Tag Archif: cymhlethdod

Gŵyl Dai: Bowlenni Pysgod, methiant a chymhlethdod

Cyflwyniad yng Ngŵyl Tai. Cynhaliwyd yn y Depo, sef lleoliad hyblyg ar gyfer digwyddiadau creadigol

Read this blog post in English

Yn ddiweddar cynhaliodd y Sefydliad Tai Siartredig yr Ŵyl Dai sydd yn fath newydd o ddigwyddiad er mwyn rhannu ffyrdd newydd o weithio. Mae Dyfrig Williams yn rhannu’r hyn a ddysgodd isod.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r Sefydliad Tai Siartredig er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’u gwaith Frontline Futures gyda gwasanaethau cyhoeddus ehangach. O ganlyniad, fe wnes i gael gwahoddiad i gymedroli trafodaeth Bowlen Bysgod er mwyn rhannu straeon am atebion ac arloesi yn yr Ŵyl Dai, a gafodd ei chynnal yn y Depot yng Nghaerdydd.

Beth ar y ddaear yw Bowlen Bysgod?

Graffig o gynllun ar gyfer bowlen bysgod, sydd gyda phum cadair sydd wedi'u hamgylchynu gan gylchoedd consentrig o gadeiriauCwestiwn Dda. Roedd yn rhaid i mi wneud ychydig o waith ymchwil ymlaen llaw er mwyn deall beth ydoedd a’r hyn y byddai’n rhaid i mi ei wneud. Mewn gwirionedd, mae’n gyfle i drafod pwnc mewn fformat nad oes iddo lawer o strwythur.

Caiff nifer o gadeiriau eu gosod o amgylch grŵp llai o gadeiriau. Caiff rhai cyfranogwyr eu dewis i lenwi’r bowlen bysgod, tra y bydd gweddill y grŵp yn eistedd ar y cadeiriau y tu allan i’r fowlen bysgod. Mae cymedrolwr yn cyflwyno pwnc ac mae’r cyfranogwyr yn dechrau ei drafod. Mae’r gynulleidfa y tu allan i’r fowlen bysgod yn gwrando ar y drafodaeth a gallant gymryd rhan drwy eistedd mewn sedd wag yn y canol, ac yna mae’n rhaid i un o’r siaradwyr yn y canol wneud ei ffordd i’r cadeiriau ar y tu allan.

Mae iteriad yn allweddol

Siaradodd Esko Reinikainen am bwysigrwydd iteriad yn ei gyflwyniad ar ddechrau’r diwrnod. Cawsom gyfle i ailadrodd ein Bowlen Bysgod ar ôl casglu adborth gan gyfranogwyr. Dechreuon ni ychydig yn araf yn y Fowlen Bysgod gyntaf achos roeddwn i eisiau i bawb ddod yn gyfarwydd â’r broses drwy ganolbwyntio ar gwestiynau. Ond erbyn diwedd y sesiwn gyntaf, roeddem wedi magu cryn dipyn o stêm ac roedd y cyfranogwyr wir yn cymryd rhan wrth herio’r hyn roeddynt yn ei glywed a’r ffyrdd y gellid gwella gwasanaethau. Felly ar gyfer yr ail dro fe wnaethon ni hedfan drwy’r trafodaethau cychwynnol ac annog pobl i gyfrannu yng nghanol y cylch. Os oes ydych chi’n bwriadu hwyluso Bowlen Bysgod, golyga hyn fod popeth yn llifo ychydig yn well a chawsom fwy o gyfle i rannu arfer da.

Dysgu o fethu

Fe wnaeth Esko hefyd crybwyll cysyniad Amy C. Edmondson o Weithio mewn Timau yn ystod ei gyflwyniad, sy’n dechrau drwy helpu pobl i fod yn chwilfrydig, yn frwdfrydig ac yn bendant. Cyfeiriais at un o gysyniadau eraill Edmunson, ei Hystod o Resymau dros Fethiant. Rwy’n credu fod hwn yn adnodd defnyddiol ar gyfer edrych ar fethiant a nodi camau gweithredu dilynol. Siaradom gryn dipyn am Ymddiriedaeth yn ystod ein sgyrsiau (ac ysgrifennais y blogbost hwn ynglŷn â pham bod ymddiriedolaeth yn bwysig i arloesedd eisoes), a chredaf fod ei dadansoddiad o’r hyn sy’n cyfiawnhau bai yn adnodd defnyddiol ar ein cyfer ni fel staff sector cyhoeddus. Wrth gwrs mae yna adegau lle na fydd methiant yn opsiwn mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond yn rhy aml rydym yn bwrw bai mewn amgylchiadau amhriodol.

Rhannodd Ian o The Wallich ei hanes trist o’r llwyfan am y ffordd y daeth i fod yn ddigartref. Gallai fod wedi ymddangos ar radar un o nifer o wasanaethau cyhoeddus (iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai neu’r trydydd sector), ond The Wallich a’i helpodd pan oedd mewn angen. Mae cymhlethdod ei sefyllfa’n golygu, mewn sefyllfa o’r math hwn, y dylem fod yn edrych i  rannu gwersi ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud yn well, ac eto mae ofni cael y bai yn rhwystr rhag dysgu, rhannu ac arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gweithio mewn amgylcheddau cymhleth

Fframwaith Cynefin, sydd wedi'i rannu'n barthau Cymhleth, Dyrys, Chaotic, Syml ac AnhrefnRhannais Fframwaith Cynefin yn ystod ein trafodaethau. Rydym wedi’i ddefnyddio yn y Gyfnewidfa Arfer Da i’n helpu i feddwl ynglŷn â’r ffordd rydym yn rhannu arfer. Mewn amgylchiadau syml lle gallwn ragfynegi popeth sydd am ddigwydd, mae un ffordd gywir o wneud pethau, er enghraifft mewn amgylcheddau a reolir, fel gweithgynhyrchu. Ond mewn amgylcheddau cymhleth, fel yr amgylcheddau y mae tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn aml yn gweithredu ynddynt, nid oes dull gweithredu sy’n ateb i bawb. Dyma pryd mae llawer o’r dulliau gweithredu y soniodd Esko amdanynt fwyaf priodol – mae angen i ni brofi, prototeipio ac ailadrodd.

Rhaid i ni hefyd feddwl am sut y gallwn leihau ein cymhlethdod sefydliadol fel y gallwn leihau ein peryglon posibl. Oes angen i ni greu mwy o bolisïau ar gyfer pob amgylchiad posibl? Allwn ni symud o broses i gynhyrchiant er mwyn grymuso staff i wneud penderfyniadau gwell yn lle hynny? Mae Paul Talyor wedi ysgrifennu blogbost gwych am hyn, a rhoddodd Owain Israel o Charter Housing enghraifft dda o roi hyn ar waith gan eu bod yn gwneud llai o waith archwilio ffurfiol er mwyn edrych ar ffyrdd mwy hyblyg o wirio tai. Nododd Neil Tamplin fod hyn yn achos prin o rywun yn ceisio gwneud ei hun yn anarferedig, ac mae Paul wedi ysgrifennu post da arall sy’n werth ei ddarllen ynglŷn ag anarferiant bwriadol fel ffordd o ysgogi arloesedd.

Siaradodd Neil am weithio’n agored ar y panel, a dydw i ddim wedi dod ar draws unrhyw un yn y gwasanaeth cyhoeddus sy’n gwneud hyn yn well nag ef. Mae ei Braindumps yn enghraifft wych o weithio agored gan eu bod yn grynodebau anhygoel o’i wythnos gwaith ac adnoddau diddorol. Mae hyn mor bwysig oherwydd er nad oes un dull gweithredu sy’n ateb i bawb sy’n gweithio i ni mewn amgylcheddau cymhleth, does dim byd yn ein rhwystro rhag dysgu gydag eraill ac addasu’r hyn y mae pobl eraill yn ei wneud. Yn briodol iawn, mae Neil eisoes wedi ysgrifennu blogbost gwych am y digwyddiad, a dydw i ddim yn gallu rhoi hwn yn well nag ef:

“Os oes gan eich diben rywbeth i’w wneud â gwella bywydau pobl sydd angen tai, yna baswn i’n dadlau bod dyletswydd foesol arnoch i rannu unrhyw beth sy’n datblygu’r achos hwnnw, waeth pa mor fach neu anarwyddocaol y mae’n ymddangos.”

Ar ôl siarad cymaint am gymryd risgiau a dysgu o fethu yn y blogbost hwn, roeddwn am orffen drwy ddweud pa mor wych oedd hi fod y Sefydliad Tai Siartredig wedi mentro gyda fformat a lleoliad gwahanol iawn. Roedd y digwyddiad yn sicr yn wahanol iawn i ddigwyddiad gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol, ac fe sbardunodd ambell drafodaeth a rhoddodd bwyntiau trafod i mi wrth gyfarfod pobl newydd. Gobeithio y gwnaethoch chi ddysgu cymaint â fi o’r digwyddiad fel y gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth ymarferol wrth wella bywydau pobl.

Pam mae Safonau Agored yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell

Read this blog post in English

Sut y gall defnyddio Safonau Agored sicrhau y caiff systemau Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau cyhoeddus eu hintegreiddio’n well? Mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd drwy gymryd rhan yng ngweminar y Gyfnewidfa Arfer Da ar Safonau Agored.

Mae digidol wedi bod yn un o themâu allweddol ein gwaith ers sbel. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar y thema, o’n seminar ar Dechnoleg Gwybodaeth fel rhan o’n gwaith ar asedau yn 2013, i’n gweminar diweddaraf ar Safonau Agored.

Hwn yw’r digwyddiad â’r thema fwyaf technolegol a gynhaliwyd gennym ers ein gweminar ar Gyfrifiadura Cwmwl, ond mae’n bwnc roeddem yn awyddus iawn i roi sylw i gan fod Safonau Agored yn bwysig iawn i integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ledled Prydain yn anfon deunydd marchnata sy’n gwerthu pob math o gynnyrch a gwasanaethau â’r rhagddodiad “digidol”. Mae Safonau Agored yn allweddol i’w gwneud yn bosibl i lawer o’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu i integreiddio â’i gilydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod ein gweminar, disgrifiais Safonau Agored fel safonau a ddatblygir drwy broses gydweithrediadol ar gyfer data, fformatau dogfennau a rhyngweithredadwyedd meddalwedd. Ond fel y nododd Evan Jones, nid oes unrhyw ddiffiniad cyffredinol y cytunwyd arno o Safonau Agored – sy’n eironig! Felly, am y rheswm hwnnw yn unig, mae’n werth cael gwybod am y weminar!

Felly, beth oedd fy mhwyntiau dysgu allweddol?

“Gwnewch y gwaith caled i wneud pethau’n hawdd”

Rhoddodd Terence Eden o Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU i ni feddwl amdano yn ystod y weminar. Dilynwyd y perl hwn gan un arall, sef “Dyw e ddim amdano chi, mae fe amdano’r defnyddwyr.” Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd gan un o’r cynadleddwyr oedd a fyddai’n anodd rhoi’r Safonau Agored ar waith gyda’u technoleg bresennol. Fe wnaeth ymateb Terence gwneud i mi feddwl fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn hytrach na bod yn nod ynddynt eu hunain. Dylem fod yn meddwl am sut y gallwn ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’r defnyddiwr terfynol, ac nid yw defnyddio safonau perchenogol sy’n rhwystro integreiddio yn helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Fel y dywedodd Terence, “Gall Safonau Agored achub bywydau!”

Rydym wedi meddwl llawer yn y Gyfnewidfa Arfer Da am yr amgylcheddau cymhleth ac anodd lle y darperir gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Chris Bolton wedi ysgrifennu’r eitem wych hon ar y problemau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu un dull i ddatrys pob problem mewn sefyllfa lle y ceir llawer o newidynnau. Y broblem sy’n gysylltiedig â pharhau i ddilyn y llwybr perchenogol yw ein bod yn ychwanegu haenau o gymhlethdod at amgylchedd sydd eisoes yn gymhleth. Mae’n lleihau’r opsiynau ar gyfer gwasanaethau ac yn golygu bod yn rhaid i’r atebion eu hunain fod yn fwyfwy cymhleth, a all greu rhagor o broblemau a lleihau dibynadwyedd. Mae’n werth darllen sut y trefnodd Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Seland Newydd fod eu systemau gwybodaeth yn rhai agored yn ddiofyn, a arweiniodd at system Technoleg Gwybodaeth fwy dibynadwy a chadarn oherwydd y cyfluniad mwy trefnus heb ganiatadau a chyfyngiadau di-ben-draw.

Nid yw Safonau Agored ar gyfer arbenigwyr ym maes Technoleg Gwybodaeth yn unig

Nid oedd y trafodaethau yn ystod y weminar yn ymwneud â systemau Technoleg Gwybodaeth yn cydweithio’n dda yn unig. Nodais uchod fod Safonau Agored yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell ac, felly, ni ddylai gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ohonynt fod yn gyfyngedig i adrannau Technoleg Gwybodaeth. Maent yn helpu i integreiddio systemau a galluogi cydweithredu. Gellir defnyddio’r data a gasglwyd i gynllunio ar gyfer yr hirdymor, felly mae’n amlwg sut y gallant fod o fudd mawr i alluogi sefydliadau i weithio drwy rai o’r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os ydym am gasglu data i wneud gwaith cynllunio effeithiol a chydweithio er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yna mae’n bwysig bod cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o Aelodau Etholedig i Reolwyr Prosiectau Cyfalaf, yn ymwybodol o Safonau Agored.

Pŵer caffael

Yn gysylltiedig â’r pwynt uchod sy’n nodi bod Safonau Agored yn bwysig y tu hwnt i faes Technoleg Gwybodaeth, mae’n rhywbeth y dylai staff mewn rolau caffael ei ystyried. Maen nwh’n lleihau cymhlethdod er mwyn galluogi integreiddio, a hefyd maent hefyd yn agor cyfleoedd caffael y tu hwnt i werthwyr mawr i fusnesau bach a chanolig. Mae’n amlwg bod hyn yn gysylltiedig â rhai o’r Canlyniadau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â Chymru Lewyrchus a Chymru gydnerth (yn economaidd).

Fel y nododd Evan Jones yn ystod y weminar, mae Safonau Agored hefyd yn eich helpu i ystyried systemau o safbwynt mwy hirdymor, achos y byddan nhw’n rhyngweithredadwy â chi yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth dda hefyd ynghylch annog gwerthwyr i weithio gyda Safonau Agored yn ystod y weminar, ac fel y dywedodd Jess Hoare, mae’n bwysig cofio mai ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, sy’n caffael gwasanaethau. Efallai ei bod yn hawdd anghofio yn y sefyllfaoedd hyn mai gyda ni, fel caffaelwyr, y mae’r pŵer yn ystod trafodaethau. Anogodd Evan bob un ohonom i drafod â gwerthwyr – os na allant storio data mewn Safon Agored, dylech amau eu cymhellion.

Y camau nesaf

Caiff adnoddau o’r gwaith hwn ar Safonau Agored eu bwydo i mewn i’n gwaith Digidol er mwyn sicrhau y bydd ei effaith yn parhau a hefyd roi i bobl sydd â diddordeb yn yr agenda rywbeth i gnoi cil drosto. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r gwaith hwn yn fewnol hefyd. Rwyf wedi bwydo’r hyn a ddysgais o’r weminar i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, ac rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu’r hyn a ddysgwyd ag archwilwyr, gan fod gan Safonau Agored rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau y gall systemau a sefydliadau gydweithio’n effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mae meddwl byrdymor yma yn cael effaith fawr yn y tymor hwy.

Rydym hefyd wedi trefnu gweminar ar gaffael fel rhan o raglen eleni, sy’n rhoi cyfle i ni edrych unwaith eto ar rai o’r materion a godir yma. Rydym wedi dod ar draws rhai enghreifftiau o arfer diddorol yn ystod ein gwaith cwmpasu cychwynnol ar gaffael, yn enwedig sut mae CivTech wedi mabwysiadu dull gwahanol o ysgogi arloesedd yn yr Alban. Hoffem glywed gennych os oes gennych enghreifftiau eraill o arfer y gallwn dynnu sylw atynt. Oherwydd wedi’r cwbl, dim ond os bydd yn dysgu o’r materion allweddol rydych yn eu hwynebu fel gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn eu hadlewyrchu y bydd ein gwaith yn llwyddiannus.

Cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol: Mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth

Mae cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol fel arfer yn digwydd wrth ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth. Sut gall byrddau a staff sicrhau bod y broses yn addas i’r diben ac wedi’i seilio ar yr achwynydd? Mae Dyfrig Williams ac Ena Lloyd yn myfyrio am yr hyn a ddysgwyd o Seminar Cwynion y Gyfnewidfa Arfer Da.

Yn ôl ym mis Mehefin, gwnaethom gynnal seminar am Groesawu Cwynion. Ein rheswm dros gynnal y seminar yn y lle cyntaf oedd yn sgil trafodaeth â Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gwnaethom ddechrau trafod am y nifer cynyddol o gwynion maent wedi bod yn eu derbyn, a wnaeth arwain at gyflwyniad gwych yn y digwyddiad gan Nick ynglŷn â’r rheswm dros hyn a pham y bydd nifer y cwynion yn cynyddu mwy fyth. Mae’n sicr yn werth ystyried y Storify am drosolwg o bwyntiau Nick.

Llun o drydar gan Chris Bolton sy'n dangos y cynnydd mewn cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros 5 mlynedd diwethaf

Gofynnwyd cwestiwn diddorol yn y digwyddiad gan Jane Dale, Pennaeth Dysgu Sefydliadol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynglŷn â chwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol. Lle mae corff iechyd yn teimlo bod y gofal cywir wedi cael ei ddarparu ond fod y claf yn teimlo iddo gael profiad gwael, gall bwydo’r wybodaeth yn ôl i achwynydd siomedig fod yn heriol. Gall hefyd fod yn anodd cyflwyno’r wybodaeth yn effeithiol i aelodau’r bwrdd i annog gwelliant strategol. A yw byrddau’n ei chael hi’n anodd cyflawni gwelliannau pan fo’r hyn a ddysgwyd yn ymwneud â sgiliau meddal yn hytrach na phrosesau caled? Gall fod yn anodd defnyddio’r hyn a ddysgwyd, a’i roi ar waith drwy sefydliad cyfan, pan nad yw mewn cyd-destun deuaidd o’r hyn sy’n gywir a’r hyn sy’n anghywir.

Er enghraifft, yn dilyn ymchwiliad efallai y gwelir bod y drefn glinigol gywir wedi’i dilyn ond fod y claf yn teimlo bod y cyfathrebu / esboniadau yn wael. Wrth i staff gael eu cyfweld efallai y byddant yn dweud bod pob ymdrech wedi’i gwneud i egluro’r sefyllfa, ond mae’r claf yn dal yn anhapus. Yr her yw pa un i ddosbarthu hyn fel cwyn nas cadarnheir ac egluro pam, neu ei dosbarthu fel cwyn a gadarnheir yn rhannol. Os caiff ei dosbarthu fel cwyn nas cadarnheir, mae’r claf yn dal yn anfodlon ac yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arno. Mae cadarnhau’r gŵyn yn awgrymu bod rhywbeth o’i le ac mae hynny’n anodd i staff ei gymryd pan fyddant wedi gwneud pob ymdrech i gyfathrebu â’r claf.

Ychwanegodd Nick Bennet, ‘os oes amheuaeth, dylid ffafrio’r pwynt dysgu yn hytrach na’r tic yn y blwch.’

Sefyllfaoedd cymhleth

Darperir gwasanaethau cyhoeddus mewn amgylcheddau cymhleth. Gall prosesau syml weithio ar gyfer materion cymharol syml, ond pan fo teimladau a safbwyntiau pobl yn rhan o’r mater, ni all unrhyw broses roi atebion du a gwyn yn unig pan fo arlliwiau rhwng y ddau.

Delwedd o'r Fframwaith Cynefin, sy'n dangos dylai arfer da cael ei rannu mewn sefyllfaoedd cymhlethMae gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da yn cyd-fynd â rhesymwaith y Fframwaith Cynefin. Efallai y byddwch wedi sylwi nad ydym erioed yn defnyddio’r term ‘Arfer Gorau’. Mae hyn am fod y term yn rhoi’r argraff bod un ffordd gywir o wneud pethau a fydd yn addas ar gyfer pob sefyllfa. Gall hyn fod yn addas mewn amgylchedd gweithgynhyrchu, ond pan fo’r berthynas rhwng achos ac effaith yn aneglur fel y mae mewn amgylcheddau cymhleth fel darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, nid yw un ymateb syml i bawb yn debygol o fod yn addas.

Sut gall sefydliad ddatblygu a rheoli proses gwyno, felly, pan fo’n rhaid ystyried teimladau a safbwyntiau pobl? Y perygl gydag unrhyw bolisi neu broses yw, unwaith iddi gael ei ffurfio, y bydd yn aros ar y silff heb gael ei defnyddio. Felly mae llwyddiant yn golygu sicrhau bod y ddogfen yn rhywbeth sy’n wirioneddol yn fyw, ac sy’n cael ei diweddaru a’i gwella’n seiliedig ar arferion a phrofiad. Efallai y bydd gwersi i’w dysgu yn sgil egwyddorion Dylunio Digidol o ran defnyddio dull iteraidd wrth weithio. Mae egwyddor pump Egwyddorion Dylunio Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth yn nodi:

“Y ffordd orau o ddatblygu gwasanaethau da yw dechrau’n fach ac iteru’n wyllt. Dylech ryddhau’r Cynhyrchion Symlaf sy’n Hyfyw yn gynnar, eu profi gyda defnyddwyr go iawn, symud o’r cam Alpha i’r cam Beta ac yna’r cam Byw, gan ychwanegu nodweddion, dileu’r pethau nad ydynt yn gweithio mor dda, a mireinio’n seiliedig ar adborth. Mae iteru yn lleihau’r risg. Mae’n golygu bod methu’n llwyr yn annhebygol, ac yn troi methiannau bach yn wersi.Os nad yw prototeip yn gweithio, peidiwch ag ofni rhoi’r gorau iddo a dechrau eto.”

A yw’r broses wedi’i dylunio gan ystyried yr achwynydd?

Fel y dywedodd Alan Morris yn y digwyddiad, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfle i sefydliadau edrych unwaith eto ar eu diwylliant. Mae’n rhoi cyfle iddynt edrych unwaith eto ar hen brosesau ac i gwestiynu a ydynt yn dal i fod yn addas i’r diben. A yw’r broses yn canolbwyntio ar anghenion y sefydliad yn lle anghenion yr achwynydd

Gallai Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sydd wedi eu datblygu gan Cyfranogaeth Cymru, helpu sefydliadau i feddwl am sut y gallent sicrhau bod y broses yn canolbwyntio ar yr achwynydd. Gallant awgrymu cwestiynau defnyddiol. Er enghraifft – a yw’r broses wedi’i dylunio’n effeithiol i wneud gwahaniaeth? Sut ydych chi’n rhoi adborth i bobl a sut byddwch yn dysgu ac yn rhannu’r gwersi er mwyn gwella’r broses ymgysylltu?

Drwy flogio am hyn, hoffem gael ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni allu rhannu syniadau a dulliau gyda Jane a’r holl bartïon â diddordeb, er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella. A thrwy gydnabod bod ymateb emosiynol rhywun wrth wraidd sefyllfaoedd cymhleth o’r fath, gall sefydliadau helpu i sicrhau eu bod ar y trywydd cywir i wella gwasanaethau cyhoeddus.