Tag Archif: gweithlu

National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda De Silva i ffeindio allan.

Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg i mi does dim prinder o bobl sydd â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Pan wnes i hwyluso rhwydweithiau traws-sector Cyfranogaeth Cymru, roedd yn gwbl glir nad yw’r gwerthoedd yma yn cael eu cyfyngu i’r sector gwirfoddol, a chafodd y safbwynt yma ei atgyfnerthu pan wnes i fynd i GovCampCymru, anghynhadledd lle mae pobl yn cynnal sesiynau trafod ar sut all technoleg, meddylfryd newydd a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.

Fe wnes i gyfarfod Kevin Davies o Gynulliad Cymru yn GovCampCymru, ac mae fe bellach wedi rhannu arferion craffu da gyda ni. Dywedodd e i mi sut mae National Theatre Wales (a ddatblygodd y Prosiect Democratiaeth Mawr) yn ymgorffori eu gwerthoedd yn eu llywodraethu a disgrifiadau swydd eu staff.

Roedd ymweld â swyddfeydd y theatr yn ddigon i berswadio mi bod ymagwedd y sefydliad tuag at y gymuned yn ychydig yn wahanol. Yn hytrach na theatr fawr, mae ganddynt swyddfa fach yn Arcêd y Castell – reit yng nghanol y ddinas.

Llywodraethu ac allgymorth

Nid yw llywodraethu yn bwnc sexy iawn, ond mae’r theatr wedi llwyddo i wneud y pwnc yn eithaf cyffrous trwy eu gwaith gyda’u Panel TEAM. Mae’r panel yn 10 o bobl o wahanol gymunedau sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i’r Theatr ac sy’n lleisio’u barn ar sut mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar bob lefel.

Mae’r model yn chwe blwydd oed nawr. Yn y flwyddyn gyntaf fe wnaethon nhw gwaith allgymorth dwys a 13 sioe mewn 13 lleoliad gwahanol. Yn dilyn hynny roedd pobl yn yr ardaloedd yma yn cymryd rhan mewn sioeau. A thrwy edrych ar theatr yn yr ystyr ehangaf, fe wnaethant lwyddo i gael pobl na fyddai’n mynd i weld sioe fel arfer i gymryd rhan. Er enghraifft dyw’r theatr ddim yn ddiddordeb mawr i gymuned Somali Caerdydd, ond drwy noddi tîm pêl-droed bach, maen nhw wedi gallu rhedeg gweithdai bach gyda phobl ac i gael eu hadborth ar gynyrchiadau.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r panel yn llunio cyfeiriad strategol y sefydliad. Mae dau aelod y Panel TEAM yn mynd i bob cyfarfod bwrdd ac mae un yn eistedd yn barhaol ar y bwrdd, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol y sefydliad yn cynnwys pobl o’r gymuned. Mae’r panel hefyd yn bwydo mewn i Gynllun Strategol y sefydliad.

Fel sefydliad bach, mae aelodau’r Panel TEAM yn rhoi hwb mawr i allu’r sefydliad. Er mai dim ond 18 o bobl sy’n cael eu cyflogi, mae’r sefydliad yn ymddiried yn y 10 aelod panel i fynd i ddigwyddiadau ar ei ran a’i gynrychioli. Mae hyn wedi helpu aelodau o’r panel i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd eu hunain, ac mae rhai wedi cael swyddi gyda sefydliadau celfyddydol eraill, wedi dechrau cwrs coleg neu ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Mae’n rhwydwaith hunan-gefnogol, lle mae aelodau’r panel yn cefnogi ei gilydd yn eu prosiectau.

Recriwtio staff

Mae’r Panel TEAM hefyd yn ymwneud â recriwtio staff, gan fod aelodau o’r panel yn eistedd ar bob panel cyfweliad ar gyfer staff newydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant a gwerthodd y mudiad yn un sy’n ffocysu ar y gymuned. Mae ymagwedd National Theatre Wales yn debyg i beth mae Richard Branson wedi dweud am recriwtio am werthoedd yn hytrach na sgiliau.

Rwyf eisoes wedi sôn sut y mae gwaith allgymorth y theatr yn rhan o’i lywodraethu, ond mae allgymorth ac ymgysylltu hefyd yn rhan graidd o swydd pob aelod o staff. Mae disgwyl i’r holl staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Celfyddydol a’r timau Cyfathrebu a Chyllid yn y swyddfa, i weithio gyda’r gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n cynnal cymorthfeydd gyda grwpiau cymunedol a gweithwyr llawrydd yn eu harbenigedd. Maent yn cynnig cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac mae partneriaid y sefydliad hefyd yn cael eu hannog i ffocysu eu gwaith ar y gymuned pan fyddant yn gweithio gyda National Theatre Wales.

Gweithio agored, a derbyn adborth mewn modd agored

Ac os nad ydych yn meddwl bod hyn i gyd yn ddigon i ddangos natur agored National Theatre Wales, maen nhw hefyd yn annog pobl i roi eu hadborth drwy gyfryngau cymdeithasol yn yr ymarfer olaf cyn y digwyddiad. Mae’r gynulleidfa yn cael ei gwahodd yn arbennig o’r gymuned leol cyn i sioeau fel Candylion mynd yn gyhoeddus, ac mae’r adborth yn rhoi syniadau i’r theatr am sut i wella’r sioe a sut i greu cyffro o’i gwmpas.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau gweithio yn yr agored. Mae’r Bromford Lab yn ei ddefnyddio fel cyfle i glywed syniadau, lleihau dyblygu a rhannu dysgu o fethiant. Mae Dangosfwrdd Leeds Data Mill hefyd yn dangos gwybodaeth am eu gwaith mewn amser real. Byddem ni wrth ein bodd i glywed o unrhyw wasanaethau cyhoeddus Cymreig sy’n gweithio’n agored, ac fel National Theatre Wales, yn byw eich gwerthoedd.

Manteision gweithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da

Mae Sophie Knott yn siarad am ei phrofiad o weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da ar weminar arfaethedig.

Yma yn Swyddfa Archwilio Cymru cawn ein hannog i gydweithio ar draws gwahanol feysydd o fewn y sefydliad i rannu gwybodaeth a chynnig gwell gwasanaeth i gleientiaid a’r cyhoedd. Fodd bynnag, weithiau mae pwysau amser ac adnoddau’n golygu ein bod yn esgeuluso agweddau megis defnyddio tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn ystod ein gwaith archwilio arferol.

Yn ogystal â rhannu canllawiau arfer da ac astudiaethau achos ar-lein drwy eu gwefan a’u blog, mae tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau a gweminarau dysgu ar y cyd. Roeddwn yn gwybod am y digwyddiadau hyn, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y tîm yn cynnal mwy nag un o’r rhain bob mis ar gyfartaledd, ac ar ystod eang o bynciau allweddol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Gyfnewidfa yn cydnabod nad oes un dull sy’n gweddu i bawb pan ddaw i rannu gwybodaeth, felly gall gweminarau a seminarau fod yn ddefnyddiol fel ffyrdd gwahanol o rannu gwybodaeth.

Fy mhrofiad

Sophie Knott o Swyddfa Archwilio Cymru

Sophie Knott o Swyddfa Archwilio Cymru

Yn ddiweddar, cefais gyfle i weithio gyda’r Gyfnewidfa ar weminar arfaethedig ar ddatblygu gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus. Deilliodd y weminar o ganlyniad i’n hastudiaeth genedlaethol Rheoli ymadawiadau cynnar yng ngwahanol gyrff cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015. Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cysylltu’n uniongyrchol â themâu allweddol yr adroddiad, ymgymerais â mwy o waith ymchwil i weld beth oedd cynadleddau a seminarau eraill yn ei drafod, ac erthyglau newyddion a blogiau eraill, ac esblygodd cynnwys y weminar o hynny.

Wedi hynny, rwy wedi helpu i ddewis siaradwyr posibl ar gyfer y weminar, a’r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu gofyn; ac wedi cynnal trafodaethau ynglŷn â’r weminar gyda’r Archwilydd Cyffredinol, a arweiniodd at gais ganddo i fod yn un o’r siaradwyr! Rwyf hefyd wedi datblygu deunydd i friffio siaradwyr ac wedi creu nodyn cadw dyddiad ar gyfer cyfranogwyr i’w e-bostio a’i osod ar ein gwefan.

Mae tasgau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys hyfforddiant Twitter fel y gallaf drefnu trydariadau i’w cyhoeddi ar y dydd; dwyn ynghyd sleidiau ar gyfer y cyflwyniad gweminar; heb sôn am fynychu’r weminar ei hun i gydgysylltu’r gwaith o ofyn cwestiynau a anfonir gan y cyfranogwyr ar y dydd i’r siaradwyr, a thrydaru’n fyw o’r digwyddiad. Mae’r ymgysylltu hwn ar y dydd yn bwysig iawn ac yn galluogi cyfranogwyr i rannu eu safbwyntiau’n uniongyrchol â’r panel a chyfranogwyr eraill, ond caiff y weminar hefyd ei recordio fel bydd pobl yn gallu gwrando arni ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.

Manteision i bawb

Mae wedi bod yn ddiddorol iawn cymryd rhan mewn rhywbeth ychydig yn wahanol a dysgu rhai sgiliau newydd ar yr un pryd. Rhoddodd gyfle i mi siarad â phobl na fyddwn wedi siarad â nhw fel arfer, fel Prif Weithredwr awdurdod lleol. Mae hefyd o bosib wedi cynyddu effaith a darllenwyr un o’n hadroddiadau cenedlaethol, ar ôl i mi gynnwys manylion amdano ar nodyn cadw dyddiad y weminar. Byddwn yn argymell bod pob aelod o staff yn ystyried cyfleoedd ar gyfer gweminar neu seminar o fewn eu gwaith eu hunain, hyd yn oes nad ydynt wedi mynd ymhellach na’r cam cynllunio. Rwy’n siŵr y byddai tîm y Gyfnewidfa’n falch o glywed gennych!

Mae’r weminar ‘Datblygu gweithlu i ateb heriau diwygio gwasanaethau cyhoeddus’ yn cael ei chynnal ddydd Iau 14 Ionawr rhwng 10:30 a 11:45. Gallwch gofrestru yma neu gall staff Swyddfa Archwilio Cymru wrando ar y dydd yn Ystafell 14 yn swyddfa Caerdydd neu Ystafell 1 yn swyddfa Ewlo.

Arfer Da mewn Newid yn y Gweithlu – canllaw gan Audit Scotland

Audit Scotland's Public Sector Workforce good practice guide

Canllaw arfer da Audit Scotland ar y weithlu cyhoeddus

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr astudiaeth gwella Craffu Da? Cwestiwn da! ddoe. Meddyliom ni y byddai hyn yn gyfle gwych i rannu canllaw arfer da yr ydym yn hoffi o Audit Scotland ar gynllunio’r gweithlu – a anelir yn benodol at y rhai sy’n ymwneud â chraffu rhaglenni newid gweithlu.

Mae craffu yn chwarae rôl bwysig wrth helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella yn ystod cyfnod ariannol heriol. Mae hyn yn cynnwys craffu a herio cynlluniau gweithlu a rhaglenni newid gweithlu. Yn benodol, gall craffu effeithiol gefnogi penderfyniadau da wrth ddyrannu adnoddau a darparu cyfeiriad strategol ar gynllunio’r gweithlu. Yn anffodus, fel mae canllaw Audit Scotland yn esbonio, “mae hyn yn arbennig o berthnasol i benderfyniadau i leihau gweithluoedd; heb gynllunio gofalus gall gostyngiadau gweithlu arwain at golli sgiliau hanfodol; gostyngiadau yn ansawdd y gwasanaeth; a mwy o bwysau ar, a diffyg cymhelliant ymysg, staff sydd ar ôl.” Felly, mae cael pethau’n iawn yn bwysig a mae chraffu da yn chwarae rôl bwysig yn hyn.

Wrth gwrs, gall cyfansoddiad sefydliadau yn y sector cyhoeddus o fewn a rhwng Cymru a’r Alban fod yn sylweddol wahanol. Gallai sefydliadau cymryd ystyriaethau arfer da craidd gan y canllaw hwn ac yna addasu’r rhain i ddiwallu eu hanghenion a risgiau ei hun.

Mae dogfen Audit Scotland yn rhoi arweiniad ar sut mae arfer da yn edrych yn mhob cam o gynllunio gweithlu:

  • datblygu’r cynllun gweithlu;
  • dewis gwahanol ddulliau o reoli niferoedd y gweithlu a chostau;
  • gweithredu newid yn y gweithlu (gan gynnwys pennu cyfrifoldeb ac adolygu); a
  • chraffu cynlluniau gweithlu a rhaglenni newid.

Mae’r rhain yn cynnwys rhai camau allweddol defnyddiol i’w dilyn, egwyddorion llywodraethu da mewn cynlluniau ymadael yn gynnar ac astudiaethau achos gan Cyngor Midlothian a’r GIG Lanarkshire.

Yn arbennig o ddiddordeb i ni, gan ystyried cyhoeddiad yr astudiaeth gwella Craffu Da? Cwestiwn da!, yw’r pwyslais y mae’r canllaw yn rhoi ar arfer da wrth graffu cynllunio gweithlu. Mae Rhan 2 o’r ddogfen yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o gwestiynau sy’n seiliedig ar arfer da i helpu “hyrwyddo adolygu a myfyrio a, lle bo angen, darparu sail ar gyfer gwelliant”. Mae hyn yn ategu’n glws ‘Canlyniadau a nodweddion ar gyfer trosolwg a chraffu effeithiol llywodraeth leol effeithiol’ Rhwydwaith Swyddogion Craffu Cymru, yn atodiad 2 o’r adroddiad Craffu Da? Cwestiwn da!

Dyma rhai esiamplau o’r cwestiynau:

  • A yw’r cynllun gweithlu yn cefnogi rhaglenni newid busnes? A yw’r cynllun gweithlu yn cysylltu ag amcanion corfforaethol y sefydliad?
  • A yw fforddiadwyedd bob dull wedi ei brofi? A yw’n glir sut y bydd y dull hwn yn helpu’r sefydliad i wneud y newidiadau y mae angen iddo ei wneud?
  • Ydy hi’n amlwg pwy sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod pob rhaglen newid gweithlu yn cael ei ddarparu ar amser ac yn unol â chynllunio?
  • A oes systemau addas wedi’u gosod i ddarparu sicrwydd i’r bwrdd ac aelodau etholedig ar gydraddoldeb ac amrywiaeth; effeithiau ar gwasanaeth, perfformiad a chynhyrchiant; a lles staff?

Felly, meddyliom ni roedd hi’n werth rhannu canllaw arfer da yma i helpu’r rhai sy’n ymwneud â chynllunio gweithlu a chraffu.

Mae yna dipyn o lefydd eraill i edrych os hoffech ragor o wybodaeth am gynllunio gweithlu neu graffu: