Skip to content

Tag: cydweithio

Gwella Gofal Meddygon Teulu drwy Alinio Tystiolaeth, Methodoleg Gwella Ansawdd, TG a Chontractau: Model Newydd ar gyfer Cymru

Yn y blogpost diweddaraf y Gwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, mae Dr Alastair Roeves o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dweud wrthym sut maen nhw’n gwneud y fwyaf o’u hadnoddau i wella eu gwaith. Mae Ffibriliad Atrïaidd yn afreoleidd-dra o ganlyniad i weithgarwch afreolaidd, trydanol ac anhrefnus yn atriwm y galon; fel arfer, mae’n gysylltiedig â ffactorau risg, fel gorbwysedd, diabetes a chlefyd ischaemig y galon. Ymddengys o’r dystiolaeth bod ei reoli’n amserol yn fanteisiol i gleifion. Mae Llwybrau QP yn elfennau clinigol o Gontract Meddygon Teulu, a’i nod… Read more Gwella Gofal Meddygon Teulu drwy Alinio Tystiolaeth, Methodoleg Gwella Ansawdd, TG a Chontractau: Model Newydd ar gyfer Cymru

Meddalwedd Gwybodaeth Raffigol a Chydweithio

Yn ein blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2014, dyma Kevin Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn disgrifio ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol a’r pwysigrwydd o gydweithio. Mae staff ein hisadran TGCh, mewn cydweithrediad â swyddogion cyfatebol Dinas a Sir Abertawe, wedi ennill gwobr o fri yn ddiweddar gan y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hon yn wobr ar gyfer sector cyhoeddus y DU gyfan. Pan benderfynodd yr isadran TGCh gyfnewid ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol ddrudfawr am ddewis amgen cost-isel, swyddogaethau medrus ffynhonnell agored, roedd… Read more Meddalwedd Gwybodaeth Raffigol a Chydweithio

Craffu Celtaidd – rhannu gwersi ar draws Môr Iwerddon

Yn gyntaf, diolch i Swyddfa Archwilio Cymru am y gwahoddiad i’r seminar ‘Goleuni ar Graffu’ a’r cyfle i weld â’m llygaid fy hun y dysgu a rennir sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cychwynnais o Ddulyn gyda thri nod Dysgu mwy am y Craffu ‘ma mae pawb yng Nghymru’n canu ei glodydd! Gweld sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ati i weinyddu a chynnal seminarau dysgu a rennir. Edrych ar y posibilrwydd y gallai swyddfeydd archwilio Cymru ac Iwerddon gydweithio a rhannu gwybodaeth. Cyn y… Read more Craffu Celtaidd – rhannu gwersi ar draws Môr Iwerddon

Cydweithio

Ai’r gynhadledd Goleuni ar Graffu yw’r tro cyntaf i Graffu fod yn ganolbwynt y sylw? Mae’n sicr yn awgrymu bod tro ar fyd. Byddai rhai’n dweud bod dyheadau Deddf Llywodraeth Leol 2000, ar ôl yr holl waith caled i ddatblygu craffu, yn barod i gamu i’r prif lwyfan; yn barod i arwain gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar ran y dinesydd. Rhaid cydnabod bod sawl enghraifft eisoes o gydweithio sy’n herio ein syniadau am graffu; Consortia Addysg Rhanbarthol, prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Cydweithio Rhanbarthol, a datblygiad parhaus Byrddau Gwasanaethau… Read more Cydweithio

Dysgu i Rannu – sut all weithio ar y cyd helpu’r sector cyhoeddus

Erthygl gwadd gan Neville Rookes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Yn ddiweddar, gweithiais i gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da yn Swyddfa Archwilio Cymru i helpu rhedeg seminar ar Reoli Ynni. Dwi’n gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac fe drafodwyd nifer o bynciau yn y seminar sydd yn apelio at y rhan fwyaf o awdurdodau lleol. Roedd rhywbeth yna i bawb. Felly, roeddwn i am rannu beth ddysgais i o’r seminar a phamfod y  gwersi yma yn bwysig i lywodraeth leol – ac wrth gwrs, beth fydd camau nesaf CLlLC. Pam… Read more Dysgu i Rannu – sut all weithio ar y cyd helpu’r sector cyhoeddus