Tag Archif: govcamp cymru

Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut all arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ymgorffori meddylfryd digidol o fewn eu sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn y dysgodd o weithdy’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty yn ein Seminar Digidol.

Roedd ein seminar yn edrych ar ddulliau digidol, ond yn realiti dim ond rhan bach o’r seminar oedd am dechnoleg. Yn lle hynny, roedd seminarau’r Gogledd a’r De yn canolbwyntio ar y camau y gallai sefydliadau eu cymryd i ddatblygu meddylfryd Digidol a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Councilllor Barry Parsons speaking during a panel discussion / Y Cynghorydd Barry Parsons yn siarad yn ystod trafodaeth panelFe wnes i gynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all y “gwneuthurwyr newid” sy’n mynd i ddigwyddiadau fel anghynhadleddau newid yr arfer a’r ymddygiad o fewn eu mudiadau er mwyn ymgorffori’r dysgu ohono. Un o’r cwestiynau a ofynnais yn ystod y sesiwn oedd ar rôl arweinwyr wrth ymgorffori newid, gan eu bod nhw mewn sefyllfa i arwain trwy esiampl a dangos yr ymddygiad y dylai’r sefydliad arddangos.

Gyda hyn mewn golwg, roedd yn wych i ddysgu mwy am rai o’r pethau sy’n digwydd yng Nghyngor Sir Dyfnaint, lle mae’r Cyng. Barry Parsons (sy’n Aelod Cabinet am Berfformiad ac Ymgysylltu) wedi datblygu perthynas hyfforddi gyda Carl Haggerty er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r rôl y gallant ei chwarae wrth fewnosod meddylfryd Digidol o fewn y cyngor.

Newid ein perthynas â’r cyhoedd

Clywsom yr un neges o bob aelod o’r panel yn ystod y sesiwn lawn am sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus ddechrau gydag anghenion defnyddwyr. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ailfeddwl sut maen nhw’n gweithio, ac roedd cwestiynau cynrychiolwyr yn dangos eu bod nhw’n meddwl am sut gallan nhw ddechrau ail-fframio’r berthynas rhwng ein sefydliadau a’u cymunedau.

Cyflwynodd y Cyng. Barry Parsons pwyntiau grêt ar sut y mae’n gwneud hynny yn y gweithdy ar Gynnwys Aelodau Etholedig mewn ymagwedd ddigidol. Siaradodd am ei rôl fel Aelod Cabinet (ac mae hyn hefyd yn rhan o rôl arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill), lle mae’n gweithio i ddatblygu ymddiriedaeth am weithredu a chydweithio systemig, o fewn a thu allan i’r sefydliad.

Mentro i fod yn agored i niwed

Siaradodd y Cyng. Parsons am y pwysigrwydd o fod yn agored er mwyn datblygu’r ymddiriedaeth honno, ac fe rannodd y fideo gwych yma gan Peter Sharp yn TEDx Perth.

Mae’r Cyng. Parsons yn rhannu ei gwendidau ei hun yn y Cyngor. Er mai Carl Haggerty yw’r arbenigwr digidol o ddydd i ddydd, rhaid i’r Cyng. Parsons gwneud penderfyniadau mawr, gwybodus ar y pwnc. Drwy fod yn i fod yn agored i niwed mae’n dysgu mwy am Ddigidol, ac mae’n adeiladu parch cilyddol gyda Carl. Maen nhw’n rhannu credoau cyffredin a’r bwriad o ddod â swyddogion ag aelodau ynghyd i yrru’r agenda yn ei blaen.

Pan wnaethon ni cynllunio’r seminar, datblygodd Y Lab personas gyda ni am bobl a ddylai fynychu’r digwyddiad. Roedd hyn yn newid yn ein hymagwedd, gan ein bod ni fel arfer yn targedu swyddi penodol. Roedd hyn oherwydd ein bod ni’n cydnabod bod hierarchaeth sefydliadol yn gwahanu’r wybodaeth o fewn sefydliadau o’r awdurdod wrth wneud penderfyniadau. Drwy fod yn agored i niwed, mae’r Cyng. Parsons yn gallu dod a’r wybodaeth a’r awdurdod at ei gilydd i wneud penderfyniadau gwybodus fel y gall y cyngor fod mewn sefyllfa well i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Mae’n wych clywed bod aelod etholedig yn cymryd ymagwedd o’r fath i ddatblygu eu gwybodaeth. Os yw eich sefydliad yn galluogi aelodau etholedig, aelodau anweithredol neu ymddiriedolwyr i wneud rhywbeth tebyg, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn.

Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i ychydig o waith ymlaen llaw ar beth roeddwn i’n ystyried yn faterion allweddol a sut allwn eu datrys, ond roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y syniadau a phrofiadau’r bobl a oedd yn bresennol. Felly rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ac i bawb a gyfrannodd cyn, yn ystod ac ar ôl y brif drafodaeth. Mae’r Storify yn rhoi trosolwg da o’r hyn a ddywedwyd yn ystod y dydd.

Felly o ran fy sesiwn i, dyma’r pethau allweddol a ddysgais:

Mae arweinyddiaeth yn bwysig

Efallai bod hyn yn ddatganiad gwbl amlwg, ac mewn rhai synhwyrau y mae hynny’n wir. Buom yn siarad am sut y mae ymddygiad staff yn debygol i ddilyn ymddygiad arweinwyr o fewn ein sefydliadau. Serch hynny, roedd yn galonogol i gael trafodaeth am beth yw arweinydd – nid jyst y bobl sydd ar frig trwy hierarchaeth, gallwn fod yn sôn am arweinyddiaeth trwy feddylfryd, neu efallai staff sy’n penderfynu arwain newid neu i feithrin y rôl mewn pobl eraill. Mae’n rhy hawdd i ildio cyfrifoldeb am hyn i bobl eraill achos nad oes gennym rôl benodol, felly roedd yn wych i glywed mynychwyr siarad am sut y gallan nhw fynd i’r afael â’r cyfrifoldeb. Ond hefyd trafodom sut y mae rhai sefydliadau yn gweld ‘mavericks’ fel gelynion, felly mae’n bwysig i feddwl am sut yr ydych chi’n cael eich gweld o fewn eich sefydliad.

Mae ymddygiad da arweinwyr yn dechrau gyda phethau syml iawn fel dweud “Diolch” fel bod staff yn teimlo bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Siaradodd Spice Caerdydd am gael agendâu agored ar gyfer cyfarfodydd, ac fe wnaethom hefyd siarad am y pwysigrwydd o gymryd risgiau. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn amharod i gymryd risgiau, ond wnaethom edrych bach yn fanylach ar hyn er mwyn meddwl am pam mae hynny’n wir. Codwyd pwynt arbennig, sef “bod gan y bobl sy’n cynllunio newid llai i golli na’r bobl sy’n ei weithredu”, ac fe wnaeth hyn canu cloch i mi. Felly os ydym am i bobl gweithio mewn modd gwahanol, rhaid i ni sicrhau bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi os mae pethau’n mynd o le. Siaradom am ddulliau o leihau risg, yn enwedig sut all prototeipio arddangos ffyrdd newydd o weithio os mae rhywun yn meddwl bod dull newydd yn amhosib.

Mae deddfwriaeth yn gleddyf a tharian

Rwy’n caru’r dyfyniad yma, a ddaeth o drafodaeth ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Siaradom am sut allai’r ddeddf cael ei ddefnyddio fel tarian i ddiogelu staff sy’n ceisio sicrhau newid drwy ddarparu sail resymegol glir amdano, neu gleddyf i sbarduno’r newid ac i ymladd ar gyfer newid ystyrlon o fewn ein sefydliadau. Roedd pawb yn cytuno y dylid alinio dulliau o gyflawni newid, a hefyd does yna ddim dull “un maint i bawb”. Mae deddfwriaeth yn bendant yn chwarae rôl wrth newid ymddygiad, ond mae hyn hefyd yn wir amdano ddiwylliant, arweinyddiaeth, gwleidyddiaeth a’r cyhoedd rydym yn gweithio gydag ac ar eu cyfer. Mae angen dulliau a thactegau amrywiol fel ein bod ni’n defnyddio’r offer mwyaf priodol ar gyfer unrhyw sefyllfa.

160924-GCCY-187

Llun gan Nigel Bishop o GovCamp Cymru

Rydym yn dysgu trwy siarad, meddwl a gwneud

Roedd y sesiwn yn ffocysu ar newid sefydliadol, ond serch hyn doedd neb o adran Adnoddau Dynol yn cymryd rhan yn ein trafodaeth ni. Beth bynnag, y consensws oedd bod dysgu sefydliadol yn bwnc rhy bwysig i’w adael i un tîm canolog a bod rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb fel unigolion, yn enwedig gan fod cynifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Cytunodd pawb mai un o’r ffyrdd y gall anghynhadleddau ychwanegu gwerth yw trwy dyfu rhwydweithiau a rhannu beth mae pobl eraill wedi dysgu. Ond rhaid i ni ystyried pa mor gynhwysol ydyn ni – ydyn ni’n dod â phobl eraill o fewn ein sefydliadau gyda ni ar y daith newid? Fel y soniais yn y drafodaeth, mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost wych lle mae’n myfyrio ar sut mae e’n dysgu a sut y mae’n helpu pobl eraill. Ffordd arall o ymgorffori newid o fewn sefydliad yw cael rhywun sydd eisoes wedi gwneud y gwaith hynny i ddod i mewn i siarad am y peth ac i ddangos y gwahaniaeth. Gall y cysylltiadau o anghynhadleddau ein helpu ni i ledaenu arferion da a ffyrdd newydd o weithio.

Roedd yna hefyd drafodaeth ynghylch rolau ‘hyrwyddwr’ o fewn y sefydliad, lle mae’r baich o ledaenu’r newid yn cael ei gymryd i ffwrdd o unigolyn a’i rhannu’n ehangach. Rhoddwyd enghraifft o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae’r cyfrifoldeb wedi cael ei rannu o amgylch aelodau staff i ymgorffori’r newid diwylliannol o fewn eu timau er mwyn cwrdd â gofynion y ddeddf.

A fydd GovCamp Cymru yn helpu i newid ymddygiad?

Mae’r pwyntiau a godwyd yn fy sesiwn wedi gwneud i mi feddwl eto am sut mae newid yn digwydd o fewn sefydliadau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ble rydym yn edrych ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio data a thechnoleg, y tybiaethau rydym yn cymryd yn ganiataol, a sut allwn ni cynnig atebion radical i unrhyw anawsterau wrth i ni newid ein prosesau archwilio a busnes. Os ydym yn edrych i drawsnewid ein gwaith yn y modd hwn, rhaid i ni ddod â’n cydweithwyr gyda ni ar y daith. Mae’r adborth o’r sesiwn hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddechrau’r gwaith newydd yma, ac fe fyddwn i wrth fy modd i glywed o unrhyw un arall sydd wedi rhoi beth wnaethon nhw ddysgu o’r sesiwn ar waith o fewn eu sefydliadau fel ein bod ni’n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

GovCamp Cymru 2016: Newid ymddygiad i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut gall theori newid ymddygiad helpu ni i roi syniadau o anghynhadleddau ar waith mewn sefydliadau? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ei syniad am sesiwn yn GovCamp Cymru.

Logo GovCamp Cymru / GovCamp Cymru's Logo

Eleni fydd fy nhrydydd GovCamp Cymru, ac am yr ail flwyddyn yn olynol mae’n cael ei chynnal yn Adeilad y Pierhead Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Os nad ydych chi wedi clywed amdano’r digwyddiad o’r blaen, mae GovCamp Cymru yn anghynhadledd, ble mae mynychwyr yn ffurfio’r agenda drwy bitsio syniadau ar gyfer sesiynau ar ddechrau’r dydd. Dydw i ddim wedi pitsio eto mewn unrhyw anghynhadledd, ond rwy’n meddwl bod yr amser wedi dod!

Newid ymddygiad

Eleni mae Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio ar Wyliau Newid Ymddygiad ledled Cymru, gyda’r digwyddiad yn Abertawe yn cymryd lle yn yr wythnos cyn GovCamp Cymru. Rydw i wedi clywed am ddulliau arbennig o newid ymddygiad yn ystod y misoedd diwethaf, o’r app Chimp Shop sy’n helpu pobl i dorri lawr ar eu hyfed i’r WiFi sy’n annog pobl i symud mas o’r haul.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut all ddamcaniaeth Newid Ymddygiad helpu newid i gymryd lle o ganlyniad i anghynhadledd. Yn bersonol, rydw i wedi ffeindio bod anghynadleddau yn ddigwyddiadau arbennig sy’n helpu pobl i ddatblygu eu meddylfryd ac i gael cysylltiadau newydd. Mae lot o anghynhadleddau yn haeddiannol falch eu bod nhw’n denu pobl angerddol sy’n barod i fynd i ddigwyddiad yn amser eu hunain er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Ond beth sy’n digwydd pan ni’n mynd nôl i’r swyddfa i geisio perswadio pawb arall i brynu i mewn i’r syniadau gwych rydym wedi cael neu clywed dros y penwythnos? Sut ydyn ni’n perswadio ein cydweithwyr i wneud yr arloesi yn realiti?

Ychydig o theori i roi man cychwyn

Dyma beth hoffwn i edrych arno yn fy sesiwn i. Sut ydyn ni’n dod â’n gydweithwyr gyda ni ar y siwrne o wella gwasanaethau cyhoeddus? Fel man dechrau, mae Chris Bolton wedi ysgrifennu blogbost da ar sut i gael pobl eraill i dderbyn eich syniadau. Dyma grynodeb sylfaenol iawn (a braidd yn greulon, sori Chris!), ble gall pobl:

  • Esgus dydyn nhw ddim yn rebel
  • Cael arweinwyr ar eu hochr nhw
  • Aros nes yr adeg ddelfrydol
  • Neu ddod o hyd i sefydliad sy’n eich derbyn chi

Mae gan Helen Bevan gyflwyniad gwych sydd wedi’i anelu’n uniongyrchol at wneuthurwyr newid sy’n awgrymu bod pobl yn:

  1. Dechrau gyda’u hunain
  2. Gweithio allan beth allai helpu pobl eraill i newid
  3. Adeiladu cynghreiriau
  4. Osgoi fod yn ferthyr

Felly os yw’r rhain yn llefydd da i ddechrau (dewch i fy sesiwn os ydych chi’n anghytuno!), sut allwn ni alluogi ymddygiad cadarnhaol a gwella gwasanaethau o ganlyniad i anghynhadleddau? Byddai’n grêt i glywed am enghreifftiau o sut mae pobl wedi cael eu cydweithwyr i brynu i mewn i newidiadau er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Trwy ddod a’n profiadau a’n gwybodaeth at ei gilydd, rwy’n siŵr gallwn weithredu newidiadau’n well a gwella ein gwaith.

Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital.

Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu ffurf bresennol.

Mae Phil Rumens wedi ysgrifennu blogbost grêt ar y pum cam o drawsnewid digidol. Mae hyn yn dangos y gwerth ychwanegol o feddwl am wasanaethau o ran darpariaeth ddigidol. Rydw i wedi bod yn feddwl amdano’r cysyniad yma’n ddiweddar, felly wnaeth fy nhrafodaeth Dadfentora i gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint cymryd lle ar yr amser perffaith.

Agwedd digidol Dyfnaint

Mae Kelly wedi ysgrifennu blogbost gwych sy’n amlinellu pam y dylai ni cyhoeddi gwybodaeth ar-lein mewn ffordd wahanol i gyfryngau print traddodiadol. Mae hi hefyd wedi rhoi enghraifft wych o sut maen nhw wedi rhoi’r syniad yma ar waith ar ôl iddynt gael ei ofyn i greu cyfeiriadur bapur o wasanaethau lleol ar gyfer cyn-filwyr.

Penderfynodd y Tîm Cyfathrebu doedden nhw ddim yn gallu cefnogi hwn achos byddai’n dyddio bron ar unwaith. Mae fe hefyd yn anodd mesur effeithiolrwydd y cyfeiriadur, doedd dim cyllideb i’w ailargraffu neu ei chynnal a doedden nhw ddim wedi cynllunio ffordd o gael y cyfeiriadur i gyn-filwyr.

Llun o wefan arfaethedig Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer cyn milwyr

Llun o wefan arfaethedig Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer cyn milwyr

Roedd e’n braf clywed sut wnaeth y cyngor edrych ar sut allan nhw roi cymorth i’r prosiect yn hytrach na’i rhwystro. Edrychodd y tîm ar sut gallan nhw greu cynnyrch ar-lein gwell ar gyfer cyn-filwyr yn Nyfnaint (neu bobl sydd ar fin fod yn gyn-filwyr ac sy’n edrych i ddod i Ddyfnaint).

Fe wnaeth Kelly cyfarfod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chyn-filwyr i drafod y posibiliadau, a diwygiwyd y cynllun o adborth Partneriaeth Lles y Lluoedd Arfog. Yna cynhaliwyd sesiwn gyda chyn-filwyr i ffeindio allan beth oedden nhw eisiau gwybod, sut byddan nhw’n chwilio amdano fe a sut oedden nhw eisiau’r gwefan i edrych. Fe wnaeth Kelly creu map o’r wefan a’r cynnwys, tra roedd dylunydd yn creu’r ffrâm gwifren.

Bydd fersiwn cyntaf y safle yn mynd yn fyw ar 8 Rhagfyr. Yn sydyn mae argraffiad o gyfeiriadur tymor byr wedi datblygu i fod yn gynnyrch sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac yn cael effaith tymor hir – gwych!

Beth wnes i rannu?

Fe wnaeth Kelly crybwyll y gwerth ychwanegol y gallai’r tîm gyfathrebu adio i waith cyfathrebu Cyngor Dyfnaint. Siaradais i am gyflwyniad yr Athro Ros Searle yn ein digwyddiad dysgu ar y cyd ar ymddiriedaeth staff. Roedd un o bwyntiau Ros ar sut all cyfathrebu mewnol da cadw ac adeiladu ymddiriedaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl adroddiad CIPD ar ymddiriedaeth, mae uwch reolwyr yn rhy optimistaidd o ran ymddiriedaeth gweithwyr rheng flaen ynddynt, gan nad yw 34% o staff yn ymddiried yn eu huwch reolwyr. Mae’r broblem yn arbennig o ddifrifol mewn sefydliadau sy’n fwy o faint, ac yn enwedig sefydliadau hierarchaidd ble mae staff yn meddwl bod yna gofod rhwng rheolwyr a’u staff. Mae cyfathrebu mewnol yn bwysig iawn i sicrhau nad yw diffyg ymddiriedaeth yn troi’n ymddygiad gwrthgynhyrchiol fel dwyn a thwyll. Gan fod 37% o foddhad swydd yn dod o ymddiriedaeth, mae staff sy’n gweithio i sefydliad sydd gydag ymddiriedaeth uchel yn fwy tebygol o roi mwy o ymdrech, ac yn cydweithio, recriwtio a pherfformio’n well.

Mae ymddiriedaeth hefyd yn gysylltiedig ag arloesedd. I fynd yn ôl at bwynt yr Archwilydd Cyffredinol, bydd staff yn barod i gymryd risgiau sydd wedi’u reoli’n dda os dydyn nhw ddim yn meddwl bydd eu rheolwyr yn eu cefnogi? Mae ymddiriedaeth yn allweddol ar gyfer y math o arloesi sydd angen arnom mewn cyfnod ble mae adnoddau’n dirywio.

Bara Brith Camp

Byddai’n rhannu’r negeseuon allweddol o’r digwyddiad Ymddiriedaeth Staff yn Bara Brith Camp, sy’n ddigwyddiad am ddim o’r Satori Lab er mwyn rhoi lle i barhau’r sgyrsiau a ddechreuwyd yn GovCamp Cymru. Os wnaethoch chi golli’r anghynhadledd, rydym wedi cynhyrchu Storify a fideo i grynhoi’r diwrnod.

Rwy’n gobeithio gweld chi yna – rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda mynychwyr sut y gallwn ni helpu i wella lefelau ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i hybu lefelau o gynhyrchiant ac arloesedd yn y broses.

Rheoli rhaglenni a phrosiectau ystwyth

Leading Programmes and Projects / Arwain Rhaglenni a Phrosiectau

Fel rhywun syth byth wedi bod unrhyw le’n agos i reoli prosiect, roedd lot i mi ddysgu o’n seminar dysgu a rennir ar Arwain Rhaglenni a Phrosiectau.

Yn ddiweddar, rydw i wedi gweld y gair ‘ystwyth’ bron ym mhobman. Roedd lot o’r trafodaethau yn GovCamp Cymru ynglŷn â sut mae Gov.UK wedi newid y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus, gyda’r ddisg treth a’r DVLA yn benodol yn cael lot o ganmoliaeth. Gan fy mod i wedi dilyn datblygiad Gov.UK a’i bwriad o symleiddio sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, roedd gen i diddordeb i ddysgu mwy am y dull Ystwyth a gafodd ei ddefnyddio.

Yn ffodus i mi, fe wnes i hwyluso gweithdy James Scrimshire o AdaptAgility ar Arweinyddiaeth Gwas a rheoli rhaglen a phrosiect Ystwyth. Roeddwn i wedi darllen am rai o weithdai James ar blog Chris Bolton, felly roeddwn i’n edrych ymlaen atynt. Yn anffodus doedd dim gêm o Battleships y tro ‘ma, ond roedd y gweithdy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar Arweinyddiaeth Gwas.

Roedd yna lot o dermau newydd yn y gweithdy, ond beth wnaeth taro fi oedd bod rhain yn ddatblygiadau o syniadau sydd eisoes yn cael ei ystyried fel ffyrdd newydd o ddarparu prosiectau gwasanaethau cyhoeddus. Yn y tîm arfer da, ni’n cydnabod yn glir dyw’r un dull ddim yn addas i bawb. Ond o gofio sut mae’r dull yma’n grymuso pobl, mae’n sicr yn werth edrych arno.

Un o’r pethau wnes i hoffi mwyaf amdano Arweinyddiaeth Gwas oedd y ddeinamig pŵer, gan ei fod yn rhoi anghenion pobl eraill yn gyntaf ac yn helpu iddynt ddatblygu a chyflawni’u gwaith. Mae’n groes i rôl draddodiadol y rheolwr, ble maen nhw’n cadw’r pŵer i’w hun. Wrth i mi wrando ar James yn trafod y cysyniad, fe wnaeth e daro fi ei fod wedi’i gysylltu’n agos ag ymgysylltiad da gyda staff. Mae’r dull yn adeiladu ar ysgogi staff a sicrhau bod eu lleisiau nhw’n cael eu clywed.

James Scrimshire o AdaptAgility

James Scrimshire o AdaptAgility

Rôl y Meistr Sgrym yw cael gwared ar rwystrau fel bod y tîm yn gallu diwallu amcanion y prosiect. Er doedd cyflwyniad Richard Wilson ddim ar Reolaeth Ystwyth, roedd yna gysylltiadau uniongyrchol rhwng ei bwyntiau ar yr angen i reolwyr grymuso’r gweithlu a’r athroniaeth ystwyth.

Rhag ofn eich bod chi’n meddwl bod Rheolaeth Ystwyth jyst ar gyfer prosiectau digidol, mae’r blog yma gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhoi digon i feddwl amdano. Mae’r blogbost yma’n rhoi lot o sgôp o’i roi ar waith, o newid sefydliadol i recriwtio.

Achos dydw i ddim wedi gael unrhyw brofiad uniongyrchol o arweinyddiaeth fy hunain, helpodd y sesiwn fi i ailddiffinio fy nealltwriaeth i o arweinyddiaeth dda. Dyw arweinyddiaeth gref ddim amdano bŵer; mae fe amdano alluogi staff i wella eu rhaglenni a’u prosiectau.

Dyfrig

Adolygiad o sesiwn Miri Mawrth

GovCamp Cymru

Dyma blogbost gwadd gan Helia Phoenix o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n edrych yn ôl dros sesiwn ‘Gwallgofrwydd Mawrth’ yn GovCamp Cymru. Cafodd y sesiwn ei redeg gan Jo Carter o’r Satori Lab, sydd hefyd wedi blogio am y pwnc.

Os ydych chi’n gweithio mewn tîm prysur fel fi, gyda phawb yn rhuthro i wneud eu gwaith, fe fyddwch chi’n wrthi’n brysur drwy’r dydd. Dylai cyllidebu am y flwyddyn i ddod fod yn un o brif flaenoriaethau eich gwaith, a dylech ailedrych ar y cynllun gydol y flwyddyn, gan wneud newidiadau fel bo angen. Ond dyw rhai pobl ddim yn ymdopi cystal ag y gallen nhw. Unigolion o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fu’n cymryd rhan yn y sesiwn, a buom yn trafod y prinder arian dybryd sydd yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, sy’n golygu ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gyllidebu’n gall. Rhannodd y grŵp enghreifftiau o arferion da o sut i reoli cyllideb.

Helia Phoenix at GovCamp Cymru / Helia Phoenix yn GovCamp Cymru

Photo by Sasha Taylor, available at http://bit.ly/1sFVNQ4 / Llun gan Sasha Taylor, ar gael o http://bit.ly/1sFVNQ4

Cafwyd dwy enghraifft ardderchog; un syml iawn, y gallai unrhyw un ei gyflawni yn eu tîm eu hunain, ac un arall llawer mwy cymhleth a fyddai’n gofyn am gymorth eich uwch reolwyr.

1 – yr ateb syml gan Gyngor Torfaen. Gydol y flwyddyn, mae’r tîm hwn yn gweithredu drwy wario ar bethau sy’n hanfodol i fusnes, ond mae hefyd yn gwneud rhestr o bethau y byddent yn eu gwneud pe bai arian i’w gael ar ddiwedd y flwyddyn (uwchraddio eu technoleg, prynu meddalwedd newydd efallai, ac ati). Yna, ym mis Chwefror, os yw’r tîm wedi tanwario, fe all ddefnyddio’r arian i wario ar bethau o’r fath. Felly, mae’r tîm yn dal i brofi patrwm gwario ‘Miri Mawrth’ ond mae’n gwneud hyn gyda threfn sy’n sicrhau ei fod yn defnyddio’r arian yn y ffordd orau bosibl.

2 – yr ateb cymhleth. Mae gan Gyngor Sir Fynwy gronfa ganolog o arian a ddefnyddir fel cronfa arloesi. Mae adrannau sy’n llwyddo i arbed arian ac sydd wedi tanwario ar ddiwedd y flwyddyn yn cyfrannu’r arian i’r gronfa honno. Defnyddir hanner yr arian i dalu dyledion, ond mae’r hanner arall ar gael i adrannau wneud cais amdano. Maent yn cyflwyno syniadau am brosiectau maent am eu cynnal, a bydd yr uwch reolwyr yn penderfynu sut i ddosbarthu’r arian i’r prosiectau hynny. Mae hyn yn gwobrwyo adrannau am drefniadau rheoli ariannol da, ac yn rhoi rhywfaint o ryddid iddynt arbrofi gyda gwahanol ddulliau o gyflawni eu gwasanaethau na fyddent wedi gallu rhoi cynnig arnynt fel arall o bosibl.

Helia Phoenix at GovCamp Cymru / Helia Phoenix at GovCamp Cymru

Photo by Sasha Taylor, available at http://bit.ly/1om3AUS / Llun gan Sasha Taylor, ar gael o http://bit.ly/1om3AUS

Efallai na lwyddwch chi i berswadio unrhyw un yn eich sefydliad i weithredu Ateb 2, ond mae Ateb 1 yn ffordd hawdd iawn o drefnu gwariant fel bo arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl, ac mae’n hawdd iawn i’w wneud. Gall unrhyw un roi hyn ar waith.

– Helia

Edrych nôl dros GovCamp Cymru

GovCamp Cymru

Er doeddwn i byth wedi bod yn rhan o anghynhadledd o’r blaen, roedd gen i ychydig o syniadau o beth byddai’n digwydd fel rhan o GovCamp Cymru. Roedd gen i ddiddordeb i weld beth fyddai’n wahanol i beth rwy’n galw yn gynhadledd darlledu draddodiadol, lle mae siaradwyr yn rhannu eu barn am bwnc arbennig fel rhan o agenda sydd wedi cael ei benderfynu o flaen llaw.

Cafodd fy mhrofiad blaenorol ei droi yn wyneb i waered mewn y ffordd gorau posib. Roedd gwylio a gwrando ar bobl yn pitsio syniadau yn profiad da, ac roedd hi’n grêt i weld mynychwyr yn penderfynnu gyda’u traed am ba sesiwn i mynd i, ac i helpu i lunio a rhannu atebion.

Fe wnes i gael fy synnu ar yr ochr orau ar ba mor bell roedd pobl wedi trafaelu i fod yn bresennol, gyda mynychwyr o Gymru yn teithio o Dyddewi yn y Gorllewin a Bangor yn y Gogledd, ac roedd eraill wedi teithio o Lerpwl a Llundain o’r ochr arall i’r ffin.

Ar ddechrau GovCamp Cymru, gofynnwyd pwy oedd wedi dod i ddigwyddiad GovCamp am y tro cyntaf. Trwy ddefnyddio’r hen broses ddemocrataidd o godi llaw, roedd hyn yn wir am tua 70% o bobl. Felly cafodd unrhyw syniad bod hyn yn ddigwyddiad i’r un hen bobl ei chwalu’n llwyr.

Gwrandewch i brofiadau rhai o’r mynychwyr eraill.

Roedd yna lot o rannu syniadau ac ymagweddau gwahanol. Gofynnodd lot o bobl i mi ‘ydych chi ar Twitter? Fe wnâi anfon dolen i chi ar beth ni’n siarad amdano.’ Felly cafodd gwybodaeth ei rhannu mewn chwinciad.

Os ydych chi’n meddwl am GovCamp Cymru fel ymgynulliad o bobl sydd eisoes o’r un ewyllys, roedd gen i ddiddordeb am ba wahaniaeth byddai’r digwyddiad yn gwneud pan fyddem ni gyd nôl wrth ein desgiau ar fore Llun. Fe wnaeth un person hyd yn oed dweud bod yna ‘dydd Sul cyntaf, a bydd cyfryngau cymdeithasol yn galluogi sgyrsiau newydd i ddechrau, ac eraill i barhau a ffynnu.’

GovCamp Cymru

Y bore canlynol fe wnes i ddarllen y trydar o dan hashnod #gccy14, ble roedd pobl yn ddiolchgar i drefnwyr a noddwyr y digwyddiad. Roedd yna hefyd tystiolaeth bod pobl yn rhannu mwy o wybodaeth a syniadau, a gofyn cwestiynau am sesiynau penodol.

A dyna ble wnes i bigo fyny mwy o wybodaeth am y sesiynau wnes i ddim mynd i. Fe wnaeth Jo Carter o’r Satori Lab pitsio am Wallgofrwydd Mawrth. Mae hi eisoes wedi blogio arno ac wedi rhannu’r allbynnau defnyddiol iawn.

Felly o ganlyniad, rydyn ni’n mynd i rannu blog Jo i helpu i hyrwyddo ei dull syml ond defnyddiol ar y mater blynyddol o wariant blynyddol. Roedd nifer o fynychwyr eraill yn meddwl hynny hefyd, felly byddwn eu safbwyntiau nhw trwy ein blog, sy’n dystiolaeth yn ei hun o effaith GovCamp Cymru.

Ena