Tag Archif: Llywodraethu

National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda De Silva i ffeindio allan.

Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg i mi does dim prinder o bobl sydd â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Pan wnes i hwyluso rhwydweithiau traws-sector Cyfranogaeth Cymru, roedd yn gwbl glir nad yw’r gwerthoedd yma yn cael eu cyfyngu i’r sector gwirfoddol, a chafodd y safbwynt yma ei atgyfnerthu pan wnes i fynd i GovCampCymru, anghynhadledd lle mae pobl yn cynnal sesiynau trafod ar sut all technoleg, meddylfryd newydd a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.

Fe wnes i gyfarfod Kevin Davies o Gynulliad Cymru yn GovCampCymru, ac mae fe bellach wedi rhannu arferion craffu da gyda ni. Dywedodd e i mi sut mae National Theatre Wales (a ddatblygodd y Prosiect Democratiaeth Mawr) yn ymgorffori eu gwerthoedd yn eu llywodraethu a disgrifiadau swydd eu staff.

Roedd ymweld â swyddfeydd y theatr yn ddigon i berswadio mi bod ymagwedd y sefydliad tuag at y gymuned yn ychydig yn wahanol. Yn hytrach na theatr fawr, mae ganddynt swyddfa fach yn Arcêd y Castell – reit yng nghanol y ddinas.

Llywodraethu ac allgymorth

Nid yw llywodraethu yn bwnc sexy iawn, ond mae’r theatr wedi llwyddo i wneud y pwnc yn eithaf cyffrous trwy eu gwaith gyda’u Panel TEAM. Mae’r panel yn 10 o bobl o wahanol gymunedau sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i’r Theatr ac sy’n lleisio’u barn ar sut mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar bob lefel.

Mae’r model yn chwe blwydd oed nawr. Yn y flwyddyn gyntaf fe wnaethon nhw gwaith allgymorth dwys a 13 sioe mewn 13 lleoliad gwahanol. Yn dilyn hynny roedd pobl yn yr ardaloedd yma yn cymryd rhan mewn sioeau. A thrwy edrych ar theatr yn yr ystyr ehangaf, fe wnaethant lwyddo i gael pobl na fyddai’n mynd i weld sioe fel arfer i gymryd rhan. Er enghraifft dyw’r theatr ddim yn ddiddordeb mawr i gymuned Somali Caerdydd, ond drwy noddi tîm pêl-droed bach, maen nhw wedi gallu rhedeg gweithdai bach gyda phobl ac i gael eu hadborth ar gynyrchiadau.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r panel yn llunio cyfeiriad strategol y sefydliad. Mae dau aelod y Panel TEAM yn mynd i bob cyfarfod bwrdd ac mae un yn eistedd yn barhaol ar y bwrdd, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol y sefydliad yn cynnwys pobl o’r gymuned. Mae’r panel hefyd yn bwydo mewn i Gynllun Strategol y sefydliad.

Fel sefydliad bach, mae aelodau’r Panel TEAM yn rhoi hwb mawr i allu’r sefydliad. Er mai dim ond 18 o bobl sy’n cael eu cyflogi, mae’r sefydliad yn ymddiried yn y 10 aelod panel i fynd i ddigwyddiadau ar ei ran a’i gynrychioli. Mae hyn wedi helpu aelodau o’r panel i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd eu hunain, ac mae rhai wedi cael swyddi gyda sefydliadau celfyddydol eraill, wedi dechrau cwrs coleg neu ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Mae’n rhwydwaith hunan-gefnogol, lle mae aelodau’r panel yn cefnogi ei gilydd yn eu prosiectau.

Recriwtio staff

Mae’r Panel TEAM hefyd yn ymwneud â recriwtio staff, gan fod aelodau o’r panel yn eistedd ar bob panel cyfweliad ar gyfer staff newydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant a gwerthodd y mudiad yn un sy’n ffocysu ar y gymuned. Mae ymagwedd National Theatre Wales yn debyg i beth mae Richard Branson wedi dweud am recriwtio am werthoedd yn hytrach na sgiliau.

Rwyf eisoes wedi sôn sut y mae gwaith allgymorth y theatr yn rhan o’i lywodraethu, ond mae allgymorth ac ymgysylltu hefyd yn rhan graidd o swydd pob aelod o staff. Mae disgwyl i’r holl staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Celfyddydol a’r timau Cyfathrebu a Chyllid yn y swyddfa, i weithio gyda’r gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n cynnal cymorthfeydd gyda grwpiau cymunedol a gweithwyr llawrydd yn eu harbenigedd. Maent yn cynnig cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac mae partneriaid y sefydliad hefyd yn cael eu hannog i ffocysu eu gwaith ar y gymuned pan fyddant yn gweithio gyda National Theatre Wales.

Gweithio agored, a derbyn adborth mewn modd agored

Ac os nad ydych yn meddwl bod hyn i gyd yn ddigon i ddangos natur agored National Theatre Wales, maen nhw hefyd yn annog pobl i roi eu hadborth drwy gyfryngau cymdeithasol yn yr ymarfer olaf cyn y digwyddiad. Mae’r gynulleidfa yn cael ei gwahodd yn arbennig o’r gymuned leol cyn i sioeau fel Candylion mynd yn gyhoeddus, ac mae’r adborth yn rhoi syniadau i’r theatr am sut i wella’r sioe a sut i greu cyffro o’i gwmpas.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau gweithio yn yr agored. Mae’r Bromford Lab yn ei ddefnyddio fel cyfle i glywed syniadau, lleihau dyblygu a rhannu dysgu o fethiant. Mae Dangosfwrdd Leeds Data Mill hefyd yn dangos gwybodaeth am eu gwaith mewn amser real. Byddem ni wrth ein bodd i glywed o unrhyw wasanaethau cyhoeddus Cymreig sy’n gweithio’n agored, ac fel National Theatre Wales, yn byw eich gwerthoedd.

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Craffu

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen.

Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts.

National Assembly for Wales Google Hangout

Lluniau Google Hangout Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Flickr http://bit.ly/1wd3dwU

Wrth i gyfryngau cymdeithasol ddod yn fwy poblogaidd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau defnyddio nhw i ymgysylltu â’u cymunedau. Gan fod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, mae yna gamsyniad bod y defnydd effeithiol ohonynt yn lot haws a chepach na dulliau traddodiadol. Ond dyw bod ar-lein yn ei hun, ac anfon neges bob nawr ac yn y man, ddim yn ddigon – rhaid i ni alluogi pobl i gymryd rhan.

A dyna pam rydw i wedi fy nghynhyrfu am ddefnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Roeddwn i fach yn amheus i ddechrau. Mae Google Plus wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi o ran gwaith (er enghraifft mae cymuned LocalGov Digital yn llawn syniadau digidol diddorol), ond sa i’n gallu dweud bod lot o bobl eraill ar y platfform.

Felly dyw Google Plus ddim cweit yn ticio’r blwch o ran mynd i bobl. Ond dyma le mae galluogi pobl i gymryd rhan yn dod mewn. Yn hytrach nag aros i bobl ddod iddyn nhw, fe wnaethon nhw weithio gyda phobl i’w helpu nhw i ddefnyddio’r dechnoleg fel bod nhw’n gallu cymryd rhan.

O ran y Hangout ar Addysg Uwch, roedd hyn yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn Lloegr neu’r Alban yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am gyllid. Os doedden nhw ddim yn defnyddio Hangouts neu doedd dim cyfrif Google Plus ganddynt, roedd staff yn gweithio gyda nhw i ddod yn gyfarwydd â’r dechnoleg. Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr â sut mae rhai cyrff yn anfon allan ychydig o drydar neu ddiweddariadau Facebook ac yn disgwyl i bobl dod atynt.

Mae hwn yn lot o waith, ond mae’r wybodaeth mae’r Cynulliad yn derbyn o’r Hangout yn lot fwy cyfoethog achos hynny. Gallwch glywed Jocelyn Davies AC a Julie Morgan AC yn trafod beth maen nhw wedi dysgu o’r Hangout yn y Audioboom uchod.

Mae fe hefyd yn werth gwylio’r fideo yma o Rhun Ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am ddefnyddio Hangouts i ymgysylltu ynghylch sgiliau STEM, a sut roedd cyfranogwyr yn fwy onest ac yn rhoi adborth mwy uniongyrchol nag mewn sesiwn tystiolaeth.

Beth sydd wedi dod i’r amlwg yw bod cyfranogiad cyhoeddus ar-lein da yn cymryd yr un faint o ymdrech ag ymgysylltu all-lein, ac os ydyn ni’n rhoi ymdrech mewn i wneud e’n dda, gallai gwella ansawdd ein gwaith.

Dyfrig