Tag Archif: gwasanaethau cymdeithasol

Rhifyn arbennig i Gymru o’r Journal of Integrated Care – beth yw’r ots?!!!

Sut allwn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well? Isod mae Stewart Greenwell o ADSS (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) Cymru yn rhannu’r gwersi o rifyn Cymru o’r Journal of Integrated Care.

Stewart GreenwellMae’n bur debyg bod ysgrifennu am beth rydych chi’n ei wneud yn rhywbeth cyffredin mewn sawl arena broffesiynol ond, fel rheol, mae ar gyfer cynulleidfa gyfyngedig iawn – y cyflogwr, defnyddwyr gwasanaeth weithiau hyd yn oed, fel eu bod yn gallu gweld gweithiwr proffesiynol yn esbonio beth mae wedi’i weld, beth mae wedi’i wneud a beth mae’n bwriadu ei wneud. Mae ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn academaidd yn ddarn gwahanol o waith – mae’r gynulleidfa’n ehangach, y rheolau’n teimlo’n fwy cymhleth ac mae mwy o graffu ar yr ysgrifennu.

Rydw i wastad wedi teimlo bod ysgrifennu’n gyfrwng i fyfyrio ar beth rydw i wedi’i wneud a’r gobaith yw y bydd y rhifyn arbennig o’r Journal of Integrated Care sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru’n dod â rhai o’n hymdrechion yng Nghymru i arena gyhoeddus ehangach, er mwyn i eraill – llunwyr polisïau ac ymarferwyr yng Nghymru yn arbennig – elwa.

Rydw i wastad wedi teimlo bod cydweithredu a/neu integreiddio yn ffordd naturiol o greu cynghreiriau er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu gyrru o un lle i’r llall. Yn anffodus, o ’mhrofiad i, mae’r sector cyhoeddus wedi gwneud hynny i bobl gyffredin, gan eu gadael yn wynebu tasg heriol o feistroli systemau, llefydd a phobl er mwyn ceisio cael ymateb i gyfres o amgylchiadau sy’n eu poeni nhw. Felly drwy leihau nifer y drysau y mae’n rhaid cnocio arnyn nhw, nifer y rhifau ffôn i’w ffonio a’r bobl i siarad â nhw, mae’r llwybr yn llai peryglus ac yn llai blinedig wedyn, ac yn fwy tebygol o arwain at lwyddiant i bobl gyffredin.

Daw hynny’n rhesymeg ar gyfer cydweithredu ac integreiddio – er mwyn gwella bywydau pobl a dim ond y diwedd hwnnw sy’n rhoi boddhad.

Nid oedd y bobl sydd wedi cyfrannu at rifyn Cymru wedi cael llawer o brofiad o ysgrifennu at bwrpas cyhoeddi. Roeddent i gyd wedi ysgrifennu ar gyfer eu hasiantaethau eu hunain, gan ddadlau o blaid newid arferion, dros neilltuo rhywfaint o adnoddau ychwanegol a thros y rhesymau niferus eraill sy’n gwneud i ni roi pensel ar bapur (neu fysedd ar allweddell) i’n cyflogwyr.

Mae wedi bod yn frwydr; fe gymerodd bopeth fwy na’r disgwyl, ac roedd rhyw gyfeiriad arall i edrych arno bob amser. Mewn sawl ffordd, mae’n adlewyrchu’r frwydr y mae llawer o’r awduron yn cyfeirio ati, sef credu bod yr hyn roeddent yn mynd ar ei ôl yn werth yr ymdrech, ac ymatal rhag y teimlad o ‘Mewn gwirionedd, does gen i ddim byd i’w ddweud y bydd pobl eisiau ei glywed’.

Roedd eu hymdrechion, ein hymdrechion a dweud y gwir, ers i’r peth ddechrau wrth i ni i gyd siarad am y syniad mewn ystafell mewn canolfan eglwysig yn yr Amwythig – dechrau da, gan ei fod yn ein hatgoffa bod rhaid i chi dorri’r rheolau weithiau er mwyn cyflawni rhywbeth (yn yr achos hwn, dewis cyfarfod y tu allan i Gymru!!) – yn werth y cyfan.

Mae’r erthyglau’n tynnu sylw at themâu digwyddiadau SAC ar 14eg ac 22ain Hydref, sef bod integreiddio a chydweithredu’n ymwneud llai â gwyddoniaeth a mwy â chrefft a gweithio’n galed; gwthio ffiniau’r ffordd draddodiadol o feddwl yn gyson a’n hatgoffa ein hunain nad oes byth reswm dros beidio â ‘gwneud y peth iawn’, ond yn aml mae sawl rheswm dros ddal ati i ‘wneud pethau’n iawn’. Mae’r cyntaf yn ymwneud â phobl a’r olaf yn aml ag ychydig bach mwy na glynu wrth broses.

Er hynny, roedd y broses yn egnïol ac, yn y pen draw, yn llwyddiannus. Mae’n dyst i gymeriad a chryfder arferion da, pwysigrwydd arweiniad diwyro a phenderfynol a’r mwyaf allweddol o’r cwbl, bod ffocws ar beth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eich tynnu chi drwodd a thu hwnt i bawb sy’n amheus ac yn ymwrthod!!

Gwneud integreiddio yn “fusnes craidd”

Erthygl blog gwadd gan Yr Athro David Oliver.

Mae David yn Fferyllydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Royal Berkshire; Athro Gwadd Meddygaeth i Bobl Hŷn, City University, Llundain; Cymrawd Gwadd, Cronfa’r Brenin; Darpar Lywydd, Cymdeithas Henoed Prydain; ac yn gweithio yn y Department of Health National Clinical Director for Older Peoples Services (Lloegr).

Does bosib fod y ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio yn rheswm i ddathlu yn hytrach na’i weld fel bwgan mawr. Mae’n fuddugoliaeth i amodau cymdeithas, meddygaeth ataliol ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â datblygiadau mewn triniaethau meddygol. Mae’n rhoi mwy o obaith i ni gyd y gallwn fyw’n hŷn. Ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd bron i hanner poblogaeth y DU yn marw cyn eu bod yn cyrraedd eu 65 oed. Erbyn hyn, dim ond 14% sy’n marw cyn cyrraedd 65 oed, a phobl dros 80 oed yw’r demograffig sy’n tyfu gyflymaf. Erbyn 2030, bydd dyn 65 oed yn byw tan y bydd yn 88 oed ar gyfartaledd, a menyw 65 oed yn byw tan y bydd yn 91 oed ar gyfartaledd.

Er bod pobl hŷn yn nodi lefelau uchel o les a hapusrwydd ar y cyfan a bod llawer ohonynt yn dal i fyw’n annibynnol, nid oes modd anwybyddu’r ffaith y bydd mwy o bobl hŷn yn arwain at ganlyniadau anochel: mwy o bobl â Chyflyrau Hirdymor lluosog, syndrom eiddilwch, Dementia a rhyw fath o anabledd neu ddibyniaeth. Yn aml, mae’r unigolion hyn yn dibynnu ar wasanaethau ac ymarferwyr lluosog ac ar ofal anffurfiol gan deulu a ffrindiau.

Mae angen i’n model gwasanaeth presennol symud mwy tuag at ataliaeth a gofal cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar anghenion unigolion yn hytrach na chlefydau unigol, a chydnabod bod gofal pobl hŷn o’r fath bellach yn “fusnes craidd” i systemau iechyd a gofal. Os na fyddwn yn llwyddo i ddarparu’r gofal priodol i bobl hŷn ag anghenion cymhleth, ni fyddwn yn llwyddo i wneud hynny ar gyfer unrhyw grŵp. Mae gan hyn oblygiadau radical i’r gweithlu, addysg a hyfforddiant a gwaith integredig a chydweithredol rhwng sefydliadau. Mae Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau i helpu i gyflawni’r nodau hyn, ac mae ganddi lawer o enghreifftiau o wasanaethau da i bobl hŷn. Ond mae angen i ni rannu arferion da yn gyflym ac i’r fath raddau fel bod gweddill y gwasanaethau’n datblygu i fod cystal â’r gwasanaethau gorau, a bod yn barod i archwilio systemau iechyd eraill er mwyn gweld enghreifftiau o wasanaethau da.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn a’r “gymuned arfer da” a fydd yn deillio ohonynt yn helpu i hwyluso sgwrs gyhoeddus, gwella cydweithredu ac annog rhannu syniadau da. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at wasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i “ddatganiadau cenhadaeth” ac at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio.

Dyma cipolwg o rai o brif negeseuon adroddiad diweddar gan Yr Athro Oliver a’i gydweithwyr, ‘Making our health and care systems fit for an ageing population’.

Amser i newid ein alaw…


50. Marcus Longley photo 50. Tony Garthwaite photo
Erthygl blog gwadd gan Marcus Longley a Tony Garthwaite, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru cyn digwyddiadau ‘Atgyfnerthu’r Cysylltiadau‘ mis Ebrill.

Beth ydym yn ei olygu wrth ‘Atgyfnerthu’r Cysylltiadau‘? Mae dwy enghraifft yn dangos beth mae hyn yn wir i gyd amdano …

Mae Richard yn ddyn 88 oed yn byw ar ei ben ei hun  yn ei gartref. Un prynhawn dydd Gwener, mae ei gymydog yn dod i boeni am ei gyflwr, ac yn galw y feddygfa leol. Mae’r meddyg teulu yn ymweld cyn y clinig nos ac yn gyflym yn sylweddoli bod gan Richard haint sydd angen triniaeth ar unwaith. Mae’n gwbl ymarferol i’w drin yn y cartref, ond mae Richard yn mynd i angen mewnbwn nyrsio, a gofal arall yn y cartref dros y penwythnos i sicrhau ei fod yn derbyn gofal priodol. Os gall y meddyg teulu drefnu hyn yn gyflym, gall Richard aros gartref. A yw hynny’n pecyn gofal sydd ar gael ar unwaith, neu a fydd Richard gael eu derbyn i’r ysbyty, gyda’r risg real iawn y bydd ei allu i fyw’n annibynnol byth yn cael ei adfer?

Mae Eileen yn dioddef o gyflwr terfynol, ond gan ei bod dan reolaeth dros dro, mae hi ar fin cael ei rhyddhau o’r ysbyty. Mae’r gweithwyr cymdeithasol yn ffonio ei merch y i ddweud wrthi bod Eileen ar fin dod adref i dŷ y ferch, gan tawo fan  hynny cafodd ei derbyn i’r ysbyty. ‘Ond ni allaf darparu lefel y gefnogaeth mae angen bellac, dwi allan yn y gwaith bob dydd’, mae hi’n dweud wrth y gweithiwr cymdeithasol. ‘Beth bynnag, pam na feddyliodd unrhywun am hwn pan gafodd ei derbyn gyntaf?’ ‘Wel, rydym lle yr ydym. Bydd yn rhaiddatgan eich mam yn ddigartref, ac yna gofyn i’r adran Dai  asesu ei hanghenion. ” Ond mae hynny’n mynd i gymryd diwrnodau … Fedrwch chi ddim datrys rhywbeth yn uniongyrchol gyda’ch cydweithwyr Tai? ” O na, nid oni bai ei bod yn ddigartref mewn gwirionedd ‘. A yw Eileen yn mynd i dreulio diwrnod gwerthfawr yn aros ar y ward er mwyn i’r system weithio ar chyfer hi?

Mae gofal a gwasanaethau cymorth yn eu hanfod yn ymwneud â cwrdd ag anghenion unigolion ac eto mae’r asiantaethau llywodraeth sy’n trefnu ac yn darparu’r gwasanaethau hynny yn biwrocratiaethau mawr, gyda eu ffocws yn aml yn ymddangos i fod ar gymysgedd o wleidyddiaeth, cyllidebau, systemau a strategaethau. Felly, sut y gallwn sicrhau bod yr unigolyn, sydd trwy ddiffiniad ar bwynt sy’n agored i niwed mewn bywyd, yn parhau i fod yn brif sylw comisiynwyr a darparwyr, gyda’r fiwrocratiaeth yn dod yn y rhan fwyaf yn gefnlen anweledig?

Mae’r fenter ‘Atgyfnerthu’r Cysylltiadau‘ wedi ei gynllunio i ddod a chydweithwyr yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol yn nes at ei gilydd i sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau heb deimlo y lympiau o gael eu trosglwyddo o un i’r llall. Mae gwersi a ddysgwyd mewn mannau eraill yn awgrymu bog rhaid i arweinwyr a rheolwyr wrthsefyll y demtasiwn i ganolbwyntio eu hymdrechion integreiddio ar strwythurau a newid sefydliadol ac, yn lle hynny, blaenoriaethu’r gofal sydd ei angen gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chleifion ar y lefel unigol. Wrth gwrs, bydd newidiadau yn y systemau a phrosesau yn hanfodol i wneud y newidiadau angenrheidiol, ond dim ond os ydynt yn cael eu gwneud ar ran yr unigolyn.

Mae SIGCC – Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru  – yn falch o fod yn cefnogi ADSS Cymru a Chonffederasiwn y GIG Cymru, a’u partneriaid, gyda’u prosiect ‘Atgyfnerthu’r Cysylltiadau’ trwy pedwar digwyddiad arddangos rhanbarthol mawr ledled Cymru. Bydd y rhain yn dod â amrywiaeth o bobl o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol iechyd, gofal cymdeithasol ynghyd i glywed am fentrau llwyddiannus yn integreiddio gwasanaethau ac i drafod sut y gellir gwneud cynnydd ranbarthol a chenedlaethol.

Bydd SIGCC hefyd yn gweithio’n agos gydag arweinwyr a rheolwyr allweddol yn y saith gymuned iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn helpu i ddod o hyd i ffyrdd o symud yr agenda integreiddio yn ei blaen. Bydd y ‘sgyrsiau strategol’ yn helpu i adnabod y galluogwyr a rhwystrau i gynnydd a nodi’r camau allweddol sydd eu hangen. Mae integreiddio wedi saethu i fyny’r siartiau gair hud yn ddiweddar. Os yw am wneud gwahaniaeth i’r gofal a chefnogaeth mae pobl yn ei dderbyn, bydd rhaid i’r dôn gyfarwydd o “i Chi, i Fi” newid.

Chwalu jargon

Jargon

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn clywed gan y Tîm Cyfathrebu am sut fydd gwefan newydd sbon Swyddfa Archwilio Cymru yn symlach i’w defnyddio a hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl ffeindio’r wybodaeth maen nhw eisiau.

Mae Andrew Purnell, Swyddog Cyfathrebu Digidol Swyddfa Archwilio Cymru, wedi bod yn dysgu’r tîm am wefannau effeithiol, a hefyd sut mae iaith yn rhan bwysig o hynny. Mae e bron yn amhosib ffeindio beth chi’n chwilio amdano os nad y’ch chi’n deall y penawdau chi’n chwilio oddi tanynt, ac mae e hyd yn oed yn waeth os nad oes ‘da chi syniad beth mae’r wybodaeth yn ei olygu pan chi’n ffeindio fe. Fe eglurodd e i ni fod darparu rhestr termau i wefan yn golygu eich bod chi wedi methu yn eich dyletswydd i ddefnyddio iaith glir, ac os nad yw pobl yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth gywir y tro cyntaf, byddan nhw’n clicio i ffwrdd o’ch gwefan.

Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru rôl bwysig i’w chwarae fel corff gwarchod gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos pa mor bwysig yw gwybodaeth glir, achos mae’n golygu bod pobl yn cael gwell ddealltwriaeth o’r gwaith rydyn ni gyd yn ei wneud.

Yn y blog gan y Cynghorydd Andrew Jenkins ar gyfer y gynhadledd craffu, dywedodd fod cyfathrebu aneffeithiol rhwng gwleidyddion a’r etholwyr wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Gall yr un peth digwydd gyda gwasanaethau cyhoeddus, sy’n eglur ym mlog emosiynol Mark Neary.

Mae llawer o wybodaeth ar-lein, gan gynnwys llawlyfr ‘Cymraeg Clir’ Prifysgol Bangor, yn ogystal â chanllawiau ymgyrch Saesneg Clir (Plain English) a’r teclyn ‘Drivel Defence’.

Os ydych chi’n dewis dilyn y llwybr yma, does dim rhaid i chi ddechrau o’r dechrau. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi creu canllaw ar gyfer eu staff yn barod ac yn ffodus mae e ar gael ar-lein.

Cefais y fraint o weithio gyda’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru yn fy swydd ddiwethaf gyda Chyfranogaeth Cymru, lle yn anffodus ro’n i’n clywed yn llawer rhy aml am bobl yn methu cael y wybodaeth roedden nhw eisiau er mwyn eu helpu nhw i gyrchu’r gwasanaethau cywir. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn sicrhau bod pobl yn gallu manteisio i’r eithaf ar eu gwasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ffeindio a’i ddeall. Tybed faint o wefannau gwasanaethau cyhoeddus sydd yn wir yn gwneud hyn?

Dyfrig