Skip to content

Tag: grant thornton

O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Mae Michelle Davies wedi bod yn gweithio gyda ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Rydyn ni wedi dysgu lot oddi wrthi hi ei am ei gwaith ac i’r gwrthwyneb. Yn y blog yma, mae Michelle yn dweud wrthym am ei phrofiadau o weithio gyda ni. Yn ddiweddar rwyf wedi cwblhau prosiect Arfer Da lle gwnes i helpu i gyflwyno’r Webinar Wynebu Heriau Ariannol (a gallwch wylio hwn yn llawn ar Vimeo). I’r rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod i, fel arfer rwy’n gweithio yng Nghlwstwr Archwilio Ariannol Canolbarth a Gorllewin Cymru… Read more O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

Rydyn ni wedi cael cwpl o fisoedd prysur yn nhîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ymlacio wrth i Nadolig agosáu, gan fod ni wedi cynnal digwyddiadau ar faterion i ymddiriedolwyr ac ar lywodraethu. Rydyn ni nawr yn casglu’r holl allbynnau at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu hanfon at fynychwyr a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol. Fel tîm rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein digwyddiadau yn cyrraedd cymaint o wahanol sectorau â phosib, gan ein bod ni’n credu bod… Read more Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen. Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Wrth i gyfryngau cymdeithasol… Read more Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru