Skip to content

Tag: gwasanaethau cyhoeddus

Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae yna nifer ohonom yn y grŵp sydd heb weithio gyda’n gilydd o’r blaen. Daethom at ein gilydd i bwrpas a rennir,… Read more Adrodd ein Stori NI

Creu Gwelliant Parhaus

Beth all gwasanaethau cyhoeddus dysgu o weithgynhyrchu? Aeth Dyfrig Williams i ymweld â Schaeffler UK gyda Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan i weld sut maen nhw’n ceisio gwella’u gwaith yn barhaus. Gan fy mod i o Orllewin Cymru, does dim angen esgus arnaf i ddychwelyd adref. Wedi’r cyfan, fel dywedodd Ray Gravell, “West is Best”. Ond ers imi ymweld â ffatri Ricoh yn Telford gydag Ideas UK, rydw i ‘di bod yn awyddus i weld beth gall gwasanaethau cyhoeddus dysgu am wella’n dulliau o weithio o gwmnïau gweithgynhyrchu. Roedd yr… Read more Creu Gwelliant Parhaus

WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?

Wrth i’r byd newid, mae’n rhyfeddol gweld sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, byddai’n anarferol iawn i sefydliad feddu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol (fel pan grëodd Helen Reynolds dudalen MySpace ar gyfer Neuadd y Sir yn Nhrefynwy). Er bod llawer ohonom yn parhau i geisio deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliadau yn rhyngweithio â chymunedau, mae’n rhan hanfodol o’r ffordd ni’n cyfathrebu fel unigolion o ddydd i ddydd. Nid yw’n syndod felly, ein bod ni’n gallu dysgu… Read more WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?

Gwella Profiad Cwsmeriaid: Gwasanaethau Galluogi’r We Cyngor Castell Nedd Port Talbot

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei enwebu ar gyfer gwobr Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan ar ‘Arloesedd – Gwneud Pethau’n Wahanol’. Edrychodd y cyngor i wella profiad eu cwsmeriaid trwy weithio ar ei gwasanaethau ar y we. Mae Patrick Anderson yn blogio am y gwaith mae’r cyngor wedi gwneud isod. Mae’r rhaglen Gwella Profiad Cwsmeriaid yn rhan o raglen trawsnewid strategol Castell-nedd Port Talbot sef ‘Ymateb i’r Her’. Y cylch gwaith yw gwella profiad cwsmeriaid drwy wneud defnydd effeithiol o dechnoleg er mwyn gwella mynediad at wasanaethau’r cyngor… Read more Gwella Profiad Cwsmeriaid: Gwasanaethau Galluogi’r We Cyngor Castell Nedd Port Talbot

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Gwelliant Parhaus a Sicrhau canlyniadau

Dros yr wythnosau nesaf, bydd ein blog yn arddangos y bobl sydd wedi cael eu henwebu ac ennill gwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan. Dyma Caroline Phillips o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud wrthym am eu Gwasanaethau a Rennir a pham eu bod nhw wedi ennill y categori ‘Darparu Canlyniadau – Gwneud yn Well’. Yn ystod cyfnod o newid ac ansicrwydd, mae Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi trawsnewid y ffordd y mae’n gweithio drwy rymuso pob aelod staff rheng flaen i wneud penderfyniadau ac arwain drwy esiampl. Yn ystod… Read more Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Gwelliant Parhaus a Sicrhau canlyniadau

Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Fel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia. Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol yn ddiweddar, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.… Read more Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?