Gwneud defnydd o ddata agored

Read this blog post in English

Yn ddiweddar fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein Dataset Agored cyntaf. Beth ddigwyddodd nesaf? Isod mae Ben Proctor o Sefydliad Data Agored Caerdydd yn trafod sut y gwnaeth ddefnydd o’r data.

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Www! Data newydd

Roeddwn yn gyffro i gyd pan welais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddata fel data agored. Mae data agored yn ddata y gall unrhyw un gael mynediad atynt a’u defnyddio a dyma’r math mwyaf defnyddiol o ddata.

Ysgrifennodd Dyfrig Williams o Swyddfa Archwilio Cymru am y broses roeddent wedi mynd drwyddi er mwyn cyhoeddi’r set hon o ddata (crynodeb o ddata archwilio pob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ). Mae’r data ar ffurf tabl syml a gallwch ei lawrlwytho fel ffeil CSV (yn y bôn ffeil a fydd yn gweithio mewn unrhyw raglen taenlen) yma.

Ond mae problemau

Lawrlwythais y ffeil a gweld rhai problemau’n fuan. Nid gwallau yw’r rhain yn union, ond maent yn bethau sydd ar goll neu’n anghyson a fydd yn gwneud rhai defnyddiau o’r data ychydig yn anoddach. Ond nid cwyn yw hyn, oherwydd mai un o nodweddion deniadol data agored yw y gallwn ddatrys y problemau hyn. Gallaf wneud hyn oherwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi’r data o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn dweud wrthyf nad oes angen ei chaniatâd arnaf i wneud unrhyw beth gyda’r data ac nad oes terfynau o ran yr hyn y gallaf ei wneud gyda nhw (heblaw bod yn rhaid i mi fod yn glir o ble y daethant).

Gallaf unioni’r problemau

Dyma’r pethau a wneuthum i’m copi i o’r data.

Newidiais fformat “y golofn blwyddyn ariannol” oherwydd bod rhai o’r rhain yn rhifau ac mae rhai’n destun yn ffeil Swyddfa Archwilio Cymru.

Ychwanegais golofn o godau Gwasanaeth Ystadegol y llywodraeth (GSS). Mae codau GSS yn godau a ddefnyddir er mwyn nodi awdurdodau lleol (a ffiniau eraill). Mae cael cod GSS yn golygu nad oes rhaid i chi boeni a yw’r data’n dweud Cyngor Môn, Cyngor Ynys Môn neu Anglesey Council. A chyda chod GSS, gallwn ychwanegu “polygonau” ar gyfer pob cyngor. Yn y bôn, mae polygonau’n gyfarwyddiadau ar sut mae darlunio amlinell o bob cyngor a gwybodaeth am ble i roi’r darlun ar fap.

Gyda’r newidiadau hyn, roeddwn yn gallu darlunio cyfres o fapiau a oedd yn dangos lefel y Dreth Gyngor y pen ym mhob awdurdod lleol a sut mae hyn wedi newid gyda threigl amser.

A rhoi ffeil well i Swyddfa Archwilio Cymru

Ac rwyf wedi gallu rhoi ffeil KML yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma ffeil y mae’n addas ei defnyddio mewn meddalwedd mapio. Mae unrhyw un sydd am weld data Swyddfa Archwilio Cymru ar fap yn gallu agor ffeil KML a dechrau arni.

Gallwch lawrlwytho’r ffeil fapio hon eich hun.

Pam gwnes i hyn?

Rwy’n rhan o’r tîm craidd yn ODI-Caerdydd, felly mae data agored yn beth cyffrous i mi.
Cymerodd ychydig iawn o funudau i mi.
Rwy’n ceisio gwella ar ddefnyddio gwasanaeth Google o’r enw Fusion Tables a dyma gyfle da i ymarfer.
Mae gennyf dipyn o ddiddordeb yn yr hyn y gallai’r data hyn ei ddweud wrthym.

Rhyddhau Data Agored

Read this blog post in English

Sut all sefydliadau ryddhau Data Agored? Isod mae Dyfrig Williams yn edrych ar y broses o sicrhau bod y data y tu ôl i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru am Ddatganiadau Ariannol Llywodraeth Leol ar gael yn rhwydd, ac mae’n rhannu’r set data o dan y blogbost yma.

Rydw i wedi blogio o’r blaen ar sut y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried herio ein defnydd presennol o ddata a thechnoleg fel rhan o’r prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Roedd fy rhan i o’r brosiect yn edrych ar sut rydyn ni’n mynd i’r afael â data.

Sut mae Data Agored yn ffitio i mewn i gaffael data?

Mae’r diagram isod yn dangos y rhesymeg y tu ôl i fy ngwaith i. Yn fy marn i, mae rhaid i ni rannu’r data sydd gennym er mwyn i ni ddatblygu ein perthynas â’r cyrff sy’n gleientiaid fel y gallwn gasglu data’n effeithiol. Mae rhan o hyn ynglŷn â “bod y newid yr ydych chi’n dymuno ei weld.” Mae rhai pobl yn meddwl bod archwilwyr yn bobl sy’n ymwrthod â risg, ond yn y Gyfnewidfa Arferion Da rydym wedi gweld ein bod ni’n galluogi eraill i wneud yr un peth pan fyddwn yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi adrodd yn ôl inni am sut y maen nhw wedi gallu herio cyfyngiadau’r gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n cyrchu oherwydd y ffordd rydyn ni’n rhannu gwybodaeth. Drwy sicrhau bod data ar gael yn agored, gallwn ddangos mai ychydig o risg sydd yna, cyn belled â bod y broses yn cael ei rheoli’n dda.

Cylch sy'n dangos bod rhannu data yn arwain ato data agored, sy'n bwydo mewn i sut rydym yn caffael data

Fel y soniais yn fy nodyn gwreiddiol, roedd dod o hyd i set ddata priodol yn fwy heriol nag yr oeddwn wedi disgwyl, gan nad oes gennym yr hawl i rannu’r data yr ydym yn ei gasglu o bob cleient yn ystod ein harchwiliadau. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o ymchwil, canfuom y data y tu ôl i Adroddiad Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol, sef adroddiad ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Roedd hwn yn ddata diogel i’w ryddhau oherwydd ei fod eisoes ar gael ar wefan pob cyngor fel rhan o’u cyfrifon, ond ni yw’r unig sefydliad sy’n casglu’r data hwn. Dadansoddir y data yn yr adroddiad ar sail genedlaethol, ond drwy ryddhau’r set ddata gallwn alluogi cynghorau a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i edrych ar y data fesul sir, a chymharu a chyferbynnu eu cyfrifon yn erbyn eraill. Defnyddir y data gan Swyddfa Archwilio Cymru i gefnogi gwaith archwilio lleol ac ar gyfer meincnodi cyffredinol. Mae’r adroddiad ei hun yn edrych ar ansawdd y cyfrifon, ac mae’n seiliedig ar y data sy’n cael ei ryddhau cyn gwelliannau – nid ydym yn olrhain addasiadau cyfnodau blaenorol.

Sut aethom o gwmpas gwneud y data hwn yn agored?

Ein man cychwyn oedd taenlen a ddefnyddiwn yn fewnol sy’n cynnwys y setiau data sy’n dyddio’n ôl i 2008-09. Roeddem ychydig yn siomedig i ffeindio mas bod y gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu’r data hwn yn y strwythur hwn bellach wedi newid ac felly na fydd data cymharol ar gael y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, roedd y set ddata hon yn brawf da ar gyfer ein dull. Yn y tymor hirach, byddai’n werth inni edrych ar sut y gallem wneud data di-dor ar gael er mwyn lleihau baich y gofynion adrodd. Mae gan Lucy Knight o Gyngor Sir Dyfnaint enghraifft ddefnyddiol yn ei darlith amser cinio ar gyfer y Sefydliad Data Agored ar ‘Gwneud i Ddata Agored Ddigwydd mewn Llywodraeth Leol’.

 

Fe wnaethom ddefnyddio blogbost Hendrik Grothuis ar wneud data’n agored a Rhestr Wirio Defnyddwyr y Sefydliad Data Agored fel canllawiau bras ar gyfer y broses. Ein cam cyntaf wrth lanhau’r data oedd gweld pa ddata yr oedd gennym yr hawl i’w rannu, a pha ddata oedd eisoes ar gael o ffynonellau eraill. Fe wnaethom benderfynu gael gwared ar y data a oedd eisoes ar gael drwy StatsCymru er mwyn osgoi dyblygu, ond pe baech chi’n meddwl am ddefnyddio rhai o’r rhain, efallai y bydd y rhain yn fan cychwyn da:

Wedyn fe wnaethom ddefnyddio CSV Lint i weld a oedd y ffeil yn ddarllenadwy. Roeddem yn falch o ddarganfod bod gennym ffeil ddilys, ond canfuom hefyd ffyrdd y gallem ei gwella. Fe wnaethom droi’r set ddata o gwmpas fel bod yr eitemau data yn mynd yn llorweddol a’r blynyddoedd yn mynd yn fertigol. Fe wnaethom hefyd greu gwerth nwl i ddangos lle nad oedd y data ar gael. Roedd ymchwil sydyn ar Google yn ddigon inni ddarganfod sut i nodi celloedd gwag.

Fel sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’n ofynnol inni sicrhau bod y data ar gael yn ddwyieithog, ac felly fe wnaethom ei anfon at y cyfieithwyr i wneud yn siŵr fod pob term technegol yn hollol gywir gennym.

Cyhoeddi’r data

Pan ddaeth yn fater o gyhoeddi’r data, fe wnaethom benderfynu ei gyhoeddi fel rhan o’r blogbost yma ar flog Y Gyfnewidfa Arfer Da. Byddai’r set ddata yn edrych yn unig iawn ar lwyfan Data Agored ar hyn o bryd, ond y gobaith yw y gallwn nodi setiau data eraill y gallwn eu rhyddhau wrth symud ymlaen. Buom yn edrych ar lwyfannau posibl y gellid eu defnyddio, gan gynnwys dewisiadau ffynhonnell agored fel CKAN a DKAN (y byddai’r ddau ohonynt yn integreiddio gyda’n System Rheoli Cynnwys Drupal), yn ogystal â llwyfannau sy’n seiliedig yn y cwmwl fel Socrata. Fel sefydliad rydym yn symud i’r cwmwl pan fydd hynny’n gwneud synnwyr, ond efallai bod pethau y gallem eu dysgu oddi wrth Barth Arloesi Archwilio’r Alban, a sefydlwyd i alluogi eu staff i roi prawf ar feddalwedd a llwyfannau newydd mewn gofod sy’n cael ei reoleiddio’n ysgafn. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i staff roi prawf ar ffyrdd newydd o weithio.

Fel y nodwyd yn ein gweminar ddiweddar ar Safonau Agored, rydym wedi dewis cyhoeddi’r data mewn CSV yn hytrach na ffurf berchnogol fel Excel. Mae hyn yn golygu y gall gael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o feddalwedd, a, gobeithio, gan amrywiaeth mor eang o bobl â phosibl.

Bellach, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod modd canfod y data hwn drwy ei dagio’n effeithiol, a byddwn hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r set ddata drwy’r rhwydweithiau yr ydym wedi eu hadeiladu drwy ein gwaith blaenorol ar Ddata Agored. Ein her nesaf yw ffeindio mas sut y defnyddir y data. Felly, os byddwch yn defnyddio’r set ddata, byddem wrth ein bodd i gael eich adborth ar y fformat ac i gael gwybod sut y gwnaethoch ei defnyddio.

Dysgu o Lywodraeth Cymru

Roedd Llywodraeth Cymru yn gymorth mawr drwy gydol fy ngwaith ar y Prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Fe wnaethon nhw rannu pethau yr oeddent wedi eu dysgu o’u gwaith nhw, ac fe wnaethom hefyd fynychu cyfarfodydd gyda’n gilydd i ddysgu mwy am ddulliau Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod staff Llywodraeth Cymru eu hunain yn defnyddio StatsCymru i rannu ac i gasglu data gan ei fod yn agored ac yn dryloyw. Mae hyn yn rhywbeth i ni feddwl amdano ar ein siwrne ein hunain – sut allwn ni wneud data yn fwy hygyrch ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Fe wnaethom ddefnyddio ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Metadata fel templed ar gyfer ein gwaith ein hunain. Set o ddata yw Metadata sy’n disgrifio ac yn rhoi gwybodaeth am ddata arall, ac mae’n wirioneddol bwysig oherwydd ei bod yn rhoi cyd-destun o gwmpas y data sy’n cael ei rannu. Gellwch weld y Metadata ar waelod y neges hon ochr yn ochr â dolen gyswllt at y data ei hun.

Adborth

Mae eich adborth am ein dull yn bwysig iawn. Gan mai prawf cychwynnol yw hwn o sut y gallem wneud data yn agored ac yn barod i’w rannu, fe fyddwn yn defnyddio’ch adborth i ddylanwadu ar sut y gallai’r agenda yma symud ymlaen. Rydym yn awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn wneud gwell defnydd o ddata er mwyn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wella, a hefyd i fod yn gyson o ran ein ffordd ni o weithredu’n ddigidol. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn trafod galluogi arloesedd drwy risgiau sydd wedi eu rheoli’n dda o flaen pob un o’n digwyddiadau rhannu dysgu. Rydym yn bwriadu rhannu ein dysgu ni ein hunain fel y gall pobl ddysgu oddi wrth ein profiadau, hyd yn oed os maen nhw’n brofiadau gwael. Rydym o hyd yn dweud nad oes diben ailddyfeisio’r olwyn. Drwy weithio mewn ffordd agored a thryloyw, rydym yn gobeithio y gall sefydliadau adeiladu ar yr hyn yr ydym ni’n ei wneud fel y gallant rannu data mor effeithiol â phosibl er mwyn gwella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Set Data: Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol

Metadata

Teitl Data o Ddatganiadau Ariannol Llywodraeth Lleol 2008-09 i 2015-16
Diweddariad diwethaf 01/04/2017
Diweddariad nesaf Ni chaiff ei ddiweddaru rhagor.
Sefydliad cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru
Tarddiad Datganiadau Ariannol Llywodraeth Lleol 2008-09 i 2015-16
Ebost gyswllt arfer.da@archwilio.cymru
Lefel isaf o dadelfeniad daearyddol Awdurdodau Lleol
Cwmpas daearyddol Awdurdodau Lleol
Ieithoedd Saesneg a Chymraeg
Trwyddedu data Gallwch ddefnyddio ac ail-ddefnyddio’r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu fodd o dan termau trwydded Llywodraeth Agored – gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence

Geirfa

Sut mae Cyngor Gwynedd yn meddwl ar ffurf systemau

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar sut allai ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol. Siaradodd Dyfrig Williams â Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Cyngor i weld beth allwn ddysgu o’r gwaith yma.

Ffotograff o Dilwyn Williams

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

Cyflwynwyd dull meddwl ar ffurf systemau i Dilwyn Williams a Chyngor Gwynedd yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r dull yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau gwasanaeth i ganolbwyntio’r meddwl sefydliadol ar beth sy’n bwysig i drigolion a sut allwn gael gwared a rhwystrau systemig sy’n atal staff (sydd yn aml yn gydwybodol) rhag cyflawni hynny. Mae’r dull hefyd yn ceisio newid meddylfryd gorchymyn a rheoli i ddull arfogi wrth ddylunio a rheoli gwaith. Penderfynwyd cynnal seminarau ar y dull i aelodau a swyddogion, ac arweiniodd hyn at wneud gwaith penodol ar ddigartrefedd a chynnal a chadw adeiladau.

Fe wnaeth y seminarau yma gofyn cwestiynau caled am y ffordd roedd Cyngor Gwynedd yn darparu gwasanaethau:

  • Ydy’r gwasanaethau’n wir ffocysu ar anghenion dinasyddion?
  • Sut ellir goresgyn rhai o’r anawsterau sy’n meddwl nad yw’r sefydliad yn gallu perfformio i’r eithaf, megis trefniadau gwaith hanesyddol a gorbwyslais ar risg a chyllidebau?

Gofynnir i staff ystyried bob tro ‘Beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd?’ a phenderfynwyd mesur hynny yn hytrach na’r canlyniadau traddodiadol. Wrth ofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau sgorio gwasanaeth y gorffennol bu’r Cyngor yn defnyddio’r ffaith fod y cyfartaledd sgôr yn symud o 7 i 8 yn brawf o berfformiad da ond bellach tra bod y sgôr yn rhoi syniad o lefel gymharol o berfformiad, y cwestiwn pam nad yw’n 10 yw’r cwestiwn sylfaenol y gofynnir i bawb ystyried ac a yw’r rheswm hwnnw yn rhywbeth y gallwn wneud rhywbeth amdano. Mae hyn yn gorfodi newid mewn diwylliant a meddylfryd newydd, drwy symud o weld rheoli perfformiad yn llai o broses cymharu rhifau i fod yn fwy o gyfundrefn edrych am gyfleoedd gwella. Fel dywedodd Dilwyn, ‘Y pam sy’n bwysig – pam dim 10? Dyma’r cyfle i wella.’

Prosiectau peilot

Fe lwyddodd y prosiect cynnal a chadw, ac mae nawr ganddynt fesurau gwahanol nag o’r blaen. Daeth yn glir o’r gwaith paratoadol mai’r mesurau pwysig i ddefnyddwyr y gwasanaeth oedd cyflymder gwneud y gwaith a bodlonrwydd gyda’r gwaith a sut y gwnaethpwyd ef. Mae’r lefel o fodlonrwydd yn cynnig cyfle clir am welliant trwy ofyn y cwestiwn ‘Pam nad yw’n 10?’

Ar yr un pryd a gwella’r gwasanaeth, arweiniodd hyn i’r Cyngor safio arian trwy stopio anfon arolygwyr allan i edrych a nodi beth oedd angen ei wneud. Nawr dywedir wrth gontractwyr i fynd yno a thrwsio beth sydd angen ei wneud ar sail perthynas o ymddiried, ac os yw’r contractwyr yn bradychu’r ymddiriedaeth yna, yna’n amlwg mae yna oblygiadau i hynny.

Ni wnaeth y prosiect digartrefedd gweithio cystal efallai, ond nid oherwydd ymdrechion y timau fu’n ymwneud ag ef ond yn fwy efallai oherwydd methiant arweinyddiaeth. Ond fe ddysgodd y Cyngor lot mwy o beth wnaeth ddim gweithio drwy hynny ac amlygwyd pwysigrwydd arweinyddiaeth dda.

Sut rhoddwyd y dysgu ar waith

Deilliodd Strategaeth Ffordd Gwynedd o’r 2 prosiect peilot, sy’n cymryd beth ddysgodd y Cyngor o brofiad Vanguard a’i roi ar waith yng nghyd-destun y diwylliant lleol. Mae Ffordd Gwynedd yn ymddangos ar agenda cyfarfod y Penaethiaid Gwasanaeth pob mis, gan fod perchnogaeth Uwch Arweinyddiaeth yn hollbwysig. Nawr pan mae ymyraethau yn cymryd lle, mae’r gwaith yn dechrau gyda’r pennaeth ac mae sesiwn briffio yn cael ei chynnal gydag arweinydd y gwaith.

Mae gwaith dwys yn cymryd lle gyda rheolwyr, gan fod nifer ohonynt wedi bod yn gweithio i’r cyngor am amser maith ac wedi eu trwytho mewn diwylliant traddodiadol a’r technegau rheoli sydd wedi dod o’r byd cynhyrchu. Efallai bod rhai wedi bod yn gweithio gyda’r un meddylfryd am 20 mlynedd y aml ar sail yr hyn a welir mewn llyfrau rheoli traddodiadol, ond mae’r byd wedi symud ymlaen. Dechreuwyd grŵp hunan-ddysgu a thrafod i edrych ar nodweddion tîm ar gyfer Ffordd Gwynedd. Yna ar gyfer y dyfodol bwriedir edrych i weld os yw timau’n dangos pob elfen ac os ydyn nhw’n glir am eu pwrpas. Defnyddir mantra meddwl ar ffurf systemau Vanguard, sef pwrpas, mesurau a dull. Rhaid mesur beth sy’n bwysig ac mae’r sefydliad yn gweithio trwyddo hyn ar y foment er mwyn creu diwylliant gwahanol.

Y bwriad yw creu “arbenigwyr” yn y diwylliant ym mhob gwasanaeth ac maent yn gofyn i wasanaethau roi rheolwr ymlaen i’w hyfforddi’n ddyfnach i arwain y gwaith o herio. Mae yna elfen o gynllunio parhad yma, sy’n rhoi’r cyfle i bobl i ennill profiad er mwyn arwain y gwaith yn y dyfodol, gan fod Rheolwyr yn gweithio 3 dydd yr wythnos ar Ffordd Gwynedd a 2 dydd yn ôl yn y gwasanaeth fel bod y profiad hynny yn bwydo i mewn iddo.

O ran staff, gofynnir iddynt ystyried beth maen nhw’n gwneud i roi pobl wrth wraidd gwasanaethau. Oes ganddynt gyfle i drafod hyn yn ei gyfarfodydd tîm? Mae rhai yn teimlo mai lle’r rheolwr efallai yw gwella gwasanaethau a’i rôl nhw yw dilyn yr hyn y mae’r rheolwr yn ei ddweud. Mae Strategaeth Ffordd Gwynedd yn pwysleisio os oes unigolyn yn gwybod am rwystr i gyflawni i bobl Gwynedd yna mae yna ddyletswydd ar bawb i wneud rhywbeth amdano. Mae’r Cyngor yn dangos bod nhw’n herio sut mae gwasanaethau yn cael ei darparu, ac wrth wneud hynny mae’n bwysig does yna ddim diwylliant o fai, gan fod angen i bobl cymryd y cyfle i newid sut maen nhw’n gweithio a rhoi’r diwylliant ar waith. Mae arbrofi gyda threfniadau newydd yn gallu golygu methiant ond dim ond drwy wneud hynny y ceir arloesedd go iawn. Law yn llaw a hyn, gellir dysgu o gwynion a’i defnyddio fel ffordd o ddysgu o fethiant.

Gwersi a ddysgwyd

Un o’r pwyntiau dysgu rhannodd Dilwyn oedd os ydych chi’n dechrau’r gwaith gyda’r meddylfryd o arbed arian, nid ydych chi’n wir yn gallu rhoi pobl yn gyntaf ac ail-ddylunio gwasanaethau er eu budd nhw. Wrth gwrs fedrwch chi ddim anwybyddu’r ochr ariannol ond drwy roi ystyried sut allwch cwrdd ag anghenion bobl yn iawn yn gyntaf a gosod ystyriaethau ariannol dros hynny wedyn, yn aml iawn gellir cwrdd ag anghenion – yn aml yn rhatach.

Hefyd dywedodd Dilwyn fod dilyn proses yn gallu bod yn saffach i unigolion yn enwedig os aiff rhywbeth o’i le gan mai dilyn proses a osodwyd gan rywun arall oeddent. Felly mae’n angenrheidiol i rymuso pobl fel bod nhw’n gallu gwneud pobl yn ganolog i wasanaethau.

Dywedodd Dilwyn fod rhaid i’r bobl ar frig y mudiad meddwl ar ffurf systemau fel bod y ffordd o feddwl yn un strategol sy’n gyson ar draws y mudiad. Mae rhai aelodau yn awyddus i symud yn gyflym achos maen nhw’n gweld canlyniadau positif o’r gwaith, ond mae’n bwysig i gofio bod y gwaith yn ceisio newid diwylliant, ac nid yw hyn yn digwydd dros nos. Hefyd rhaid cadw’r strategaeth yn syml – y mwyaf syml yw’r strategaeth, y mwyaf dealladwy yw i’r holl staff ac agos i’w realiti. Po fwyaf cymhleth yw’r strategaeth, y mwyaf anodd ydyw i’w rhoi ar waith yn y modd a fwriadwyd.

Mae Cyngor Gwynedd nawr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gyda staff i glywed barn staff am y gwahaniaeth mae’r gwaith wedi gwneud. Sut mae eu gwaith nhw’n cymharu nawr a ble oedden nhw flwyddyn a hanner yn ôl? Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed mwy fel bod ni’n gallu rhannu’r dysgu.

Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut all arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ymgorffori meddylfryd digidol o fewn eu sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn y dysgodd o weithdy’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty yn ein Seminar Digidol.

Roedd ein seminar yn edrych ar ddulliau digidol, ond yn realiti dim ond rhan bach o’r seminar oedd am dechnoleg. Yn lle hynny, roedd seminarau’r Gogledd a’r De yn canolbwyntio ar y camau y gallai sefydliadau eu cymryd i ddatblygu meddylfryd Digidol a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Councilllor Barry Parsons speaking during a panel discussion / Y Cynghorydd Barry Parsons yn siarad yn ystod trafodaeth panelFe wnes i gynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all y “gwneuthurwyr newid” sy’n mynd i ddigwyddiadau fel anghynhadleddau newid yr arfer a’r ymddygiad o fewn eu mudiadau er mwyn ymgorffori’r dysgu ohono. Un o’r cwestiynau a ofynnais yn ystod y sesiwn oedd ar rôl arweinwyr wrth ymgorffori newid, gan eu bod nhw mewn sefyllfa i arwain trwy esiampl a dangos yr ymddygiad y dylai’r sefydliad arddangos.

Gyda hyn mewn golwg, roedd yn wych i ddysgu mwy am rai o’r pethau sy’n digwydd yng Nghyngor Sir Dyfnaint, lle mae’r Cyng. Barry Parsons (sy’n Aelod Cabinet am Berfformiad ac Ymgysylltu) wedi datblygu perthynas hyfforddi gyda Carl Haggerty er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r rôl y gallant ei chwarae wrth fewnosod meddylfryd Digidol o fewn y cyngor.

Newid ein perthynas â’r cyhoedd

Clywsom yr un neges o bob aelod o’r panel yn ystod y sesiwn lawn am sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus ddechrau gydag anghenion defnyddwyr. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ailfeddwl sut maen nhw’n gweithio, ac roedd cwestiynau cynrychiolwyr yn dangos eu bod nhw’n meddwl am sut gallan nhw ddechrau ail-fframio’r berthynas rhwng ein sefydliadau a’u cymunedau.

Cyflwynodd y Cyng. Barry Parsons pwyntiau grêt ar sut y mae’n gwneud hynny yn y gweithdy ar Gynnwys Aelodau Etholedig mewn ymagwedd ddigidol. Siaradodd am ei rôl fel Aelod Cabinet (ac mae hyn hefyd yn rhan o rôl arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill), lle mae’n gweithio i ddatblygu ymddiriedaeth am weithredu a chydweithio systemig, o fewn a thu allan i’r sefydliad.

Mentro i fod yn agored i niwed

Siaradodd y Cyng. Parsons am y pwysigrwydd o fod yn agored er mwyn datblygu’r ymddiriedaeth honno, ac fe rannodd y fideo gwych yma gan Peter Sharp yn TEDx Perth.

Mae’r Cyng. Parsons yn rhannu ei gwendidau ei hun yn y Cyngor. Er mai Carl Haggerty yw’r arbenigwr digidol o ddydd i ddydd, rhaid i’r Cyng. Parsons gwneud penderfyniadau mawr, gwybodus ar y pwnc. Drwy fod yn i fod yn agored i niwed mae’n dysgu mwy am Ddigidol, ac mae’n adeiladu parch cilyddol gyda Carl. Maen nhw’n rhannu credoau cyffredin a’r bwriad o ddod â swyddogion ag aelodau ynghyd i yrru’r agenda yn ei blaen.

Pan wnaethon ni cynllunio’r seminar, datblygodd Y Lab personas gyda ni am bobl a ddylai fynychu’r digwyddiad. Roedd hyn yn newid yn ein hymagwedd, gan ein bod ni fel arfer yn targedu swyddi penodol. Roedd hyn oherwydd ein bod ni’n cydnabod bod hierarchaeth sefydliadol yn gwahanu’r wybodaeth o fewn sefydliadau o’r awdurdod wrth wneud penderfyniadau. Drwy fod yn agored i niwed, mae’r Cyng. Parsons yn gallu dod a’r wybodaeth a’r awdurdod at ei gilydd i wneud penderfyniadau gwybodus fel y gall y cyngor fod mewn sefyllfa well i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Mae’n wych clywed bod aelod etholedig yn cymryd ymagwedd o’r fath i ddatblygu eu gwybodaeth. Os yw eich sefydliad yn galluogi aelodau etholedig, aelodau anweithredol neu ymddiriedolwyr i wneud rhywbeth tebyg, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn.

Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i ychydig o waith ymlaen llaw ar beth roeddwn i’n ystyried yn faterion allweddol a sut allwn eu datrys, ond roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y syniadau a phrofiadau’r bobl a oedd yn bresennol. Felly rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ac i bawb a gyfrannodd cyn, yn ystod ac ar ôl y brif drafodaeth. Mae’r Storify yn rhoi trosolwg da o’r hyn a ddywedwyd yn ystod y dydd.

Felly o ran fy sesiwn i, dyma’r pethau allweddol a ddysgais:

Mae arweinyddiaeth yn bwysig

Efallai bod hyn yn ddatganiad gwbl amlwg, ac mewn rhai synhwyrau y mae hynny’n wir. Buom yn siarad am sut y mae ymddygiad staff yn debygol i ddilyn ymddygiad arweinwyr o fewn ein sefydliadau. Serch hynny, roedd yn galonogol i gael trafodaeth am beth yw arweinydd – nid jyst y bobl sydd ar frig trwy hierarchaeth, gallwn fod yn sôn am arweinyddiaeth trwy feddylfryd, neu efallai staff sy’n penderfynu arwain newid neu i feithrin y rôl mewn pobl eraill. Mae’n rhy hawdd i ildio cyfrifoldeb am hyn i bobl eraill achos nad oes gennym rôl benodol, felly roedd yn wych i glywed mynychwyr siarad am sut y gallan nhw fynd i’r afael â’r cyfrifoldeb. Ond hefyd trafodom sut y mae rhai sefydliadau yn gweld ‘mavericks’ fel gelynion, felly mae’n bwysig i feddwl am sut yr ydych chi’n cael eich gweld o fewn eich sefydliad.

Mae ymddygiad da arweinwyr yn dechrau gyda phethau syml iawn fel dweud “Diolch” fel bod staff yn teimlo bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Siaradodd Spice Caerdydd am gael agendâu agored ar gyfer cyfarfodydd, ac fe wnaethom hefyd siarad am y pwysigrwydd o gymryd risgiau. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn amharod i gymryd risgiau, ond wnaethom edrych bach yn fanylach ar hyn er mwyn meddwl am pam mae hynny’n wir. Codwyd pwynt arbennig, sef “bod gan y bobl sy’n cynllunio newid llai i golli na’r bobl sy’n ei weithredu”, ac fe wnaeth hyn canu cloch i mi. Felly os ydym am i bobl gweithio mewn modd gwahanol, rhaid i ni sicrhau bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi os mae pethau’n mynd o le. Siaradom am ddulliau o leihau risg, yn enwedig sut all prototeipio arddangos ffyrdd newydd o weithio os mae rhywun yn meddwl bod dull newydd yn amhosib.

Mae deddfwriaeth yn gleddyf a tharian

Rwy’n caru’r dyfyniad yma, a ddaeth o drafodaeth ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Siaradom am sut allai’r ddeddf cael ei ddefnyddio fel tarian i ddiogelu staff sy’n ceisio sicrhau newid drwy ddarparu sail resymegol glir amdano, neu gleddyf i sbarduno’r newid ac i ymladd ar gyfer newid ystyrlon o fewn ein sefydliadau. Roedd pawb yn cytuno y dylid alinio dulliau o gyflawni newid, a hefyd does yna ddim dull “un maint i bawb”. Mae deddfwriaeth yn bendant yn chwarae rôl wrth newid ymddygiad, ond mae hyn hefyd yn wir amdano ddiwylliant, arweinyddiaeth, gwleidyddiaeth a’r cyhoedd rydym yn gweithio gydag ac ar eu cyfer. Mae angen dulliau a thactegau amrywiol fel ein bod ni’n defnyddio’r offer mwyaf priodol ar gyfer unrhyw sefyllfa.

160924-GCCY-187

Llun gan Nigel Bishop o GovCamp Cymru

Rydym yn dysgu trwy siarad, meddwl a gwneud

Roedd y sesiwn yn ffocysu ar newid sefydliadol, ond serch hyn doedd neb o adran Adnoddau Dynol yn cymryd rhan yn ein trafodaeth ni. Beth bynnag, y consensws oedd bod dysgu sefydliadol yn bwnc rhy bwysig i’w adael i un tîm canolog a bod rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb fel unigolion, yn enwedig gan fod cynifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Cytunodd pawb mai un o’r ffyrdd y gall anghynhadleddau ychwanegu gwerth yw trwy dyfu rhwydweithiau a rhannu beth mae pobl eraill wedi dysgu. Ond rhaid i ni ystyried pa mor gynhwysol ydyn ni – ydyn ni’n dod â phobl eraill o fewn ein sefydliadau gyda ni ar y daith newid? Fel y soniais yn y drafodaeth, mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost wych lle mae’n myfyrio ar sut mae e’n dysgu a sut y mae’n helpu pobl eraill. Ffordd arall o ymgorffori newid o fewn sefydliad yw cael rhywun sydd eisoes wedi gwneud y gwaith hynny i ddod i mewn i siarad am y peth ac i ddangos y gwahaniaeth. Gall y cysylltiadau o anghynhadleddau ein helpu ni i ledaenu arferion da a ffyrdd newydd o weithio.

Roedd yna hefyd drafodaeth ynghylch rolau ‘hyrwyddwr’ o fewn y sefydliad, lle mae’r baich o ledaenu’r newid yn cael ei gymryd i ffwrdd o unigolyn a’i rhannu’n ehangach. Rhoddwyd enghraifft o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae’r cyfrifoldeb wedi cael ei rannu o amgylch aelodau staff i ymgorffori’r newid diwylliannol o fewn eu timau er mwyn cwrdd â gofynion y ddeddf.

A fydd GovCamp Cymru yn helpu i newid ymddygiad?

Mae’r pwyntiau a godwyd yn fy sesiwn wedi gwneud i mi feddwl eto am sut mae newid yn digwydd o fewn sefydliadau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ble rydym yn edrych ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio data a thechnoleg, y tybiaethau rydym yn cymryd yn ganiataol, a sut allwn ni cynnig atebion radical i unrhyw anawsterau wrth i ni newid ein prosesau archwilio a busnes. Os ydym yn edrych i drawsnewid ein gwaith yn y modd hwn, rhaid i ni ddod â’n cydweithwyr gyda ni ar y daith. Mae’r adborth o’r sesiwn hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddechrau’r gwaith newydd yma, ac fe fyddwn i wrth fy modd i glywed o unrhyw un arall sydd wedi rhoi beth wnaethon nhw ddysgu o’r sesiwn ar waith o fewn eu sefydliadau fel ein bod ni’n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

sunrise in North Wales

Gogledd Cymru

Beth mae llywodraethu effeithiol yn edrych fel yn gyd-destun Deddf Llesiant Genedlaethau’r Dyfodol? Yn y blogbost yma mae Alan Morris yn edrych ar beth mae’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus a sut all ein seminar helpu.

Mae Cymru’n dechrau dangos ei gallu fel cenedl i weithio gyda’r hyn sydd ganddi mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Mae Trefi Trawsnewid, Masnach Deg, rhoi organau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhai enghreifftiau o hyn.  Rydym yn dechrau sylweddoli beth sy’n gweithio i ni fel cenedl, ac yn aml nid dyna rydym wedi’i wneud yn y gorffennol. Mae newid, creadigrwydd a ffyrdd newydd o weithio hefyd yn gofyn i ni adolygu ein dulliau o wneud penderfyniadau, llywodraethu a sicrwydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod nod uchel o ran ei dyheadau uchelgeisiol ac er mwyn cyflawni’r dyheadau hynny, mae angen i bob un ohonom newid ein ffordd o gynnal busnes yn llwyr.  Bydd y Ddeddf yn trawsnewid y ffordd y byddwn yn gwneud penderfyniadau a bydd yn gofyn i ni ystyried goblygiadau’r penderfyniadau hynny ar genedlaethau’r dyfodol. Mae’n golygu ailfeddwl ein dull o lywodraethu.

Mae gan wasanaethau cyhoeddus adnoddau terfynedig.  Mae’r gair ‘adnoddau’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i olygu arian a phan fydd pobl yn sôn am adnoddau prin neu adnoddau sy’n prinhau, yr hyn a olygant yw ‘llai o arian’. Ond mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i ni feddwl am adnoddau yn ehangach, gan gynnwys:

  • staff, gan gynnwys eu sgiliau, profiadau a’u cymhelliant;
  • adeiladau, offer a chyfarpar;
  • gwybodaeth;
  • yr amgylchedd ac ecosystemau;
  • adnoddau cymunedol, gan gynnwys teuluoedd, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol;
  • ‘cyfalaf cymdeithasol’ llai amlwg fel ewyllys da ac enw da.

Ond mae gwneud y defnydd gorau o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r holl adnoddau hyn o fewn ein gallu. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r gallu i ni ddefnyddio’r adnoddau hyn mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Ac un o’r allweddi i ryddhau’r adnoddau hyn yw newid ymddygiad.

Os byddwn ni yn y sector cyhoeddus yn parhau i edrych ar bethau o’r un safbwynt, mae risg y byddwn yn parhau i gyflawni’r un canlyniadau. Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfle i edrych ar bethau yn wahanol, i wneud pethau’n wahanol ac i gyflawni canlyniadau gwahanol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd, a her, ar archwilio cyhoeddus hefyd. Rhaid i ni ddeall a derbyn yr heriau a manteisio ar y cyfleodd y mae’r Ddeddf yn eu cynnig os ydym am chwarae ein rhan wrth wella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd yn ystyried y lefel galonogol o uchel o ymatebion gan gyrff cyhoeddus i ymgynghoriad diweddar yr Archwilydd Cyffredinol ar sut y dylai ail-lunio ei ddull archwilio mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal digwyddiad yn yr hydref, ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn rhannu ei farn ynglŷn â’r hyn y mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn ei olygu i’w ddull archwilio. Bydd ACC a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn manteisio ar y cyfle i nodi sut y bwriadant gydweithio.  Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiad hwnnw’n dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, rydym eisoes yn dechrau gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, rydym yn cynnal seminar dysgu ar y cyd a fydd yn rhoi cyfle i gyrff cyhoeddus ystyried goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, o ran ymddygiadau gwneud penderfyniadau a llywodraethu. Bydd y seminar yn cynnwys gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol o’r 44 corff cyhoeddus sy’n dod o dan y ddeddf mewn diwrnod ymarferol iawn ar 6 Gorffennaf yng Nghaerdydd a 14 Gorffennaf yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gweithio ar y cyd â CLlLC, Cydffederasiwn GIG Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Canolfan Craffu Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru i gynnal digwyddiad sy’n wahanol i, ond sydd hefyd yn adeiladu ar, seminarau dysgu ar y cyd hirsefydledig a gynhelir gan Dîm Ymarfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.

Bydd y seminar yn rhoi cyfle i gyfranogwyr rannu a dysgu gan ei gilydd, mewn amgylchedd gweithdy diogel. Yn hytrach na darparu siaradwyr arbenigol neu gyflwyno astudiaethau achos, bydd y ffocws ar alluogi cyfranogwyr i rannu profiad ac arbenigedd ei gilydd.  Byddwn yn gofyn iddynt weithio drwy ba ymddygiadau gwneud penderfyniadau a allai fod o gymorth a beth fyddai’n rhwystr o bosibl, wrth iddynt geisio cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy.  Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn cofnodi syniadau, awgrymiadau ac enghreifftiau ar y dydd ac yn rhannu’r wybodaeth hon yn eang ar-lein.

Mewn blynyddoedd i ddod, oni fyddai’n wych edrych yn ôl ar 2016 fel y flwyddyn pan gymerodd Cymru gam pwysig arall ar ei thaith i fod yn wlad a oedd hyd yn oed yn fwy cynaliadwy a chydgysylltiedig. Ffactor allweddol fydd proses gwneud penderfyniadau a fydd yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, drwy ystyried yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn uchelgeisiol ac mae’n codi disgwyliadau uchel. Fodd bynnag, mae ein tîm pêl-droed wedi dangos i ni, os cyfunwn ein talentau a gwneud ymdrech fel tîm gydag arweinyddiaeth effeithiol – gallwn berfformio y tu hwnt i ddisgwyliadau. Fel y dywedodd Chris Coleman ar ôl y gêm yn erbyn Rwsia, yn ddaearyddol rydym yn genedl fach, ond os byddwch yn ein barnu ar ein hangerdd, rwy’n credu y gallech ddweud ein bod yn gyfandir…’

Tweet

Twitter – Gareth Bale

Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth ymysg cymuned Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru, cyn y gynhadledd, yn ystod y gynhadledd ac ar ei hôl. Yr hashnod i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw drydariad a anfonir yw #LlywSAC

Bydd yna gyfres o flogiau gan bartneriaid y seminar dros yr wythnosau nesaf. Cymerwch ran a rhannwch eich syniadau a’ch barn ar ddatblygu llywodraethu effeithiol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yng Nghymru.

Deall Ymddygiadau Staff ac Anghenion Teithiau Busnes

Ffotograff o geir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Sut llwyddodd Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury i arbed £90,000 a haneru ei allyriadau? Siaradodd Ena Lloyd gydag Alan Asbury.

Yn ddiweddar, es i seminar a gynhaliwyd gan Enterprise Rent a Car ynglŷn â’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn trafod â’r sector preifat i wella eu trefniadau teithiau busnes. Arweiniodd hyn at gyfraniadau mawr tuag at eu targedau cynaliadwyedd ac at arbedion mawr hefyd.

Holais Alan Asbury, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Ynni yng Nghyngor Dosbarth Bro Aylesbury, am bolisi teithio’r Cyngor. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y modd roeddent wedi canolbwyntio ar ymddygiad staff a’r defnydd hollbwysig a wnaethant o ddata er mwyn cael dealltwriaeth glir o anghenion teithiau busnes y staff.

Dechreuais drwy holi tipyn am y Cyngor. Mae’r Cyngor yn gofalu am hanner uchaf Swydd Buckingham, ac mae’n cyflogi tua 500 o aelod o staff ac mae 220 o’r rheini’n gyrru ar deithiau busnes.

Fe wnaethant greu’r polisi gydag Enterprise er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson â’r ‘economi rannu’ a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer arbed arian. Fe wnaethant ddadansoddi data defnydd y cyngor ac roeddent yn gallu dosbarthu teithiau busnes y gweithwyr yn ôl cost-effeithlonrwydd, gan weld lle byddai llogi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd yn fwyaf effeithiol. Er enghraifft, drwy gyfyngu ar logi yn ôl y dydd i deithiau sy’n fwy na 75 milltir neu wyth awr, llwyddwyd i sicrhau bod cerbydau allyriadau isel y clwb ceir yn cael eu defnyddio’n fwy cyson.

I roi’r polisi ar waith, sefydlwyd ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle drwy Enterprise Car Club, i’w darparu i weithwyr a oedd yn gwneud teithiau byrion, ynghyd â cheir llogi yn ôl y dydd gan Enterprise Rent-A-Car ar gyfer teithiau pellach. Maent wedi llwyddo i ddisodli’r ‘fflyd lwyd’ fel opsiwn rhatach sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Newidiwyd y polisi teithio i ganolbwyntio ar ddiogelwch, sy’n hanfodol o ystyried cyfrifoldebau’r cyngor o ran dyletswydd gofal. Mae’r staff sy’n dal i ddefnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer y gwaith yn llenwi ffurflen â blychau ticio arni er mwyn gwirio nifer o agweddau ar gynnal a chadw cerbydau a gyrwyr, fel diogelwch, yswiriant, trwydded yrru, iechyd a ffitrwydd a chyflwr y cerbyd.

Fel rhan o’r fenter, cafodd cyfradd ad-dalu milltiroedd y ‘fflyd lwyd’ ei thorri hyd at 0.65 ceiniog y filltir i 0.15 er mwyn annog y gweithwyr i ddefnyddio cerbydau’r Enterprise Car Club yn ogystal â llogi yn ôl y dydd, o ystyried yr arbedion posibl ar gostau a’r manteision amgylcheddol.

Ar ôl monitro’r cynllun yn ofalus, mae wedi’i gwtogi i wyth o gerbydau’r Enterprise Car Club. Mae pob un ag allyriadau isel, ac maent yn cynnwys tri char Nissan Leaf sy’n rhai cwbl drydanol. Yn y flwyddyn gyntaf o’u defnyddio, mae’r Cyngor wedi arbed £90,000. Mae hyn hefyd wedi eu galluogi i ailgyflwyno cymhorthdal o 50% ar y bysiau ar bedwar llwybr sy’n cael eu gweithredu’n lleol. Yn gyffredinol, mae ei allyriadau carbon cludiant wedi gostwng fwy na’i hanner. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu cerbydau trydan, gan gynnwys BMW i3s.

Wrth feddwl am y polisi teithio newydd, dywedodd Alan: “Roedd ein polisi teithio newydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o’r modd y mae ein gyrwyr yn ymddwyn a beth yw eu hanghenion o ran gallu symud o gwmpas. Fe wnaeth Enterprise ein helpu i ddadansoddi i ble mae’r staff yn teithio, pa mor aml a pham, ac roedd hyn yn hollbwysig os oeddem ni eisiau iddynt wneud hynny’n fwy effeithlon.

“Mae defnyddio clwb ceir wedi’n helpu i arbed degau o filoedd o bunnoedd, ac mae Enterprise wedi ein helpu i weithio gyda’n gweithwyr i ddeall beth yw nodau’r rhaglen ac i ddangos beth roedden ni eisiau ei gyflawni. Bu hyn yn hynod lwyddiannus, ac rydym wedi cael ein gwahodd i siarad â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddangos iddynt be wnaethom ni, a sut.”

Ychwanega Adrian Bewley, Cyfarwyddwr Llogi Busnes y D.U. ac Iwerddon yn Enterprise Rent-A-Car: “Mae’r cyngor wedi gallu defnyddio cyfuniad o logi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd, yn ogystal â llogi ar les, er mwyn cael dull mwy effeithiol a mwy gwyrdd o ymdrin â theithau’r gweithwyr.

“Mae’r Cyngor yn cael ei weld, yn gwbl gywir, fel arweinydd o ran teithiau busnes yn y sector cyhoeddus. Cawsant y wobr arian yng Ngwobrau Arwyr Fflyd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ym mis Tachwedd 2015. Yn bwysicaf, mae’r rhaglen wedi llwyddo oherwydd ei bod yn seiliedig ar ddadansoddi ymddygiadau a theithiau gyrwyr. Data yw’r offer pwysicaf i greu polisi teithio gwell ac i newid y modd y mae gweithwyr yn meddwl am yrru.”

Os hoffech ddysgu rhagor am y prosiect a sut y gallai Aylesbury eich helpu chi i wneud rhywbeth tebyg, cysylltwch ag Alan yn aasbury@aylesburyvaledc.gov.uk.

Codi tâl ai peidio?

A all cynghorau wneud gwell defnydd o’u hadnoddau drwy godi tâl am wasanaethau gwastraff? Mae Gwyndaf Parry o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi blogio i ni ar ddigwyddiad a gafodd ei chynnal gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae gwasanaethau yn dod o dan fwy a mwy o bwysau, gyda disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu mwy gyda llai. Er mwyn darparu ystod eang o wasanaethau i drigolion a chynnal gwasanaeth o safon uchel, mae gan Gynghorau yng Nghymru y pwerau cyfreithiol i godi tâl am ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwastraff gardd neu wastraff gwyrdd, casglu swmp-wastraff a rhoi biniau neu gynwysyddion ailgylchu newydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chafodd ei hwyluso gan Dîm Ymarfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, i annog awdurdodau lleol yng Nghymru a’u galluogi i rannu arfer da wrth gyflwyno tâl am wasanaethau casglu gwastraff. Cafodd cyfranogwyr eu hannog i gymryd rhan mewn trafodaethau a dysgu oddi wrth eraill, gan eu helpu i osgoi’r un camgymeriadau ac arbed costau ac amser.

Andy Phillips o Swyddfa Archwilio Cymru gyflwynodd y diwrnod, a dangosodd, mewn ffordd ddiddorol, yr incwm sy’n dod o wasanaethau gwastraff fesul trigolyn, gan ddangos y gwahaniaeth rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr. Mae’r incwm a gafwyd yn Lloegr wedi codi’n gyson ers 2008/9 tra’i fod wedi gostwng yng Nghymru a’r Alban.

Graff sy'n dangos bod yr arfer o godi tâl am wasanaethau gwastraff wedi gostwng yng Nghymru a'r Alban ers 2008/9, ond wedi cynyddu yn Lloegr

Rhannodd Di Bradbury o Gyngor y Wirral ei phrofiad o gyflwyno tâl am gasglu gwastraff gardd, a sut gwnaeth Cyngor y Wirral reoli cyflwyno taliadau yn ôl yn 2013/14. Un darn o gyngor allweddol gan Di oedd sicrhau bod system TG gadarn ar waith o’r dechrau’n deg, a sicrhau bod eich system TG yn gallu delio â chofrestru cwsmeriaid, rheoli cronfa ddata cwsmeriaid a rheoli taliadau. Pwysleisiodd Di mai dyma oedd un o’r elfennau mwyaf llafurus o gyflwyno gwasanaeth y codir tâl amdano – mae pobl yn disgwyl gwasanaeth o safon uchel pan maent yn talu am wasanaeth. Dylid osgoi methu casgliad pan fyddwch yn adeiladu gwasanaeth casglu y codir tâl amdano sydd ag enw da.

Roedd Cyngor y Wirral yn cydnabod pwysigrwydd ymgynghori â’r cyhoedd. Fel rhan o’i waith cynllunio gwastraff ymgynghorodd â’r cyhoedd i geisio eu barn ynglŷn â chodi tâl. Roedd 51.7% o’r ymatebwyr o’r farn bod gorfod talu am gasglu gwastraff gardd yn gwbl annerbyniol. Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau ar y gyllideb yn golygu bod yn rhaid iddynt gyflwyno tâl. Fodd bynnag, gwnaeth sicrhau bod opsiynau amgen ar gael i drigolion gan gynnwys:

  • Disgownt o £5 am danysgrifio ar-lein (mae 89% o gwsmeriaid yn defnyddio’r opsiwn hwn),
  • Opsiwn rhannu bin gyda chymydog
  • Hyrwyddo biniau compostio cartref.

Gwers werthfawr a ddysgwyd gan Gyngor y Wirral oedd cynnig cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. Yn ôl y gyfraith, dylid cynnig cyfnod o 14 diwrnod i drigolion, lle gallant gael ad-daliad. Yn y Cyngor, roedden nhw ond cynnig ad-daliad os na chasglwyd gwastraff y trigolyn.

Yn ôl y disgwyl, gwelwyd gostyngiad yn nifer y tunelli o wastraff gardd a gasglwyd wrth ymyl y ffordd yn y Wirral, fodd bynnag gwelodd y Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu gynnydd sylweddol mewn llif gwastraff gardd. Yn gyffredinol cafwyd gostyngiad o 11% yn nifer y tunelli o wastraff gardd dros gyfnod o ddwy flynedd. Gostyngodd y cyfraniad tuag at gyfradd ailgylchu’r Gwastraff Solet Trefol (MSW) cyffredinol am ddwy flynedd ar ôl cyflwyno tâl, fodd bynnag, yn ystod y drydedd flwyddyn gwelir bod y gyfradd wedi bod cynyddu bron i’r lefel wreiddiol. Yn ddiddorol ddigon, yn ystod yr un cyfnod, mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng yn gyson.

A yw’r dyfodol yn wyrdd?

Cafodd y gweithdy sesiwn grŵp cyntaf hwn ei gynnal gan Jim Espley o Gyngor Sir Ddinbych. Ar ôl codi tâl am wasanaeth gwastraff gardd ar 30 Mawrth 2015, Sir Ddinbych yw’r awdurdod lleol diweddaraf yng Nghymru i godi tâl, ac felly roedd ganddo gyngor gwerthfawr i’r cynghorau eraill.

Ar ôl cael cymeradwyaeth i godi tâl ym mis Medi 2014, roedd gan Sir Ddinbych gyfnod cymharol fyr i gyflwyno’r gwasanaeth. Y gweithgareddau allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant oedd:

  1. Cyfathrebu â thrigolion – cyflwyno’r gwasanaeth newydd a oedd ar gael,
  2. Sefydlu system TG addas gan gynnwys system prosesu taliadau.
  3. Delio â chwynion a sefydlu prosesau addas,
  4. Prynu codau bar a sganwyr addas ar gyfer y biniau.

Cofrestrodd 12,500 (30%) o dai ar gyfer y gwasanaeth ar y dechrau. Erbyn diwedd y flwyddyn cynyddodd hyn i 17,000 (40%) o dai. Gallai cwsmeriaid gofrestru ar-lein (gyda disgownt) neu wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac mewn Siopau Un Stop. Gweithiodd Sir Ddinbych yn agos gyda’i adran TG i sicrhau bod system addas at y diben ar waith. Roedd cronfa ddata bwrpasol yn ei gwneud yn bosibl i gasglu manylion cyfeiriad, y dyddiad casglu, gwybodaeth casglu â chymorth, yn ogystal â hanes casglu arall. Caiff pob bin sticer cod bar a chysylltir hwn â’r gronfa ddata cwsmeriaid. Mae’r gronfa ddata hefyd wedi’i chysylltu â system meddalwedd ‘Trackyou’ sydd â thechnoleg yn y cab sy’n galluogi’r criw i fonitro a chasglu manylion cwsmeriaid mewn amser real. Mae hyn yn helpu Sir Ddinbych i gynnig gwasanaeth o safon uchel i’w drigolion.

Gwers werthfawr a rannodd Jim gyda’r grŵp oedd y byddai tanysgrifiadau ar-lein yn sicrhau bod data o ansawdd da yn cael ei fwydo i’r gronfa ddata TG. Cafwyd nifer o wallau gyda manylion cwsmeriaid pan gwblhawyd gwaith papur ar gopi caled. Felly mae Sir Ddinbych yn gweithio tuag at annog mwy a mwy i danysgrifio ar-lein.

Pa mor wyrdd yw eich cwm?

Roedd ail weithdy a gynhaliwyd gan Carl o Sir Fynwy yn ymwneud â rhannu gwersi a ddysgwyd. Mae gan Sir Fynwy wasanaeth casglu gardd y codir tâl amdano ers nifer o flynyddoedd. O fis Gorffennaf 2013 mae Sir Fynwy wedi bod yn codi tâl am gasglu gwastraff gardd. Ar ôl codi tâl o £8 am gasglu sach hesian 90 litr y gellid ei hailddefnyddio yn wreiddiol, erbyn 2016/17 mae’r tâl a godir wedi cynyddu i £14 fesul sach.

Rhoddir sach am ddim i drigolion a rhaid iddynt dalu am drwydded sydd wedi’i thagio ar y sach. Unwaith eto pwysleisiodd Sir Fynwy bwysigrwydd bod â system TG addas at y diben – gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant gwasanaeth.

Mae nifer y trigolion sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth y codir tâl amdano wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn Sir Fynwy, gyda chartrefi sy’n tueddu i fod â gerddi mwy yn prynu nifer uwch o fagiau. Pwysleisiodd Carl fod nifer y tunelli o wastraff gardd sy’n mynd i’w Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu wedi cynyddu, felly mae’n bwysig bod â Chanolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu ar waith sy’n gallu rheoli’r cynnydd hwnnw.

Prif Gyngor

Neges allweddol y dydd oedd buddsoddi a neilltuo amser ac adnoddau ar gyfer system TG addas at y diben sy’n gallu rheoli taliadau cwsmeriaid a data a gwybodaeth cwsmeriaid, gan ei gwneud yn haws gwybod pwy sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac os yw casgliadau wedi cael eu cyflawni ai peidio. Mae cwsmeriaid yn disgwyl gwasanaeth o safon uchel pan maent yn talu amdano.

LocalGovCamp: Bod y newid rydych chi am ei weld

Sut mae cynghorau ar draws y Deyrnas Unedig yn gwneud y fwyaf o ddulliau digidol ar gyfer eu gwaith? Aeth Dyfrig Williams i LocalGovCamp i ffeindio allan.

Dros y penwythnos fe wnes i fynd i Birmingham er mwyn mynd i LocalGovCamp am y tro cyntaf, sef anghynhadledd ar gyfer llywodraeth leol ar draws y Deyrnas Unedig, ble mae’r cynadleddwyr yn setio’r agenda drwy gynnig syniadau ar gyfer trafodaethau.

Beth yw diben llywodraeth leol?

Y nodiadau o sesiwn Kelly Doonan

Y nodiadau o sesiwn Kelly Doonan

I mi, dyma drafodaeth fwyaf defnyddiol yr anghynhadledd, ble wnaeth Kelly Doonan gofyn “Beth yw diben llywodraeth leol?” Mae’r cwestiwn yn ymddangos yn un syml, ond does yna ddim atebion hawdd. Y prif bwynt i mi oedd y dylai llywodraeth leol galluogi pobl i wneud eu hardal leol yn lle gwell i fyw. Beth wnaeth taro fi oedd bod hyn yn cyd-fynd â’r dull mae tîm Kelly yn rhoi ar waith. Cefais sgwrs Dadfentora wych gyda Kelly am sut mae meddylfryd o alluogi yn helpu pobl yng Nghyngor Sir Dyfnaint i ddarparu gwasanaethau gwell. Rydw i’n mynd i ddwyn doethineb Ghandhi fan hyn – mae’n enghraifft wych o “bod y newid rydych chi am ei weld”. Dydyn ni ddim yn gallu galluogi dinasyddion heb roi’r un ymagwedd ar waith gyda’n cydweithwyr.

Gemeiddio

Fe wnaeth sesiwn Glen Ocsko galluogi mi i fyfyrio ar y gwaith rydyn ni’n gwneud gydag Arfer Da Cymru a Phrifysgol Bangor ar Newid Ymddygiad, lle cynhaliom ŵyl ym Mangor i rannu dulliau rhwng gwasanaeth cyhoeddus. Yn yr ŵyl, fe edrychodd yr Athro John Parkinson ar ddylunio trwy gemeiddio, ac edrychodd yr Athro James Intrilligator ar Yfed, Gemau a Newid Ymddygiad, gan gynnwys trafodaeth ddifyr ar yr app ‘Chimp Shop’, sy’n annog pobl i yfed llai. Roedd e’n wych i gymharu a chyferbynnu’r rhain â dulliau eraill a gafodd ei gynnig yn y sesiwn. Rhannodd Nick Hill gwaith y Fun Theory, ac mae lot o enghreifftiau gwych o gemeiddio ar ei wefan.

Blockchain a llywodraeth

Cafodd y sesiwn yma ei arwain gan Ingrid Koehler. Fe wnaeth y gweithdy rhoi cyfle da i mi i fyfyrio dros beth y gallai Blockchain ei olygu ar gyfer gwaith archwilio ariannol Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd e’n anhygoel i feddwl am sut allai’r arian cael ei dracio ar draws cyrff cyhoeddus. Siaradom hefyd am beth all prosiect bach sy’n ddiogel i fethu edrych fel (mae’n werth darllen blogbost Chris Bolton ar Lygod Trojan am fwy ar hyn), lle gellir gwylio sut mae’r arian a godir o daliadau yn cael eu gwario. Mae’n bosib felly byddai hyn yn gyfnod newydd ar gyfer tryloywder ariannol. Ond gallai hefyd fod yn rhywbeth mwy – rhannodd Benjamin Taylor dolen ddiddorol ar adeiladu contract democratiaeth ar y Blockchain, a hefyd beth fydd y prosesau agored yma yn ei olygu i ymddiriedaeth y cyhoedd? Rhannodd Ingrid adroddiad difyr am yr hyn y gallai Blockchain ei olygu i lywodraeth.

Pam ein bod ni’n casáu’r sector gwirfoddol

Rhaid i mi fod yn glir fan hyn – dydw i ddim! Ond fe wnes i fynd i’r sesiwn bryfoclyd yma gan Pauline Roche achos gweithiais i yn y sector am wyth mlynedd. Hefyd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, wastad yn sôn am sut fydd gwasanaethau yn cael ei ddarparu gan fwy nag un sector yn y dyfodol. Roedd e’n hynod o ddiddorol i glywed am sut mae ofn diffyg rheolaeth yn cadw gwasanaethau o fewn y cyngor, a hefyd roedd e’n ddifyr i glywed am sut all grwpiau fel Snow Angels ychwanegu arbenigedd a gwerth mewn sefyllfaoedd brys.

Y darn gorau … rhwydweithio!

Ond y rhan fwyaf defnyddiol o’r dydd oedd y cyfle i rwydweithio a rhannu syniadau. Roedd e’n wych i gwrdd â phobl newydd sy’n gwneud pethau arbennig, yn ogystal â chwrdd â phobl rydw i wedi siarad gydag ar-lein (helo Albert Freeman!).

Daliais i fyny â Kelly Doonan am sgwrs ar ôl y digwyddiad, ble siaradom am y potensial i Swyddfa Archwilio Cymru i rannu arfer da mewn modd gwahanol. Soniodd Kelly am sut all gweithio mewn amgylchedd real eich helpu chi i ddeall sut y gall ymagweddau penodol cael ei roi ar waith mewn byd gwaith.

Fe wnaeth Cyngor Sir Dyfnaint ymweld â chwmni ymchwil defnyddwyr, sef Revealing Reality, i edrych ar recriwtio ymgeiswyr ar gyfer astudiaeth dyddiadur. Mae cyfranogwyr yn derbyn copi o ddyddiadur A4 a phecyn o sticeri i gynrychioli gwahanol sianeli a dyfeisiau. Dangoswyd iddynt sut i lenwi’r dyddiadur, gan gynnwys rhoi rhai manylion personol, ac yna cofnodi’r cyfryngau maen nhw’n cyrchu am wythnos drwy ysgrifennu ac ychwanegu sticeri. Roedden nhw’n gallu edrych ar y dyddiaduron a gofyn cwestiynau am y technegau a’r data.

Hefyd, ymwelodd Kelly â’r DVLA yn Abertawe er mwyn mynd i gyfarfod traws-lywodraethol Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, lle mae siaradwyr yn esbonio sut maen nhw’n gweithio. Maen nhw’n trafod y feddalwedd, offer a dulliau maen nhw’n defnyddio, ac wrth i chi mynd yn ôl i’ch swydd mae gennych y wybodaeth i addasu’r dull i gwrdd â’ch anghenion.

Felly ar y cyfan, roedd LocalGovCamp yn ddiwrnod gwych. Os oes ganddo’ch diddordeb mewn digwyddiad tebyg, mae GovCamp Cymru wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y 24ain o fis Medi. Os oes ganddo’ch awydd i gyfarfod â phobl newydd ac i ddatblygu’ch dulliau gwaith, rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur! Welai chi yno!

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid.

Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes.

Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased wedi cael ei drosglwyddo i’r cymuned yn lwyddiannus. Ond roedd gen i ddiddordeb ehangach yn y gwaith gan fy mod i wedi clywed am y gwaith arloesol maent yn wneud wrth ddarparu gofal ysbaid.

Gwaith yr elusen

Llun o Westy Seren

Gwesty Seren

Cwmni ag elusen yw Seren sydd â phencadlys ym Mlaenau Ffestiniog. Prif waith yr elusen yw cynnig gofal i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl o dan Ofal yn y Gymuned. Bwriad yr elusen oedd cael pobl ag anawsterau dysgu allan o sefydliadau ac i fyw yn y gymuned. Mae pobl sydd yno yn creu crefft a chelf ac yn rhedeg siop a gardd farchnad. Mae hwn yn rhoi annibyniaeth i’r bobl sy’n gweithio achos nad yw pobl jyst yn dibynnu ar ffioedd o Gyngor Gwynedd neu unigolion preifat, ac mae fe hefyd yn rhoi cyfle i bobl cael blas ar waith. Mae’r meddylfryd yma wedi parhau wrth roi profiad o waith i bobl yng Ngwesty Seren.

Penderfynodd Seren gwneud mwy na chreu gwasanaeth ysbaid wrth ffurfio’r Gwesty. Roedden nhw eisiau gwell ansawdd na thŷ, felly creuwyd gwesty 3 seren sy’n ffocysu ar anabledd a phobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’r toiledau ac ystafelloedd wedi’u datblygu i fod yn hygyrch i bawb.

Mae’r gwesty hefyd yn galluogi teuluoedd i aros yno. Dangosodd ei ymchwil bod lot o deuluoedd wedi derbyn gofal ysbaid gwael yn y gorffennol, ac felly nid oedden nhw’n hapus i adael eu plant yng ngofal trydydd person. Mae’r gwesty yn galluogi nhw i aros gyda’u plant os maent yn dymuno, ond hefyd i gael yr ysbaid sydd angen. Mae’r gwasanaeth unigryw yma yn meddwl bod y gwesty yn darparu llefydd i bobl sy’n derbyn gwasanaethau o gynghorau cyfagos fel Conwy a Cheredigion. Mae teuluoedd yn dod o Loegr i aros yn y gwesty hefyd.

Mae llwyddiant y Gwesty yn meddwl ei bod yn gweithio gyda thri chwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu ac, yn ddiweddar, penderfynodd dau gwmni arall sydd yn arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobol ag anableddau corfforol ddechrau ddefnyddio’ cyfleusterau. Mae’r bobl sydd wedi aros yn aml yn dod yn ôl ac yn wneud archebion bloc.

Hanes yr adeilad

Ffotograff o ystafell yng Ngwesty Seren

Ystafell yng Ngwesty Seren

Cafodd yr adeilad ei hun ei adeiladu’n wreiddiol gan yr Arglwydd Newborough yn 1728 fel ty haf. Parhaodd fel tŷ haf nes jyst ar ol y rhyfel byd cyntaf, pryd wnaeth teulu cymryd milwyr i fewn a oedd wedi cael damwain neu sioc yn y rhyfel i cael seibiant neu ysbaid.

Yn y 1930s cafodd yr adeilad ei roi i ddau fynach Assisi. Fe wnaethon nhw wahodd pobl ddigartref i mewn, gyda’r mynach ieuengaf yn trafaelu i Lundain i wahodd pobl i aros ym Mryn Llywelyn, fel y cafodd ei alw ar y pryd. Yna cafodd yr adeilad ei werthu i Gyngor Meirionnydd, ble roedd yn nhŷ preswyl i blant, cyn cael ei droi’n gartref preswyl i henoed. Yn 2010 penderfynodd y Cyngor ei gau.

Fe wnaeth Seren cais i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Cyflwynwyd cais llawn, cyn cychwyn y gwaith yn 2013. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2014.

Trosglwyddo’r adeilad

Fel arfer mae trosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus yn digwydd am ddim, ond yn yr achos yma penderfynodd y cyngor gwerthu am bris llai na’r farchnad. Bu rhaid i’r cyngor mynd trwy bwyllgorau a chodi ymwybyddiaeth trwy’r wasg, felly nid oedd yn broses cyflym.

Roedd y costau rhwng prynu a phob dim yn tua £1,000,000, ac roedd gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau ac ati yn broses llafurus. Gan fod angen swm sylweddol, aeth yr elusen ati i fenthyg o’r Banc Elusennau.

Roeddent yn ymwybodol byddai cwestiynau yn cael ei ofyn am gymorth gwladwriaethol, felly aeth yr elusen at gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn hyn. Ysgrifennwyd adroddiad ar finimeiddio’r risg ac fe wnaeth y ddogfen dangos y rhesymeg am pam nad oedd yn torri’r rheolau. Roedd yr adroddiad yma yn cymorth mawr wrth ddelio a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Swyddogion Ewrop amdano’r gwesty.

Prif negeseuon

Felly’r prif neges o Westy Seren yw nad ydy’n broses cyflym sy’n digwydd mewn chwinciad. Ond serch hynny mae’n glîr trwy edrych ar y sylwadau ar ei dudalen TripAdvisor bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Ac os edrychwch chi ar y geirda yma o ofalwr neu’r erthygl yma mewn cylchlythyr, mae’n glîr bod y gwesty yn cynnig gofal ysbaid sy’n cael effaith mawr ar bywydau pobl, sydd wedi cyfranu at adfywio ardal Blaenau Ffestiniog gan greu 10 o swyddi llawn amser, ac wedi cyfrannu at y diwydiant twristiaeth.