Skip to content

Tag: cymraeg

5 Ateb Sydyn mewn Rheoli Ynni

Wythnos diwethaf, daeth grŵp o arbenigwyr mewn ynni – gyda chyfanswm o dros 300 mlynedd o brofiad – at ei gilydd yn ein Seminar Rheoli Ynni. Gyda chyfoeth o wybodaeth fel hyn mewn un ystafell, roedd trafodaeth ddiddorol iawn o ddulliau gwahanol o reoli ynni. Ni ddylai’r wybodaeth yma gael ei gyfyngu i rheini a fynychodd y Seminar, felly hoffwn rhannu gyda chi rhai syniadau a dulliau allweddol fe ddysgais i yn ystod y diwrnod. Y bwriad, fel arfer, yw eich ysbrydoli chi i gymryd risgiau sydd wedi eu rheoli… Read more 5 Ateb Sydyn mewn Rheoli Ynni

Byd Podlediadau – llawn hud a lledrith

Fi ‘di creu sawl podlediad ers i mi ddechrau gweithio i’r Gyfnewidfa Arfer Dda. Mae wedi bod yn ffordd wych o gasglu barn pobl a chael tystiolaeth o effaith ein gweithgareddau, a hefyd i glywed beth yw’r ffordd orau i ni wneud ein gwaith yn y dyfodol. Os ‘da chi eisiau creu podlediadau yn rhad ac am ddim, mae’n haws nag erioed i wneud hynny. Mae ffonau a thabledi yn gallu recordio ffeiliau o ansawdd da y dyddiau yma (ni ‘di bod yn defnyddio ein ipads a thabledi Asus personol),… Read more Byd Podlediadau – llawn hud a lledrith

Diogel i Fethu

Rydw i wedi bod yn dilyn blog What’s the PONT Chris Bolton ers sbel, cyn i mi ddechrau gweithio yng Nghyfnewidfa Arfer Dda Swyddfa Archwilio Cymru hyd yn oed. Mae gan Chris dawn ar gyfer teitlau arbennig, felly pan wnaeth e flogio am Lygod Trojan fe wnes i dalu sylw. Prosiectau bach sy’n ddiogel i fethu yw Llygod Trojan. Un o brif egwyddorion y Gyfnewidfa Arfer Dda yw dydyn ni ddim yn ailddyfeisio’r olwyn, felly does dim synnwyr i mi amlinellu’r theori i gyd eto pan mae blogiau Chris yn… Read more Diogel i Fethu