Tag Archif: jargon

Y pwysigrwydd o gydnabod y berthynas rhwng ymchwil ac iaith

Read this blog post in English

Beth sy’n gwneud ymchwil yn llwyddiannus a pha rôl mae iaith yn chwarae yn hyn? Isod mae Ena Lloyd yn rhannu blogbost gan Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru, sy’n sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 1972. Maen nhw’n gorff aelodaeth o grwpiau anabledd a chynghreiriaid ledled Cymru.

Ffotograff o Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru

Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru

Ar Ddydd San Ffolant fe fynychais lansiad yr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn y Deml Heddwch, ble cwrddais Jeff Brattan-Wilson o Anabledd Cymru. Gofynnodd Jeff gwestiwn arbennig i’r prif siaradwr, Peter Beresford OBE. Roedd hyn yn un o’r achlysuron hynny ble roeddwn i rili eisiau rhannu’r neges yn ehangach. Cefais sgwrs gyda Jeff ar ôl hynny a gofynnais a fyddai’n rhannu ei feddyliau ar ein blog. Dyma ei stori:

Ym mis Chwefror eleni, roeddwn yn bresennol yn nigwyddiad lansio ‘Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru’ yn y Deml Heddwch.

Rhoddodd Peter Beresford OBE (Athro Emeritws Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Brunel Lloegr ac Athro Cyfranogiad Dinasyddion ym Mhrifysgol Essex) gyflwyniad ar effaith ymchwil a oedd wir yn sbarduno’r meddwl.

Roedd Peter yn siarad am y ffaith bod llawer o ddarnau pwysig o waith ymchwil, a ysgrifennwyd dros flynyddoedd lawer, a hynny’n bennaf ar gyfer cyfnodolion arbenigol, fel arfer yn eistedd mewn llyfrgelloedd, ar silffoedd, ac yn aml yn ymddangos fel pe baent y tu hwnt i gyrraedd pobl nad ydynt o gefndir maes ymchwil.

Yn sgil ei sgwrs, dechreuais feddwl o ddifrif am yr holl waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru, y gallai cyfran fawr ohono arwain at newidiadau sylweddol neu wneud gwahaniaeth enfawr yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chymunedau lleiafrifol.

Daeth cwestiwn i fy meddwl: sut rydym yn mesur effaith ymchwil o’r fath? Drwy’r math o gyfnodolyn lle y caiff y gwaith ei gyhoeddi? O ran y ffordd y mae’n datblygu gyrfa rhywun? Neu ai’r ffordd y caiff y canfyddiadau eu defnyddio yn y gymuned sy’n bwysig, a ph’un a ydynt yn cael unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl?

Gofynnais i Peter, “Beth y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i sicrhau bod gwaith ymchwil yn cael ei ysgrifennu mewn iaith bob dydd, fel bod llawer o sectorau yng Nghymru yn gallu ei ddarllen a’i ddefnyddio fel meincnod i ymgynghori â’r gymuned?”.

Yr ateb oedd bod gwir angen i ni weithio gyda’n gilydd; mae angen i brifysgolion, ysgolheigion ac academyddion ddeall eu bod yn creu rhwystrau rhyngddynt a phobl yn y gymuned ehangach drwy ddefnyddio iaith gymhleth sy’n llawn jargon.

Gallwn ddadlau y dylai iaith fod yn llwybr i hyrwyddo deialog ystyrlon – nid rhywbeth a ddefnyddir gan unigolyn i hyrwyddo ei ragoriaeth ieithyddol ei hun.

Ar ôl hynny, cafwyd trafodaeth o amgylch fy mwrdd ynglŷn â darparu gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru. Roedd yn fy nharo unwaith eto, er ei bod yn ddigon posibl bod sawl math o waith ymchwil wedi cael ei wneud, a llawer o atebion wedi cael eu darganfod, fod arnaf ofn bod y cyfan wedi cael ei golli oherwydd yr arddull ysgrifennu, wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion arbenigol na fydd llawer o bobl wedi clywed amdanynt.

Mae’n hawdd dangos yr hoffai pobl o lawer sector gwahanol ymgynghori â’r amrywiol gymunedau mewn cymdeithas, e.e. gwahanol grwpiau ieithoedd lleiafrifol neu hyd yn oed gymuned Iaith Arwyddion Prydain. (Iaith Arwyddion Prydain yw’r drydedd iaith fwyaf cynhenid yng Nghymru, ar ôl Saesneg a Chymraeg). Er mwyn ymgynghori â’r gymuned, mae’n bwysig defnyddio iaith bob dydd.

Dychmygwch – beth petai’r holl waith ymchwil hwnnw wedi cael ei ysgrifennu mewn iaith bob dydd? Byddai gennym gyfoeth o syniadau, atebion, datrysiadau a meddwl creadigol, i gyd ar gael yn hawdd ar flaenau ein bysedd.

O’r gwaith y mae Anabledd Cymru wedi’i wneud, mae’n amlwg mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy gydgynhyrchu â phobl eraill. Os yw academydd am ymchwilio i farn grŵp penodol, neu os yw’r Llywodraeth am ymgynghori ynghylch materion sy’n ymwneud â chymuned benodol, does bosibl mai’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy gydgynhyrchu â’r grŵp hwnnw? Dyna sut y gellir cael y ddeialog ystyrlon honno, a hynny yn iaith bob dydd y bobl hynny. Onid yw hynny’n synnwyr cyffredin?

Ar adeg ysgrifennu’r blog hwn, rwy’n sylweddoli ein bod, drwy fod yn agored i ystyried ein defnydd o iaith bob dydd, efallai’n debygol o ddenu ystod fwy amrywiol o lawer o bobl a allai ystyried gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain, gyda’r ystod o bynciau yr ymchwilir iddynt hefyd yn dod yr un mor amrywiol o ganlyniad i hynny.

Gobeithio y gall y rhai sy’n ariannu ymchwil gymryd sylw o hyn a mynnu bod canfyddiadau gwaith ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn iaith bob dydd ac mewn cyfnodolion prif ffrwd fel bod yr holl sectorau (a’r holl bobl) yn gallu cael mynediad cyfartal at y gwaith hwnnw.

Un peth arall sy’n bwysig ei gofio o gyflwyniad Peter yn fy marn i: dywedodd wrthym y byddai ei fam yn darllen ei waith. Byddai’n dweud wrth Peter p’un a oedd yn ei ddeall ai peidio. Os oedd yn ei ddeall, yna roedd yn addas i’r rhan fwyaf o bobl; os nad oedd yn ei ddeall, roedd Peter yn gwybod ei fod yn gwneud rhywbeth o’i le. Roeddwn yn meddwl bod hwn yn beth diymhongar a gonest i’w rannu â’r gynulleidfa. Penderfynais roi cynnig ar rywbeth tebyg.

Mae hynny’n fy atgoffa o un o’m hoff ddyfyniadau:

“Os byddwch yn siarad â dyn mewn iaith y mae’n ei deall, bydd hynny’n mynd i’w ben. Os byddwch yn siarad ag ef yn ei iaith ef, bydd hynny’n mynd i’w galon.”

Nelson Mandela – Cyn-Arlywydd De Affrica

Chwalu jargon

Jargon

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn clywed gan y Tîm Cyfathrebu am sut fydd gwefan newydd sbon Swyddfa Archwilio Cymru yn symlach i’w defnyddio a hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl ffeindio’r wybodaeth maen nhw eisiau.

Mae Andrew Purnell, Swyddog Cyfathrebu Digidol Swyddfa Archwilio Cymru, wedi bod yn dysgu’r tîm am wefannau effeithiol, a hefyd sut mae iaith yn rhan bwysig o hynny. Mae e bron yn amhosib ffeindio beth chi’n chwilio amdano os nad y’ch chi’n deall y penawdau chi’n chwilio oddi tanynt, ac mae e hyd yn oed yn waeth os nad oes ‘da chi syniad beth mae’r wybodaeth yn ei olygu pan chi’n ffeindio fe. Fe eglurodd e i ni fod darparu rhestr termau i wefan yn golygu eich bod chi wedi methu yn eich dyletswydd i ddefnyddio iaith glir, ac os nad yw pobl yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth gywir y tro cyntaf, byddan nhw’n clicio i ffwrdd o’ch gwefan.

Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru rôl bwysig i’w chwarae fel corff gwarchod gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos pa mor bwysig yw gwybodaeth glir, achos mae’n golygu bod pobl yn cael gwell ddealltwriaeth o’r gwaith rydyn ni gyd yn ei wneud.

Yn y blog gan y Cynghorydd Andrew Jenkins ar gyfer y gynhadledd craffu, dywedodd fod cyfathrebu aneffeithiol rhwng gwleidyddion a’r etholwyr wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Gall yr un peth digwydd gyda gwasanaethau cyhoeddus, sy’n eglur ym mlog emosiynol Mark Neary.

Mae llawer o wybodaeth ar-lein, gan gynnwys llawlyfr ‘Cymraeg Clir’ Prifysgol Bangor, yn ogystal â chanllawiau ymgyrch Saesneg Clir (Plain English) a’r teclyn ‘Drivel Defence’.

Os ydych chi’n dewis dilyn y llwybr yma, does dim rhaid i chi ddechrau o’r dechrau. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi creu canllaw ar gyfer eu staff yn barod ac yn ffodus mae e ar gael ar-lein.

Cefais y fraint o weithio gyda’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru yn fy swydd ddiwethaf gyda Chyfranogaeth Cymru, lle yn anffodus ro’n i’n clywed yn llawer rhy aml am bobl yn methu cael y wybodaeth roedden nhw eisiau er mwyn eu helpu nhw i gyrchu’r gwasanaethau cywir. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn sicrhau bod pobl yn gallu manteisio i’r eithaf ar eu gwasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ffeindio a’i ddeall. Tybed faint o wefannau gwasanaethau cyhoeddus sydd yn wir yn gwneud hyn?

Dyfrig