Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd.

Llun o swigen siarad sy'n cysylltu pobl â chymylau, lluniau a dogfennau

Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd.

Dyma fy marn am y digwyddiad a’r chwe neges allweddol a arhosodd yn y cof, sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, â dim i’w wneud â llwyfannau digidol mewn gwirionedd…

1. Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl… rhaid i ni gael dealltwriaeth glir o’r hyn mae’n ei olygu i ni

Dechreuodd y digwyddiad gydag anerchiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Yn ei anerchiad nododd; yn gwbl gywir: “Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl.”

Mae hyn yn wir ac rwy’n credu bod hyn yn broblem enfawr. Pan mae’n dweud bod angen dealltwriaeth glir arnom o’r hyn y mae’n ei olygu i ‘ni’ credaf fod angen un diffiniad clir arnom y mae pawb yn ei ddeall. Dyma’r unig ffordd y gallwn gael sgyrsiau cyson a gwneud penderfyniadau cyson.

Mae Cyngor Fwrdeistref Metropolitanaidd Rotherham newydd ryddhau ei strategaeth ddigidol newydd (fel PDF) sy’n egluro bod ‘llwyfannau digidol’ yn arwain taith Rotherham i fod yn awdurdod modern. Mae’n cysylltu â strategaethau llwyfannau digidol iechyd lleol, ond ymddangos nad yw’n cysylltu â newid diwylliant ehangach na strategaeth ailgynllunio gwasanaeth. A yw digidol yn golygu’r un peth i CBF Rotherham ag y mae i SAC neu i Gyngor Sir Dyfnaint? A allwn gydweithio’n effeithiol os nad oes gennym ddiffiniad cytûn?

2. Nid ystyr llwyfannau digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol

Aiff Huw Vaughan Thomas ymlaen i egluro: “Nid ystyr digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol.”

Sydd yn dechrau ein symud tuag at ddiffiniad o ddigidol, ac yn awgrymu ein bod yn dechrau trafod newid diwylliant a thrawsnewid gwasanaeth, ac nid creu strategaeth ddigidol newydd.

3. Mae camgymeriadau’n anochel; rhaid i ni beidio â chilio rhag hynny

Hefyd o anerchiad Huw Vaughan Thomas. Dyma un diddorol. Petai synnwyr cyffredin yn rhywbeth go iawn mae’r datganiad hwn yn teimlo fel y byddai’n enghraifft glasurol. Wrth gwrs bod pobl yn gwneud camgymeriadau; mae’n un o’r nodweddion sy’n ein diffinio a sut rydym yn gwybod nad peiriannau ydym does bosibl? Ac eto, mae’n teimlo’n rhyfeddol o radical cael archwilydd yn sefyll i fyny ac yn dweud hyn. Mae hefyd yn teimlo’n hynod gadarnhaol a (gobeithio) yn rhyddhaol.

Rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant sy’n tybio y gellir ‘polisïa’ pob camgymeriadau rhag eu bod yn digwydd petawn ni ond yn llunio polisïau digon caled. Yn hytrach, rhaid i ni annog myfyrio, dysgu a chyfrifoldeb unigol. Yn ôl i newid diwylliant eto.

Ar ôl anerchiad yr Archwilydd Cyffredinol mae yna sesiwn holi ac ateb gyflym gyda’r panel. Caiff y cwestiynau cyntaf eu paratoi gan y trefnwyr, ond daw’r gweddill o blith y gynulleidfa – mae’n ddull o weithredu gwych i gael pobl i gymryd rhan ac mae’n gweithio’n dda iawn.

4. Ni allwn ‘weithredu’n ddigidol’ nes ein bod yn deall beth sydd ei angen ar ddinasyddion mewn gwirionedd

Mae fy null diseremoni o gymryd nodiadau’n golygu nad wyf wir yn gwybod pa aelod o’r panel ddwedodd hyn, ond roedd yn un ohonynt yn sicr.

Caf e-bost bob yn ail diwrnod gan gwmni datblygu meddalwedd yn dweud wrthyf sut mae eu porth cwsmer yn mynd i chwyldroi systemau swyddfa gefn ac arbed arian. Mae ganddynt hyd yn oed fideo geirda cwsmer crand sy’n cynnwys rheolwr TG awdurdod lleol yn egluro sut mae’r trawsnewid digidol hwn wedi arbed cymaint o arian iddo ac wedi tacluso ei holl systemau swyddfa gefn, a does neb byth yn crybwyll anghenion defnyddwyr.

Ni allwn roi adnoddau digidol ar waith nes ein bod yn gwybod bod eu hangen arnom a’u bod yn datrys y broblem gywir – a gallwn ond gwneud hyn os ydym yn siarad â’n dinasyddion? Yn ddiau gallwn ond gwneud hynny os ydym yn cyfleu ein diben yn glir a’n bod yn deall pam ein bod yn gwneud unrhyw beth o gwbl? Beth sydd ei angen arnom yw newid diwylliant a dull gweithredu gwahanol ar gyfer deall ein dinasyddion.

5. Nid problemau technoleg yw’r rhain… galluogydd yw llwyfan digidol. Ni fydd prynu llwyth o iPads yn newid eich diwylliant.

Dyfyniad hynod glir gan yr Athro Tom Crick yn ei weithdy Gweithlu digidol gymwys, digiol alluog. I mi mae’r sesiwn hon yn codi rhai cwestiynau gwirioneddol ddiddorol am alluoedd digidol.

  • A oes yna safon ddigidol sylfaenol y mae angen i’n gweithlu ei chyrraedd?
  • Os oes, oni ddylai fod yn rhan o’n disgrifiadau swydd?
  • A oes gennym hierarchaeth o allu digidol yn ein gweithlu gydag ‘elît’ digidol sydd â llawer o sgiliau ac sy’n gweithio mewn ffyrdd tra gwahanol i’r gweddill sydd y tu ôl iddynt?
  • Sut ydym yn gwneud yn siŵr bod staff yn dysgu sgiliau digidol newydd yn hytrach na dysgu sut i ddefnyddio darnau o feddalwedd patent ar wahân?
  • A oes gennym uwch arweinwyr sy’n gwybod digon am lwyfannau digidol i wneud y math yma o benderfyniadau?
  • A oes angen haciwr cymwynasgar ar bob sefydliad ar y prif fwrdd, sy’n meddu ar rym go iawn?

Sy’n golygu mae’n debyg bod angen i ni edrych ar newid ein diwylliant o ran hyfforddiant staff a recriwtio.

Hefyd yn y gweithdy hwn rwy’n rhannu stori am ddarn o waith a wnaethom o dan y pennawd ‘gofynnwch am faddeuant, nid caniatâd’ sy’n gwneud i geg cyfranogwr arall agor mewn sioc yn llythrennol.

6. A allwch adeiladu timau prosiect amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?

Ar gyfer y sesiwn olaf mynychais y gweithdy Dysgu o Rwydwaith Arloeswyr Digidol a gafodd ei gynnal gan Jess Hoare ac Amy Richardson o Y Lab sy’n cynnwys malws melys a sbageti.

Mae Y Lab yn labordy arloesed ar gyfer y sector cyhoeddus a grëwyd gan Nesta ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt rai adnoddau ymarferol, gwych – y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar wefan Nesta.

Mae’r gweithdy yn cynnwys sesiwn ateb cwestiynau cyflym gyda rhai cwestiynau pryfoclyd fel ‘[Yn eich sefydliad] Beth yw rôl ganfyddedig TG?’ ac ‘A allwch adeiladu timau proseict amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?’. Yna rydym yn nodi problem ddigidol a defnyddio adnoddau Nesta, a chymorth a mewnbwn gan Jess ac Amy, i ddatrys y mater.

Yn weddol gyflym rydym yn dechrau trafod cyfleu’r broblem, nodi defnyddwyr, deall anghenion a chasglu tystiolaeth. Rydym yn treulio gweddill y sesiwn yn edrych, yn ei hanfod, ar ail-ddylunio’r gwasanaeth a’r prosesau.

Y broblem gyda thrawsnewid digidol

Gwnaeth pob sgwrs a gefais yn y digwyddiad hwn a ddechreuodd gyda thrawsnewid digidol orffen gydag edrych ar newid diwylliant a thrawsnewid systemau.

Credaf fod angen i ni gael diffiniad cytûn o ystyr digidol a daeth yn amlwg yn ystod y digwyddiad hwn fod llawer o bobl – ond yn sicr nid pawb – yn deall mai galluogydd yw llwyfannau digidol ac nid y diben ynddo’i hun. Baswn i’n dweud nad oes angen strategaethau digidol arnom (sori Rotherham) ond yn hytrach mae angen strategaethau trawsnewid systemau sy’n cynnwys galluogwyr digidol arnom. Mae angen i ni ddechrau gyda diben a dechrau gyda defnyddwyr a deall beth yw ein diben a beth sydd eu hangen arnynt.

Credaf fod cyfle go iawn yma. I ddechrau sgyrsiau am drawsnewid digidol a, drwy ddigwyddiadau fel hyn, dangos sut mae’n rhaid i’r sgwrs symud i fod yn un am drawsnewid systemau.

Mae Cyfnewidfa Arfer Da SAC yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yn y gyfres hon a byddai’n wych eu gweld yn herio cyfranogwyr i feddwl am y ffordd rydym yn defnyddio llwyfannau digidol fel catalydd ar gyfer newid sefydliadol gwirioneddol – ac nid dim ond prynu llwyth o iPads.

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Logo digwyddiad Dyfodol Llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe.

Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad.

Yr ochr dda o hwn yw bod mudiadau yn tueddu i fynd y tu hwnt i ymatebion sy’n ticio blychau er mwyn cael newid gwirioneddol a pharhaus. Yr ochr gwael yw bod newid diwylliannol yn gallu cael ei gweld fel rhywbeth sy’n rhy anodd, felly nad yw’r gwaith yn cael ei wneud o gwbl. Mae’r broblem yn rhy fawr.

Felly pan glywais am Ymchwiliad Craffu Dinas a Sir Abertawe i’w Diwylliant Corfforaethol, roedd gen i ddiddordeb yn syth.

Felly pam wnaethon nhw sefydlu’r ymchwiliad?

Dyma’r cymhelliant yn ôl y Cynghorydd Andrew Jones, Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu ar Ddiwylliant Corfforaethol:

‘Dewiswyd y pwnc oherwydd, fel Cyngor, mae ein diwylliant corfforaethol yn sail i bopeth a wnawn, o sut rydym yn ymgysylltu â’n dinasyddion a darparu gwasanaethau i sut yr ydym yn trin ein staff a thyfu a datblygu fel sefydliad. Mae’r heriau a wynebir o ganlyniad i ostyngiadau yng nghyllidebau cynghorau yn fygythiad i’r syniad o ddiwylliant ar y cyd. Felly mae gennym ni fel Cynghorwyr, Rheolwyr a Staff, cyfrifoldeb i ymateb i’r heriau hyn trwy ddatblygu diwylliant sy’n gallu sicrhau bod dinasyddion Abertawe yn parhau i dderbyn y gwasanaethau gorau posibl o’r Cyngor.’

Sicrhau bod pethau’n iawn o’r dechrau

Felly, beth allwn ni ddysgu o’r camau rhagweithiol mae’r cyngor wedi cymryd i nodi ffyrdd o wella’u diwylliant?

Pan wnes i siarad â Michelle Roberts o Dîm Craffu Dinas a Sir Abertawe, pwysleisiodd hi’r pwysigrwydd o gael y cyfyngiadau iawn am yr ymchwiliad o’r dechrau er mwyn sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar y meysydd cywir. Rhesymeg yr adolygiad oedd:

  • Bod gan y cyngor y diwylliant corfforaethol cywir i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n wynebu
  • Bod nhw’n creu diwylliant sy’n helpu i droi’r ddinas o gwmpas
  • Bod diwylliant staff yn un sy’n grymuso ac annog cyfrifoldeb personol, arloesi a chydweithredu

Mae’n wych i weld sut mae’r cyngor wedi sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael effaith barhaus drwy ei gysylltu i waith Leanne Cutts, ei Chydlynydd Arloesi. Maen nhw wedi ffocysu ar y nodau tymor hir, fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu, ond hefyd wedi canfod enillion cyflym ac amcanion tymor canolig.

Mae yna rhai cynigion trawiadol sy’n canolbwyntio ar y bobl sy’n gweithio yn y sefydliad. Mae’r rhain ynghylch sut maen nhw’n ymdrin ag oes cyfan bobl yn y mudiad, o sesiynau sefydlu corfforaethol, prif ffrydio arloesi trwy arfarniadau, a datblygu sgiliau personol er mwyn osgoi’r angen i brynu arbenigedd i mewn i’r cyngor.

Methiant

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith ar fethiant dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein Rheolwr Chris Bolton. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn sylfaen i’r wybodaeth rydym yn rhannu a’n ffocws ar welliant. Felly mae’n wych gweld bod y cyngor yn edrych ar sut y gallant symud o ddiwylliant o fwrw bai, wrth gydnabod y materion allanol sy’n ei gwneud yn anodd (rydw i wedi blogio o’r blaen ar amgylcheddau cymhleth a methu). Os ydym yn mynd i gwrdd â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n rhaid ein bod ni’n gallu cymryd risgiau a reolir yn dda ac adeiladu ar wersi o fethiant, fel mae Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn trafod yn y fideo isod.

Ble i ddechrau?

Os ydych chi eisiau archwilio diwylliant eich mudiad, mae’n werth cael cipolwg ar Ddull Mapio Diwylliant sydd wedi cael ei ddatblygu gan Dave Gray. Mae’r Satori Lab wedi bod yn defnyddio hwn yn eu gwaith. Mae’r sbardunau diwylliant sy’n cael eu nodi (a hefyd y rhai sydd ddim) sy’n ddefnyddiol iawn o ran meddwl am beth sydd tu ôl i ymddygiad staff a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ar ein dull o archwilio fel bod e’n cwrdd ag anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gofynion y ddeddf yn golygu bod rhaid i ni a gwasanaethau cyhoeddus newid. Os bydd mudiadau yn ceisio cyflawni’r saith gôl lles trwy’r pum ffordd o weithio heb newid beth maen nhw’n wneud, maen nhw’n debygol o fethu.

Mae’r ddeddf yn rhoi cyfle i wneud pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru. Mewn cyfnod o lymder, ni allwn gyflawni dyheadau’r ddeddf wrth addasu’r hyn rydyn ni’n gwneud ar hyn o bryd. Rhaid i ni gael newid diwylliant gyfan gwbl er mwyn i bobl Cymru cael y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw’n haeddu.

RHP: Gwasanaeth gwych, cyflogwr gwych

Ffoto o Furlun Strategaeth 5 mlynedd RHP

Murlun Strategaeth 5 mlynedd RHP

Mae’n amhosibl cael gwasanaethau cyhoeddus effeithiol heb staff ymroddedig a brwdfrydig. Felly sut allwn ni cyflawni hyn? Ymwelodd Dyfrig Williams â Grŵp RHP, darparwr tai yn Llundain, i ddysgu mwy.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae sefydliadau yn gwneud y fwyaf o’u staff fel adnodd. Pan weithiais i Gyfranogaeth Cymru, fe wnaethon ni sylwi mai’r sefydliadau sy’n manteisio ar wybodaeth a gallu eu staff yw’r rhai sy’n cynnwys y cyhoedd yn effeithiol wrth gynllunio eu gwaith.

Felly roedd gen i wir ddiddordeb yn y gwaith mae RHP yn ei wneud, a phan ddaeth y cyfle i ymweld â’r sefydliad ar ôl cyfarfod eu Prif Weithredwr David Done, roeddwn i’n hynod o awyddus.

Diwylliant

Un o’r pethau cyntaf a wnaeth fy nharo i yw’r ymdrech mae RHP yn rhoi i mewn i adeiladu a chynnal diwylliant y busnes. Mae RHP yn recriwtio pobl ar sail ymddygiadau, ac wedyn maen nhw’n mesur perfformiad yn erbyn y sgiliau a’r ymddygiadau hynny yn hytrach na chymwysterau. Mae’r canolfannau asesu yn canolbwyntio ar hynny, ac unwaith mae’r gweithiwr wedi cael eu penodi, mae pob dechreuwr newydd yn cael “wow 3 weeks”, sy’n sicrhau bod pawb yn cael yr un profiad a bod pawb yn ymwybodol o werthoedd y sefydliad.

Dim jyst gweithwyr newydd sydd gydag ymagwedd bositif tuag at ddiwylliant a grymuso. Nododd staff cyfredol eu bod nhw eisiau cael y cyfle i aros a datblygu o fewn y sefydliad, felly datblygodd RHP dull Ffrâm Dringo i ddatblygiad sy’n caniatáu staff presennol i symud i fyny’r sefydliad drwy ddyrchafiad, neu symud i’r ochr drwy secondiad.

Dysgu a Datblygu

Llun o un o ystafelloedd gyfarfod RHP, sy'n cael ei haddurno'n dlws er mwyn darparu amgylchedd hamddenol

Un o ystafelloedd cyfarfod RHP – bach yn wahanol i’ch lle gwaith arferol

Mae dull dysgu a datblygu RHP yn seiliedig ar fylchau yn ei fusnes, er enghraifft eu dull o reoli risg a gwneud penderfyniadau. Rwy’n aml wedi teimlo bod lot o gyrsiau hyfforddi traddodiadol yn gallu fod yn ymarfer ticio blychau (dim ond tri chwrs sydd wedi newid fy ffordd i o weithio mewn un ar ddeg mlynedd o weithio yng ngwasanaethau cyhoeddus), felly mae’n ddiddorol gweld sut mae RHP yn ffafrio sesiynau byr sy’n para rhwng nawdeg munud a hanner diwrnod.

Mae’r dull hwn yn cynnwys y sesiynau Lle Gwych i Feddwl, lle mae siaradwyr allanol yn cael eu gwahodd i siarad ar bynciau sy’n berthnasol i’r sefydliad. Mae Wayne Hemmingway wedi siarad ar greadigrwydd ac mae Gerald Ratner wedi trafod gwytnwch a bownsio ‘nôl ar ôl fethiant.

Mae’r sesiynau Lle Gwych i Ddadlau hefyd yn rhoi cyfle i drafod materion dadleuol gyda staff. Mae RHP yn mynd i gynnig tenantiaethau pum mlynedd, a chafodd phwyntiau o’r ddadl “Dylai pob tenantiaeth gymdeithasol newydd gael eu cynnig ar delerau pum mlynedd – Ie neu Na” effeithio ar ddull y gwnaeth y mudiad rhoi’r rhain ar waith..

Mae’r Live Lounge hefyd yn gwneud y fwyaf o wybodaeth y staff eu hunain. Mae’r sesiynau yma yn rhoi cyfle iddynt arwain trafodaethau ar feysydd sydd o ddiddordeb, gan gynnwys pynciau mor amrywiol â chyfryngau cymdeithasol neu wleidyddiaeth. Mae’r Live Lounge yn cynnal trafodaethau 3-2-1 (achos maen nhw’n cael ei chynnal am 3 o’r gloch, maen nhw’n drafodaethau 2 ffordd ac maen nhw’n para am 1 awr). Mae un aelod o staff sy’n hyfforddwr personol wedi siarad am iechyd, a siaradodd person arall am eu profiadau iechyd meddwl.

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Dda wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar Wyliau Newid Ymddygiad, gan gynnwys gŵyl ym Mangor, lle defnyddir y Ganolfan Newid Ymddygiad gemeiddio i ddylanwadu ar ymddygiad mynychwyr (edrychwch ar flogbost Cyfranogaeth Cymru am ragor o fanylion). Felly roedd gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae RHP yn defnyddio’r dull i edrych ar sut mae gweithwyr yn ymateb i sefyllfaoedd ble maen nhw o dan bwysau. Maen nhw wedi datblygu gemau gyda chwmni allanol, lle mae pwyntiau yn cael eu gwobrwyo ar benderfyniadau a wneir yn ystod y gêm ar sail os ydyn nhw’n gwneud y dewis cywir a chanlyniadau’r penderfyniadau hynny. Roedd y senarios yn seiliedig ar brofiadau pobl sy’n delio gyda RHP, fel bod staff yn gallu gweld a chydymdeimlo â’r heriau mae eu cydweithwyr yn gwynebu. Ac fel rhywun sydd â blas amheus mewn sioeau dirgelwch a llofruddiaeth ar y teledu, roedd e’n arbennig i weld sut y maen nhw wedi defnyddio’r senarios hynny i brofi sut mae staff yn gwneud penderfyniadau o dan bwysau!

Dysgais hefyd bod RHP wedi datblygu RHPedia, sef cronfa gwybodaeth ar-lein sy’n debyg i Wikipedia. Mae RHPedia yn sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd eisiau arnynt i ddelio ag ymholiadau a materion penodol. Beth roeddwn i’n rili hoffi am y dull hwn o rannu gwybodaeth yw bod unrhyw un yn gallu ychwanegu eu harbenigedd i’r safle. Yn gam nesaf y datblygiad fe fydd y safle yn cael ei gynnig i gwsmeriaid.

Ac os nad ydy hyn i gyd yn ddigon, mae gan RHP cynllun gwirfoddoli mewnol. Er nad yw hynny’n anarferol yn ei hun, mae 107 o bobl yn gwirfoddoli allan o’r 250 o bobl sy’n gweithio i’r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y bobl sy’n rhoi i gefnogi’r prosiectau y mae staff yn gwirfoddoli arno.

Meincnodi

Os ydych wedi cyrraedd y pwynt yma o’r blogbost, bydd e ddim yn syrpreis i ffeindio allan bod RHP ar lefel aur gwobr Buddsoddi Mewn Pobl. Mae RHP wedi defnyddio’r Times 100 i feincnodi ei lwyddiant yn y maes, ble y daethon nhw’n bumed yn y DU, ac maen nhw bellach yn defnyddio Gwobr Lle Gwych i Weithio. Eleni mae RHP ar frig y dyfarniad yma. Maen nhw hefyd yn defnyddio Indecs Gwasanaeth Cwsmeriaid i weld beth mae pobl eraill yn gwneud a pham maen nhw’n dda, tra’n gofyn i gwsmeriaid sut mae gwasanaeth da iawn yn edrych.

Mae’r adborth yn dangos bod y gwaith yma yn werth chweil. Mae 96% o weithwyr yn hapus yn gweithio i RHP a dywedodd 83% o gwsmeriaid eu bod nhw’n hapus â’r gwasanaeth a dderbyniant. Dyma beth ddywedodd Geraldine Clarke, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu RHP wrtha i: “Os ydych am ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, mae’n rhaid i chi fod yn gyflogwr gwych. Dydych chi ddim yn gallu fod yn un heb y llall.” Os ydych chi’n ceisio gwneud y fwyaf o’r staff o fewn eich sefydliad, byddem wrth ein bodd i glywed o chi.