Tag Archif: Llywodraeth Cymru

Cadwch Gymru’n Daclus a Phrosiect Dynion Gurnos: Sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac iechyd eang

Read this blog post in English

Mae llawer o bobl yn ymwybodol o waith Cadwch Gymru’n Daclus achos maen nhw’n diogelu ein hamgylchedd. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gwybod eu bod nhw’n gweithio mewn ffyrdd eraill i wneud ein cymunedau’n llefydd gwell i fyw. Siaradodd Ena Lloyd gyda Jake Castle am Brosiect Dynion Gurnos ar gyfer y blogbost isod.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli tan yn ddiweddar fod swyddfa Cadwch Gymru’n Daclus ar draws y ffordd i’n swyddfeydd yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd.  Cysylltais â’i Phrif Swyddog Gweithredol, Lesley Jones, am fy mod i am wybod mwy am brosiect y Gurnos sy’n ceisio helpu dynion i ddod o hyd i waith. Dywedodd hi y byddai’n ddefnyddiol pe bai Jake Castle, Yr Uwch Swyddog Prosiect yn ysgrifennu blog am y prosiect hwn y mae’n ei arwain.

Dyma’r hyn a oedd gan Jake i’w ddweud am y prosiect:

Fi yw Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ym Merthyr Tudful. Rwy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion ac unigolion i gyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol. Un o’r grwpiau gorau (a mwyaf difyr yn aml) o blith y grwpiau hyn yw Prosiect Dynion Gurnos.

Ffurfiwyd y Prosiect ddwy flynedd yn ôl i roi cyfle i grŵp o ddynion di-waith hirdymor ar Ystâd Gurnos i ddod ynghyd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau er mwyn helpu i wella’r gymuned a datblygu eu sgiliau a’u dysgu eu hunain. Gwnaeth uno gwirfoddolwyr newydd a phresennol Cadwch Gymru’n Daclus a’u cysylltu â Cymunedau yn Gyntaf. Ar y pryd, menywod oedd dros 90% o’r bobl a oedd yn ymwneud â chlwstwr lleol Cymunedau yn Gyntaf ac felly roedd y ddarpariaeth a’r cymorth yn amlwg yn ddiffygiol i ddynion.

Llun o 6 dyn yn y goedwig sy'n rhan o Brosiect Dynion Gurnos

Prosiect Dynion Gurnos

Yn fuan roedd ymroddiad y grŵp yn amlwg ac roeddent yn gwneud gwaith glanhau, garddio a gwelliannau i dir yr ysgol yn rheolaidd. Maent hefyd yn cymryd rhan mwn cyrsiau darllen ac ysgrifennu sylfaenol, garddwriaeth a sgiliau cefn gwlad. Rwy’n cyfarfod â nhw bob pythefnos er mwyn helpu i gynllunio a chyflawni prosiectau lleol a chyda help Cymunedau yn Gyntaf rydym yn adolygu eu gweithgareddau yn gyson er mwyn sicrhau bod eu hanghenion eu hunain yn cael eu diwallu tra’n gwasanaethu’r gymuned ehangach. Roeddwn yn falch o sicrhau cyllid yn ddiweddar i drefnu hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y grŵp; mae’r cyfuniad o ymroddiad parhaus, gwaith caled a’r hyfforddiant hwn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Gan nad oedd neb yn y grŵp wedi cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant achrededig ers blynyddoedd lawer, roedd pob un yn bryderus ynghylch cael ei brofi. Roedd yn bwysig eu cefnogi a dewis hyfforddiant priodol ac mae chwe dyn bellach wedi cyflawni NPTC Lefel 2 mewn Defnydd Diogel o Dorrwr Llwyni a Thociwr. Mae’r cymhwyster ffurfiol hwn yn werthfawr iawn gan nad yw’n dod i ben ac mae’r sgiliau a feithrinwyd wedi helpu i wella hyder y grŵp a safon y gwaith yn y gymuned.

Mae’r chwe chyfranogwr (a ddangosir yn y llun uchod) yn awyddus i wneud gwaith cynnal a chadw tir fel math o gyflogaeth;

Mae hwn wedi bod yn wych i fi. Dw i wedi bod yn ddi-waith ers misoedd bellach a dyma’r math o waith hoffwn i ddechrau ei wneud nawr. Dwi’n gwybod y bydd angen y tocyn hwn ar gyfer llawer o swyddi ac mae’n dangos fy mod wedi bod yn weithgar ac wedi bod yn ceisio gwella fy hun.

Antony Dunn, gwirfoddolwr (yr ail o’r dde yn y llun uchod)

Daeth cynrychiolwyr etholedig i gyfarfod â’r grŵp ym mis Chwefror. Roedd y grŵp yn ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am sut y mae’r gwaith a’r hyfforddiant wedi hybu eu hunan-barch, eu helpu i reoli problemau iechyd meddwl ac alcoholiaeth, a rhoi llawer o sgiliau iddynt a helpu’r gymuned ehangach. Siaradodd gwraig un o’r grŵp sy’n dioddef o ddementia hefyd am sut mae’r grŵp wedi bod o gymorth enfawr i’r ddau ohonynt, gan leddfu’r baich ar y systemau iechyd a gofal.

Cafodd ei gydnabyddu bod y ddarpariaeth hon yn werthfawr i’r unigolion hyn. Helpu pobl i gael gwaith wrth gwrs yw’r nod ac mae pob un ohonom yn ymwybodol y gall hyn fod yn broses hirdymor. Mae’r model hwn yn awgrymu y gall y cyfnod interim (cyn dod o hyd i waith) hefyd fod yn werthfawr mewn sawl ffordd arall.

Mae’n ymddangos i mi fod llwyddiant i’r grŵp hwn wedi golygu cymysgedd iach o sgiliau sydd o fudd i’r unigolion, a gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned – heb anghofio bod ambell i weithgarwch strwythuredig yn sicrhau trefn arferol a phleser hefyd! Mae’r budd i’r gymuned yn anodd ei fesur; mae’n mynd ymhell y tu hwnt i gasglu sbwriel gan ei fod yn golygu llai o ofynion ar ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Yn fy marn i, mae’r gefnogaeth i Brosiect y Dynion yn helpu i gynyddu lefelau cyflogaeth a gwella cymunedau’r Cymoedd. Y ffocws nawr yw mesur y cyfraniad pellgyrhaeddol hwnnw.

Ceir llawer mwy o brosiectau ac mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymwneud â llawer ohonynt, gan gynnwys Baner Las, Eco-Sgolion, Goriad Gwyrdd. Mae pob un o’n rhaglenni ar gael ar ein gwefan.

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid.

Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes.

Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased wedi cael ei drosglwyddo i’r cymuned yn lwyddiannus. Ond roedd gen i ddiddordeb ehangach yn y gwaith gan fy mod i wedi clywed am y gwaith arloesol maent yn wneud wrth ddarparu gofal ysbaid.

Gwaith yr elusen

Llun o Westy Seren

Gwesty Seren

Cwmni ag elusen yw Seren sydd â phencadlys ym Mlaenau Ffestiniog. Prif waith yr elusen yw cynnig gofal i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl o dan Ofal yn y Gymuned. Bwriad yr elusen oedd cael pobl ag anawsterau dysgu allan o sefydliadau ac i fyw yn y gymuned. Mae pobl sydd yno yn creu crefft a chelf ac yn rhedeg siop a gardd farchnad. Mae hwn yn rhoi annibyniaeth i’r bobl sy’n gweithio achos nad yw pobl jyst yn dibynnu ar ffioedd o Gyngor Gwynedd neu unigolion preifat, ac mae fe hefyd yn rhoi cyfle i bobl cael blas ar waith. Mae’r meddylfryd yma wedi parhau wrth roi profiad o waith i bobl yng Ngwesty Seren.

Penderfynodd Seren gwneud mwy na chreu gwasanaeth ysbaid wrth ffurfio’r Gwesty. Roedden nhw eisiau gwell ansawdd na thŷ, felly creuwyd gwesty 3 seren sy’n ffocysu ar anabledd a phobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’r toiledau ac ystafelloedd wedi’u datblygu i fod yn hygyrch i bawb.

Mae’r gwesty hefyd yn galluogi teuluoedd i aros yno. Dangosodd ei ymchwil bod lot o deuluoedd wedi derbyn gofal ysbaid gwael yn y gorffennol, ac felly nid oedden nhw’n hapus i adael eu plant yng ngofal trydydd person. Mae’r gwesty yn galluogi nhw i aros gyda’u plant os maent yn dymuno, ond hefyd i gael yr ysbaid sydd angen. Mae’r gwasanaeth unigryw yma yn meddwl bod y gwesty yn darparu llefydd i bobl sy’n derbyn gwasanaethau o gynghorau cyfagos fel Conwy a Cheredigion. Mae teuluoedd yn dod o Loegr i aros yn y gwesty hefyd.

Mae llwyddiant y Gwesty yn meddwl ei bod yn gweithio gyda thri chwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu ac, yn ddiweddar, penderfynodd dau gwmni arall sydd yn arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobol ag anableddau corfforol ddechrau ddefnyddio’ cyfleusterau. Mae’r bobl sydd wedi aros yn aml yn dod yn ôl ac yn wneud archebion bloc.

Hanes yr adeilad

Ffotograff o ystafell yng Ngwesty Seren

Ystafell yng Ngwesty Seren

Cafodd yr adeilad ei hun ei adeiladu’n wreiddiol gan yr Arglwydd Newborough yn 1728 fel ty haf. Parhaodd fel tŷ haf nes jyst ar ol y rhyfel byd cyntaf, pryd wnaeth teulu cymryd milwyr i fewn a oedd wedi cael damwain neu sioc yn y rhyfel i cael seibiant neu ysbaid.

Yn y 1930s cafodd yr adeilad ei roi i ddau fynach Assisi. Fe wnaethon nhw wahodd pobl ddigartref i mewn, gyda’r mynach ieuengaf yn trafaelu i Lundain i wahodd pobl i aros ym Mryn Llywelyn, fel y cafodd ei alw ar y pryd. Yna cafodd yr adeilad ei werthu i Gyngor Meirionnydd, ble roedd yn nhŷ preswyl i blant, cyn cael ei droi’n gartref preswyl i henoed. Yn 2010 penderfynodd y Cyngor ei gau.

Fe wnaeth Seren cais i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Cyflwynwyd cais llawn, cyn cychwyn y gwaith yn 2013. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2014.

Trosglwyddo’r adeilad

Fel arfer mae trosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus yn digwydd am ddim, ond yn yr achos yma penderfynodd y cyngor gwerthu am bris llai na’r farchnad. Bu rhaid i’r cyngor mynd trwy bwyllgorau a chodi ymwybyddiaeth trwy’r wasg, felly nid oedd yn broses cyflym.

Roedd y costau rhwng prynu a phob dim yn tua £1,000,000, ac roedd gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau ac ati yn broses llafurus. Gan fod angen swm sylweddol, aeth yr elusen ati i fenthyg o’r Banc Elusennau.

Roeddent yn ymwybodol byddai cwestiynau yn cael ei ofyn am gymorth gwladwriaethol, felly aeth yr elusen at gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn hyn. Ysgrifennwyd adroddiad ar finimeiddio’r risg ac fe wnaeth y ddogfen dangos y rhesymeg am pam nad oedd yn torri’r rheolau. Roedd yr adroddiad yma yn cymorth mawr wrth ddelio a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Swyddogion Ewrop amdano’r gwesty.

Prif negeseuon

Felly’r prif neges o Westy Seren yw nad ydy’n broses cyflym sy’n digwydd mewn chwinciad. Ond serch hynny mae’n glîr trwy edrych ar y sylwadau ar ei dudalen TripAdvisor bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Ac os edrychwch chi ar y geirda yma o ofalwr neu’r erthygl yma mewn cylchlythyr, mae’n glîr bod y gwesty yn cynnig gofal ysbaid sy’n cael effaith mawr ar bywydau pobl, sydd wedi cyfranu at adfywio ardal Blaenau Ffestiniog gan greu 10 o swyddi llawn amser, ac wedi cyfrannu at y diwydiant twristiaeth.

Ydy Diogelu Data yn rhwystro gwelliant yng ngwasanaethau cyhoeddus?

Yn y Seminar Lles ddiweddar yn Lanrwst a Chaerdydd, fe wnaeth y pynciau o Rhannu a Diogelu Data cael eu codi fel materion allweddol i wasanaethau cyhoeddus Cymreig. Yn y blog yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mai Diogelu Data yn cymaint o rhwystr.

Yn sesiwn llawn y seminar lles, disgrifiodd Anne Marie Cunningham, sy’n meddyg teulu ac hefyd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y problemau mae meddygon teulu yn gwynebu os maen nhw eisiau rhannu data. Gallwch wylio’r drafodaeth ar ddechrau’r fideo isod.

Nid dyma’r tro cyntaf mae’r pwnc wedi cael ei nodi fel mater allweddol. Roedd Diogelu Data yn testun trafod yn ein seminar Technoleg Gwybodaeth, a wnaeth arwain at gweminar ar cyfrifiadura cwmwl. Yn y gweminar fe wnaeth Evan Jones o Lywodraeth Cymru trafod ofnau pobl a mynd i’r afael â mythau.

Roedd y mater ychydig yn wahanol yn y seminar lles gan ei fod yn deillio o wasanaethau cyhoeddus yn rhannu data yn hytrach na pherchnogaeth o data gan gwmnïau Americanaidd. Ond fe wnaeth yr un amharodrwydd i rannu data dod ohono.

Er gwaethaf y rhwystrau sydd mewn lle, mae rhai mudiadau wedi cyd-drafod y mater ac wedi gwella eu gwasanaethau. Roedd e’n diddorol clywed o Mark Shone o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer yn nigwyddiadau Atgyfnerthu’r Cysylltiadau. Ar 03:32 yn y fideo isod, mae Mark yn egluro sut mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi sefydlu Cytundeb Rhannu Data gyda’r GIG yn ei ardal. Mae ei gyflwyniad yn dangos sut maen nhw wedi canfod y bobl sydd yn y perygl fwyaf o danau cartref a gwneud gwaith ataliol gyda nhw.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi rhannu arfer da yn eu Cod Ymarfer ar Rannu Data, sy’n cynnwys adran ar Gytundebau Rhannu Data. Er bod y rhagarweiniad yn ffocysu’n gwbl briodol ar hawliau ddinasyddion, mae’n drawiadol gan ei fod yn nodi bod ‘pobl eisiau eu data personol i weithio ar eu cyfer. Maent yn disgwyl i sefydliadau i rannu eu data personol lle mae’n angenrheidiol er mwyn rhoi iddynt y gwasanaethau maen nhw eisiau. Maent yn disgwyl cymdeithas i ddefnyddio ei adnoddau gwybodaeth er mwyn atal trosedd a thwyll ac i gadw dinasyddion yn ddiogel’.

Byddwn yn sicr yn edrych i fynd i’r afael â Diogelu Data fel rhan o’n digwyddiadau ar gyfer 2015-16. Os gall gwasanaethau cyhoeddus dygymod ag anghenion y cod, mae’n helpu i roi sail dda ar gyfer cydweithio effeithiol. Trwy edrych yn fanwl ar y pwnc yma, gallwn helpu i rannu’r wybodaeth ac ymarfer cywir er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

 

Craffu

Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal.

Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy fynd ar-lein.

#scrusm

Ar 6:30pm ar ddydd Mawrth 16 Medi fe fyddwn yn cymryd rhan mewn sgwrs Twitter ar graffu sy’n cael ei hwyluso gan Dave McKenna o Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs hon drwy ddefnyddio’r hashnod #scrusm, lle bydd y drafodaeth yn edrych ar gael y cyhoedd i gymryd rhan mewn craffu.

Cynhaliodd Virginia Hawkins a Kevin Davies o Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithdy ar y pwnc yn nigwyddiad llynedd, lle wnaethon nhw rannu eu pecyn cymorth ar gynnwys y gymuned. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n edrych i glywed am unrhyw ddulliau neu adnoddau mae Cynghorwyr neu Swyddogion yn defnyddio, unrhyw faterion maen nhw’n wynebu a phethau da maen nhw’n gwneud.

Ni’n cydnabod bod pawb ddim ar Twitter, felly byddwn yn cynhyrchu Storify i ddal y trydar fel bod pawb yn cael y cyfle i weld beth ddigwyddodd, yn union fel rydyn ni’n gwneud yn ein digwyddiadau.

Os dydych chi ddim ar Twitter eto, ond da chi’n meddwl hoffech chi gymryd rhan, mae yna ganllawiau defnyddiol ar-lein fel yr un yma gan Mashable ac mae yna fideos sy’n esbonio mwy fel yr un isod gan Hootsuite. Mae yna hefyd rhai adnoddau am sgyrsiau Twitter a all eich helpu i fynd i’r afael â sgwrs.

Felly, os ydych chi eisiau dysgu mwy am sut mae mudiadau eraill yn mynd ati i graffu, neu os hoffech chi rannu eich profiadau, byddai fe’n grêt i gael eich mewnbwn yn y sgwrs. Trwy helpu ein gilydd i osgoi beth sydd ddim yn gweithio a trwy rhannu beth sy’n effeithiol, gallwn ni gyd chwarae rhan i wella gwasanaethau cyhoeddus.

Dyfrig

Swyddfa Archwilio Cymru a Chyd-gynhyrchu

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r Cyhoedd

Sut mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cyd-fynd â’r agenda cyd- gynhyrchu yng Nghymru? Ar ddydd Mawrth fe wnes i fynd i Gyfarfod Cyd-gynhyrchu Mawr Ogledd Cymru! i rannu’n gwaith ni.

Cyllid

Pan ddechreuais feddwl am gyd-gynhyrchu ac archwilio, y peth cyntaf meddyliais i amdano oedd perfformiad gwasanaethau cyhoeddus. Ond fe wnes i sylweddoli bod ein gwaith cyllid ni jyst mor bwysig i gyd-gynhyrchu ar ôl i ni gynnal Seminar Dysgu a Rennir gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru dydd Gwener ddiwethaf. Roedd Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan Cyfranogaeth Cymru yn cymryd lle jyst lawr y ffordd, ac er roedd y pynciau’n wahanol, roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cysylltu’r ddau gyda’i gilydd. Fel mae’r ddogfen yn dweud, “Mae ymgysylltu aneffeithiol â rhanddeiliaid yn golygu efallai na fydd rhai cynghorau’n adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a disgwyliadau eu dinasyddion yn ddigonol.”

Felly gall cyd-gynhyrchu helpu i arbed arian drwy ei dargedu arno feysydd ble byddai’n fwyaf effeithiol. Serch hyn, nodais i yn y digwyddiad bod angen adnoddau er mwyn i gyd-gynhyrchu fod yn wirioneddol lwyddiannus. Clywsom yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Drosglwyddo Tir ac Eiddo bod y defnydd gorau ddim yn cael ei wneud o asedau heb y cymorth cywir.

Cyngor 2025: Y weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru

Ychydig o wythnosau’n ôl, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru siarad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’n werth gwylio’r fideo isod os da chi heb wylio fe o’r blaen, gan mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn cwestiynau pwysig – ble mae’r ddadl yng Nghymru ar ddiben llywodraeth leol? Lle mae’r modelau o ddarparu a chyflawni sy’n sicrhau bod gwasanaethau o’r ansawdd cywir ac yn rhoi’r gwerth sydd angen ar Gymru?

Edrychodd hefyd ar gyd-gynhyrchu yn llywodraeth leol Cymru:

Efallai byddwch yn cofio fy mod i wedi cynnal astudiaeth ar ymgysylltiad cyhoeddus yn llywodraeth leol ychydig o flynyddoedd yn ôl. Doedd yna ddim llawer o enghreifftiau ymarferol o ffyrdd cydweithiol o ymgysylltu. Ers hynny, dydw i ddim wedi gweld llawer o dystiolaeth o symudiad tuag at gyd-gynhyrchu, neu fel y disgrifiwyd yn aml, gweithio gyda nid i.

Y Gymru a Garem

Mae cyd-gynhyrchu hefyd yn thema yn adroddiad canol tymor Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r bil yn her fawr i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru. Yr unig ffordd gallwn sicrhau ein bod ni’n archwilio mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn gymesur yw trwy gyd-gynhyrchu ein hymateb gyda chynghorau. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hyn drwy fwydo adborth o’n Seminarau Dysgu a Rennir ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol i’r gwaith mae Mike Palmer yn arwain arno, ac fe fydd yna mwy o gyfleoedd i chi gadael i ni wybod sut gallwn archwilio’n effeithiol.

Felly beth mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gwneud i helpu?

Ni’n cynnal seminarau am ddim ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â hyn. Ni’n wneud beth da ni’n dweud trwy gynnal y digwyddiad ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.

Sketch notes for the Wales Audit Office and co-production presentation / Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Mae’n amlwg bod thema’r digwyddiad wrth ddant bobl, gan fod y digwyddiad yng Nghaerdydd wythnos nesaf yn llawn, ond mae yna rhai llefydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad yng Ngogledd Cymru ym mis Medi.

Bydd y seminar yn edrych i rannu profiadau ymarferol o sut gall cydberthnasau gwahanol helpu i ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Byddwn yn defnyddio’r hashnod #ReshapeServices ar y dydd os da chi eisiau dilyn y diwrnod ar Twitter, a byddem wrth ein bodd i glywed o chi am yr hyn sy’n gweithio yn eich ardal chi.

Dyfrig

Gwella Eich Gofod

Seminar ar Reoli Adeiladau

Thema ein seminarau dysgu a rennir dros y flwyddyn ddiwethaf oedd asedau, a ni ‘di bod yn gweithio gyda’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol i rannu arfer da rhwng pobl sy’n gweithio ym maes rheoli asedau.

Mae cwpl o’r prosiectau a gafodd eu harddangos eu hariannu gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed, sy’n rhoi cyllid tymor byr i helpu mudiadau gwasanaethau cyhoeddus i drawsnewid y ffordd mane nhw’n gweithio. Mae’r rhain wedi cynnwys y prosiect siaradodd Jonathan Fearn amdano yn Seminar Dysgu a Rennir Tir a Throsglwyddo Asedau, sef yr adolygiad o asedau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Gâr. Mae’r cyflwyniad ar gael ar ein gwefan ni a gallwch hefyd gweld e’n trafod y gwaith yn y fideo isod o’r seminar.

Mae yna astudiaethau achos amrywiol o’r gwaith sydd di gael ei gyllido gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys prosiect diddorol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, lle maen nhw wedi rhesymoli ei llety.

Er bod y rhesymoli yn ymwneud ag arbed arian fel mae’r gronfa’n mynnu, mae’r prosiect hefyd yn edrych i wella darpariaeth ei gwasanaethau. Mae’r gwaith yma wedi dod â gwasanaethau o safleoedd gwahanol at ei gilydd, sy’n gwneud e’n lot haws i adrannau gwahanol i weithio gyda’i gilydd.

Nid jyst hynny, ond drwy symud yr adeilad i ganol y dref mae defnydd wedi cael ei wneud o adeilad gwag sy’n helpu i adfywio canol y dref. A drwy symud yno, mae’r cyngor wedi gallu gwneud yr adeilad yn ganolbwynt i’r gymuned trwy roi ei ganolfan cyswllt cwsmeriaid yno.

Os yw hyn i gyd wedi cael chi i ddechrau meddwl am resymoli adeiladau, mae fe hefyd yn werth edrych ar fanylion gweithdy Antony Wallis yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Adeiladau, lle clywsom am sut mae o Adnoddau Naturiol Cymru yn dod â swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru at ei gilydd a’u bod nhw’n cwrdd ai’i anghenion nawr ac yn y dyfodol.

Y peth trawiadol am bob un o’r prosiectau hyn yw bod nhw’n canolbwyntio ar eu rolau mewn galluogi gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu mwy, yn hytrach nag edrych ar eu swyddogaethau eu hunain. Mae’n wych gweld bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr dim jyst yn arbed arian cyhoeddus, ond bod nhw hefyd yn edrych i wella’i gwasanaethau er budd pobl ei fro.

Dyfrig

Peidiwch â phrynu caledwedd

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Ni gyd yn caru fe. Mae ‘na goleuadau sy’n fflachio ar galedwedd, llinellau cŵl, ac mae’n edrych yn hynod o dda wrth iddo fe hymian mewn raciau. Mae’n creu argraff ar ddieithriaid, ac mae’n dilysu ni fel arbenigwyr. Mae fe hefyd yn ddrud iawn ac mae’n cael ei danddefnyddio’n fodd anhygoel. Fe wnaeth Google (ie, y Google yna) darganfod yn y 2000au cynnar bod eu canolfannau data yn rhedeg ar 10% o’r uchafswm posibl. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn y DU yn llawer gwaeth, gyda Swyddfa’r Cabinet yn awgrymu bod rhai ohonom yn defnyddio cyn lleied â 5% o’n hasedau mwyaf drud.

Gofynnwch i unrhyw Bennaeth Technoleg Gwybodaeth pam maen nhw’n gwario siwd gymaint ar galedwedd a byddant yn dweud “wel, bydd e ddim yn gweithio hebddo”, neu os yw’r Pennaeth Technoleg Gwybodaeth gyda MBA byddai nhw’n dweud “mae’r caledwedd yn ganolog i’n cenhadaeth”. Sy’n codi cwestiwn diddorol – pam ydyn ni’n teimlo bod angen prynu’r modd o gynhyrchu ar gyfer cyfrifiadura, pan does gennym ddim amheuaeth o gwbl amdano brynu trydan neu ddŵr?

Yn ôl ym mis Medi fe wnaeth dros 60 o arbenigwyr Technoleg Gwybodaeth, a fi, cyfarfod mewn seminarau Swyddfa Archwilio Cymru yng Ngogledd a De Cymru i rannu arfer da (sef, ‘dwgyd syniadau’) a gobeithio, herio eu rhagdybiaethau. Rwy’n hoffi her dda i’m rhagdybiaethau, ond fe wnaeth yr amheuon o amgylch Cyfrifiadura Cwmwl dim jyst herio fy rhagdybiaethau ond eu mygio!

Cloud Computing / Cyfrifiadura Cwmwl

Roedd ‘na lot o resymau yn cael eu rhestri amdano pam dylai chi ddim mabwysiadu’r cwmwl. Mae diogelwch. Bydd pawb yn gallu cyrchu eich data. Mae’r rheoliad, ac fe fydd Americanwyr yn arestio eich Prif Weithredwr ……. ond wedyn, does ‘na ddim goleuadau yn fflachio oes ‘na? Dyw hyn o reidrwydd yn wir. Wrth gwrs gallwch greu llanast o faterion diogelwch ar y cwmwl yn yr un ffordd a gallwch adael eich diogelwch mewn hash os da chi’n trio, ond does dim rheswm go iawn pam dylech.

Rwy’n hoffi cyfrifiadura hawdd. Rwy’n hoffi darparu gwasanaeth sydd jyst yn gweithio. Dydw i ddim eisiau rhedeg canolfan data yn yr un ffordd dydw i ddim eisiau rhedeg gorsaf bŵer neu reoli cronfa ddŵr. I mi, mae Cyfrifiadura Cwmwl yn cynnig cyfle i brynu’r faint dymunaf, pryd mai’i angen arnaf. Dim mwy o le nag sydd angen.

Dyw e ddim yn hawdd i ni fel proffesiwn. Ni’n tueddu i feddwl amdano Dechnoleg Gwybodaeth fel ymarfer mewn rheoli caledwedd, yn hytrach na gwasanaeth i gwsmeriaid.

Dyma ymarfer i chi. Dychmygwch fod eich Prif Weithredwr wedi gwahardd prynu unrhyw beth corfforol o gwbl. Mae’n hawdd prynu’r ddarpariaeth o weinydd trwy’r cwmwl (ac yn wir, yn hawdd ar gyfer y sector cyhoeddus drwy G-Cloud), cysylltedd â wal dân – tic, meddalwedd fel gwasanaeth – tic, dyfeisiau defnyddwyr? Mae hwn yn fwy o broblem, ond gallai strategaeth BYOD da datrys hynny. Yn wir, os oes ganddo’ch signal ffôn symudol da (a gallwch hyd yn oed ffeindio ffordd o amgylch hynny), does dim angen rhwydwaith yr adeilad arno’ch chwaith.

Wrth gwrs, does dim lot mewn bywyd yn syml, a dyw hwn ddim yn syml chwaith. Ond mae’n werth ystyried , ‘Faint byddai fe’n costio fi os dydw i ddim yn uwchraddio hon, ond yn hytrach yn ei brynu fel gwasanaeth ar-lein yn lle?’

Mae’n costio llawer i gadw pob un o’r gweinyddwyr yn gynnes, wedi’i bwydo, eu hanwesu a’u caru. Efallai bod hyn yn swnio fel heresi, ond gallech chi wneud yn well, yn rhatach, ‘da llai o ymrwymiadau os ‘da chi’n  prynu’r gwasanaeth trwy’r cwmwl?

Dim bod da fi obsesiwn bach neu unrhyw beth, ond ar 13 Rhagfyr byddaf yn trafod cyfrifiadura cwmwl: y chwedlau, wedi chwalu, gyda Peter Middleton o raglen G-Cloud Swyddfa’r Cabinet. Roedd 2013 yn flwyddyn allweddol ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus, yn flwyddyn dyngedfennol wrth gydnabod na allwn barhau i ddarparu o dan y model presennol. Rhaid i ni fod yn fwy craff, yn fwy cydweithredol, yn rhatach, ac yn syml yn well yn yr hyn ni’n gwneud. Amser i chwalu rhai o’r chwedlau.

– Evan Jones, Llywodraeth Cymru