Skip to content

Tag: cynulliad cymru

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

  Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal. Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy… Read more #scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein