Tag Archif: Cyfnewidfa Arfer Da

Gadael y Gyfnewidfa Arfer Da

Ar ôl gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru am bedair blynedd, bydd Dyfrig Williams yn gadael tîm y Gyfnewidfa Arfer Da ar 11 Awst. Mae’n blogio isod ar ei amser gyda’r mudiad a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ffotograff o Dyfrig Williams yn GovCamp Cymru

Rydw i wedi cael ddiddordeb mewn gwella gwasanaethau cyhoeddus ers dechrau fy ngyrfa gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae’r swydd hon wedi teimlo fel cael fy mod i’n cael fy nhalu i ddilyn fy hobi gryn dipyn o’r amser. Rwyf wedi cael cyfle i gyfuno fy niddordebau personol, er enghraifft mynd i ddigwyddiadau fel GovCamp Cymru a LocalGovCamp, â’m bywyd proffesiynol lle rwyf wedi cydweithio’n agos â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn canfod gwir bwrpas gwasanaethau cyhoeddus yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gweithio gydag arwyr

Ymunais â’r tîm o gefndir ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ar ôl gweithio yn Cyfranogaeth Cymru am dair blynedd. Fy nghred erioed yw bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio orau pan fydd pobl yn cael cyfle i lunio’r gwasanaethau hynny y maent yn eu defnyddio. Mewn rhai ffyrdd, mae fe wedi bod yn hynod o ddiddorol gweld sut mae datblygiadau technolegol wedi gwthio’r agenda yma yn ei flaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Does dim ots pa sector neu wasanaeth rydych chi’n gweithio ynddo, fel arfer bydd rhywun mewn digwyddiad rydych chi’n mynd i yn siarad am effaith technoleg ddigidol ar eich gwaith. Ac fe ddaw’r ffocws anochel ar anghenion defnyddwyr o hynny, sef sail gwasanaethau digidol llwyddiannus.

Rwy’n mwynhau cymaint o bethau am y swydd, yn enwedig y ffordd y mae fe wedi herio fi. Weithiau mae’r her honno wedi dod o’r ffaith fy mod i’n gyffredinolwr yn cydweithio ag arbenigwyr i rannu eu stori. Ar adegau, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi her i mi, gan fod y swydd hon wedi fy helpu fi i gysylltu â phobl sy’n gwneud pethau arbennig ac yn gwthio’r ffiniau yn eu meysydd. Ac weithiau rwyf wedi cael fy herio mewn modd cefnogol gan fy nghydweithwyr. Ni allaf wedi gofyn am gydweithwyr gwell. Diolch Beth, Chris ac Ena – rydych chi’n arwyr! Rwy’n mynd i weld eisiau ein gwleddoedd ‘Ready, Steady, Cook’ gyda sbarion amser cinio.

Rwyf hefyd yn gadael Cymru, sy’n golygu fy mod yn gadael ar adeg gyffrous i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym flwyddyn yn ôl, a wnaeth bennu nodau hirdymor Cymru. Fel y dywedodd Nikhil Seth o’r Cenhedloedd Unedig, “beth mae Cymru’n ei wneud heddiw, bydd gweddill y byd yn ei wneud yfory”. Mae hyn yn heriol ac yn gyffrous i Swyddfa Archwilio Cymru hefyd, wrth i ni fynd i’r afael â sut rydych yn archwilio’r deddf arloesol yma’n effeithiol.

Research in Practice

Hefyd, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mewn grym ers blwyddyn ac, unwaith eto, mae’n rhoi pobl wrth wraidd y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i gweithio gyda Phanel y Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (sef un o’r darnau mwyaf anhygoel o waith rwyf wedi bod yn rhan ohono erioed), a gyfrannodd at lunio’r ddeddf.

Gobeithio y bydd y profiad hwn o fudd i mi pan fyddaf yn dechrau yn fy rôl newydd fel Cydlynydd Digwyddiadau Dysgu yn Research in Practice. Mae Research in Practice yn cefnogi ymarfer sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth gyda phlant a theuluoedd. Rwy’n hoff iawn o Fodel Triongli’r prosiect.

Yn fy rôl bresennol, bydd pobl yn gofyn i mi o bryd i’w gilydd pam nad yw arfer da yn teithio’n dda (gweler y blog hwn gan Chris Bolton am ripóst gwych!), gan anghofio ein bod ni’n rhoi newidiadau ar waith mewn amgylcheddau sy’n hynod o gymhleth. Rwy’n hoff iawn o’r ffordd y mae damcaniaeth Research in Practice yn seiliedig ar ymarfer a bywydau bob dydd pobl, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o hynny.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr ystod eang o gyfleoedd dysgu a gynigir gan y prosiect. Un o’n hegwyddorion craidd yn y Gyfnewidfa Arfer Da yw nad yw un ateb yn addas i bawb, felly mae’n wych gweld prosiect sydd ddim yn canolbwyntio ar hyfforddiant fel ffordd o ddiwallu holl anghenion gwasanaethau cyhoeddus, fel y gwelir yn aml yn y sector cyhoeddus. Yn benodol, mae’r ffordd maen nhw’n mynd ati i gynnal Prosiectau Newid i nodi atebion i heriau penodol yn ddiddorol dros ben.

Ac ar lefel bersonol, bu’n rhaid i mi ganslo fy nghyfweliad ar y funud olaf er mwyn cefnogi fy nheulu ar ôl i’m wncwl gael trawiad ar y galon. Mae’r ffaith bod Research in Practice wedi aildrefnu’r cyfweliad a rhoi cyfle arall i mi yn siarad cyfrolau o sut maen nhw’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu had-dalu am roi’r cyfle yna i mi.

Dod yn ôl i Gymru

Byddaf yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer GovCamp Cymru, sef yr angynhadledd undydd ar lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio y byddaf gyfle i weld llawer ohonoch sydd wedi gwneud fy nghyfnod yn y Gyfnewidfa Arfer Da mor gofiadwy, ac edrychaf ymlaen at gymdeithasu’n iawn gyda fy nghydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru cyn i mi fynd. Diolch yn fawr hefyd i chi am ddarllen fy mlogiau yma dros y pedair blynedd ddiwethaf. Byddaf yn parhau i flogio ar Medium, a chofiwch gadw mewn cysylltiad â mi ar Twitter er mwyn i mi gael gwybod am y gwaith da rydych i gyd yn ei wneud.

Pob lwc gyda’ch gwaith!

Rhaglen waith y Gyfnewidfa Arfer Da: Beth ydyw?

Read this blog post in English

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Tîm Arfer Da yn Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal cyfres o seminarau a gweminarau i gefnogi diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Isod mae Ena Lloyd a Bethan Smith yn edrych ar ein rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer y flwyddyn hon.

Panel o siaradwyr o flaen mynychwyr mewn ein seminar digidol

Sesiwn lawn y Seminar Dysgu ar y Cyd Digidol y llynedd

Creodd Swyddfa Archwilio Cymru y Tîm Arfer Da er mwyn dod â syniadau a dulliau ynghyd er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella. Ar y dechrau, roeddem yn cael ambell olwg gellweirus! Nid yw’n rhywbeth y byddech yn ei gysylltu’n naturiol â Swyddfa Archwilio, sbo. Ond wedyn, nid pob Swyddfa Archwilio sydd ag Archwilydd Cyffredinol sy’n teimlo mor frwdfrydig dros helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella. Un felly yw Huw Vaughan Thomas. Mae’n rhoi lle ‘diogel i fethu’ i ni ymchwilio, ymgysylltu, dysgu oddi wrth eraill a rhannu gwybodaeth, syniadau a dulliau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Pa un a yw’n seminar, yn weminar, yn flog, yn fideos, yn Twitter, neu’n hen negeseuon e-bost!

Allwch chi ddim helpu ond eisiau gwneud ymdrech ychwanegol pan roddir y fath ymddiriedaeth a lle i chi, a pham na fyddech chi.

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf yw ein mantra Arfer Da, sef:

  • Nid ydym yn cefnogi meddylfryd un ateb i bawb
  • Yn yr un modd, nid ydym yn credu mewn ailddyfeisio’r olwyn
  • Credwn mewn addasu nid mabwysiadu; a defnyddio ein safle breintiedig iawn yn Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn dod â chydweithwyr ynghyd o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a, lle y bo’n briodol, y sector preifat

Sut mae’r rhaglen yn cael ei llunio?

Yn aml gofynnir i ni sut rydym yn penderfynu ar y pynciau sydd yn ein rhaglen. Ein hateb cyntaf yw Cynllun Strategol Swyddfa Arwchilio Cymru o ran ein blaenoriaethau allweddol. Felly synnwch chi ddim gweld Digidol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chau Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Gynnar yn rhan o’r rhaglen. Hefyd, mae’n rhaid i’r pynciau weithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus a, lle y gallwn, mewn partneriaeth ag o leiaf un sefydliad arall. Gorau po fwyaf y partneriaid. Yna, rydym yn mesur ymatebion gan ein cydweithwyr mewnol, yn ogystal â llawer o bobl sy’n cynrychioli, yn dylunio ac yn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae rhestr y bobl rydym yn sgwrsio â nhw’n rhithwir neu wyneb yn wyneb yn mynd yn hwy bob blwyddyn! Rydym yn cwrdd â rhai siaradwyr a chynrychiolwyr gwych sy’n ein syfrdanu o ran yr hyn y maent yn ei wneud. Os oes gennych syniadau am bynciau yr hoffech iddynt fod yn ein rhaglen, cofiwch gysylltu!

Beth yw cynnwys y rhaglen eleni?

Yn y rhaglen eleni, os oes un thema sy’n sail i’r mwyafrif o ddigwyddiadau, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw honno.

Dyma trosolwg o’r rhaglen. Rydym wedi defnyddio teitlau gweithio er mwyn rhoi blas i chi ar gynnwys y seminar. Fodd bynnag, ar ôl i ni weithio gyda phartneriaid i benderfynu beth yw’r ffocws, gellir gweld y manylion terfynol yma.

Ond diwedd y gân, ein prawf litmws fel petai, yw barn cydweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Ar ddiwedd pob seminar, gofynnwn am 5 munud o amser y cynrychiolydd i lenwi ffurflen ‘Galw am Weithredu’. Mae dros 1,000 o gynrychiolwyr yn mynd i’n digwyddiadau dros flwyddyn, felly mae’n ffynhonnell adborth gyfoethog. Rydym bob amser yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod cynrychiolwyr yn llenwi’r ffurflenni hyn. Yn ogystal â rhoi adborth ar y digwyddiad i ni, rydym yn clywed am yr hyn mae’r cynrychiolwyr wedi’i ddysgu a’r hyn yr hoffent i ni neu sefydliadau eraill ei ddatblygu. Mae’r adborth a gawn hefyd yn helpu i lywio ein rhaglen.

Mae ein digwyddiadau’n rhad ac am ddim i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Y cyfan y gofynnwn amdano’n gyfnewid yw i chi ddod i’n digwyddiadau’n llawn syniadau, atebion ac unrhyw broblemau neu heriau sy’n ymwneud â phwnc y digwyddiad. Gelwir ein digwyddiadau’n ‘seminarau dysgu ar y cyd’ sy’n dweud y cyfan – rydym wir am i gynrychiolwyr rannu a dysgu cymaint ag y gallant, a mynd â chymaint o wybodaeth ddefnyddiol o’r digwyddiad ag y bo modd.

I’r rhai sydd wedi bod i’n digwyddiadau o’r blaen, rwy’n siŵr y byddant yn dweud ei fod yn fore gorlawn ac nid ymddiheurwn am hynny. Mae ein digwyddiadau wedi’u cynllunio’n bwrpasol er mwyn rhoi cymaint o wybodaeth a chysylltiadau i’r cynrychiolwyr ag y bo modd, er mwyn iddynt barhau â sgyrsiau wedi’r digwyddiad.

Bob blwyddyn, mae’n debyg bod galw cynyddol ar ein digwyddiadau, sy’n wych. Mae’n golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn awyddus iawn i gydweithio a rhannu syniadau a dulliau. Mae gennym gyllideb fach ar gyfer ein digwyddiadau ac, er eu bod am ddim i wasanaethau cyhoeddus, mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os na allwch ddod mwyach cyn diwrnod y digwyddiad gan fod rhestr wrth gefn ar gyfer ein digwyddiadau yn aml. Rydym yn deall mai pwysau gwaith sy’n cael y flaenoriaeth, ond byddem yn ddiolchgar iawn am rybudd ymlaen llaw fel y gallwn roi eich lle i rywun arall.

Heblaw am ddigwyddiadau, ym mha ffyrdd eraill ydych chi’n rhannu gwybodaeth?

Rydym yn deall pwysigrwydd rhannu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er y gall seminarau weithio i un person, gall fideos neu flogiau weithio’n well i rywun arall. O gofio hynny, dyma restr o’n sianeli gwybodaeth amrywiol:

Rydym yn rhannu manylion seminarau/gweminarau ar ein gwefan – felly cadwch lygad amdanynt – neu os ydych am i ni ychwanegu eich manylion chi at ein rhestri postio i gael gwybod am yr holl ddigwyddiadau neu rai ohonynt, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

All along the watchtower – #Scrutiny13

Craffu

Blog gwadd gan Stu Hodges, Swyddog Cyfathrebu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Stu Hodges    imagesCA1CH1I0

“gloywch eich tarian…gosod wyliwr, i fynegi’r hyn a wêl” -Eseia: 21

Dylan ysgrifennodd ‘All along the watchtower’ ond Hendrix a’i gwnaeth yn boblogaidd. Mae’n cynnwys y cyfeiriad Beiblaidd hwn o Eseia mewn cân sy’n galarnadu dryswch y byd yn gyffredinol, ond sydd hefyd yn cynnig penderfyniad cadarn i ddod o hyd i rolau a syniadau newydd.

Efallai ein bod wedi dod o hyd i’n hanthem. Mae’r byd y mae’r broses graffu yn gweithredu ynddo yn newid ac, er nad yw ar raddfa Feiblaidd, mae’r weithred o ddwyn ynghyd dros 270 o graffwyr mewn cynhadledd ar 28 Tachwedd yn gam arwyddocaol o ran herio’r dryswch hwn a diffinio rôl y broses graffu yng Nghymru.

Mae craffwr llywodraeth leol llawer mwy profiadol a gwybodus eisoes wedi amlinellu ar y blog hwn sut mae’r broses graffu wedi cyrraedd croesffordd, a sut y dylai gael gwared ag argyfwng hunaniaeth ‘yr arddegau’ a darganfod aeddfedrwydd a phwrpas clir newydd – efallai un sy’n seiliedig ar arloesedd, rheoleiddio ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Fel ymdrech gydweithredol rhwng Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, bydd y gynhadledd ‘Goleuni ar Graffu’ yn cefnogi’r daith hon drwy ymchwilio i elfennau angenrheidiol y swyddogaeth graffu os yw am fodloni gofynion amgylchedd sector cyhoeddus sy’n newid yn sylweddol yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yn dangos yr ymrwymiad sy’n bodoli i ‘fwrw goleuni’ ar graffu, ac esblygu’r broses graffu er mwyn sicrhau bod ganddi rôl arweiniol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a fydd angen rheoli newidiadau strwythurol sylweddol ar yr un pryd â datblygu modelau newydd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae pob craffwr yn rhannu diben cyffredin, a bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i gynrychiolwyr rannu eu gwybodaeth a meithrin syniadau newydd ar gyfer gwella’r broses graffu yng Nghymru.

Mae’n amlwg bod angen ailddyfeisio. Mae angen i’r broses graffu ‘ddod i oed’ nawr yn fwy nag erioed, a bydd angen iddi wneud hynny ar adeg pan fo llywodraeth leol yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes. Rydym ni’n wynebu realiti ariannol newydd poenus. Mae tueddiadau demograffig a thueddiadau cymdeithasol ehangach yn golygu bod y galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu, a chydnabyddir yn gyffredinol bod yn rhaid i bethau newid. Eto, rwy’n amau na fyddwn yn gwybod beth fydd gwir raddfa a ffurf yr ailddyfeisio gofynnol nes y cyflwynir adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.

Yr amseru sy’n bwysig.

Mae rôl a chwmpas y broses o graffu eisoes wedi’u pwyso a’u mesur i raddau helaeth mewn trafodaethau rhwng arweinwyr llywodraeth leol a Syr Paul Williams yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth y Comisiwn. Heb os, bydd y galw cynyddol i ad-drefnu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i godi nifer o gwestiynau dyrys o ran atebolrwydd lleol a democratiaeth leol yng Nghymru.

Drwy ddwyn ynghyd y bobl gywir, ar yr adeg gywir, bydd y gynhadledd ‘Goleuni ar Graffu’ yn cychwyn y broses hanfodol o osod “y gwyliwr”, ac yn cynnig cyfle amserol i nodi sut y dylai’r broses graffu addasu, esblygu ac ailddyfeisio ei hun er mwyn bodloni’r heriau sylweddol, a’r cyfleoedd lu hefyd a fydd yn bodoli yng Nghymru, gwlad sy’n newid yn ddeinamig.

Bydd unrhyw un sy’n rhan o’r broses o graffu yn gwybod pa mor bwysig yw amseru. Bydd y gofynion a fydd yn cael eu rhoi ar gynghorau lleol yn ystod y cyfnod nesaf yn sylweddol, a bydd arnynt angen proses graffu fwyfwy ymatebol sy’n gallu gweithredu mewn ‘amser real’ a bod yn flaengar yn y broses o wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r pwysau a’r gofynion ar ein craffwyr.

Er bod angen ymatebion arloesol i newidiadau radical yn aml iawn, yn naturiol, nid yw arloesedd yn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol. Bydd angen cynyddu ffocws a blaenoriaeth rhaglenni ac agendâu craffu, a bydd yn rhaid i’r broses graffu gynnig ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu os bydd am helpu i lywio cynghorau lleol drwy’r penderfyniadau anodd sydd o’u blaen.

Bydd angen llywodraethu cadarn ar gyfer strwythurau newydd y sector cyhoeddus. Wrth newid sut y darperir gwasanaethau, bydd angen dangos effeithlonrwydd o ran arbed costau, ond hefyd bod y newidiadau’n cael eu llywio gan ddisgwyliadau ac anghenion y cyhoedd. Mewn amgylchedd o gyfathrebu agored sy’n newid yn gyflym, mae pob aelod o’r cyhoedd bellach yn “wyliwr” ac wedi ymuno â rhengoedd y craffwyr, ac mae hynny’n gwbl gyfiawn. Felly, mae ailddyfeisio’r broses graffu ar sail arloesedd, rheoleiddio ac ymgysylltu â’r cyhoedd bellach yn ymddangos yn fan cychwyn da.

Yn y pen draw, y cwestiwn sydd angen ei ateb yn ystod y broses adolygu hon yw sut i gyfuno’r holl agweddau ar graffu, rheoleiddio a barn y cyhoedd mewn dull cyfundrefnol a chydweithredol. Mae’n rhaid i’r dull hwn “baratoi’r” broses graffu a’i gosod fel “tarian”, un sy’n cael ei defnyddio er mwyn diogelu ansawdd ac amrywiaeth pob gwasanaeth cyhoeddus lleol sydd mor hanfodol i gymunedau yng Nghymru.

Cerddoriaeth, plîs!