Cadwch Gymru’n Daclus a Phrosiect Dynion Gurnos: Sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac iechyd eang

Read this blog post in English

Mae llawer o bobl yn ymwybodol o waith Cadwch Gymru’n Daclus achos maen nhw’n diogelu ein hamgylchedd. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gwybod eu bod nhw’n gweithio mewn ffyrdd eraill i wneud ein cymunedau’n llefydd gwell i fyw. Siaradodd Ena Lloyd gyda Jake Castle am Brosiect Dynion Gurnos ar gyfer y blogbost isod.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli tan yn ddiweddar fod swyddfa Cadwch Gymru’n Daclus ar draws y ffordd i’n swyddfeydd yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd.  Cysylltais â’i Phrif Swyddog Gweithredol, Lesley Jones, am fy mod i am wybod mwy am brosiect y Gurnos sy’n ceisio helpu dynion i ddod o hyd i waith. Dywedodd hi y byddai’n ddefnyddiol pe bai Jake Castle, Yr Uwch Swyddog Prosiect yn ysgrifennu blog am y prosiect hwn y mae’n ei arwain.

Dyma’r hyn a oedd gan Jake i’w ddweud am y prosiect:

Fi yw Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ym Merthyr Tudful. Rwy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion ac unigolion i gyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol. Un o’r grwpiau gorau (a mwyaf difyr yn aml) o blith y grwpiau hyn yw Prosiect Dynion Gurnos.

Ffurfiwyd y Prosiect ddwy flynedd yn ôl i roi cyfle i grŵp o ddynion di-waith hirdymor ar Ystâd Gurnos i ddod ynghyd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau er mwyn helpu i wella’r gymuned a datblygu eu sgiliau a’u dysgu eu hunain. Gwnaeth uno gwirfoddolwyr newydd a phresennol Cadwch Gymru’n Daclus a’u cysylltu â Cymunedau yn Gyntaf. Ar y pryd, menywod oedd dros 90% o’r bobl a oedd yn ymwneud â chlwstwr lleol Cymunedau yn Gyntaf ac felly roedd y ddarpariaeth a’r cymorth yn amlwg yn ddiffygiol i ddynion.

Llun o 6 dyn yn y goedwig sy'n rhan o Brosiect Dynion Gurnos

Prosiect Dynion Gurnos

Yn fuan roedd ymroddiad y grŵp yn amlwg ac roeddent yn gwneud gwaith glanhau, garddio a gwelliannau i dir yr ysgol yn rheolaidd. Maent hefyd yn cymryd rhan mwn cyrsiau darllen ac ysgrifennu sylfaenol, garddwriaeth a sgiliau cefn gwlad. Rwy’n cyfarfod â nhw bob pythefnos er mwyn helpu i gynllunio a chyflawni prosiectau lleol a chyda help Cymunedau yn Gyntaf rydym yn adolygu eu gweithgareddau yn gyson er mwyn sicrhau bod eu hanghenion eu hunain yn cael eu diwallu tra’n gwasanaethu’r gymuned ehangach. Roeddwn yn falch o sicrhau cyllid yn ddiweddar i drefnu hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y grŵp; mae’r cyfuniad o ymroddiad parhaus, gwaith caled a’r hyfforddiant hwn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Gan nad oedd neb yn y grŵp wedi cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant achrededig ers blynyddoedd lawer, roedd pob un yn bryderus ynghylch cael ei brofi. Roedd yn bwysig eu cefnogi a dewis hyfforddiant priodol ac mae chwe dyn bellach wedi cyflawni NPTC Lefel 2 mewn Defnydd Diogel o Dorrwr Llwyni a Thociwr. Mae’r cymhwyster ffurfiol hwn yn werthfawr iawn gan nad yw’n dod i ben ac mae’r sgiliau a feithrinwyd wedi helpu i wella hyder y grŵp a safon y gwaith yn y gymuned.

Mae’r chwe chyfranogwr (a ddangosir yn y llun uchod) yn awyddus i wneud gwaith cynnal a chadw tir fel math o gyflogaeth;

Mae hwn wedi bod yn wych i fi. Dw i wedi bod yn ddi-waith ers misoedd bellach a dyma’r math o waith hoffwn i ddechrau ei wneud nawr. Dwi’n gwybod y bydd angen y tocyn hwn ar gyfer llawer o swyddi ac mae’n dangos fy mod wedi bod yn weithgar ac wedi bod yn ceisio gwella fy hun.

Antony Dunn, gwirfoddolwr (yr ail o’r dde yn y llun uchod)

Daeth cynrychiolwyr etholedig i gyfarfod â’r grŵp ym mis Chwefror. Roedd y grŵp yn ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am sut y mae’r gwaith a’r hyfforddiant wedi hybu eu hunan-barch, eu helpu i reoli problemau iechyd meddwl ac alcoholiaeth, a rhoi llawer o sgiliau iddynt a helpu’r gymuned ehangach. Siaradodd gwraig un o’r grŵp sy’n dioddef o ddementia hefyd am sut mae’r grŵp wedi bod o gymorth enfawr i’r ddau ohonynt, gan leddfu’r baich ar y systemau iechyd a gofal.

Cafodd ei gydnabyddu bod y ddarpariaeth hon yn werthfawr i’r unigolion hyn. Helpu pobl i gael gwaith wrth gwrs yw’r nod ac mae pob un ohonom yn ymwybodol y gall hyn fod yn broses hirdymor. Mae’r model hwn yn awgrymu y gall y cyfnod interim (cyn dod o hyd i waith) hefyd fod yn werthfawr mewn sawl ffordd arall.

Mae’n ymddangos i mi fod llwyddiant i’r grŵp hwn wedi golygu cymysgedd iach o sgiliau sydd o fudd i’r unigolion, a gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned – heb anghofio bod ambell i weithgarwch strwythuredig yn sicrhau trefn arferol a phleser hefyd! Mae’r budd i’r gymuned yn anodd ei fesur; mae’n mynd ymhell y tu hwnt i gasglu sbwriel gan ei fod yn golygu llai o ofynion ar ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Yn fy marn i, mae’r gefnogaeth i Brosiect y Dynion yn helpu i gynyddu lefelau cyflogaeth a gwella cymunedau’r Cymoedd. Y ffocws nawr yw mesur y cyfraniad pellgyrhaeddol hwnnw.

Ceir llawer mwy o brosiectau ac mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymwneud â llawer ohonynt, gan gynnwys Baner Las, Eco-Sgolion, Goriad Gwyrdd. Mae pob un o’n rhaglenni ar gael ar ein gwefan.

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Craffu

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen.

Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts.

National Assembly for Wales Google Hangout

Lluniau Google Hangout Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Flickr http://bit.ly/1wd3dwU

Wrth i gyfryngau cymdeithasol ddod yn fwy poblogaidd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau defnyddio nhw i ymgysylltu â’u cymunedau. Gan fod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, mae yna gamsyniad bod y defnydd effeithiol ohonynt yn lot haws a chepach na dulliau traddodiadol. Ond dyw bod ar-lein yn ei hun, ac anfon neges bob nawr ac yn y man, ddim yn ddigon – rhaid i ni alluogi pobl i gymryd rhan.

A dyna pam rydw i wedi fy nghynhyrfu am ddefnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Roeddwn i fach yn amheus i ddechrau. Mae Google Plus wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi o ran gwaith (er enghraifft mae cymuned LocalGov Digital yn llawn syniadau digidol diddorol), ond sa i’n gallu dweud bod lot o bobl eraill ar y platfform.

Felly dyw Google Plus ddim cweit yn ticio’r blwch o ran mynd i bobl. Ond dyma le mae galluogi pobl i gymryd rhan yn dod mewn. Yn hytrach nag aros i bobl ddod iddyn nhw, fe wnaethon nhw weithio gyda phobl i’w helpu nhw i ddefnyddio’r dechnoleg fel bod nhw’n gallu cymryd rhan.

O ran y Hangout ar Addysg Uwch, roedd hyn yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn Lloegr neu’r Alban yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am gyllid. Os doedden nhw ddim yn defnyddio Hangouts neu doedd dim cyfrif Google Plus ganddynt, roedd staff yn gweithio gyda nhw i ddod yn gyfarwydd â’r dechnoleg. Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr â sut mae rhai cyrff yn anfon allan ychydig o drydar neu ddiweddariadau Facebook ac yn disgwyl i bobl dod atynt.

[gigya src=”https://abfiles.s3.amazonaws.com/swf/audioboom_default_player_v1.swf” style=”background-color:transparent; display:block; min-width:320px; max-width:700px;” flashvars=”image_option=small&imgURL=https%3A%2F%2Fd15mj6e6qmt1na.cloudfront.net%2Fi%2F6463661%2F300x300%2Fc&link_color=%2358d1eb&mp3Author=assemblycynulliad&mp3Duration=179867.0&mp3LinkURL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry&mp3Time=01.30pm+21+Nov+2013&mp3Title=Jocelyn+Davies+AC+a+%40JulieMorganLAB+yn+siarad+am+we-sgwrs+gyntaf+y+Pwyllgor+Cyllid+ar+gyfer+yr+ymchwiliad+i+gyllido+%23addysguwch+%2F+Jocelyn+Davies+AM+and+%40JulieMorganLAB+talk+about+the+first+Finance+Comm+web+chat+for+the+%23highered+%23funding+inquiry&mp3URL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry.mp3%3Fsource%3Dwordpress&player_theme=light&rootID=boo_player_1&show_title=true&waveimgURL=” width=”480″ height=”150″ allowFullScreen=”true” wmode=”transparent”]

Mae hwn yn lot o waith, ond mae’r wybodaeth mae’r Cynulliad yn derbyn o’r Hangout yn lot fwy cyfoethog achos hynny. Gallwch glywed Jocelyn Davies AC a Julie Morgan AC yn trafod beth maen nhw wedi dysgu o’r Hangout yn y Audioboom uchod.

Mae fe hefyd yn werth gwylio’r fideo yma o Rhun Ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am ddefnyddio Hangouts i ymgysylltu ynghylch sgiliau STEM, a sut roedd cyfranogwyr yn fwy onest ac yn rhoi adborth mwy uniongyrchol nag mewn sesiwn tystiolaeth.

Beth sydd wedi dod i’r amlwg yw bod cyfranogiad cyhoeddus ar-lein da yn cymryd yr un faint o ymdrech ag ymgysylltu all-lein, ac os ydyn ni’n rhoi ymdrech mewn i wneud e’n dda, gallai gwella ansawdd ein gwaith.

Dyfrig