Skip to content

Tag: cynaliadwyedd

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau. Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad. Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod… Read more Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe. Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad. Yr ochr dda… Read more Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd i’r afael â nhw. “Nid creu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw’r broblem go iawn, ond gadael lle rydym ni nawr…” Dydw i ddim yn siŵr pwy ddywedodd hynny, gallai fod yn gyfuniad o sawl… Read more Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

Beth mae llywodraethu effeithiol yn edrych fel yn gyd-destun Deddf Llesiant Genedlaethau’r Dyfodol? Yn y blogbost yma mae Alan Morris yn edrych ar beth mae’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus a sut all ein seminar helpu. Mae Cymru’n dechrau dangos ei gallu fel cenedl i weithio gyda’r hyn sydd ganddi mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Mae Trefi Trawsnewid, Masnach Deg, rhoi organau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhai enghreifftiau o hyn.  Rydym yn dechrau sylweddoli beth sy’n gweithio i ni fel cenedl, ac yn aml nid dyna… Read more 2016: Blwyddyn y Posibilrwydd