Skip to content

Tag: cynulliad cenedlaethol cymru

Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Pam roedd pawb eisiau dweud eu dweud yng Ngwlad yr Iâ mewn cyfnod o ymddiriedaeth isel? Fe wnaeth Dyfrig Williams cymryd rhan mewn sgwrs gwe gyda Kevin Davies a Dean George o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gunnar Grímsson o’r Sefydliad Dinasyddion i ddysgu mwy am Reykjavik Gwell. Roedd 2008 yn adeg anodd yng Ngwlad yr Iâ. Aeth tri phrif fanc sector preifat y wlad i’r wal, a dechreuodd hyn argyfwng ariannol a wnaeth hyd yn oed effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru. Pa mor llwyddiannus oedd y gwefan? Lansiwyd gwefan… Read more Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Y tro cyntaf imi ddod yn ymwybodol o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chynnwys y cyhoedd mewn gwaith craffu oedd yn ystod y gynhadledd Graffu a gynhaliwyd yn 2013. Gan fy mod wedi gweithio ym maes cyfranogiad y cyhoedd am ychydig flynyddoedd cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru, fe wnaeth ei ddulliau gweithredu ddenu fy sylw. Gwnaeth natur ymarferol ei becyn cymorth ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gryn argraff arnaf, ac wrth imi glywed rhagor am ei waith, roeddwn yn fwy awyddus i ddysgu. O glywed am ei ddefnydd o… Read more Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen. Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Wrth i gyfryngau cymdeithasol… Read more Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Adolygiad o sesiwn Miri Mawrth

Dyma blogbost gwadd gan Helia Phoenix o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n edrych yn ôl dros sesiwn ‘Gwallgofrwydd Mawrth’ yn GovCamp Cymru. Cafodd y sesiwn ei redeg gan Jo Carter o’r Satori Lab, sydd hefyd wedi blogio am y pwnc. Os ydych chi’n gweithio mewn tîm prysur fel fi, gyda phawb yn rhuthro i wneud eu gwaith, fe fyddwch chi’n wrthi’n brysur drwy’r dydd. Dylai cyllidebu am y flwyddyn i ddod fod yn un o brif flaenoriaethau eich gwaith, a dylech ailedrych ar y cynllun gydol y flwyddyn, gan wneud newidiadau… Read more Adolygiad o sesiwn Miri Mawrth