Gwella prosesau diogelu yng Nghyngor Sir Penfro

Yn y blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, mae Jake Morgan yn disgrifio sut wnaeth Cyngor Sir Penfro mynd ati i reoli’r proses newidwrth iddynt ymateb i adroddiadau feirniadaol gan Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Swyddfa Archwilio Cymru.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroYm mis Awst 2011, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan AGGCC ac Estyn, daeth i’r amlwg bod y Cyngor wedi methu ag amddiffyn a diogelu plant yn briodol yn ei wasanaethau addysg.

Ar yr un pryd ac ar lefel ehangach, roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi nifer o fethiannau ym mhrosesau llywodraethu corfforaethol y Cyngor, ac roedd y methiannau i’r fath raddau ac arwyddocâd fel bod yna berygl bod y Cyngor yn methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol. Nodwyd “methiant corfforaethol systemig i ymateb yn ddigonol i faterion diogelu.”

Ym mis Rhagfyr 2012, rhoddwyd Cyngor Sir Penfro o dan fesurau arbennig yn dilyn arolygiad Estyn pan ddaeth i’r amlwg bod gwasanaethau addysg y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc a’i ragolygon ar gyfer gwella yn anfoddhaol.

Yn dilyn adroddiad beirniadol ar y cyd yn 2011, dechreuodd yr awdurdod y broses o newid gyda chymorth ac ymyrraeth Bwrdd o Weinidogion a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Tra bod rhywfaith o gynnydd da wedi cael ei wneud byddai’n deg dweud bod y cynnydd hwn yn araf yn aml iawn oherwydd rhwystrau diwylliannol a strwythurol wedi eu hen sefydlu yn ymwneud â newid. Cydnabuwyd nad oedd cyflymder y newid yn ddigonol o gofio lefel yr heriau sy’n wynebu’r awdurdod.

Yn ystod haf 2012, penododd yr awdurdod Gyfarwyddwr Plant ac Ysgolion newydd ac un o’i dasgau oedd arwain y broses o newid a chynyddu cyflymder y newidiadau.

Yn ganolog i hyn, aethpwyd ati i gyfuno’r gwasanaeth addysg â’r gwasanaeth gofal cymdeithasol plant dan un gyfarwyddiaeth a chafodd y mesur hwn ei dargedu ar gyfer mynd i’r afael â materion hanesyddol a oedd yn bodoli oherwydd bod y gwasanaethau a oedd yn gyfrifol am gyflawni gwasanaethau i blant a phobl ifanc mewn cyfarwyddiaethau gwahanol a bod ganddynt ffyrdd gwahanol o weithio (er enghraifft, roedd diffyg gwasanaethau integredig neu weithio ar y cyd yn ffactor a oedd yn cyfrannu’n sylweddol at fethiannau’r awdurdod o ran diogelu).

Yn dilyn adroddiad Estyn yn Rhagfyr 2012, symudodd yr awdurdod yn gyflym er mwyn creu’r momentwm a oedd ei angen ar gyfer newid pellgyrhaeddol. Mae rhai o’r ymyriadau hyn wedi’u hamlygu isod.

Gwnaeth y Cyfarwyddwr benderfyniadau anodd a sensitif i ailadeiladu ac adnewyddu ei dîm arweinyddiaeth a dechreuodd ar y broses o sefydlu strwythur newydd sbon o uwch reolwyr ar draws y gyfarwyddiaeth unedig drwy wneud penodiadau allanol i swyddi allweddol a dileu’r rhwystrau a oedd yn bodoli i newid.

Datblygodd yr awdurdod drefniadau ar y cyd â Sir Gaerfyrddin drwy gytuno i gyfuno gwasanaethau gwella ysgolion drwy ymestyn trefniadau gweithio rhanbarthol. Roedd hyn yn cynnwys cyd-benodi Pennaeth Effeithlonrwydd Ysgolion i arwain y gwasanaeth gwella ysgolion ar draws y ddau awdurdod. Mae’r trefniadau ar y cyd wedi creu manteision i’r ddau awdurdod gan greu màs critigol a mwy o allu ar draws y rhanbarth.

Mae’r Cyfarwyddwr wedi arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’n gorfforaethol fframwaith sicrwydd ansawdd trawsbynciol ar gyfer diogelu sy’n cwmpasu ysgolion, gwasanaethau plant ac adnoddau dynol.

Mae grŵp cynrychioliadol o benaethiaid wedi’i ddatblygu (a sefydlwyd yn wreiddiol
gan y bwrdd gweinidogol) i ddylanwadu ar a phrofi effaith barhaus newid ac i fod yn gatalydd o fewn yr awdurdod er mwyn gwella yr herio a geir ymysg cymheiriaid a meithrin gallu ysgolion.

Cafodd gwaith y pwyllgorau trosolwg a chraffu ei ailwampio a bu Pwyllgor allweddol ar y cyd ar draws y maes Diogelu a Phlant a Theuluoedd yn canolbwyntio ar adroddiad Arolygu Estyn ac yn dangos bod y cyhoedd yn sylweddoli beth oedd yr heriau a oedd yn cael eu hwynebu.

Yr hyn oedd yn sail i’r rhaglen newid oedd Cynllun Gweithredu Sir Benfro ar ôl Arolygiad (PIAP) a oedd yn ofynnol i’r awdurdod ei baratoi a’i roi ar waith mewn ymateb i’r 7 argymhelliad a wnaed gan Estyn yn ei adroddiad.

Cafodd y broses o ddatblygu’r PIAP ei arwain gan y Cyfarwyddwr a chafwyd cyfraniad gan groestoriad eang o Aelodau etholedig, llywodraethwyr ac ysgolion ynghyd â chyfraniad cadarnhaol gan amrywiaeth eang o randdeiliaid mewn perthynas â datblygu’r Cynllun, a arweiniodd at weledigaeth gyffredin a’r un ymdeimlad clir o bwrpas, gan feithrin consensws ar gyfer newid sylweddol.

Mae PIAP yn gynllun cynhwysfawr sy’n adlewyrchu’r diffygion sylweddol mewn perfformiad a nodir gan Estyn a daeth yn fframwaith trosfwaol ar gyfer newid nid yn unig ar draws gwasanaethau addysg a phlant, ond ar lefel gorfforaethol ehangach ac ar lefel sir yn gyffredinol hefyd.

Yn dilyn yr adroddiadau beirniadol iawn a gafwyd yn 2011, cychwynnodd Sir Benfro raglen o welliannau a newidiadau cyflym dan arweinyddiaeth gadarn y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant. Gwnaethpwyd gwelliannau sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol ac erbyn hyn mae Sir Benfro yn arwain y ffordd ac yn rhannu’r arferion gorau y mae wedi’u datblygu ag Awdurdodau Lleol eraill.

Nid yw Sir Benfro o dan fesurau arbennig bellach, ac wrth wneud y penderfyniad hwnnw, dywedodd Estyn ‘cymerodd y Cyngor gamau buan a phendant’ yn dilyn arolygiad 2012 i gynllunio ar gyfer newid a arweiniodd at welliannau sylweddol. Yn ôl yr adroddiad hefyd: ‘Gwnaeth y Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r uwch-swyddogion benderfyniadau anodd a sensitif i gael gwared ar y ffactorau a oedd yn rhwystro cynnydd, er mwyn sicrhau’r gwelliant a oedd yn angenrheidiol.’

Mewn ymateb i’r newyddion da, meddai’r arweinydd, ‘Y canlyniad yw bod yr Awdurdod Lleol yn fwy deinamig, tryloyw ac eangfrydig. Nid fy marn i yn unig yw hon, ond barn yr arolygwyr.’

‘Rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i wneud popeth a all fod yn rhesymol ei ddisgwyl er mwyn cadw plant yn ddiogel yn ein Sir. Mae’r penderfyniad heddiw gan yr arolygwyr yn cydnabod yn ffurfiol bod ganddyn nhw hyder yn ein gwasanaethau.’

Sut gallwch chi wella’ch cynllunio ar gyfer eich Gweithlu Gofal Cymdeithasol?

Yn 2011/12 nododd arolygiadau Estyn ac AGGCC bod angen i Gyngor Sir Penfro mynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â chadw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Isod, mae Anne Nicholson yn trafod sut mae’r cyngor wedi mynd ati i wneud hynny.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroGwnaethom waith ymchwil sylweddol ar recriwtio a chadw, llwyth gwaith a chymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Daeth i’r amlwg o’r gwaith ymchwil hwnnw fod gennym nifer uchel o weithwyr cymdeithasol sy’n gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn byw a gweithio yn Sir Benfro ac sydd am barhau i weithio i’r Awdurdod. Wrth gwrs, mae hyn yn rhinwedd, fodd bynnag, adroddodd y rhain nad oedd y manteision o weithio a byw yn y sir yn cyfiawnhau’r ddadl dros “y gyfradd gyffredinol ar gyfer y swydd” a’r angen am lwyth achosion y gellir ei reoli. Mae gennym nifer uchel o ymarferwyr profiadol sydd â sgiliau priodol ac sydd wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Nododd y pwyllgor Trosolwg a Chraffu y dylid gwneud y broses o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn flaenoriaeth ar gyfer Sir Benfro gan ei gwneud yn eitem barhaus ar eu hagenda, a bydd adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith hwn yn cael eu cyflwyno.

Dewiswyd y prosiect cynllunio’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol fel un o Gytundebau Canlyniadau Sir Benfro ar gyfer 2013-2016. Yn ogystal â bod yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Penfro, dangosodd gysylltiad clir â Thema Strategol Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer Trechu Tlodi. Roeddem yn credu y byddai canlyniadau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n bwy mewn tlodi yn gwella drwy ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol proffesiynol effeithiol gan weithlu gofal cymdeithasol wedi cymhwyso a hyfforddi’n ddigonol. Dyma sut aethom ati i gyflawni hyn:

  • Datblygu model ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol
  • Datblygu mecanweithiau effeithiol i atgyfeirio plant a theuluoedd i’r prosiect Dechrau’n Deg er mwyn derbyn cymorth arbenigol.

Gyda’i gilydd, mae’r broses o adolygu cyflogau a graddfeydd a’r broses o ddatblygu technolegau er mwyn helpu i recriwtio wedi profi’n ffordd lwyddiannus o arwain gwelliannau yn y maes hwn. Yn sgil ategiad y farchnad a chanlyniadau’r Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd cafwyd cynnydd yng ngraddfeydd y cyflogau cychwynnol a’r cyflogau uwch yn Sir Benfro gan wneud Sir Benfro yn fwy cystadleuol. Mae nifer y swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol wedi lleihau 88%; mae nifer y staff asiantaeth sy’n angenrheidiol wedi gostwng 60% ac mae lefel trosiant cyffredinol wedi gostwng.

Rydym wedi gostwng costau drwy symud oddi wrth ddulliau hysbysebu mwy traddodiadol ac, yn aml, mwy costus (sy’n rhan o’n strategaeth gyffredinol ar gyfer recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol) ac wedi recriwtio ymgeiswyr yn llwyddiannus drwy ddulliau hysbysebu newydd e.e. drwy YouTube, Google, Facebook a LinkedIn.

Erbyn hyn, mae gennym weithdrefn gadarn ar waith ar gyfer cyflogi gweithwyr asiantaeth ac mae’n rhaid cael swydd wag mewn tîm cyn y gellir eu cyflogi.

Gall pethau bach gwneud gwahaniaeth mawr: Bagiau atal gwylanod

Rydym yn aml yn clywed am newidiadau mawr sydd wedi cael eu rhoi ar waith sydd wedi newid gwasanaethau mewn ffordd ddramatig. Ond weithiau gall newidiadau bach gael effaith fawr. Yn y Gynhadledd Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan clywsom am fagiau atal gwylanod Dinbych y Pysgod a’r gwahaniaeth maen nhw wedi gwneud. Dyma Tracy Wornham i esbonio mwy.

Original photo of Tenby by Dave Smith http://bit.ly/1y7cLGH (Creative Commons License) Llun wreiddiol o Ddinbych y Pysgod gan Dave Smith (Trwydded Creatrive Commons)

Llun wreiddiol o Ddinbych y Pysgod gan Dave Smith (Trwydded Creatrive Commons)

Roedd nifer o bryderon yn cael eu codi am sbwriel yn llenwi strydoedd cyrchfannau gwyliau wedi i wylanod ac anifeiliaid eraill ymosod ar fagiau bin du a adawyd allan ar gyfer eu casglu. Yn ogystal â’r ffaith eu bod yn edrych yn flêr ac yn annymunol, mae’n achosi problemau i wasanaethau casglu gwastraff a’r gwasanaethau glanhau strydoedd hefyd. Cysylltodd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod â Chyngor Sir Penfro yn rhan gyntaf 2014 er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa. Yn dilyn cyfarfod, cytunwyd i dreialu bagiau atal gwylanod amldro.

Beth Wnaethom Ni

Dewiswyd sawl eiddo domestig o fewn ardal fach yn Ninbych-y-Pysgod (sy’n cynnwys chwe stryd) i’w treialu lle’r oedd y problemau gyda bagiau gwastraff du ar eu gwaethaf. Gwnaethom yn siŵr hefyd fod y treial yn cynnwys cymysgedd o aelwydydd gwahanol e.e. tai a fflatiau. Yr un timau casglu gwastraff a glanhau strydoedd a oedd yn gofalu am yr ardal a ddewiswyd hefyd, felly roedd modd cael adborth cyson ganddynt.

Cyflwynodd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod lythyr i bob aelwyd yn eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun. Ymatebodd 73 o dai yn gofyn am fagiau. Cychwynnodd y treial ar 2 Mehefin a daeth i ben ar 1 Awst.

Beth Wnaethom ei Gyflawni

Er mwyn mesur pa mor effeithiol oedd y treial, cyflwynwyd holiadur byr un dudalen i bob aelwyd a fu’n cymryd rhan – roedd cyfradd yr ymateb tua 40%. Dim ond un unigolyn oedd ddim am weld y cynllun yn parhau. Ar y cyfan, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Cawsom farn y gweithwyr casglu gwastraff a gwasanaethau glanhau hefyd, ac unwaith eto roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â dau o’r dangosyddion perfformiad cenedlaethol hefyd, sef:

STS005a Y Dangosydd Glendid

STS005b Canran y priffyrdd a’r tir perthnasol a arolygir sydd â safonau glendid uchel neu dderbyniol. Mae’r dangosydd hwn yn rhan o’n Cerdyn Sgorio Rheolaeth Perfformiad Corfforaethol a chaiff ei fonitro bob chwarter. Cyflwynir y perfformiad data hwn i’n Bwrdd Rheolaeth Corfforaethol a’n Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cabinet a’r Amgylchedd bob chwarter.

Mae’r gwaith hwn hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith o gyflawni un o Brif Ganlyniadau Cyngor Sir Penfro “Gall pobl Sir Benfro fanteisio ar amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol”.

Y Camau Nesaf

Bydd Cyngor Tref Dinbych-y-Pysgod yn trafod y treial mewn cyfarfod yn y dyfodol. Unwaith y gwyddom y canlyniad, gellir gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno’r cynllun yn ehangach.

Hawliau a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro

Cafodd Cyngor Sir Penfro ei enwebu ar gyfer pob categori yng Ngwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, brawf o’u ffocws ar welliant. Arweiniodd hwn i’r cyngor ennill Gwobr Arbennig y Beirniaid. Yn y blog yma, mae Rose Davis yn ysgrifennu am Gyfranogiad a Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn y sir.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroYr Her

Un thema oedd yn codi ei phen dro ar ôl tro pan oedd cyrff allanol yn arolygu a chraffu ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Benfro yn 2011/12 oedd nad yw llais y plentyn wedi cael ei glywed bob amser gan y rhai sy’n darparu’r gwasanaethau, boed yn wasanaethau penodol ar gyfer plant, neu’n wasanaethau ehangach y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio. Mewn ymateb i hyn, cafodd amrywiaeth o fentrau eu blaenoriaethu gennym er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.

Ein hymateb

Ein nod ehangach oedd cryfhau cydlyniad cymunedol drwy annog prosesau o ddatblygu gwell dealltwriaeth a derbyn safbwyntiau a chanfyddiadau sy’n bodoli ar draws cenedlaethau o bobl yn Sir Benfro.

Yn fwy penodol, aethom ati i sicrhau bod mwy o gyfle i lais y plentyn/person ifanc yn Sir Benfro gael ei glywed drwy ddatblygu fframwaith hawliau a chyfranogiad sydd yn ganolog i ddemocratiaeth leol.

Mae pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Penfro yn craffu’n rheolaidd ar gynnydd wrth ddatblygu hawliau a chyfranogiad; mae aelodau etholedig wedi cyfarfod â nifer o fforymau ieuenctid ac mae’r bwrdd lleol diogelu plant a’r bwrdd rhianta corfforaethol wedi cyfarfod â phobl ifanc i wrando ar eu safbwyntiau.

Wrth fynd â hyn gam ymhellach, roeddem am greu cyfleoedd lle mae pobl ifanc yn cael cymorth gan oedolion i fod yn ddinasyddion gweithredol, gan annog proses o ddatblygu cymunedau cynhwysol a chydlynus. Hyd yn hyn, mae’r meysydd hyn ar gyfer gwelliant wedi’u datblygu fel a ganlyn:

  • Ymrwymiad ffurfiol Sir Benfro i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)
  • Cynllunio adduned i holl blant a phobl ifanc Sir Benfro a’i ddosbarthu
  • Sefydlu swyddfa hawliau plant a phobl ifanc.
  • Ail-lansio Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro a’i is-grwpiau sy’n fwy cynrychioliadol yn gyffredinol (gan gynnwys grwpiau agored i niwed e.e. Plant sy’n Derbyn Gofal, gofalwyr ifanc a theithwyr)
  • Mae pecynnau hyfforddi wedi’u datblygu er mwyn addysgu oedolion a phobl ifanc ar hawliau plant. Mae pecyn e-ddysgu hawliau plant wedi’i ddatblygu a fydd yn cael ei gwblhau’n orfodol gan staff allweddol y cyngor.
  • Mae hyfforddiant ar gyfranogiad disgyblion wedi’i ddarparu i staff uwch, athrawon cyswllt a llywodraethwyr cyswllt yr holl ysgolion uwchradd. Bydd staff gofal cymdeithasol yn cael eu hyfforddi ym maes hawliau plant fel rhan o Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.