Tag Archif: methiant

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Logo digwyddiad Dyfodol Llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe.

Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad.

Yr ochr dda o hwn yw bod mudiadau yn tueddu i fynd y tu hwnt i ymatebion sy’n ticio blychau er mwyn cael newid gwirioneddol a pharhaus. Yr ochr gwael yw bod newid diwylliannol yn gallu cael ei gweld fel rhywbeth sy’n rhy anodd, felly nad yw’r gwaith yn cael ei wneud o gwbl. Mae’r broblem yn rhy fawr.

Felly pan glywais am Ymchwiliad Craffu Dinas a Sir Abertawe i’w Diwylliant Corfforaethol, roedd gen i ddiddordeb yn syth.

Felly pam wnaethon nhw sefydlu’r ymchwiliad?

Dyma’r cymhelliant yn ôl y Cynghorydd Andrew Jones, Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu ar Ddiwylliant Corfforaethol:

‘Dewiswyd y pwnc oherwydd, fel Cyngor, mae ein diwylliant corfforaethol yn sail i bopeth a wnawn, o sut rydym yn ymgysylltu â’n dinasyddion a darparu gwasanaethau i sut yr ydym yn trin ein staff a thyfu a datblygu fel sefydliad. Mae’r heriau a wynebir o ganlyniad i ostyngiadau yng nghyllidebau cynghorau yn fygythiad i’r syniad o ddiwylliant ar y cyd. Felly mae gennym ni fel Cynghorwyr, Rheolwyr a Staff, cyfrifoldeb i ymateb i’r heriau hyn trwy ddatblygu diwylliant sy’n gallu sicrhau bod dinasyddion Abertawe yn parhau i dderbyn y gwasanaethau gorau posibl o’r Cyngor.’

Sicrhau bod pethau’n iawn o’r dechrau

Felly, beth allwn ni ddysgu o’r camau rhagweithiol mae’r cyngor wedi cymryd i nodi ffyrdd o wella’u diwylliant?

Pan wnes i siarad â Michelle Roberts o Dîm Craffu Dinas a Sir Abertawe, pwysleisiodd hi’r pwysigrwydd o gael y cyfyngiadau iawn am yr ymchwiliad o’r dechrau er mwyn sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar y meysydd cywir. Rhesymeg yr adolygiad oedd:

  • Bod gan y cyngor y diwylliant corfforaethol cywir i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n wynebu
  • Bod nhw’n creu diwylliant sy’n helpu i droi’r ddinas o gwmpas
  • Bod diwylliant staff yn un sy’n grymuso ac annog cyfrifoldeb personol, arloesi a chydweithredu

Mae’n wych i weld sut mae’r cyngor wedi sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael effaith barhaus drwy ei gysylltu i waith Leanne Cutts, ei Chydlynydd Arloesi. Maen nhw wedi ffocysu ar y nodau tymor hir, fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu, ond hefyd wedi canfod enillion cyflym ac amcanion tymor canolig.

Mae yna rhai cynigion trawiadol sy’n canolbwyntio ar y bobl sy’n gweithio yn y sefydliad. Mae’r rhain ynghylch sut maen nhw’n ymdrin ag oes cyfan bobl yn y mudiad, o sesiynau sefydlu corfforaethol, prif ffrydio arloesi trwy arfarniadau, a datblygu sgiliau personol er mwyn osgoi’r angen i brynu arbenigedd i mewn i’r cyngor.

Methiant

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith ar fethiant dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein Rheolwr Chris Bolton. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn sylfaen i’r wybodaeth rydym yn rhannu a’n ffocws ar welliant. Felly mae’n wych gweld bod y cyngor yn edrych ar sut y gallant symud o ddiwylliant o fwrw bai, wrth gydnabod y materion allanol sy’n ei gwneud yn anodd (rydw i wedi blogio o’r blaen ar amgylcheddau cymhleth a methu). Os ydym yn mynd i gwrdd â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n rhaid ein bod ni’n gallu cymryd risgiau a reolir yn dda ac adeiladu ar wersi o fethiant, fel mae Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn trafod yn y fideo isod.

Ble i ddechrau?

Os ydych chi eisiau archwilio diwylliant eich mudiad, mae’n werth cael cipolwg ar Ddull Mapio Diwylliant sydd wedi cael ei ddatblygu gan Dave Gray. Mae’r Satori Lab wedi bod yn defnyddio hwn yn eu gwaith. Mae’r sbardunau diwylliant sy’n cael eu nodi (a hefyd y rhai sydd ddim) sy’n ddefnyddiol iawn o ran meddwl am beth sydd tu ôl i ymddygiad staff a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ar ein dull o archwilio fel bod e’n cwrdd ag anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gofynion y ddeddf yn golygu bod rhaid i ni a gwasanaethau cyhoeddus newid. Os bydd mudiadau yn ceisio cyflawni’r saith gôl lles trwy’r pum ffordd o weithio heb newid beth maen nhw’n wneud, maen nhw’n debygol o fethu.

Mae’r ddeddf yn rhoi cyfle i wneud pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru. Mewn cyfnod o lymder, ni allwn gyflawni dyheadau’r ddeddf wrth addasu’r hyn rydyn ni’n gwneud ar hyn o bryd. Rhaid i ni gael newid diwylliant gyfan gwbl er mwyn i bobl Cymru cael y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw’n haeddu.

Dysgu o Fethiant mewn amgylchedd cymhleth

Yn ei ail blogbost am weithdy Dysgu o Fethiant, mae Dyfrig Williams yn edrych ar fethiant mewn amgylchedd cymhleth.

Mae cwpl o wythnosau wedi mynd heibio ers y gweithdy Dysgu o Fethiant, ac mae fe hefyd wedi bod yn sbel ers fy ymateb iddo, ble wnes i gyfaddef fy mod i heb ddysgu lot o fy methiant i. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly roedd ein trafodaeth amdano rôl archwilio mewn dysgu o fethiant braidd yn anochel.

Methiant systematig

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason. Ffynhonnell: BMJ, 2000 Mar 18:320(7237): 768-770

Roedd cyflwyniad Chris Bolton ar Fodel Methiant Caws y Swistir gan James Reason, sy’n cymharu systemau dynol i haenau o Gaws y Swistir. Dewisodd Reason Caws y Swistir am reswm, gan fod pob haen yn amddiffyniad yn erbyn camgymeriadau a gwallau, ac mae pethau’n mynd o chwith pan mae’r tyllau’n galluogi i’r methiant parhau. Mae ‘na feirniadaeth ddiddorol o’r model yn y sylwadau gan Matt Wyatt o Gymhleth Cymru.

Ar ôl sgwrs dda ar Twitter ar wahanol fathau o gaws fel amddiffyniad (fel gwladgarwr dewisais i gaws Caerffili – ‘Rwy’n crymblo yn wyneb methiant’), edrychais i ar fodel mae Matt wedi datblygu o’r enw’r ‘Llinell Amser o Fethiant Anochel.’

Llinell Amser o Fethiant AnochelMae Model Caws y Swistir yn fodel adlewyrchol (gan eich bod chi’n edrych yn ôl ar y methiant ar ôl iddo gymryd lle), ond mae gen i ddiddordeb mewn model Matt achos bod e’n cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar fethiant a’i ganlyniadau ar wahanol gyfnodau. Mae hwn yn cydseinio â’r ymagwedd systematig tuag at fethiant yn fy mlogbost diwethaf ar adlewyrchu ar fethiant yn drylwyr.

Er mwyn gallu unioni’r methiannau yng nghyfnod cynnar y llinell amser, mae’n rhaid i ni fod yn agored a gonest am fethiant, neu bydd materion yn gwaethygu i fod yn broblemau mwy. Os ydym yn gyfforddus â mân achosion o fethiant, rydyn ni hefyd yn allu paratoi’n well ar gyfer pan mae pethau’n mynd yn rili wael. Fel mae Matt yn dweud yn sylw arall, ‘Mae systemau byw cymhleth bob amser yn methu, felly yn hytrach na cheisio dileu methiant, mae’n llawer mwy defnyddiol i’w gwneud yn ddiogel i fethu.’ Mae’n werth darllen blogbost Chris ar ‘Lygod Trojan,’ sef cynlluniau peilot sy’n ddiogel i fethu, cyn gwylio fideo o Dave Snowden sy’n trafod nhw fel rhan o’r Fframwaith Cynefin.

Gallwch weld y dull hwn ar waith drwy waith y Bromford Lab a Phrosiectau Beta Cyngor Dinas Dulyn. O ran Cyngor Dulyn, mae’n werth edrych ar sut mae paentio o flychau goleuadau traffig wedi arwain at lot llai o dagio a graffiti.

Beth mae hwn yn meddwl i archwilwyr a’r cyrff sy’n cael eu harchwilio?

Ar wahân i un awgrym yn y gweithdy i gymryd eich archwilydd allan am ginio i drafod eu hymagwedd tuag at fethiant (ac rydw i’n hollol gytuno â hyn gyda llaw!), mae hyn i gyd yn ymwneud â’r amgylchedd cymhleth mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a’u harchwilio ynddo.

Yng Nghymru, mae’r amgylchedd yma ar fin newid yn sylfaenol pan mae Deddf Lles Genedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gyflwyno. Bydd rhaid i fudiadau meddwl ychydig yn wahanol am eu gwaith, achos bydd rhaid iddynt wella lles pobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y ddeddf hefyd yn her i ni yn Swyddfa Archwilio Cymru – mae’n anodd mesur llwyddiant pan ddydych chi ddim yn gwybod beth fydd y dyfodol yn edrych fel. Mae blogbost wych ar flog Swyddfa Archwilio Cymru ble mae Ann Webster, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Seland Newydd yn amlinellu’r heriau ni’n wynebu.

Rydyn ni eisoes wedi rhannu rhai camau gall mudiadau cymryd i adrodd yn ôl yn effeithiol, gan gynnwys adrodd integredig, mewn seminar wnaethon ni rhedeg gyda’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Ond o ran y digwyddiad yma, wnes i gael fy nharo gan rai camau syml gall mudiadau cymryd i ddangos gwelliant. Rhoddodd Jonathan Flowers enghraifft wych o sut wnaeth Rheolwr Cynllun Rhwydwaith Cymdogaeth gofyn am ddau achos y mis o sut y mae’r gwasanaeth wedi gwella bywydau pobl. Mae’r naratif yn dangos bod y gwasanaeth yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio i werthuso’r prosiectau.

Ble nawr?

O ran ein gwerthusiad, rydyn ni wedi bod yn casglu enghreifftiau o sut mae’n gwaith ni wedi arwain at fudiadau’n mabwysiadu arfer da. Dyw’r rhain ddim yn aml yn fesurau ynddo’u hunain, ond maen nhw’n astudiaethau achos cymhleth o sut mae gwasanaethau wedi newid.

Ac o ran ein gwaith, mae’n bwysig bod ni’n parhau i drafod methiant, fel bod e’n cael ei normaleiddio a gall pobl fod yn fwy onest amdano. Ac os gallwn ni wneud hynny, byddwn ni mewn lle gwell i helpu mudiadau i gymryd camau pellach i wella eu gwasanaethau.

Methu â dysgu o fethiant

Sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud defnydd gwell o wybodaeth sy’n dod o fethiant? Isod mae Dyfrig Williams yn blogio ar ddysgu o fethiant.

Wythnos diwethaf fe wnes i fynd i’r gweithdy ar Ddysgu o Fethiant yng Nghaerdydd. Cyn i mi fynd ymhellach, mae rhaid i fi wneud e’n glir fy mod i’n cysidro fy ngwaith fy hunain isod, nid gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da.

Mae’n deg i ddweud bod y digwyddiad yn agoriad llygad, achos wnaeth e roi’r cyfle i ni gyd edrych ar agweddau o’n gwaith sydd ddim yn cael eu trafod yn draddodiadol. Ond pam ddim?

Yn ei phapur ar ‘Strategaethau ar gyfer dysgu o fethiant,’ mae Amy C. Edmondson yn rhannu’r Sbectrwm Methiant, sy’n dangos mai’n anaml iawn mae methiant yn dod o weithredoedd gan unigolyn. Felly pam ydyn ni’n dal i feddwl bod diwylliant gwaith effeithiol a chynhyrchiol yn un sy’n anwybyddu methiant ar bob cyfrif?

“Order, order!”

Yn yr ymarfer grŵp roedd pob bwrdd yn cynllunio amgylchedd sy’n galluogi arloesi, ac roedd pob un yn amgylchedd lle’r oedd methiant yn cael ei dderbyn. Mae hyn yn gwneud synnwyr, achos dydyn ni ddim yn hybu arloesi drwy glampio lawr ar achosion o fethiant, ni’n clampio lawr ar syniadau am ffyrdd newydd o weithio.

Fe wnes i gael y dasg o adrodd nôl ar beth roedd ein bwrdd ni’n meddwl, ac roedd sylwadau ni i gyd o amgylch y pwynt bod amgylchedd sy’n galluogi arloesi yn un sy’n gymhleth ac yn llawn llanast. Beth roeddwn i’n ceisio cyfleu oedd bod hyn yn ymagwedd draddodiadol, a dyma sut rydw i wedi bod yn dueddol o ystyried arloesi. Mae arloesi wedi bod yn isgynnyrch o fy ngwaith i, yn hytrach na’r canlyniad neu’r ffocws. Dyw e ddim wedi bod yn rhywbeth sy’n cael ei nodi yn fy ngwerthusiadau swydd, a dyw e ddim yn mesur llwyddiant yn fy ngwaith i.

Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach achos mae’r amgylchedd ni’n gweithio ynddo yn gymhleth hefyd. Does yna ddim un ymateb sy’n gweithio i bawb sy’n derbyn a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Efallai na fydd rhywbeth sy’n gweithio mewn un gymuned yn gweithio mewn un arall.

Wedi dweud hyn i gyd, mae yna rhai dulliau arloesi sy’n llawer mwy trylwyr. Roedd e’n ddiddorol i edrych ar waith y Bromford Lab, sy’n gweithio i strwythur i brofi syniadau arloesi. Un o’u hegwyddorion sylfaenol yw ‘i fethu’n gyflym,’ sy’n golygu bod nhw’n cael gafael ar lot o wybodaeth o’u profion.

Mae’r dull yma yn sicrhau bod e’n lot haws i fesur llwyddiant sy’n dod o arloesedd. Rwy’n siŵr bod yna lot o arloesi yn cymryd lle yn Bromford tu hwnt i’r labordy hefyd, ond mae mynd â syniadau a materion i mewn iddo yn rhoi’r cyfle i werthuso nhw mewn ffordd ffurfiol. Mae’n fwyaf amlwg yn ei defnydd o Trello, lle mae gwerthuso yn rhan hollbwysig o’r broses profi.

Gwneud lle i werthuso

Y prif bwynt dysgu i mi’n bersonol oedd i gwneud yr amser i werthuso effaith. Rydw i wedi tueddu i drin gwerthuso fel rhywbeth sy’n cael ei wneud pan rwy’n cael y cyfle, yn hytrach na’i wneud yn rhan o fy ngwaith. Ac os dydych chi ddim yn cymryd y cyfle i edrych ar pam mae rhywbeth wedi methu, yna does yna ddim lot o gyfle i ddysgu ohono.

Felly rwy’n mynd i ddechrau’r broses o werthuso’n fwy trwyadl. Mae’r dyddiadau yn fy nyddiadur – byddai’n cymryd amser allan o fy ngwaith i werthuso. Fe wnâi gadael fy nesg i, fel fy mod i’n gallu dianc o’r gwrthdyniadau arferol fel e-bost a’r peil mawr o bapurau, er mwyn mynd i’r meddylfryd iawn ar gyfer y gwaith. Dymunwch lwc i fi!

Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

Google Atmosphere

Cymerodd Dyfrig Williams ran yn Google Atmosphere, gweminar oedd yn archwilio diwylliannau o arloesedd. Yn y blogbost yma, mae’n edrych yn ôl dros y pwyntiau dysgu allweddol.

Mae papur Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn amlinellu’n glir ein bod ni mewn cyfnod heriol i wasanaethau cyhoeddus, gan fod yna lot llai o adnoddau i ddarparu gwasanaethau mewn cyfnod o alw cynyddol. Os dydyn ni ddim yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd, sut gallwn ni dechrau newid y ffordd ni’n gweithio? Dyma beth oeddwn i’n pendroni amdano wrth i mi wylio Google Atmosphere, a wnaeth rhannu gwersi o fudiadau yn y sector preifat.

O ble mae syniadau arloesol yn dod?

Yn y sesiwn hon edrychodd Tim Brown o IDEO ar pam mae rhaid i ni feddwl am ein hopsiynau mewn ffordd gwbl wahanol os ydyn ni’n edrych amdano atebion gwahanol. Fe wnaeth Tim edrych ar sut rydyn ni’n edrych ar ein problemau, achos os ydyn ni’n fframio cwestiynau mewn ffordd benodol iawn, does dim lot o gyfle i ddod o hyd i atebion gwahanol. Enghraifft Tim oedd y cwestiwn “Sut rydyn ni’n gwneud y gadair hon yn fwy cyfforddus?” Os ydyn ni’n gofyn “Sut y gallwn ni eistedd mewn ffyrdd gwahanol?” yn lle, mae gennym lot mwy o gyfle i feddwl a gweithio’n wahanol.

Mae hyn yn cyd-fynd gyda meddylfryd 10x Google, lle maen nhw’n edrych ar sut i fynd i’r afael â materion trwy weithio mewn ffordd deg waith yn well yn hytrach na 10% yn well. Yr unig ffordd i wella yn y modd yma yw i feddwl mewn ffordd cwbl wahanol.

Meithrin arloesedd tîm: Golwg tu mewn i reolau gwaith Google

Roedd gwrando ar Laszlo Bock o Google yn galonogol, achos fe wnaeth e drafod rhai o agweddau ein gweminar Syniadau Staff. Pwysleisiodd Laszlo’r pwysigrwydd o ymgysylltu â staff. Mae’n hawdd i reolwyr i lynu ato beth maen nhw’n gwybod, am eu bod nhw wedi cael eu swyddi trwy wneud penderfyniadau da. Ond fel nododd Laszlo, mae gan staff siwd gymaint o wybodaeth, mae’n rhaid gwneud y fwyaf ohono.

Mae’n ddiddorol bod penderfyniadau Google ddim yn seiliedig ar reddfau, ond yn hytrach ar ddata. Cafodd ei Brosiect Ocsigen ei gynllunio i ffeindio’r nodweddion o reolwyr llwyddiannus yn Google. Treuliodd tîm y prosiect flwyddyn yn archwilio data o arfarniadau, arolygon gweithwyr, gwobrau a ffynonellau eraill. Fe wnaeth hyn arwain at fwy na 10,000 o arsylwadau o ymddygiad rheolwyr.

Cyflawni arloesedd mewn busnes: Sut wnaeth Airbnb trawsnewid diwydiant

Rydym wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar reoli risg yn ddiweddar (gan gynnwys gweminar ar y pwnc), felly roedd pwyntiau Jonathan Mildenhall o Airbnb ar risg yn amserol iawn. Fe wnaeth Jonathan annog ni i gymryd risgiau ac i ddathlu methiant a llwyddiant. Pob mis maen nhw’n dathlu methiannau gwych er mwyn hwyluso’r diwylliant yma, gan ei fod yn canolbwyntio ar syniadau sydd wedi methu. Dywedodd Jonathan “Po fwyaf mae cwmni yn dathlu methiant, y mwyaf hyderus maen nhw wrth gymryd risgiau. Po fwyaf hyderus mae’r cwmni wrth gymryd risgiau, y mwyaf llwyddiannus mae’r risgiau hynny.”

Os ydych chi’n cysidro rhoi hwn ar waith yn y sector cyhoeddus, mae Chris Bolton wedi ysgrifennu sawl blogbost ar ein hagwedd tuag at fethiant, gan gynnwys y grynodeb yma ar garu a dysgu o fethiant.

Cymryd risgiau a reolir yn dda yn y sector cyhoeddus

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi annog gwasanaethau cyhoeddus i gymryd risgiau sydd wedi eu rheoli’n effeithiol, a gallwch ei weld yn gwneud hynny yn y fideo uchod. Fel mae’n dweud, os mae’r risgiau yna wedi eu rheoli’n dda, byddwn yn edrych i rannu’r gwersi a ddysgwyd yn hytrach na bwrw bai.

Diogel i Fethu

Rydw i wedi bod yn dilyn blog What’s the PONT Chris Bolton ers sbel, cyn i mi ddechrau gweithio yng Nghyfnewidfa Arfer Dda Swyddfa Archwilio Cymru hyd yn oed. Mae gan Chris dawn ar gyfer teitlau arbennig, felly pan wnaeth e flogio am Lygod Trojan fe wnes i dalu sylw.

Prosiectau bach sy’n ddiogel i fethu yw Llygod Trojan. Un o brif egwyddorion y Gyfnewidfa Arfer Dda yw dydyn ni ddim yn ailddyfeisio’r olwyn, felly does dim synnwyr i mi amlinellu’r theori i gyd eto pan mae blogiau Chris yn gwneud hyn yn wych yma ac yma.

Edrychais ar ôl y Clwb Blog Wythnosol wythnos diwethaf, ac wrth feddwl am un o flogiau diweddaraf Chris, penderfynais wneud crynodeb yr wythnos ychydig yn wahanol. Mae’r Clwb Blog Wythnosol yn ffordd wych o drio gweithio mewn ffyrdd gwahanol i beth rwy’n gwneud fel arfer.

Yn ystod yr wythnos fe wnes i fynd i ddigwyddiad Geek Speak ar apps defnyddiol. Siaradais â Russell Todd, sy’n gweithio gyda’r tîm Cyngor a Chymorth Cymunedau yn Gyntaf yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a siaradom am Pinterest.

Dywedodd Russell bod e’n ffeindio byrddau Andrew Coulson yn ddiddorol, ac awgrymais dylai dilyn Marilyn Booth, gan ei bod hi’n pinio pethau grêt ynglŷn ag ymgysylltu â’r gymuned.

Roeddwn i heb ddefnyddio Pinterest o’r blaen, ond roeddwn i’n meddwl byddwn i’n cael gwell dealltwriaeth ohono a’i ddefnydd i wasanaethau cyhoeddus, hyd yn oed os byddwn i ddim byth yn ei ddefnyddio eto.

Felly roedd hwn wir yn brosiect lle’r oedd e’n ddiogel i fethu. Roedd e’n lwyddiant (o leiaf o ran adborth ac arbed amser, er wnaeth e gymryd sbel i fi ffeindio allan sut i fewnblannu byrddau, sy’n hawdd iawn gyda llaw). Y cam nesaf yw meddwl am sut gall Pinterest ffitio mewn i’n gwaith ni, a sut gallai helpu ni yn y dyfodol. Does dim synnwyr mewn defnyddio cyfrwng cymdeithasol arall heb feddwl mwy am sut byddwn ni’n ei ddefnyddio – rhaid i ni fod yn strategol.

Rhaid i ni hefyd feddwl am sut gallwn ychwanegu gwerth i fyd Pinterest – does dim synnwyr mewn dyblygu beth mae pobl fel Andrew a Marilyn eisoes wedi gwneud, yn enwedig pan dydw i ddim yn meddwl gallwn ni wella ar eu gwaith gwych nhw.

Rydw i wedi rhoi bwrdd at ei gilydd sydd yn seiliedig ar ein Seminar Rheoli Ynni sy’n dangos sut gallai fod yn ddefnyddiol i gasglu gwybodaeth o’n gwaith ni. Ond gan fod e’n gyfrwng cymdeithasol, rhaid i ni hefyd meddwl amdano sut gallwn ei ddefnyddio i ymgysylltu a dysgu oddi wrth eraill.

Mae hwn yn dod â fi yn ôl at bwysigrwydd gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Daeth neges glir o Seminar Rhanddeiliaid Allanol Swyddfa Archwilio Cymru – bod e’n hanfodol ein bod ni’n arloesi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Roedd trafodaethau diddorol yn cymryd lle ar y pryd, yn cynnwys y drafodaeth isod lle mae’r Archwilydd Cyffredinol yn amlinellu sut bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi hwn yn ein gwaith.

Twitter conversation / Trafodaeth ar Twitter

Dyfrig