Skip to content

Tag: lles

Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

Pam fod Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau sy’n canolbwyntio ar aml-ddefnyddwyr? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ein meddylfryd a pham mae gwasanaethau cyhoeddus effeithlon yn canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae rhaglen gwaith Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: Deddfwriaeth newydd a datblygiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru Pynciau sy’n cael eu nodi drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol Yn achos ein seminar ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr, roedd y… Read more Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan. Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos wnes i fynd i sefydliad sy’n datblygu eu cynllun busnes ar gyfer safle. Fe wnes i ymweld â’r YMCA, sydd wedi cymryd drosto hen adeilad Canolfan Gymunedol Plasnewydd ar sail prydles am 100 mlynedd o… Read more YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo. Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut all cythruddo eich dinasyddion arwain at weithredu cymunedol. Mae’n darn pryfoclyd am sut all cau ased cymunedol arwain at ymateb cryf o’r cyhoedd, a sut gall gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar gryfder yr ymateb yma. Clywais… Read more Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Coed Actif Cymru

Awdur y blog hwn yw Dr Kate Hamilton, a gyflwynodd yn seminar Dyfodol Parciau a’u Heffaith Gadarnhaol ar Les yn ddiweddar. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau i esbonio effaith yr hyn y mae Coed Actif Cymru yn ei wneud, a pham a sut y maent yn gwneud hynny. Bydd Kate hefyd yn blogio am heriau monitro a gwerthuso lles, a deall effaith hynny. Beth yw Coed Actif Cymru? Mae Coed Actif Cymru yn brosiect sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd a’u lles drwy eu hannog i gymryd rhan… Read more Coed Actif Cymru

Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital. Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu ffurf bresennol. Mae Phil Rumens wedi ysgrifennu blogbost grêt ar y pum cam o drawsnewid digidol. Mae hyn yn dangos y gwerth ychwanegol o feddwl am wasanaethau o ran darpariaeth ddigidol. Rydw i wedi bod… Read more Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Cydweithredu a Gweithio ar Draws Ffiniau: Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn

Pan wnaethon ni clywed am Ganolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn yng Ngwobrau Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, roedden ni’n gwybod yn syth ein bod ni eisiau rhannu beth maen nhw wedi gwneud. Bydd John Hardy yn cynnal gweithdy ar eu gwaith yn ein seminar Tai a Chwaraeon: Gwella lles a darparu gwell gwerth am arian cyhoeddus ar 3 Mawrth yng Nghaerdydd a 26 Mawrth yn Llanrwst, a gallwch glywed mwy am eu gwaith isod. Mae’r prosiect, a oedd yn bartneriaeth yn wreiddiol, rhwng Gwasanaethau Therapi a thrwy’r rheiny Ymddiriedolaeth… Read more Cydweithredu a Gweithio ar Draws Ffiniau: Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn