel gallai’r gymuned ffynhonnell agored defnyddio fe.

Dyw’r grŵp ddim yn edrych i weithio ar ben ei hun ‘da’r app ‘ma – maen nhw’n gobeithio cysylltu ‘da Open Eyes, sef cofnod gleifion electronig sy’n cael ei redeg o Moorfield er mwyn rhannu fe ymhellach.

Mae Peter yn gallu gweld sut gellir defnyddio hwn trwy ei brofiad uniongyrchol – mae’n dod ar draws cleifion sydd â phroblemau thyroid, sy’n achosi problemau gyda llygaid. Bydd e’n ddiddorol i weld sut bydd yr app yn cael ei ddatblygu ymhellach a’i symud ymlaen.

Dyfrig