Tag Archif: cymdeithas llywodraeth leol cymru

Codi tâl ai peidio?

A all cynghorau wneud gwell defnydd o’u hadnoddau drwy godi tâl am wasanaethau gwastraff? Mae Gwyndaf Parry o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi blogio i ni ar ddigwyddiad a gafodd ei chynnal gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae gwasanaethau yn dod o dan fwy a mwy o bwysau, gyda disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu mwy gyda llai. Er mwyn darparu ystod eang o wasanaethau i drigolion a chynnal gwasanaeth o safon uchel, mae gan Gynghorau yng Nghymru y pwerau cyfreithiol i godi tâl am ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwastraff gardd neu wastraff gwyrdd, casglu swmp-wastraff a rhoi biniau neu gynwysyddion ailgylchu newydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chafodd ei hwyluso gan Dîm Ymarfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, i annog awdurdodau lleol yng Nghymru a’u galluogi i rannu arfer da wrth gyflwyno tâl am wasanaethau casglu gwastraff. Cafodd cyfranogwyr eu hannog i gymryd rhan mewn trafodaethau a dysgu oddi wrth eraill, gan eu helpu i osgoi’r un camgymeriadau ac arbed costau ac amser.

Andy Phillips o Swyddfa Archwilio Cymru gyflwynodd y diwrnod, a dangosodd, mewn ffordd ddiddorol, yr incwm sy’n dod o wasanaethau gwastraff fesul trigolyn, gan ddangos y gwahaniaeth rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr. Mae’r incwm a gafwyd yn Lloegr wedi codi’n gyson ers 2008/9 tra’i fod wedi gostwng yng Nghymru a’r Alban.

Graff sy'n dangos bod yr arfer o godi tâl am wasanaethau gwastraff wedi gostwng yng Nghymru a'r Alban ers 2008/9, ond wedi cynyddu yn Lloegr

Rhannodd Di Bradbury o Gyngor y Wirral ei phrofiad o gyflwyno tâl am gasglu gwastraff gardd, a sut gwnaeth Cyngor y Wirral reoli cyflwyno taliadau yn ôl yn 2013/14. Un darn o gyngor allweddol gan Di oedd sicrhau bod system TG gadarn ar waith o’r dechrau’n deg, a sicrhau bod eich system TG yn gallu delio â chofrestru cwsmeriaid, rheoli cronfa ddata cwsmeriaid a rheoli taliadau. Pwysleisiodd Di mai dyma oedd un o’r elfennau mwyaf llafurus o gyflwyno gwasanaeth y codir tâl amdano – mae pobl yn disgwyl gwasanaeth o safon uchel pan maent yn talu am wasanaeth. Dylid osgoi methu casgliad pan fyddwch yn adeiladu gwasanaeth casglu y codir tâl amdano sydd ag enw da.

Roedd Cyngor y Wirral yn cydnabod pwysigrwydd ymgynghori â’r cyhoedd. Fel rhan o’i waith cynllunio gwastraff ymgynghorodd â’r cyhoedd i geisio eu barn ynglŷn â chodi tâl. Roedd 51.7% o’r ymatebwyr o’r farn bod gorfod talu am gasglu gwastraff gardd yn gwbl annerbyniol. Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau ar y gyllideb yn golygu bod yn rhaid iddynt gyflwyno tâl. Fodd bynnag, gwnaeth sicrhau bod opsiynau amgen ar gael i drigolion gan gynnwys:

  • Disgownt o £5 am danysgrifio ar-lein (mae 89% o gwsmeriaid yn defnyddio’r opsiwn hwn),
  • Opsiwn rhannu bin gyda chymydog
  • Hyrwyddo biniau compostio cartref.

Gwers werthfawr a ddysgwyd gan Gyngor y Wirral oedd cynnig cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. Yn ôl y gyfraith, dylid cynnig cyfnod o 14 diwrnod i drigolion, lle gallant gael ad-daliad. Yn y Cyngor, roedden nhw ond cynnig ad-daliad os na chasglwyd gwastraff y trigolyn.

Yn ôl y disgwyl, gwelwyd gostyngiad yn nifer y tunelli o wastraff gardd a gasglwyd wrth ymyl y ffordd yn y Wirral, fodd bynnag gwelodd y Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu gynnydd sylweddol mewn llif gwastraff gardd. Yn gyffredinol cafwyd gostyngiad o 11% yn nifer y tunelli o wastraff gardd dros gyfnod o ddwy flynedd. Gostyngodd y cyfraniad tuag at gyfradd ailgylchu’r Gwastraff Solet Trefol (MSW) cyffredinol am ddwy flynedd ar ôl cyflwyno tâl, fodd bynnag, yn ystod y drydedd flwyddyn gwelir bod y gyfradd wedi bod cynyddu bron i’r lefel wreiddiol. Yn ddiddorol ddigon, yn ystod yr un cyfnod, mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng yn gyson.

A yw’r dyfodol yn wyrdd?

Cafodd y gweithdy sesiwn grŵp cyntaf hwn ei gynnal gan Jim Espley o Gyngor Sir Ddinbych. Ar ôl codi tâl am wasanaeth gwastraff gardd ar 30 Mawrth 2015, Sir Ddinbych yw’r awdurdod lleol diweddaraf yng Nghymru i godi tâl, ac felly roedd ganddo gyngor gwerthfawr i’r cynghorau eraill.

Ar ôl cael cymeradwyaeth i godi tâl ym mis Medi 2014, roedd gan Sir Ddinbych gyfnod cymharol fyr i gyflwyno’r gwasanaeth. Y gweithgareddau allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant oedd:

  1. Cyfathrebu â thrigolion – cyflwyno’r gwasanaeth newydd a oedd ar gael,
  2. Sefydlu system TG addas gan gynnwys system prosesu taliadau.
  3. Delio â chwynion a sefydlu prosesau addas,
  4. Prynu codau bar a sganwyr addas ar gyfer y biniau.

Cofrestrodd 12,500 (30%) o dai ar gyfer y gwasanaeth ar y dechrau. Erbyn diwedd y flwyddyn cynyddodd hyn i 17,000 (40%) o dai. Gallai cwsmeriaid gofrestru ar-lein (gyda disgownt) neu wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac mewn Siopau Un Stop. Gweithiodd Sir Ddinbych yn agos gyda’i adran TG i sicrhau bod system addas at y diben ar waith. Roedd cronfa ddata bwrpasol yn ei gwneud yn bosibl i gasglu manylion cyfeiriad, y dyddiad casglu, gwybodaeth casglu â chymorth, yn ogystal â hanes casglu arall. Caiff pob bin sticer cod bar a chysylltir hwn â’r gronfa ddata cwsmeriaid. Mae’r gronfa ddata hefyd wedi’i chysylltu â system meddalwedd ‘Trackyou’ sydd â thechnoleg yn y cab sy’n galluogi’r criw i fonitro a chasglu manylion cwsmeriaid mewn amser real. Mae hyn yn helpu Sir Ddinbych i gynnig gwasanaeth o safon uchel i’w drigolion.

Gwers werthfawr a rannodd Jim gyda’r grŵp oedd y byddai tanysgrifiadau ar-lein yn sicrhau bod data o ansawdd da yn cael ei fwydo i’r gronfa ddata TG. Cafwyd nifer o wallau gyda manylion cwsmeriaid pan gwblhawyd gwaith papur ar gopi caled. Felly mae Sir Ddinbych yn gweithio tuag at annog mwy a mwy i danysgrifio ar-lein.

Pa mor wyrdd yw eich cwm?

Roedd ail weithdy a gynhaliwyd gan Carl o Sir Fynwy yn ymwneud â rhannu gwersi a ddysgwyd. Mae gan Sir Fynwy wasanaeth casglu gardd y codir tâl amdano ers nifer o flynyddoedd. O fis Gorffennaf 2013 mae Sir Fynwy wedi bod yn codi tâl am gasglu gwastraff gardd. Ar ôl codi tâl o £8 am gasglu sach hesian 90 litr y gellid ei hailddefnyddio yn wreiddiol, erbyn 2016/17 mae’r tâl a godir wedi cynyddu i £14 fesul sach.

Rhoddir sach am ddim i drigolion a rhaid iddynt dalu am drwydded sydd wedi’i thagio ar y sach. Unwaith eto pwysleisiodd Sir Fynwy bwysigrwydd bod â system TG addas at y diben – gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant gwasanaeth.

Mae nifer y trigolion sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth y codir tâl amdano wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn Sir Fynwy, gyda chartrefi sy’n tueddu i fod â gerddi mwy yn prynu nifer uwch o fagiau. Pwysleisiodd Carl fod nifer y tunelli o wastraff gardd sy’n mynd i’w Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu wedi cynyddu, felly mae’n bwysig bod â Chanolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu ar waith sy’n gallu rheoli’r cynnydd hwnnw.

Prif Gyngor

Neges allweddol y dydd oedd buddsoddi a neilltuo amser ac adnoddau ar gyfer system TG addas at y diben sy’n gallu rheoli taliadau cwsmeriaid a data a gwybodaeth cwsmeriaid, gan ei gwneud yn haws gwybod pwy sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac os yw casgliadau wedi cael eu cyflawni ai peidio. Mae cwsmeriaid yn disgwyl gwasanaeth o safon uchel pan maent yn talu amdano.

Gweithdy Optimeiddio Llwybrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru – Sut yr aeth hi…

What is Route Optimisation? / Beth yw Optimeiddio Llwybrau?

Rydym ni i gyd yn gwybod y gall gwasanaeth gwastraff fod yn wasanaeth anodd ei newid. Mae’n un o’r gwasanaethau mwyaf gweladwy a redir gan yr awdurdod lleol. Mae unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth yn cael effaith ar bob preswylydd, felly does dim angen dweud y dylid ystyried goblygiadau unrhyw newidiadau yn y gwasanaeth yn drylwyr. Gall rhoi sylw i optimeiddio llwybrau hwyluso pontio rhwydd heb effeithio ar gyflenwi’r gwasanaeth. Gall hefyd gyflawni arbedion ariannol sylweddol, gan helpu i gadw’r cyhoedd a’r gwleidyddion yn hapus.

Nid yw’n hawdd – nid oes ffon hud – ond nid yw hi’n anodd ychwaith, ond mae dyrannu’r adnoddau cywir yn hanfodol er mwyn cael y canlyniadau gorau.

Dyma grynodeb o’r dulliau a grybwyllwyd yn ein gweithdy:

Dull Sir Gâr

Yn ei gyflwyniad, rhannodd Hywel Thomas o Gyngor Sir Gâr eu profiadau o ddilyn y broses optimeiddio llwybrau. Mae gan Sir Gaerfyrddin anghenion amrywiol, gan fod gogledd y sir yn eithaf gwledig a’r de yn fwy trefol. Ond ni waeth ym mha ran o’r sir y maen nhw, mae’r boblogaeth yn mynnu gwasanaeth casglu cadarn, cost effeithiol, effeithlon a dibynadwy.

Y penderfyniad mwyaf pwysig oedd neilltuo staff penodedig i’r prosiect. Symudwyd nhw oddi wrth eu gwaith arferol a galluogodd hyn y staff i ganolbwyntio 100% ar y prosiect optimeiddio llwybrau.

Cyn dechrau gweithio ar y prosiect ei hun, mae’n hanfodol casglu data cadarn, gan gynnwys: y tunelleddau a gesglir ar y llwybrau presennol, yr amser ar gyfer y llwybrau presennol, capasiti’r cerbydau (fesul math o ffrydiau deunydd), a mynediad at ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae’r diwrnod gwaelodlin hwn yn hanfodol ar gyfer mesur yr arbedion effeithlonrwydd a wnaed.

Pan fydd y data sylfaenol i gyd wedi’i gasglu, mae’r gwaith go iawn yn cychwyn. Defnyddiodd Sir Gaerfyrddin wybodaeth ac arbenigedd lleol i gynllunio eu llwybrau eu hunain gan sicrhau bod y tîm gweithredu yn hapus â’r manylion terfynol.

Canlyniad yr holl waith caled hyn oedd arbedion a buddiannau sylweddol:

  • Gwasanaeth effeithlon
  • Gostyngiad o 6 yn nifer y cerbydau rheng flaen
  • Gostyngiad o 31% mewn milltiredd
  • Cyngor ac arweiniad ar gyfer Awdurdodau Lleol

Y gweithdai

Dyma grynodeb o’r pwyntiau allweddol o’r pedwar gweithdy.

Cawsom wybod o weithdy Webaspx fod data gwaelodlin cywir yn hanfodol fel man cychwyn. Clywsom hefyd os ydych yn rhedeg amrywiaeth o sefyllfaoedd, y gallwch sicrhau eich bod yn cael y canlyniad gorau ar gyfer eich awdurdod lleol, gan ei fod yn rhoi tystiolaeth bendant i chi i helpu â’r broses o wneud penderfyniadau.

Yn y gweithdy Sgiliau Integredig, clywsom sut y mae ‘Binfo’ yn galluogi criwiau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ‘fyw’ i reolwyr gweithredol a rheolwyr gwastraff. Clywsom eto fod data cywir yn hanfodol, gan fod dibynnu ar ragdybiaethau a chyfartaleddau’n gallu achosi trafferthion. Y neges allweddol a ddaeth o’r gweithdy oedd nad yw arbedion yn arbedion tan eu bod wedi eu cyflawni – mae’n rhaid cyflawni cynlluniau’n effeithiol.

Canolbwyntiodd y drafodaeth yng ngweithdy Sir Gâr ar neilltuo amser ac adnoddau o’r dechrau ar gyfer casglu gwybodaeth berthnasol. Mae gan staff mewnol y wybodaeth a’r arbenigedd lleol y dylem fanteisio arno er mwyn gwneud y gorau o’r dechnoleg, oherwydd gall staff a thechnoleg weithio law yn llaw i gyflawni arbedion dryw optimeiddio llwybrau.

Bu llawer o drafodaethau yng ngweithdy Caerffili, gan gynnwys manteision ymgysylltu â’ch staff a’r undebau o’r dechrau, er mwyn gallu dod â phawb ar y daith gyda chi – byddwch yn agored ac yn dryloyw. Bydd hyn hefyd yn helpu i gynnal perthynas barhaus gyda’r criwiau wrth addasu newidiadau ychwanegol. Mae’n hanfodol cael cynllun prosiect cadarn gydag amserlen realistig, ac mae manteision i ymgynghori ag adrannau eraill fel yr adran gynllunio er mwyn deall datblygiadau adeiladu’r dyfodol

Beth gefais i o’r diwrnod?

Wrth adael y gweithdai, roedd hi’n amlwg mai’r tair prif neges oedd:

  • Data gwaelodlin cadarn
  • Ymgysylltu â’r holl randdeiliaid cyn gynted ag y bo modd
  • Defnyddio staff mewnol a gwybodaeth leol

Y camau nesaf i chi?

Mae’n bosibl bod cymorth ar gael i chi a’ch cyngor gan y Rhaglen Newid Gydweithredol drwy Raglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP).

Cyfathrebu yw’r allwedd i sicrhau llwyddiant yn ystod y broses optimeiddio llwybrau. Mae cyfleoedd ar gael i rwydweithio drwy Grwpiau Rheolwyr Gwastraff De a Gogledd Cymru. Cofiwch fod trafod yn syniad da.

Gwyndaf Parry, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sawl gwaith ydych chi wedi bod yn styc y tu ôl i lori bin pan mae rhaid i chi fynd i’r gwaith ar frys?

Gall eich sefydliad chi elwa o optimeiddio llwybrau? Yn y blogbost isod mae Andy Phillips, Archwilydd Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru yn edrych ar y manteision posibl. 

Rubbish / SbwrielMae pigo fyny sbwriel yn weithgaredd hanfodol i’r cyngor ac mae yna dystiolaeth weladwy i bawb o effeithlonrwydd y gwasanaeth anddeniadol yma. Er bod y swydd yn ymddangos i fod yn un syml ar yr olwg gyntaf, mewn gwirionedd rhaid cynllunio’n drwyadl ac ystyried yr angen i gadw costau mor isel â phosibl, rhoi rowndiau casglu mewn lle sy’n cwmpasu’r sir gyfan, sy’n rhedeg yn effeithlon ac er boddhad preswylwyr a masnachwyr. A gyda chyn lleied o darfu ag sy’n bosibl.

Dim jyst sbwriel sy’n cael ei gasglu. Mae’r maint o ailgylchu yn cynyddu, jyst fel y mathau o ddeunyddiau a gesglir megis bwyd, deunydd ailgylchu sych a gwastraff gardd. Mae’r faint o rain sydd angen i gynghorau gasglu yn newid yn gyson gyda gweithgarwch economaidd, tymhorau, a chyflwyno strategaethau gwastraff. Yn ymarferol, gall hyn olygu bod angen nifer o wahanol fathau o gerbydau casglu ar gynghorau, ac efallai bydd rhaid i weithredwyr sortio deunydd ailgylchadwy ar ymyl y ffordd. Mae’r criw ar rowndiau casglu yn wynebu her gorfforol sylweddol i lwytho sbwriel a deunydd ailgylchu drwy’r dydd ac ym mhob tywydd, felly rhaid i rowndiau casglu amddiffyn eu diogelwch a’u lles a chydbwyso eu llwythi gwaith yn deg rhwng pob criw.

Mae optimeiddio dyluniad llwybrau casglu gwastraff yn ffordd dda o wneud y llwybrau’n fwy effeithlon. Gall dylunio gofalus o lwybrau lleihau nifer y cerbydau neu asedau eraill sy’n cael eu defnyddio. Gall hyn arwain at lai o filltiroedd, llai o danwydd a llai o ôl-troed carbon. Ond does neb yn gwybod y rowndiau yn well na’r criwiau eu hunain. Dyma pam mae angen iddynt fod yn rhan o unrhyw adolygiad o’u rowndiau oherwydd gall beth sy’n edrych fel llwybr gwych ar fap cael lot o broblemau ymarferol fel mynediad trwy strydoedd cul neu dagfeydd, fel y gwelir wrth gasglu gwastraff pan mae pobl ar y ffordd i’r ysgol.

Mae rheolwyr gwastraff o bob rhan o Gymru yn cwrdd yn Ganolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn Llandrindod ar ddydd Mercher 25 Mawrth i weithdy optimeiddio llwybrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru profiad gwych o redeg seminarau dysgu a rennir ar gyfer meysydd eraill drwy ei Chyfnewidfa Arfer Da, ac fe fydd bydd yn cynorthwyo gyda’r gweithdy. Bydd siaradwyr o’r diwydiant gwastraff yn arddangos eu technegau optimeiddio llwybr a meddalwedd, ac fe fydd cynrychiolwyr o gynghorau sydd eisoes wedi rhesymoli eu rowndiau casglu gwastraff yn rhannu eu profiadau ac yn cynnig rhai arferion da. Bydd y sesiynau yn rhyngweithiol ac fe ddylai fod yn ddadl fywiog sy’n arwain at fudd mawr o ran rhannu mynediad cyflym i wybodaeth a phrofiad, a chreu trafodaethau a chydweithrediadau a all barhau ar ôl i’r cyfarfod dod i ben. Bydd y ffocws ar yr arbedion a wnaed, yr heriau a wynebir a’r gwersi a ddysgwyd.

Er bod y gweithdy hwn ar gyfer rheolwyr gwastraff, gall yr un broses o optimeiddio llwybrau cael ei ddefnyddio ar gyfer meysydd eraill, fel cynnal a chadw yn y gaeaf, glanhau strydoedd, gwasanaethau symudol megis llyfrgelloedd, archwiliadau priffyrdd, torri porfa a gwrychoedd, ceisiadau gofal cymdeithasol fel ymweliadau cartref arferol, casglu plant o’r ysgol a’r ganolfan ddydd neu fwyd Pryd ar Glud. Trwy gymryd y wybodaeth a gafwyd o’r gweithdy a’i rhannu o fewn eich sefydliad eich hun, gallwch gynyddu’r manteision o fynychu’r gweithdy yn Llandrindod. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno am 10am, hynny yw os nad ydych chi’n mynd yn styc tu ôl i lori bin…

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

 

Craffu

Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal.

Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy fynd ar-lein.

#scrusm

Ar 6:30pm ar ddydd Mawrth 16 Medi fe fyddwn yn cymryd rhan mewn sgwrs Twitter ar graffu sy’n cael ei hwyluso gan Dave McKenna o Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs hon drwy ddefnyddio’r hashnod #scrusm, lle bydd y drafodaeth yn edrych ar gael y cyhoedd i gymryd rhan mewn craffu.

Cynhaliodd Virginia Hawkins a Kevin Davies o Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithdy ar y pwnc yn nigwyddiad llynedd, lle wnaethon nhw rannu eu pecyn cymorth ar gynnwys y gymuned. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n edrych i glywed am unrhyw ddulliau neu adnoddau mae Cynghorwyr neu Swyddogion yn defnyddio, unrhyw faterion maen nhw’n wynebu a phethau da maen nhw’n gwneud.

Ni’n cydnabod bod pawb ddim ar Twitter, felly byddwn yn cynhyrchu Storify i ddal y trydar fel bod pawb yn cael y cyfle i weld beth ddigwyddodd, yn union fel rydyn ni’n gwneud yn ein digwyddiadau.

Os dydych chi ddim ar Twitter eto, ond da chi’n meddwl hoffech chi gymryd rhan, mae yna ganllawiau defnyddiol ar-lein fel yr un yma gan Mashable ac mae yna fideos sy’n esbonio mwy fel yr un isod gan Hootsuite. Mae yna hefyd rhai adnoddau am sgyrsiau Twitter a all eich helpu i fynd i’r afael â sgwrs.

Felly, os ydych chi eisiau dysgu mwy am sut mae mudiadau eraill yn mynd ati i graffu, neu os hoffech chi rannu eich profiadau, byddai fe’n grêt i gael eich mewnbwn yn y sgwrs. Trwy helpu ein gilydd i osgoi beth sydd ddim yn gweithio a trwy rhannu beth sy’n effeithiol, gallwn ni gyd chwarae rhan i wella gwasanaethau cyhoeddus.

Dyfrig

Swyddfa Archwilio Cymru a Chyd-gynhyrchu

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r Cyhoedd

Sut mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cyd-fynd â’r agenda cyd- gynhyrchu yng Nghymru? Ar ddydd Mawrth fe wnes i fynd i Gyfarfod Cyd-gynhyrchu Mawr Ogledd Cymru! i rannu’n gwaith ni.

Cyllid

Pan ddechreuais feddwl am gyd-gynhyrchu ac archwilio, y peth cyntaf meddyliais i amdano oedd perfformiad gwasanaethau cyhoeddus. Ond fe wnes i sylweddoli bod ein gwaith cyllid ni jyst mor bwysig i gyd-gynhyrchu ar ôl i ni gynnal Seminar Dysgu a Rennir gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru dydd Gwener ddiwethaf. Roedd Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan Cyfranogaeth Cymru yn cymryd lle jyst lawr y ffordd, ac er roedd y pynciau’n wahanol, roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cysylltu’r ddau gyda’i gilydd. Fel mae’r ddogfen yn dweud, “Mae ymgysylltu aneffeithiol â rhanddeiliaid yn golygu efallai na fydd rhai cynghorau’n adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a disgwyliadau eu dinasyddion yn ddigonol.”

Felly gall cyd-gynhyrchu helpu i arbed arian drwy ei dargedu arno feysydd ble byddai’n fwyaf effeithiol. Serch hyn, nodais i yn y digwyddiad bod angen adnoddau er mwyn i gyd-gynhyrchu fod yn wirioneddol lwyddiannus. Clywsom yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Drosglwyddo Tir ac Eiddo bod y defnydd gorau ddim yn cael ei wneud o asedau heb y cymorth cywir.

Cyngor 2025: Y weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru

Ychydig o wythnosau’n ôl, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru siarad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’n werth gwylio’r fideo isod os da chi heb wylio fe o’r blaen, gan mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn cwestiynau pwysig – ble mae’r ddadl yng Nghymru ar ddiben llywodraeth leol? Lle mae’r modelau o ddarparu a chyflawni sy’n sicrhau bod gwasanaethau o’r ansawdd cywir ac yn rhoi’r gwerth sydd angen ar Gymru?

Edrychodd hefyd ar gyd-gynhyrchu yn llywodraeth leol Cymru:

Efallai byddwch yn cofio fy mod i wedi cynnal astudiaeth ar ymgysylltiad cyhoeddus yn llywodraeth leol ychydig o flynyddoedd yn ôl. Doedd yna ddim llawer o enghreifftiau ymarferol o ffyrdd cydweithiol o ymgysylltu. Ers hynny, dydw i ddim wedi gweld llawer o dystiolaeth o symudiad tuag at gyd-gynhyrchu, neu fel y disgrifiwyd yn aml, gweithio gyda nid i.

Y Gymru a Garem

Mae cyd-gynhyrchu hefyd yn thema yn adroddiad canol tymor Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r bil yn her fawr i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru. Yr unig ffordd gallwn sicrhau ein bod ni’n archwilio mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn gymesur yw trwy gyd-gynhyrchu ein hymateb gyda chynghorau. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hyn drwy fwydo adborth o’n Seminarau Dysgu a Rennir ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol i’r gwaith mae Mike Palmer yn arwain arno, ac fe fydd yna mwy o gyfleoedd i chi gadael i ni wybod sut gallwn archwilio’n effeithiol.

Felly beth mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gwneud i helpu?

Ni’n cynnal seminarau am ddim ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â hyn. Ni’n wneud beth da ni’n dweud trwy gynnal y digwyddiad ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau, Canolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.

Sketch notes for the Wales Audit Office and co-production presentation / Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Nodiadau Braslun ar gyfer cyflwyniad Cydgynhyrchu a Swyddfa Archwilio Cymru

Mae’n amlwg bod thema’r digwyddiad wrth ddant bobl, gan fod y digwyddiad yng Nghaerdydd wythnos nesaf yn llawn, ond mae yna rhai llefydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad yng Ngogledd Cymru ym mis Medi.

Bydd y seminar yn edrych i rannu profiadau ymarferol o sut gall cydberthnasau gwahanol helpu i ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Byddwn yn defnyddio’r hashnod #ReshapeServices ar y dydd os da chi eisiau dilyn y diwrnod ar Twitter, a byddem wrth ein bodd i glywed o chi am yr hyn sy’n gweithio yn eich ardal chi.

Dyfrig

Goleuadau, camera, amdani!

Craffu

Bydd ymhell dros 200 o gynrychiolwyr o’r Gymuned Archwilio yng Nghymru yn mynychu Cynhadledd ‘Goleuni ar Graffu‘, sydd yn cael ei chynnal ar 28 Tachwedd 2013 yn y Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Huw Rees

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru, y Ganolfan Craffu Gyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’n gwneud synnwyr i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â gwella craffu yng Nghymru uno i gynnal y digwyddiad yma. Mae mynychwyr a ni yn rhannu pwrpas cyffredin, felly mae hwn yn gyfle unigryw i ddod at ein gilydd i fanteisio ar ein gwybodaeth a’n profiad, ac i rannu a dysgu o syniadau ac atebion i wella Craffu yng Nghymru.

Rydyn ni gyd yn cydnabod ein bod ni’n wynebu cyfnod heriol, ble byddwn yn wynebu penderfyniadau anodd iawn. Bydd rhaid ei chymryd nhw gyda dewrder a thrylwyredd. Mae gan graffu rôl allweddol o ran cyfrannu at drylwyredd ac felly bydd rhaid i ni sicrhau ei fod yn addas i’r diben ac ein bod ni’n barod am yr her. Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i glywed am sut mae cyfranwyr a mynychwyr yn ateb yr her yma, ac i ddewis a dethol agweddau byddai’n gallu helpu ni i wella ein mudiadau ni. Mae’n ymwneud â chydnabod beth allai gweithio ar gyfer eich mudiad a’i addasu (ni jyst ei fabwysiadu).

Mae yna opsiynau ar gyfer pob cynrychiolydd i fynychu dau o’r chwe gweithdy sydd ar gael, felly dylai fod eich mudiad yn gallu cyrchu gwybodaeth o bob gweithdy trwy rannu’r mynychiad rhyngoch chi a’ch cydweithwyr. Cafodd y gweithdai ei ddylunio i bigo’r themâu allweddol i fyny o ‘Craffu Da – Cwestiwn Da’, sef yr astudiaeth genedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r gweithdai i gyd wedi’u cynllunio i fod yn rhyngweithiol iawn gan ein bod ni’n cydnabod bod creu’r cyfle i gynrychiolwyr rhannu a dysgu o’i gilydd yr un mor bwysig a chlywed gan ein cyfranwyr arbenigol.

Rwy’n gobeithio byddwch yn cymryd llawer o syniadau diddorol i ffwrdd ar sut gall eich mudiad yn gwella ei swyddogaeth Craffu, ond yn fwy na dim, rwy’n gobeithio eich bod chi’n gwneud y fwyaf o’r cyfle nawr mae’r goleuni ar Graffu yn llachar iawn.

Huw

Ydy craffu ar fin dod i oed ………. ?

Scrutiny CYM

Tan yn ddiweddar, mae llawer o bobl wedi ystyried Craffu i fod yn’ gefnder tlawd’ democratiaeth llywodraeth leol yng Nghymru. Mae archwilio wedi cael ychydig o flynyddoedd cythryblus wrth iddo ffeindio’i draed yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain. Mae rhai aelodau o’r gymuned llywodraeth leol wedi amau gwerth craffu ac mae ffeindio enghreifftiau o graffu effeithiol wedi bod yn anodd. Fodd bynnag, rwy’n cael yr argraff bendant fod swyddogaeth bwysig craffu ar fin dod i oed.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio gydag Aelodau Awdurdodau Lleol, y gymuned Swyddogion Craffu, ac eraill sydd â phrofiad o ddemocratiaeth leol dros y flwyddyn ddiwethaf, er mwyn gweld sut mae craffu mewn llywodraeth leol yn cymryd siâp mewn y 22 cyngor yng Nghymru. Penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru i wneud y gwaith yma oherwydd ein bod ni’n credu bod gan graffu rôl bwysig iawn i’w chwarae. Wrth graffu’n effeithiol, gallwn ychwanegu llawer o werth i lywodraeth leol. Gall hyn rhoi’r cyfle i herio swyddogion ac Aelodau gweithredol, a chraffu polisïau, cynlluniau a phenderfyniadau er mwyn ffurfio rhan bwysig o hunan-arfarnu a monitro perfformiad. Trwy ymgymryd â’r rolau yma gall craffu atgyfnerthu trefniadau llywodraethu awdurdod.

Pan ddechreuais gynllunio ein gwaith ni, fe wnes i ofyn i’r gymuned craffu beth oedden nhw’n meddwl byddai’n helpu craffu i ddatblygu’r fwyaf. Fe bwysleisiodd yr ymateb yr angen i rannu a dysgu o’r dulliau gwahanol ac arloesol o graffu mewn awdurdodau gwahanol. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod pob awdurdod wedi ei lunio ychydig yn wahanol a doedd dull ‘un maint i bawb’ ddim o reidrwydd yn mynd i weithio. Felly fe wnaethon ni cynllunio’r gwaith ar yr egwyddor o addasu’r hyn sy’n gweithio i fodloni amgylchiadau lleol, nid mabwysiadu arfer mannau eraill ar raddfa eang.

Doedden ni ddim yn ymgymryd â’r astudiaeth craffu gan ddefnyddio’r dull archwilio ‘draddodiadol ‘ o adolygu awdurdodau unigol, hynny yw trwy gyrraedd barn archwilio a chyhoeddi adroddiad. Roedden ni’n teimlo byddai’r astudiaeth hon yn gweddu i ddull adolygu cymheiriaid, lle byddai Swyddogion ac Aelodau yn rhannu a dysgu oddi wrth ei gilydd a gweld yn uniongyrchol sut mae awdurdodau eraill yn dal eu gweithrediaethau i gyfrif ac yn gwella cefnogaeth. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal astudiaeth yn y fformat yma ac roedd yr adborth ar y dull yn gadarnhaol iawn.

Roedd amseriad yr astudiaeth yn bwysig hefyd. Cafodd ein gwaith ei chario allan yn ystod blwyddyn gyntaf y gweinyddiaethau cyngor newydd yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol 2012. Mewn rhai cynghorau roedd hyd at draean o gynghorwyr yn cael eu hethol o’r newydd. Gyda chymaint o wynebau newydd a phobl mewn rolau gwahanol, roedden ni’n teimlo roedd hwn yn amser da i wneud y gwaith. Gallai aelodau newydd ddysgu o Aelodau eraill sydd gyda blynyddoedd o brofiad, ond gallent hefyd dod â syniadau newydd a chwestiynu’r ffordd mae craffu wedi cael ei wneud yn y gorffennol.

Defnyddiom yr astudiaeth i dreialu cyfres o Nodweddion Craffu Da. Cafodd rhain eu datblygu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus. Roedd yr astudiaeth yn gyfle i brofi a mireinio’r nodweddion cyn iddynt gael eu cwblhau a’u cyflwyno’n eang.

Mae yna ymgyrch gref ar gyfer mwy o gydweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n ffordd o weithio sy’n rhoi’r cyfle i ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal â chynllunio a chyflwyno’r astudiaeth craffu mewn modd cydweithredol, rydym hefyd yn ceisio defnyddio’r astudiaeth fel cyfrwng i annog cynghorau i nodi cyfleoedd i graffu ar y cyd.

Daeth yn glir yn ystod ein gwaith ni gyda’r gymuned craffu fod yna dymuniad i gael digwyddiad i rannu’r hyn a ddysgwyd a’r hyn wnaeth dod i’r amlwg yn ystod yr astudiaeth. Roedd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus i gyd yn bwriadu cynnal digwyddiadau craffu. Felly, mae’n gwneud synnwyr i ni ddod at ein gilydd i gydweithio i ddatblygu a chynnal cynhadledd craffu.

Y canlyniad yw’r Gynhadledd Craffu Cymru Gyfan, sy’n cael ei chynnal ar ddydd Iau 28 Tachwedd, 2013 yn Stadiwm SWALEC. Anelir y gynhadledd ato swyddogion ac aelodau llywodraeth leol er mwyn rhoi:

  • Gwell dealltwriaeth o’r newid yn y rôl a’r potensial ar gyfer craffu;
  • Ffocws clir ar ble gellir gwneud gwelliannau mewn trefniadau craffu; a
  • Syniadau ar gyfer sut y gallant yrru newid ac arloesi drwy rannu profiadau a syniadau.

Rydyn ni’n bwriadu cyflawni hyn drwy roi’r cyfle i fynychwyr rhannu a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn yr amgylchedd o weithdy hamddenol. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni’n casglu syniadau, awgrymiadau ac enghreifftiau ar y diwrnod ac yn rhannu’r wybodaeth hon yn eang ar-lein. Dyma ddull profedig Tîm Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n datblygu a chynnal cyfres o seminarau dysgu a rennir, yn aml mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Chwarae Teg a CIPFA.

Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio cyfryngau cymdeithasol i annog trafodaeth ac ymwybyddiaeth o fewn y gymuned Craffu ym mhob rhan o Gymru. Fe fyddwn yn gwneud hyn cyn, yn ystod, ac ar ôl y gynhadledd. Yr hashnod sydd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw trydar a anfonwyd yw #Scrutiny13.

Bydd cyfres o flogiau gan y partneriaid Gynhadledd Craffu dros yr wythnosau nesaf. Rwy’n eich annog chi i gymryd rhan a rhannu’ch syniadau a’ch barn ar ddatblygu craffu effeithiol yng Nghymru.

Alan