Skip to content

Tag: cymraeg

Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd. Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i mi y gallem wella ein ffordd o drin data. Ond nid trwy casglu data newydd o reidrwydd – dywedodd y rhan fwyaf o’m cydweithwyr mai’r mater pwysicaf iddyn nhw oedd meithrin ymwybyddiaeth well am y data… Read more Bod yn agored yn ddiofyn

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau. Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad. Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod… Read more Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Gall rheoli eich amser mewn swyddfa brysur fod yn dasg fawr yn ei hun. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut mae ef wedi newid ei ffordd o weithio. Mae newid mewn amgylchiadau personol wedi meddwl fy mod i wedi bod yn gweithio mwy o gartref. Nid fy nghartref yng Nghaerdydd, ond cartref fy nghariad yng Nghaerwysg. Mae Kelly yn sgwennu’n lot gwell ‘na fi, felly fe wnâi’ch cyfeirio at ei blogbost gwych ar ein perthynas a rhamant ddigidol yn lle amlinellu sut y dechreuodd hyn i gyd.… Read more Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n fwy effeithlon fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad. Rydw i wedi blogio o’r blaen ar fy niddordeb mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol achos y ffocws di-baid ar angen… Read more Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr