Tag Archif: cwynion

Sut all hyfforddi cefnogi penderfyniadau rheng flaen gwell

Read this blog post in English

Sut gall hyfforddiant (‘coaching’) helpu staff rheng i flaen wneud penderfyniadau gwell? Cwrddodd Dyfrig Williams ag Owain Israel o Gymdeithas Tai Charter i ddysgu sut mae’n helpu staff i gymryd perchnogaeth o gwynion.

Logo Tai Charter: Ei enw wedi'i ysgrifennu y tu mewn i amlinelliad o dŷ, gyda "tai pobl" wedi'i ysgrifennu oddi tanoAr ôl blogio am y rhaglen Frontline Futures, a’r hyn y gellir ei ddysgu ohoni ar gyfer y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml, cefais wahoddiad i ddigwyddiad TAI y Sefydliad Tai Siartredig er mwyn dysgu rhagor ynglŷn â’r ffordd y mae’r dulliau hyfforddi wedi arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus. Cwrddais ag Owain Israel o Gymdeithas Tai Charter i ddysgu sut mae’n rhoi’r hyn a ddysgwyd ar y cwrs ar waith.

Delio â thai gwag

Cyn siarad ag Owain, doedd gennyf fawr o syniad beth oedd rôl syrfewyr mewn cymdeithasau dai, ond roedd yn ddiddorol dysgu rhagor am y ffordd y maent yn gwella ansawdd tai. Mae gwaith Owain yn canolbwyntio’n arbennig ar dai gwag, lle bydd y syrfëwr yn cynnal arolwg diwedd tenantiaeth i gael golwg ar dŷ cyn iddo ddod yn dŷ gwag. Mae hyn yn rhoi cyfle i denantiaid ddatrys unrhyw faterion cyn i’r gymdeithas tai godi tâl arnynt.

Fel rhan o’r hen broses, byddai’r syrfëwr yn dychwelyd i’r tŷ ar gyfer ôl-archwiliad ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn cael gwybod pryd bydd pobl yn gadael. Yn y Gyfnewidfa Arfer Da, rydym yn clywed llawer am y broses y mae staff yn gweithio iddi, heb feddwl am beth yw’r canlyniad i bobl. Mae Owain a’i dîm wedi cwestiynu pob agwedd o’r broses, gan gynnwys a ellir cynnal archwiliad yn hytrach nag arolwg eiddo gwag. Bydd rhai contractwyr dim ond yn gwneud gwaith a nodwyd yn yr arolwg, sy’n golygu nad yw gwaith arall sydd ei angen wedi cael ei wneud. Mae’r broses wedi creu problemau o ran atebolrwydd, gyda thenantiaid o bryd i’w gilydd yn anhapus gyda’r canlyniadau.

Felly sut mae Cymdeithas Tai Charter yn mynd i’r afael â hyn? Un o’r pethau rwy’n ei hoffi’n fawr am ei gwaith yw ei bod nhw am wneud llawer o newidiadau bychain, a hefyd ei bod am wneud y newidiadau hynny yn raddol. Maen nhw wedi newid y daflen arolwg sy’n cael ei defnyddio ac maen nhw’n ystyried p’un a yw hi bob amser yn angenrheidiol cynnal arolwg os yw’r tŷ mewn cyflwr rhesymol. Golyga hyn fod gan gontractwyr fwy o ryddid i ymgymryd â gwaith priodol.

Cymryd perchenogaeth o gwynion

Y cam nesaf yn y gwaith o symleiddio’r broses hon yw i syrfewyr gymryd mwy o berchnogaeth o’r cwynion maent yn eu cael. Ar hyn o bryd, mae’r Rheolwr Gwasanaethau Cymorth yn casglu cwynion ac yn treulio diwrnod yr wythnos yn delio â nhw, sydd ddim yn ddefnydd effeithiol o’i amser. Mae rhan o’r ateb yn dechnegol, ac mae Charter yn rhoi’r systemau gwybodaeth cywir i syrfewyr er mwyn iddynt gael gwell mynediad at ddata. Maen nhw bellach yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar ddefnyddio’r system er mwyn uwchsgilio pawb.

Ail ran y broses hon yw’r elfen ddynol, lle mae’r cwrs Frontline Futures wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol. Mae Owain wedi bod yn hyfforddi staff fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu delio â phroblemau eu hunain heb uwchgyfeirio materion. Mae’r materion hyder hyn yn cyd-fynd â damcaniaeth Jonathan Haidt am yr eliffant, y reidiwr a’r llwybr, y rhannodd Melys â ni yn y blogbost blaenorol. Yn y ddamcaniaeth hon, y system emosiynol sy’n darparu’r grym i wella gwasanaethau, nid y system resymegol.

Mae Owain wedi bod yn cyflwyno’r hyfforddiant hwn drwy gwrdd ag unigolion, lle mae’n nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a pha rwystrau sy’n bodoli. Nid yw Owain wedi disgrifio’r sesiynau hyn fel sesiynau hyfforddiant i’r staff, yr oll ydynt yw cyfarfodydd un i un. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi ei helpu i nodi pam bod staff yn amharod i wneud penderfyniadau eu hunain. Mae hefyd wedi defnyddio’r technegau hyfforddi hyn mewn cyfarfodydd tîm, lle bydd staff yn dod i’r cyfarfod gyda phroblem. Yna maent yn myfyrio ar y ffordd y gwnaethant ddelio â’r broblem yn y gorffennol ac yn ystyried sut y gallant ei datrys. Mae syrfewyr bellach yn siarad yn fwy agored am y problemau maent yn eu hwynebu, maent yn fwy ymwybodol o briodolrwydd eu hymatebion a bellach maent yn cymryd perchnogaeth o ymholiadau tebyg ac yn delio â nhw eu hunain.

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi gwneud llawer o waith yn y gorffennol ar rymuso staff, gan gynnwys ystyried ymddiriedaeth staff, sy’n hanfodol i rymuso staff. Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar sut mae sefydliadau wedi cymryd risgiau a reolir yn dda er mwyn arloesi, lle rydym wedi dysgu bod dulliau ‘diogel i fethu’ yn aml yn debygol o alluogi staff i ddarparu gwasanaethau gwell. Mae gennyf lyfr ar symud i ffwrdd o’r system gorchymyn a rheoli ar fy rhestr darllen, ac mae siarad ag Owain yn sicr wedi cynyddu fy niddordeb yn y ffordd y gall hyfforddiant helpu staff i symud i ffwrdd o ganolbwyntio’n llwyr ar brosesau i edrych ar sut y gall ymagweddau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell.

Cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol: Mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth

Mae cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol fel arfer yn digwydd wrth ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth. Sut gall byrddau a staff sicrhau bod y broses yn addas i’r diben ac wedi’i seilio ar yr achwynydd? Mae Dyfrig Williams ac Ena Lloyd yn myfyrio am yr hyn a ddysgwyd o Seminar Cwynion y Gyfnewidfa Arfer Da.

Yn ôl ym mis Mehefin, gwnaethom gynnal seminar am Groesawu Cwynion. Ein rheswm dros gynnal y seminar yn y lle cyntaf oedd yn sgil trafodaeth â Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gwnaethom ddechrau trafod am y nifer cynyddol o gwynion maent wedi bod yn eu derbyn, a wnaeth arwain at gyflwyniad gwych yn y digwyddiad gan Nick ynglŷn â’r rheswm dros hyn a pham y bydd nifer y cwynion yn cynyddu mwy fyth. Mae’n sicr yn werth ystyried y Storify am drosolwg o bwyntiau Nick.

Llun o drydar gan Chris Bolton sy'n dangos y cynnydd mewn cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros 5 mlynedd diwethaf

Gofynnwyd cwestiwn diddorol yn y digwyddiad gan Jane Dale, Pennaeth Dysgu Sefydliadol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynglŷn â chwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol. Lle mae corff iechyd yn teimlo bod y gofal cywir wedi cael ei ddarparu ond fod y claf yn teimlo iddo gael profiad gwael, gall bwydo’r wybodaeth yn ôl i achwynydd siomedig fod yn heriol. Gall hefyd fod yn anodd cyflwyno’r wybodaeth yn effeithiol i aelodau’r bwrdd i annog gwelliant strategol. A yw byrddau’n ei chael hi’n anodd cyflawni gwelliannau pan fo’r hyn a ddysgwyd yn ymwneud â sgiliau meddal yn hytrach na phrosesau caled? Gall fod yn anodd defnyddio’r hyn a ddysgwyd, a’i roi ar waith drwy sefydliad cyfan, pan nad yw mewn cyd-destun deuaidd o’r hyn sy’n gywir a’r hyn sy’n anghywir.

Er enghraifft, yn dilyn ymchwiliad efallai y gwelir bod y drefn glinigol gywir wedi’i dilyn ond fod y claf yn teimlo bod y cyfathrebu / esboniadau yn wael. Wrth i staff gael eu cyfweld efallai y byddant yn dweud bod pob ymdrech wedi’i gwneud i egluro’r sefyllfa, ond mae’r claf yn dal yn anhapus. Yr her yw pa un i ddosbarthu hyn fel cwyn nas cadarnheir ac egluro pam, neu ei dosbarthu fel cwyn a gadarnheir yn rhannol. Os caiff ei dosbarthu fel cwyn nas cadarnheir, mae’r claf yn dal yn anfodlon ac yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arno. Mae cadarnhau’r gŵyn yn awgrymu bod rhywbeth o’i le ac mae hynny’n anodd i staff ei gymryd pan fyddant wedi gwneud pob ymdrech i gyfathrebu â’r claf.

Ychwanegodd Nick Bennet, ‘os oes amheuaeth, dylid ffafrio’r pwynt dysgu yn hytrach na’r tic yn y blwch.’

Sefyllfaoedd cymhleth

Darperir gwasanaethau cyhoeddus mewn amgylcheddau cymhleth. Gall prosesau syml weithio ar gyfer materion cymharol syml, ond pan fo teimladau a safbwyntiau pobl yn rhan o’r mater, ni all unrhyw broses roi atebion du a gwyn yn unig pan fo arlliwiau rhwng y ddau.

Delwedd o'r Fframwaith Cynefin, sy'n dangos dylai arfer da cael ei rannu mewn sefyllfaoedd cymhlethMae gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da yn cyd-fynd â rhesymwaith y Fframwaith Cynefin. Efallai y byddwch wedi sylwi nad ydym erioed yn defnyddio’r term ‘Arfer Gorau’. Mae hyn am fod y term yn rhoi’r argraff bod un ffordd gywir o wneud pethau a fydd yn addas ar gyfer pob sefyllfa. Gall hyn fod yn addas mewn amgylchedd gweithgynhyrchu, ond pan fo’r berthynas rhwng achos ac effaith yn aneglur fel y mae mewn amgylcheddau cymhleth fel darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, nid yw un ymateb syml i bawb yn debygol o fod yn addas.

Sut gall sefydliad ddatblygu a rheoli proses gwyno, felly, pan fo’n rhaid ystyried teimladau a safbwyntiau pobl? Y perygl gydag unrhyw bolisi neu broses yw, unwaith iddi gael ei ffurfio, y bydd yn aros ar y silff heb gael ei defnyddio. Felly mae llwyddiant yn golygu sicrhau bod y ddogfen yn rhywbeth sy’n wirioneddol yn fyw, ac sy’n cael ei diweddaru a’i gwella’n seiliedig ar arferion a phrofiad. Efallai y bydd gwersi i’w dysgu yn sgil egwyddorion Dylunio Digidol o ran defnyddio dull iteraidd wrth weithio. Mae egwyddor pump Egwyddorion Dylunio Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth yn nodi:

“Y ffordd orau o ddatblygu gwasanaethau da yw dechrau’n fach ac iteru’n wyllt. Dylech ryddhau’r Cynhyrchion Symlaf sy’n Hyfyw yn gynnar, eu profi gyda defnyddwyr go iawn, symud o’r cam Alpha i’r cam Beta ac yna’r cam Byw, gan ychwanegu nodweddion, dileu’r pethau nad ydynt yn gweithio mor dda, a mireinio’n seiliedig ar adborth. Mae iteru yn lleihau’r risg. Mae’n golygu bod methu’n llwyr yn annhebygol, ac yn troi methiannau bach yn wersi.Os nad yw prototeip yn gweithio, peidiwch ag ofni rhoi’r gorau iddo a dechrau eto.”

A yw’r broses wedi’i dylunio gan ystyried yr achwynydd?

Fel y dywedodd Alan Morris yn y digwyddiad, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfle i sefydliadau edrych unwaith eto ar eu diwylliant. Mae’n rhoi cyfle iddynt edrych unwaith eto ar hen brosesau ac i gwestiynu a ydynt yn dal i fod yn addas i’r diben. A yw’r broses yn canolbwyntio ar anghenion y sefydliad yn lle anghenion yr achwynydd

Gallai Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sydd wedi eu datblygu gan Cyfranogaeth Cymru, helpu sefydliadau i feddwl am sut y gallent sicrhau bod y broses yn canolbwyntio ar yr achwynydd. Gallant awgrymu cwestiynau defnyddiol. Er enghraifft – a yw’r broses wedi’i dylunio’n effeithiol i wneud gwahaniaeth? Sut ydych chi’n rhoi adborth i bobl a sut byddwch yn dysgu ac yn rhannu’r gwersi er mwyn gwella’r broses ymgysylltu?

Drwy flogio am hyn, hoffem gael ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni allu rhannu syniadau a dulliau gyda Jane a’r holl bartïon â diddordeb, er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella. A thrwy gydnabod bod ymateb emosiynol rhywun wrth wraidd sefyllfaoedd cymhleth o’r fath, gall sefydliadau helpu i sicrhau eu bod ar y trywydd cywir i wella gwasanaethau cyhoeddus.