Beth ydych chi’n ei ddweud go iawn?” – Sicrhau trosolwg a chraffu effeithiol trwy wrando gweithredol

CfPS logo

Mae’r gallu i gwestiynu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn agored yn fynegiant cryf o ddemocratiaeth. Ar lawer ystyr, gellir dweud bod y weithred o holi a stilio’r sawl sydd mewn awdurdod yn diffinio ac yn cynrychioli rôl herio trosolwg a chraffu, yn enwedig os gwneir hynny yn yr arena gyhoeddus.

Serch hynny, i lawer o bwyllgorau trosolwg a chraffu, mae mwy i gwestiynu na dim ond herio er mwyn herio – mae’n ffordd o sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac o sicrhau bod y system o wneud penderfyniadau’n gynhwysol, yn gadarn ac yn atebol.
Er bod pwyslais mawr ar ddefnyddio cwestiynau wrth graffu, dydw i ddim bob amser yn meddwl bod digon o sylw’n mynd i’r broses o ateb. Wedi’r cyfan, mae’n fater o roi a derbyn ac mae’n bwysig cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y ddau. I ddyfynnu Mark Twain, “If we were supposed to talk more than we listen, we would have two tongues and one ear.”

CfPS 2
I mi, mae’r bwlch rhwng y cwestiwn a’r ateb yn cynrychioli ffin bwysig – man lle mae perthnasau’n cael eu magu a’u meithrin – ac mae hyn yn wir boed mewn sefyllfa o atebolrwydd cyhoeddus neu fel rhan o ymchwiliad grŵp gorchwyl a gorffen. Mae’n rhyw fath o gyfnewid cymdeithasol, ac os nad yw’n cael ei reoli’n sensitif, fe all greu agweddau ‘ni yn erbyn nhw’. Gall hyn fod yn fagl go iawn wrth geisio gwneud y defnydd gorau o rôl arwain cymunedol aelodau etholedig, o safbwynt dylanwadu ar ddyfodol darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

Gall cael eich galw i gyfrif gan bwyllgor craffu neu roi tystiolaeth fel tyst greu pob math o deimladau cymysg ac annifyr i’r rhai sydd o dan y chwyddwydr. Gan fod cael gafael ar dystiolaeth a’i dadansoddi yn hanfodol i helpu pwyllgorau i lunio argymhellion goleuedig, mae’n gwneud synnwyr i’r rhai sy’n cymryd rhan deimlo bod y broses yn deg a gwrthrychol. Mae hyn hanfodol i hygrededd ac effeithiolrwydd craffu; mae pobl sy’n teimlo nad ydyn nhw wedi cael ‘gwrandawiad teg’ yn fwy tebygol o fod yn ddi-hid ac yn feirniadol o’r broses.
Yn gynharach eleni, ymunodd y Ganolfan Craffu Cyhoeddus â thîm hyfforddi’r gweithle y Samariaid i edrych ar sut y gall dull unigryw y sefydliad o wrando ddylanwadu ar fathau mwy myfyriol o gyfathrebu, gyda hyn o bosib yn arwain yn y pen draw at ddatblygiad gwasanaethau lleol mwy ymatebol.

CfPS 3 CfPS 4
Mae’r Samariaid yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfrinachol i bobl sy’n teimlo eu bod wedi cyrraedd pen eu tennyn neu sy’n profi trallod emosiynol. Mae gwirfoddolwyr sy’n gwrando yn siarad ag unrhyw un sy’n ffonio, yn e-bostio neu’n galw yn un o’r canghennau, ac maen nhw wedi eu hyfforddi’n arbennig i ddefnyddio ‘olwyn wrando’ wrth ddarparu cymorth i unigolion.

Mae’r gwirfoddolwyr yn gwrando gyda ffocws, gan ddefnyddio technegau fel esbonio’n groyw, crynhoi a defnyddio cwestiynau agored yn ofalus. Y nod yw cynnig amgylchedd diogel, anfeirniadol i’r sawl sy’n cysylltu – amgylchedd lle mae pobl yn gallu pwyso a mesur sut maen nhw’n teimlo.

Mae gwrando gweithredol yn caniatáu i wirfoddolwyr y Samariaid roi eu safbwyntiau eu hunain o’r neilltu gan brosesu’r wybodaeth a gânt gan y sawl sy’n cysylltu â nhw, ac mae hynny’n eu helpu i ymdeimlo ag eraill a gweld pethau’n well o safbwynt rhywun arall.
Drwy gefnogi pobl gyda’u teimladau, mae’r Samariaid yn gallu mynd i’r afael â’r ffeithiau. Mae’r broses gymharol syml hon o siarad a gwrando gweithredol yn lleddfu trallod pobl ac yn eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o’u sefyllfa a’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.
Am fwy o wybodaeth am y Samariaid, ewch i’w gwefan http://www.samaritans.org
Drwy edrych yn fanylach ar ddulliau cyfathrebu’r Samariaid, gwelwn y gallai ffordd debyg ategu elfen gefnogi rôl ‘cyfeillgarwch beirniadol’ trosolwg a chraffu. Mae gwrando gweithredol yn caniatáu i’r rhai sy’n craffu ddatblygu dealltwriaeth fwy cywir o neges y siaradwr, gan arwain at berthynas fwy cytbwys a chynhyrchiol.

Mae’r pum pwynt canlynol yn dangos sut y gall gwrando’n fwy astud, gyda mwy o ffocws, arwain at drosolwg a chraffu mwy effeithiol:

  1. Mae gwrando gweithredol yn dangos parch ac yn dangos bod gan ymarferwyr craffu awydd go iawn i ddeall safbwyntiau pobl, hyd yn oed os ydyn nhw’n wahanol i’w safbwyntiau personol nhw.
  2. Mae peidio â beirniadu’r sawl sy’n siarad yn annog rhannu pellach. Mae rhannu yn bwysig er mwyn cael dealltwriaeth fwy treiddgar o’r materion sy’n berthnasol i graffu, drwy gydnabod cymhlethdod sefyllfa bywyd go iawn.
  3. Mae gwrando gweithredol yn galluogi cyfranwyr i fyfyrio, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gywiro unrhyw beth y gallai’r ymarferwyr fod wedi’i gamddeall. Gall fod yn ffordd bwysig o sicrhau bod y dull o gasglu tystiolaeth yn gywir a bod modd ei atgyfnerthu.
  4. Mae gwrando gweithredol yn helpu ymarferwyr i ganolbwyntio ar y sgwrs ac i gofio’r hyn maen nhw’n ei glywed. Gall helpu i fynd i’r afael â sefyllfaoedd lle yr ymddengys fod gan gynghorwyr fwy o ddiddordeb mewn ‘ciwio i siarad’ yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sy’n cael ei ddweud. Gall hefyd sicrhau nad yw cwestiynau’n cael eu hailadrodd, sy’n gwbl ddi-fudd.
  5. Gellir osgoi gwrthdaro drwy wrando gweithredol. Gall gwrando’n astud ar siaradwr helpu i greu amgylchedd o gydweithio, a all arwain at atebion arloesol sy’n cael eu llunio ar y cyd – atebion sy’n fwy tebygol o gael eu rhoi ar waith.

Wrth i drosolwg a chraffu yng Nghymru ddatblygu mewn cyfnod o gyni, mae gwrando gweithredol yn ffordd adeiladol o sicrhau ei fod yn gwneud cyfraniad mwy gwerthfawr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Drwy wahodd, awdurdodi a rhoi hygrededd i farn a phrofiadau’r cyhoedd o fewn y broses o wneud penderfyniadau, gallwn sicrhau gwell atebolrwydd drwy wrando ac, yn y pen draw, gallwn wella’r canlyniadau i bobl Cymru.
Mae’r tîm yn y Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn edrych ymlaen at y gynhadledd ar y cyd ar 28 Tachwedd. Rydym wrth ein bodd i fedru cefnogi’r digwyddiad fel rhan o’n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac er mwyn cyfrannu at ein profiad ar y cyd o arddangos bod ein buddsoddiad mewn trosolwg a chraffu yn talu ar ei ganfed.

Rebecca David-Knight, Rheolwr Rhaglen Craffu Cymru, Y Ganolfan Craffu Cyhoeddus

All along the watchtower – #Scrutiny13

Craffu

Blog gwadd gan Stu Hodges, Swyddog Cyfathrebu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Stu Hodges “Gloywch eich tarian…gosod wyliwr, i fynegi’r hyn a wêl” -Eseia: 21

Dylan ysgrifennodd ‘All along the watchtower’ ond Hendrix a’i gwnaeth yn boblogaidd. Mae’n cynnwys y cyfeiriad Beiblaidd hwn o Eseia mewn cân sy’n galarnadu dryswch y byd yn gyffredinol, ond sydd hefyd yn cynnig penderfyniad cadarn i ddod o hyd i rolau a syniadau newydd.

Efallai ein bod wedi dod o hyd i’n hanthem. Mae’r byd y mae’r broses graffu yn gweithredu ynddo yn newid ac, er nad yw ar raddfa Feiblaidd, mae’r weithred o ddwyn ynghyd dros 270 o graffwyr mewn cynhadledd ar 28 Tachwedd yn gam arwyddocaol o ran herio’r dryswch hwn a diffinio rôl y broses graffu yng Nghymru.

Mae craffwr llywodraeth leol llawer mwy profiadol a gwybodus eisoes wedi amlinellu ar y blog hwn sut mae’r broses graffu wedi cyrraedd croesffordd, a sut y dylai gael gwared ag argyfwng hunaniaeth ‘yr arddegau’ a darganfod aeddfedrwydd a phwrpas clir newydd – efallai un sy’n seiliedig ar arloesedd, rheoleiddio ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Fel ymdrech gydweithredol rhwng Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, bydd y gynhadledd ‘Goleuni ar Graffu’ yn cefnogi’r daith hon drwy ymchwilio i elfennau angenrheidiol y swyddogaeth graffu os yw am fodloni gofynion amgylchedd sector cyhoeddus sy’n newid yn sylweddol yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yn dangos yr ymrwymiad sy’n bodoli i ‘fwrw goleuni’ ar graffu, ac esblygu’r broses graffu er mwyn sicrhau bod ganddi rôl arweiniol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a fydd angen rheoli newidiadau strwythurol sylweddol ar yr un pryd â datblygu modelau newydd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae pob craffwr yn rhannu diben cyffredin, a bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i gynrychiolwyr rannu eu gwybodaeth a meithrin syniadau newydd ar gyfer gwella’r broses graffu yng Nghymru.

Mae’n amlwg bod angen ailddyfeisio. Mae angen i’r broses graffu ‘ddod i oed’ nawr yn fwy nag erioed, a bydd angen iddi wneud hynny ar adeg pan fo llywodraeth leol yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes. Rydym ni’n wynebu realiti ariannol newydd poenus. Mae tueddiadau demograffig a thueddiadau cymdeithasol ehangach yn golygu bod y galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu, a chydnabyddir yn gyffredinol bod yn rhaid i bethau newid. Eto, rwy’n amau na fyddwn yn gwybod beth fydd gwir raddfa a ffurf yr ailddyfeisio gofynnol nes y cyflwynir adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.

Yr amseru sy’n bwysig.

Mae rôl a chwmpas y broses o graffu eisoes wedi’u pwyso a’u mesur i raddau helaeth mewn trafodaethau rhwng arweinwyr llywodraeth leol a Syr Paul Williams yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth y Comisiwn. Heb os, bydd y galw cynyddol i ad-drefnu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i godi nifer o gwestiynau dyrys o ran atebolrwydd lleol a democratiaeth leol yng Nghymru.

Drwy ddwyn ynghyd y bobl gywir, ar yr adeg gywir, bydd y gynhadledd ‘Goleuni ar Graffu’ yn cychwyn y broses hanfodol o osod “y gwyliwr”, ac yn cynnig cyfle amserol i nodi sut y dylai’r broses graffu addasu, esblygu ac ailddyfeisio ei hun er mwyn bodloni’r heriau sylweddol, a’r cyfleoedd lu hefyd a fydd yn bodoli yng Nghymru, gwlad sy’n newid yn ddeinamig.

Bydd unrhyw un sy’n rhan o’r broses o graffu yn gwybod pa mor bwysig yw amseru. Bydd y gofynion a fydd yn cael eu rhoi ar gynghorau lleol yn ystod y cyfnod nesaf yn sylweddol, a bydd arnynt angen proses graffu fwyfwy ymatebol sy’n gallu gweithredu mewn ‘amser real’ a bod yn flaengar yn y broses o wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r pwysau a’r gofynion ar ein craffwyr.

Er bod angen ymatebion arloesol i newidiadau radical yn aml iawn, yn naturiol, nid yw arloesedd yn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol. Bydd angen cynyddu ffocws a blaenoriaeth rhaglenni ac agendâu craffu, a bydd yn rhaid i’r broses graffu gynnig ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu os bydd am helpu i lywio cynghorau lleol drwy’r penderfyniadau anodd sydd o’u blaen.

Bydd angen llywodraethu cadarn ar gyfer strwythurau newydd y sector cyhoeddus. Wrth newid sut y darperir gwasanaethau, bydd angen dangos effeithlonrwydd o ran arbed costau, ond hefyd bod y newidiadau’n cael eu llywio gan ddisgwyliadau ac anghenion y cyhoedd. Mewn amgylchedd o gyfathrebu agored sy’n newid yn gyflym, mae pob aelod o’r cyhoedd bellach yn “wyliwr” ac wedi ymuno â rhengoedd y craffwyr, ac mae hynny’n gwbl gyfiawn. Felly, mae ailddyfeisio’r broses graffu ar sail arloesedd, rheoleiddio ac ymgysylltu â’r cyhoedd bellach yn ymddangos yn fan cychwyn da.

Yn y pen draw, y cwestiwn sydd angen ei ateb yn ystod y broses adolygu hon yw sut i gyfuno’r holl agweddau ar graffu, rheoleiddio a barn y cyhoedd mewn dull cyfundrefnol a chydweithredol. Mae’n rhaid i’r dull hwn “baratoi’r” broses graffu a’i gosod fel “tarian”, un sy’n cael ei defnyddio er mwyn diogelu ansawdd ac amrywiaeth pob gwasanaeth cyhoeddus lleol sydd mor hanfodol i gymunedau yng Nghymru.

Cerddoriaeth, plîs!

Cydweithio

Craffu

Welsh Government / Llywodraeth CymruAi’r gynhadledd Goleuni ar Graffu yw’r tro cyntaf i Graffu fod yn ganolbwynt y sylw? Mae’n sicr yn awgrymu bod tro ar fyd. Byddai rhai’n dweud bod dyheadau Deddf Llywodraeth Leol 2000, ar ôl yr holl waith caled i ddatblygu craffu, yn barod i gamu i’r prif lwyfan; yn barod i arwain gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar ran y dinesydd.

Rhaid cydnabod bod sawl enghraifft eisoes o gydweithio sy’n herio ein syniadau am graffu; Consortia Addysg Rhanbarthol, prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Cydweithio Rhanbarthol, a datblygiad parhaus Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chynllunio Integredig Sengl. Ond mae’r llwyfan yn ddigon mawr i ychwanegu’n helaeth at y cast, ac adeiladu’r arferion sydd eisoes ar waith a’u datblygu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Graffu fod yn fwy ymatebol, mae’n rhaid sicrhau bod herio priodol yn digwydd a bod atebolrwydd effeithiol ar waith. Dyma gyd-destun newydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae craffu mewn sefyllfa dda i gyflawni’r dyheadau hyn.

Y Gronfa Datblygu Gwaith Craffu sy’n arwain y cast. Mae’r gronfa’n annog ceisiadau sy’n barod i arloesi wrth ystyried effaith craffu ar fodelau newydd o ddarparu, ac sy’n ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau bod craffu’n parhau’n rhan allweddol o ddyletswyddau trosolwg gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae’r cyfan wedi cymryd cryn amser i’w ddatblygu. Cawsom Beecham a Simpson ar hyd y daith a dynnodd sylw at fanteision posib cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Hyd yma, gwelwyd yn glir bod angen sicrhau fframweithiau atebolrwydd priodol i sicrhau bod y rhai sydd ynghlwm wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif mewn modd effeithiol a thryloyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais cynyddol ar y potensial i gydweithio er mwyn creu senario lle mae partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyhoeddus cost-effeithiol o ansawdd uchel, a hynny gyda llai o adnoddau. Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gyson wedi bod yn pwysleisio na ddylid ymateb i bwysau ariannol dim ond drwy wneud pethau’n wahanol, ond y dylid gwneud pethau gwahanol.

A ninnau ar drothwy’r Gynhadledd, mae’n meddyliau ni’n troi at gyhoeddiad arfaethedig yr adroddiad ar y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae craffu’n elfen hanfodol a chanolog o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ei newydd wedd; a pha bynnag fodelau a gaiff eu mabwysiadau, rhaid i graffu effeithiol fod yn ganolbwynt i’r cyfan o safbwynt atebolrwydd. Bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau gwneud penderfyniadau yn dipyn gwell os cânt eu herio’n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru am weld craffu’n digwydd wrth fynd ati i ddatblygu trefniadau cydweithio newydd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid – fel sydd wedi bod yn digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol – ar ôl i’r penderfyniadau gael eu gwneud pan mae’n dipyn anoddach argyhoeddi pobl o bwysigrwydd sicrhau atebolrwydd effeithiol.

Wrth gwrs, mae Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn ganolog i hyn – dyma’r sylfaen ar gyfer swyddogaeth graffu sy’n ymateb i, ac yn cefnogi modelau o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n newid. Mae rheoliadau craffu a dyletswyddau trosolwg ar y cyd, sy’n caniatáu i Awdurdodau Lleol sefydlu Cydbwyllgorau i graffu ar wasanaethau a gyd-gomisiynir ac a gyd-ddarperir, yn eu lle.

Mae’n bwysig cofio bod cyfle o hyd i ddylanwadu ar y naratif gan fod yr ymgynghoriad ar Bersonau Penodol yn dal i fynd rhagddo a bydd yn dod i ben ar 21 Tachwedd. Croesewir adborth ar sut y gall hyn sicrhau trefniadau effeithiol er mwyn craffu ar wasanaethau a ddarerir gan bartneriaethau gwasanaethau cyhoeddus.

 Un pwynt bach i gloi. Gall pawb sy’n ymwneud â hyn elwa ar gymorth y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sy’n cael ei hariannu i ddarparu cymorth pwrpasol ym maes craffu yng Nghymru. Mae’n cynorthwyo i ddatblygu swyddogaeth graffu sy’n gallu ymateb yn effeithiol i batrymau newidiol darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau craffu da ar yr un pryd – herio lleol i sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau o’r lefel ac o’r safon y mae ganddynt yr hawl i’w disgwyl.

Richard Shearer – Llwyodraeth Cymru

Synfyfyrio gan Blentyn Bach ar Twitter

Huw Lloyd-Jones
Cyn ein Cynhadledd Craffu sy’n dod lan ar 28 Tachwedd, mae tîm Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru wedi fy mherswadio i gyfrannu erthygl arall sydd yn gosod fy nefnydd ‘datblygiadol’ o gyfryngau cymdeithasol o fewn cyd-destun potensial ar gyfer cynghorau ac aelodau etholiadol unigol. Mae gennym weithdai yn y gynhadledd ar:

• Rôl y Cynghorydd Rhwydweithiol o fewn Craffu; a
• Ymgysylltu â’r Cyhoedd o fewn Craffu.

Mae gan Twitter rhywbeth i gynnig i’r ddau!

Toddler-with-ipad-610x300

Yn fy erthygl ddiwethaf ar y pwnc yma, roedden yn ‘Faban ar Twitter’ – wedi difyrru yn hawdd gan y byd newydd a agorodd o fy nghwmpas, gyda llawer o ‘Rieni Twitter’ yn fy helpu i ddatblygu ac osgoi trwbl. Cwpwl o fisoedd yn hwyrach, dwi nawr yn ystyried fy hun yn Blentyn Bach ar Twitter – rhaid i ni dyfu lan yn gyflym ym myd blogio! Dwi nawr yn fwy annibynnol, ond mae’r perygl yn fwy. Dwi hefyd yn debygol o golli fy nhymer nawr ac yn y man. A chofiwch fod plant bach wastad yn gweld y byd o bersbectif lle maent hwy yn gadarn yn y canol!

Felly pa fath o ymddygiadau Twitter sydd yn gwneud i mi stampio fy nhraed a gwaeddi? Dwi’n cymryd byddai’n dyfod yn fwy goddefgar wrth i fi dyfu lan, ond reit nawr:

• Mae rhai negeseuon ar Twitter, i fod yn onest, yn anhreiddiadol os nad ydych ‘o fewn y grŵp sy’n deall’! Dwi’n deall bod y cyfyngiad 140 nod yn mynnu bod yr awdur yn gryno, ond dwi’n siŵr taw’r bwriad yw ymgysylltu â’ch dilynwyr? Gall negeseuon wedi eu codio, yn llawn hashnod, fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau ond, yn gyffredinol, mae’r plentyn bach yma yn dylyfu gen a symud ymlaen ar ddiwrnod da a, mewn tymer gwael, yn dechrau pregowtha..!
• Ai fi yn unig sy’n credu bod rhai pobl ar Twitter yn gorwneud? Pan mae fy nghyfrif yn llawn o negeseuon o’r un ffynhonnell (weithiau yn ail-drydar beth maent wedi trydar rhai oriau ynghynt), dwi fethu helpu teimlo taw’r bwriad yw i hunan-hybu, nid ymgysylltu.
• Dwi weithiau yn teimlo’n hapus fy mod wedi creu Tweet wedi ei eirio’n ofalus sydd yn hawlio (yn foesgar) ateb gan rywun neu ryw sefydliad. Mae derbyn dim ateb felly yn fy ngwneud yn ddig, ond mae bathodyn ‘Hoff’ gan y sefydliad (heb ateb) yn gwneud pethau’n waeth! Mae’r llwybr ‘Dad-ddilyn’ wastad yn opsiwn, ond wrth gwrs dwi dal yn teimlo, yn ystod y cyfnod yma, bod hwna ychydig yn anfoesgar ac yn drastig i wneud heb o leiaf esbonio pam!

Ond nid yw popeth yn wael ac mae digon i wneud i mi wenu. Dwi dal yn dilyn cynghorau Gogledd Cymry a nifer o aelodau unigol gyda diddordeb, ac yn aml gydag edmygedd. Dechreuodd un o ‘fy’ nghynghorau rhannu lluniau ar Twitter yn ddiweddar o gŵn ar goll sydd yn cael ei gwarchod gan wardeiniaid, gyda manylion bras ar ble a phryd darganfyddwyd y ci truenus. Dyna ffordd hollol syml a rhad ac am ddim i uno mwy o gŵn gyda’u perchnogion, wrth leihau costau cadw a thâl milfeddyg! Roedd rhai eraill yn amlwg yn cynyddu’r math o ddeunydd maent yn rhannu, yn aml yn hybu digwyddiadau a gweithgareddau lleol o fewn yr ardal, ar y cyd gyda gwybodaeth fwy cyffredin (ond dal yn ddefnyddiol) am swyddi gwag. Fel fi, mae cynghorau yn cael dyddiau da a dyddiau gwael a dwi dal ddim yn sicr eu bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyson dda i dynnu sylw ar gyhoeddiadau allweddol ac ymgynghoriadau fel ffordd o ymgysylltu â thrigolion.

Beth am y rhifau? Mae’r plentyn bach yma wedi cael diddordeb mewn data ers oedran cynnar! Mae’r tabl isod yn diweddaru’r rhifau nes i gynnwys yn fy erthygl ddiwethaf:
Cyngor Tweets Yn dilyn Dilynwyr

Cyngor

Tweets

Yn dilyn

Dilynwyr

12/9/13

1/11/13

12/9/13

1/11/13

12/9/13

1/11/13

A

1197

1257

0

61

2735

2928

B

2046

2153

14

17

3402

3647

C

6992

7313

174

197

6597

7041

D

3156

3278

31

31

4097

4391

E

1783

2049

182

208

1646

1850

F

6586

7364

3078

3102

5273

5580

cyfanswm

21,760

23,414

3,479

3,616

23,750

25,437

Beth mae hwn yn dweud wrthym?

• Mewn llai na deufis, mae cynghorau Gogledd Cymru wedi atynnu 1,687 dilynwr ychwanegol – cynnydd o 7.1 y cant! Mae hwna’n golygu bod popeth maent yn trydar yn cyrraedd 7 y cant mwy o bobl na deufis yn ôl!
• Mae rhai newidiadau dramatig wedi bod yn y niferoedd o bobl a sefydliadau eraill bod rhai cynghorau yn dilyn. Mwy o gyfleoedd i ddysgu oddi-wrth eraill, felly.

Felly beth yw’r pwynt?

• Mae defnyddwyr Twitter yn dyfod yn fwy beirniadol wrth iddynt gael fwy o brofiad! Weithiau nid Twitter yw’r ffordd gywir o gyfleu’r neges!
• Mae cyfathrebu clir yn amod gofynnol (ond nid un digonol) ar gyfer ymgysylltu effeithiol, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd o fewn craffu.
• I ymgysylltu’n dda, mae hefyd angen i chi wybod bod cynulleidfa gyda chi ac mae’r gynulleidfa Twitter yn tyfu’n gyflym! Mae’r potensial i gynghorau ddefnyddio Twitter i hysbysebu, ymgysylltu a mesur barn yn enfawr.
• Mae llawer mwy o le i’r canol corfforaethol mewn cynghorau sicrhau bod eu timau cyfathrebu yn hybu cynlluniau, dogfennau ac adroddiadau allweddol gan ddefnyddio Twitter a chyfryngau cymdeithasol eraill.

Dwi’n edrych ‘mlan i Gynhadledd Craffu bydd yn hala fi i feddwl yn y Stadiwm SWALEC ar 28 Tachwedd. Gwnewch yn sicr eich bod yna!

Diolch @Huw711

Craffu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Craffu

Hoffwn rannu mwy o fanylion gyda chi am un o’r gweithdai i barhau’r gyfres o blogiau gwadd i gefnogi’r Gynhadledd Goleuni ar Graffu 28 Tachwedd yn Stadiwm SWALEC. Mae’n ymwneud â sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn annog mwy o gyfranogiad ym mhwyllgor craffu. Rydym yn teimlo gallai’r dulliau hyn gael eu haddasu i weddu i ymagweddau Llywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Peidiwch â becso os dydych chi heb ddewis y gweithdy yma, fe wnawn ni ychwanegu cyflwyniad a throsolwg y gweithdy drwy fideo ar-lein ar ôl y gynhadledd. Darllenwch hwn i weld beth ydych chi’n meddwl.

Ar ddydd Iau 28 Tachwedd, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Graffu Cymru gyfan a gaiff ei threfnu gan Swyddfa Archwilio Cymru yn Stadiwm Swalec, Caerdydd. Cynhelir dau weithdy i drafod y mater o ‘gymryd rhan mewn gwaith craffu’ a gaiff ei arwain gan Kevin Davies, sy’n aelod o adran Gyfathrebu’r Cynulliad, gyda’r nod o annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu pwyllgorau, a Virginia Hawkins, sydd wedi gweithio yn y Cynulliad ers 10 mlynedd, ac sydd wedi bod yn rhan o bob agwedd ar waith craffu yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys cyfnod fel Clerc pwyllgor, cyfnod yn y Gwasanaeth Ymchwil a chyfnod gyda’r Adran Gyfathrebu.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi newid y ffordd y mae’n cyfathrebu, er mwyn canolbwyntio llawer mwy ar y gwaith y mae’r Cynulliad yn ei wneud ar y pryd, a siarad â grwpiau penodol o bobl sy’n debygol o ddangos diddordeb mewn pwnc, gan weithredu fel cyfrwng i gael rhagor o bobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu. Wrth wneud hynny, rydym yn defnyddio pecyn cymorth mewnol ar-lein, sy’n amlinellu’r ffyrdd y gallwn ymgysylltu â phobl y tu hwnt i ffyrdd traddodiadol o gyfrannu at waith craffu yn y Cynulliad, sef drwy ysgrifennu at y pwyllgor neu drwy gael gwahoddiad i roi tystiolaeth. Gwyddom ei bod yn bosibl nad yw cyfran fawr o bobl yn ymwybodol bod rhai ymchwiliadau yn digwydd hyd yn oed, ac nad yw rhai cynulleidfaoedd yn teimlo’n gyfforddus yn cyfrannu yn y dull hwnnw. Mae’r opsiynau sydd ar gael i bobl yn amrywio rhwng cynadleddau, grwpiau ffocws, cyfweliadau fideo, arolygon ar-lein ac ar bapur, ymysg pethau eraill. Rydym wedi dysgu o brofiad fod pob dull yn amrywio llawer o ran y costau a’r amser sy’n gysylltiedig â hwy, felly er bod rhai awdurdodau lleol yn credu nad yw rhai o’n dulliau ni yn addas iddynt hwy, bydd rhai o’r technegau a ddefnyddir yn ddefnyddiol iawn o ran cynhyrchu ymateb, heb ddefnyddio llawer o arian nac amser.

Yn ystod y sesiwn, hoffem rannu cymaint o’n profiadau â phosibl, ond hoffem wneud hynny o fewn cyd-destun y cyfyngiadau sydd ar ein cyfranogwyr.

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad i’r ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru (oes, mae gwahaniaeth!), gan dynnu sylw at yr agweddau ymarferol a phethau i’w hystyried wrth geisio annog pobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu, a’r mathau o rwystrau mewnol ac allanol y mae pobl yn eu hwynebu. Yna, bydd y cyfranogwyr yn cael eu rhannu’n grwpiau gweithdy lle y bydd cyfle i drafod enghreifftiau o’r hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i annog pobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu, y rhwystrau sydd ganddynt, neu allai fod, yn eu hwynebu a pha gyfleoedd sydd ar gael. Gofynnir i bob grŵp gyflwyno un enghraifft dda o bob un cyn dod i ben gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Virginia, Kevin neu’r Aelodau a fydd yn bresennol.

Gobeithio y bydd y cyfranogwyr yn gadael y sesiwn wedi rhannu arferion gorau gyda chyfoedion, wedi dysgu ffyrdd newydd o annog pobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu ac wedi cael lleddfu rhai o’r pryderon sy’n ymwneud â hynny, gyda’r wybodaeth am enghreifftiau ymarferol y gallant eu defnyddio fel craffwyr ar lefel leol.

Arloesi, rheoleiddio ac ymgysylltu: tair rôl newydd i graffu?

Craffu

Dave McKenna

Blog gan Dave McKenna, Rheolwr Craffu, Dinas a Sir Abertawe.

Wedi tyfu ac yn ceisio darganfod ei ffordd; mae’n teimlo fel bod craffu llywodraeth leol wrth y groesffordd. Roedd y byd cafodd craffu ei eni iddi yn wahanol iawn ac mae angen i graffu addasu i’r amgylchiadau heriol sydd o’i gwmpas heddiw. Ond sut ddylai newid? Dwi eisiau cyfeirio at dair rôl newydd fel ffyrdd posib o fynd; rheini yw’r rolau arloesedd, rheoleiddio ac ymgysylltu.

Tyfu i fynnu mewn Byd sy’n Newid

Yn ystod y cyfnod yn arwain i fynnu at beth sy’n addo i fod yn gynhadledd craffu cyntaf mawr hynod o arwyddocaol yng Nghymru, mae’n amser da i feddwl am sut allai craffu edrych yn y dyfodol. Dwi’n hoffi’r thema ‘i gyd wedi tyfu i fynnu’, wedi’r cyfan, mae craffu llywodraeth gyhoeddus, a gafodd ei eni o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 nawr yn ei arddegau. Ond gawn ni beidio anghofio bod pobl yn eu harddegau ddim wedi tyfu i fynnu yn hollol eto; efallai yn fwy annibynnol a chyfrifol mewn rhai ffyrdd, ond heb ymddiriedolaeth hollol yn eraill.

Mae craffu wedi dod yn bell iawn mewn 13 mlynedd ac mae llawer o esiamplau ardderchog o graffu yn gwneud gwahaniaeth. Ond, hyd yn oed os bod craffu wedi aeddfedu fel swyddogaeth (a dydw i ddim yn siŵr ei fod), dylai’r ffaith bod byd heddiw mor wahanol i’r un a gafodd craffu ei eni iddi achosi i ni adlewyrchu.

Mae adnoddau llai, ynghyd â galw cynyddol am wasanaethau yn creu heriau digynsail i gynghorau lleol a fydd angen ailddyfeisio eu hunain i raddau. Yr un pryd, mae ffyrdd newydd o drefnu gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadau traddodiadol yn creu posau newydd ar gyfer atebolrwydd a democratiaeth. Yng Nghymru rydym yn aros i glywed canlyniadau’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n disgwyl adrodd cyn diwedd 2013. Bydd hwn yn sicr o newid y byd mae craffu yn byw ynddi hyd yn oed yn fwy.

Am Beth mae Craffu?

Felly, yn y byd llywodraeth leol newidiol a heriol, am beth yn union mae craffu? Nid yn hwn yn gwestiwn newydd wrth gwrs. Nôl yn 2004, enwodd Ashworth a Snape pedwar rôl allweddol ar gyfer craffu o’r canllawiau llywodraeth ar y pryd.1 Rheini oedd:

• dal y gweithredydd yn gyfrifol;
• datblygu ac adolygu polisi;
• rheoli perfformiad a gwerth gorau; a
• craffu allanol.

Mae’r ffaith yr oedd nifer o rolau eraill hefyd yn cael eu trafod ar y pryd yn dweud rhywbeth wrthym am natur gystadleuol a dadleuol craffu sydd, yn fy marn i o leiaf, dal yn fyw. Un o ganfyddiadau allweddol Ashworth a Snape oedd, er bwriad y llywodraeth, taw’r rôl datblygu ac adolygu polisi roedd rhan fwyaf o gynghorau yn hapus i redeg gyda, a taw hwn oedd wedi dyfod, yn weithredol, prif rôl craffu. Rhywbeth maent yn disgrifio fel ‘gwers dda o orfoledd cyd-destun lleol dros ddatrysiadau strwythurol a ragnodir yn ganolog’.

Beth mae’r hanes yma yn awgrymu yw er mwyn i graffu cael rôl ystyrlon, mae rhaid iddo gwrdd ag anghenion nid yn unig llywodraethu cyffredinol, ond y cynghorau lleol sy’n ei gynorthwyo.

Tair Rôl Newydd: Arloesi, Rheoleiddio ac Ymgysylltu

Felly sut dylai craffu adlewyrchu ei bwrpas wrth adeiladu ar beth sydd wedi mynd o’i flaen a chwrdd ag anghenion llywodraeth leol yn y cyd-destun cyfredol? Dwi eisiau cyfeirio at dri pheth.

Arloesi

Dwi i wedi ysgrifennu erthygl o’r blaen ar graffu fel ffynhonnell arloesi . Gan fod arloesi yn dyfod yn fwy a fwy angenrheidiol i lywodraeth leol, mae craffu yn adnodd cyfleus ac ar gael i ddatblygu ffyrdd newydd o wneud pethau. Dwi’n gweld y rôl arloesol fel y canlynydd naturiol i’r rôl datblygu polisi, er efallai bod yr angen yn fwy.

Rheoleiddio

Mae craffu eisoes wedi cael cyfraniad pwysig i wneud i reoli perfformiad a monitro perfformiad yn enwedig.Y cam rhesymol nesaf yw i graffu perfformio llawer o’r un swyddogaethau mae rheoleiddwyr yn gwneud ar y funud; codi pryderon pan mae perfformiad yn wael, uwch-oleuo arfer da a gwneud awgrymiadau am welliant. Yn sicr, mae llawer o hwn yn digwydd yn barod, ond heb yr un faint o bwysau sydd yn dod gydag archwilydd neu rheoleiddiwr allanol. Os gall craffu lenwi’r rôl yma, bydd modd arbed reit ar draws y llywodraeth – yn Lloegr, mae ffurfiau newydd o reoleiddio gan gyfoedion yn cael eu harchwilio yn rhannol am y rheswm yma. Ond, os mae hyn i ddigwydd, bydd angen hyder llywodraeth leol a cenedlaethol ar graffu. Bydd hefyd angen gradd uwch o annibyniaeth arno na sydd ganddo ar y funud.

Ymgysylltu

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd eisoes wedi bod yn ddyhead pwysig o’r broses craffu ac agwedd pwysig o’r arfer craffu. Beth dwi’n awgrymu fan hyn yw gallai craffu fod yn bwynt ymgysylltu ar ran yr holl gyngor. Gellir gwneud holl ymgynghori ac ymgysylltu strategol trwy’r broses craffu, yn sicrhau un pwynt cydlynol am y gweithgareddau yma a, efallai, yn fwy pwysig, un fynedfa adnabyddus i’r cyhoedd. Mae llawer o’r sgiliau yma ar gael yn barod yn y timau cynorthwyol craffu a, gan fod craffu yn swyddogaeth a arweinir gan gynghorwyr, mae pasio ymgysylltu trwy craffu yn sicrhau bod cynghorwyr reit wrth ganol ymgynghori ac ymgysylltu strategol. Dwi wedi dweud ‘ymgynghori ac ymgysylltu strategol’ yn ofalus; dwi ddim eisiau awgrymu dylai gwasanaethau’r cyngor stopio ymgynghori ac ymgysylltu â thrigolion fel rhan o’u dydd i ddydd. Un pwynt pwysig arall yw bydd gan gyfryngau digidol a chymdeithasol ran bwysig i chwarae i sicrhau bod ymgysylltu yn effeithiol ac effeithlon.

Beth dwi wedi ceisio meddwl am fan hyn yw’r ffyrdd all craffu darparu’r cyfleustod mwyaf o fewn cynghorau lleol wedi eu had-drefnu wrth sicrhau llywodraethu da. Neu, i’w roi mewn ffordd arall, sut all craffu dyfu i fynnu.

Ymwrthodiad: Rhain yw fy marnau i, nid barnau Dinas a Chyngor Abertawe.

Cyfeirnod

1Ashworth, Rachel and Snape, Stephanie(2004) ‘An Overview of Scrutiny: A Triumph of Context over Structure’, Local Government Studies, 30: 4, 538 — 556

Goleuadau, camera, amdani!

Craffu

Bydd ymhell dros 200 o gynrychiolwyr o’r Gymuned Archwilio yng Nghymru yn mynychu Cynhadledd ‘Goleuni ar Graffu‘, sydd yn cael ei chynnal ar 28 Tachwedd 2013 yn y Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Huw Rees

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru, y Ganolfan Craffu Gyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’n gwneud synnwyr i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â gwella craffu yng Nghymru uno i gynnal y digwyddiad yma. Mae mynychwyr a ni yn rhannu pwrpas cyffredin, felly mae hwn yn gyfle unigryw i ddod at ein gilydd i fanteisio ar ein gwybodaeth a’n profiad, ac i rannu a dysgu o syniadau ac atebion i wella Craffu yng Nghymru.

[gigya src=”https://s3.amazonaws.com/boos.audioboo.fm/swf/fullsize_player.swf” flashvars=”mp3=https%3A%2F%2Faudioboo.fm%2Fboos%2F1623625-what-the-scrutiny-conference-aims-to-achieve-beth-mae-r-gynhadledd-craffu-yn-anelu-i-gyflawni-huw-rees.mp3%3Fsource%3Dwordpress&mp3Author=GoodPracticeWAO&mp3LinkURL=https%3A%2F%2Faudioboo.fm%2Fboos%2F1623625-what-the-scrutiny-conference-aims-to-achieve-beth-mae-r-gynhadledd-craffu-yn-anelu-i-gyflawni-huw-rees&mp3Time=02.13pm+26+Sep+2013&mp3Title=What+the+Scrutiny+Conference+aims+to+achieve+%2F+Beth+mae%E2%80%99r+Gynhadledd+Craffu+yn+anelu+i+gyflawni%3A+Huw+Rees” width=”400″ height=”160″ allowFullScreen=”true” wmode=”transparent”]

Rydyn ni gyd yn cydnabod ein bod ni’n wynebu cyfnod heriol, ble byddwn yn wynebu penderfyniadau anodd iawn. Bydd rhaid ei chymryd nhw gyda dewrder a thrylwyredd. Mae gan graffu rôl allweddol o ran cyfrannu at drylwyredd ac felly bydd rhaid i ni sicrhau ei fod yn addas i’r diben ac ein bod ni’n barod am yr her. Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i glywed am sut mae cyfranwyr a mynychwyr yn ateb yr her yma, ac i ddewis a dethol agweddau byddai’n gallu helpu ni i wella ein mudiadau ni. Mae’n ymwneud â chydnabod beth allai gweithio ar gyfer eich mudiad a’i addasu (ni jyst ei fabwysiadu).

[gigya src=”https://s3.amazonaws.com/boos.audioboo.fm/swf/fullsize_player.swf” flashvars=”mp3=https%3A%2F%2Faudioboo.fm%2Fboos%2F1623584-scrutiny-conference-cynhadledd-craffu-huw-rees.mp3%3Fsource%3Dwordpress&mp3Author=GoodPracticeWAO&mp3LinkURL=https%3A%2F%2Faudioboo.fm%2Fboos%2F1623584-scrutiny-conference-cynhadledd-craffu-huw-rees&mp3Time=01.57pm+26+Sep+2013&mp3Title=Scrutiny+Conference+%2F+Cynhadledd+Craffu%3A+Huw+Rees” width=”400″ height=”160″ allowFullScreen=”true” wmode=”transparent”]

Mae yna opsiynau ar gyfer pob cynrychiolydd i fynychu dau o’r chwe gweithdy sydd ar gael, felly dylai fod eich mudiad yn gallu cyrchu gwybodaeth o bob gweithdy trwy rannu’r mynychiad rhyngoch chi a’ch cydweithwyr. Cafodd y gweithdai ei ddylunio i bigo’r themâu allweddol i fyny o ‘Craffu Da – Cwestiwn Da’, sef yr astudiaeth genedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r gweithdai i gyd wedi’u cynllunio i fod yn rhyngweithiol iawn gan ein bod ni’n cydnabod bod creu’r cyfle i gynrychiolwyr rhannu a dysgu o’i gilydd yr un mor bwysig a chlywed gan ein cyfranwyr arbenigol.

Rwy’n gobeithio byddwch yn cymryd llawer o syniadau diddorol i ffwrdd ar sut gall eich mudiad yn gwella ei swyddogaeth Craffu, ond yn fwy na dim, rwy’n gobeithio eich bod chi’n gwneud y fwyaf o’r cyfle nawr mae’r goleuni ar Graffu yn llachar iawn.

Huw

Craffu Cymdeithasol

Scrutiny CYM

Pam, dybiech chi, fod Huw Lloyd Jones yn ystyried ysgrifennu blog sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasu? Does bosib fod gan rywun sy’n prysur agosáu at ei ymddeoliad rywbeth gwell i’w wneud gyda’i amser?

Mae’n siŵr eich bod yn iawn! Rydw i wedi bod yn defnyddio Linked-In ers tro ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, hyd yn ddiweddar, fy mod i wedi’i ddefnyddio fel fersiwn hen ddyn o lyfr llofnodion. Ofer fu fy ymdrechion i agor cyfrif Facebook, gyda thoreth o negeseuon testun yn mynegi cywilydd yn cael eu hanfon gan fy mhlant (i’w gilydd nid ata i), cyn cael fy ngwahardd yn ddi-flewyn ar dafod o Facebook gan fy ngwraig. “Ti’n siŵr o fynd i drwbwl”, oedd ei geiriau.

Huw Lloyd-Jones

Felly, pan benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru annog ei staff i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu, meddyliais, ‘Gwell gadael hynny i’r bobl ifanc’ (a’r bobl hŷn ffasiynol)! Pan welais i fod sesiwn hyfforddiant staff yn canolbwyntio ar Twitter, roeddwn i’n llawn amheuon. Ond penderfynais fynd, gwrando a gofyn ambell i gwestiwn. Mae’n debyg mai’r hyn a wnaeth fwyaf o argraff arna i oedd, wrth ymarfer ein sgiliau elfennol, ein bod wedi cael ymateb ar unwaith (a doniol) gan gyn Weinidog o Lywodraeth Cymru a oedd newydd ymddeol! Mae’n debyg fod hyn wedi fy argyhoeddi ar unwaith o bŵer dylanwadol y cyfryngau cymdeithasu!

I dorri stori hir yn fyr, fel hyfforddai gyda meddwl agored (hawdd ei dwyllo o bosib), ymunais â Twitter. Wrth wneud hynny, llwyddais i ddileu popeth ar fy Blackberry, ond llwyddais yn y pen draw! Does gen i ddim gronyn o ddiddordeb yn yr hyn y mae sêr yn ei fwyta i frecwast, felly penderfynais ganolbwyntio’n bennaf ar:

  • y chwe chyngor rydw i’n gweithio gyda nhw;
  • pethau addysg.

Felly, beth ydw i wedi’i ddysgu yn sgil fy ‘arbrawf’? Yn gyntaf oll, un neu ddau o bethau cyffredinol ar gyfer unrhyw un arall sy’n ystyried agor cyfrif Twitter:

  • Hyd yn oed os ydych chi ond yn dilyn nifer fechan o ddefnyddwyr Twitter eraill, mae’n hawdd treulio diwrnod cyfan yn cadw llygad ar y negeseuon sy’n llifo i mewn. Defnyddiwch rywbeth fel Hootsuite fel y gallwch chi ddidoli eich negeseuon Trydar i wahanol gategorïau. Dyw Trydar ddim fel e-bost – does dim ots os ydych chi’n colli llawer o ‘negeseuon’ gan y bydd rhywun yn eu hail-drydar os ydynt yn bwysig.
  • Does dim angen i chi anfon llawer o negeseuon Trydar. Rydw i wedi gwneud ambell i gamgymeriad mawr (ymddiheuriadau arbennig i @Snowded a @whatsthepont ac unrhyw un arall rydw i wedi’u digio). Meddyliwch yn ofalus sut bydd eich 140 o lythrennau blêr yn ymddangos i eraill cyn i chi fentro ac anfon y neges!

Beth am ‘fy’ chwe chyngor? Roedd hi’n dipyn o agoriad llygad o ran y gwahaniaethau rhyngddynt yn y ffordd maen nhw’n defnyddio Twitter. Fel archwilydd, byddech chi’n disgwyl i mi gyflwyno rhywfaint o ddata yn rhywle, felly dyma rai o’r ystadegau Twitter ‘sylfaenol’ ar gyfer y chwe chyngor wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn:

Cyngor

Negeseuon Trydar

Yn dilyn

Dilynwyr

A

1197

0

2735

B

2046

14

3402

C

6992

174

6597

D

3156

31

4097

E

1783

182

1646

F

6586

3078

5273

Mae’n debyg fod nifer y negeseuon trydar, i ryw raddau, yn adlewyrchu ers pryd mae’r cyngor wedi bod yn defnyddio Twitter. Hefyd, mae trydar yn y ddwy iaith yn ychwanegu at y cyfanswm (ac yn denu mwy o bobl hefyd). Mae’n ddiddorol gweld bod nifer y dilynwyr yn eithaf tebyg i nifer y negeseuon trydar!

Yr hyn a ddenodd fy sylw oedd nifer y defnyddwyr Twitter eraill y mae pob cyngor yn eu dilyn. Mae dilyn llawer o bobl a sefydliadau’n golygu eich bod yn dilyn cannoedd o negeseuon trydar bob diwrnod – sy’n llafurus iawn a gwastraff amser o bosib! Ar y llaw arall, os nad ydych chi’n dilyn llawer, yr unig negeseuon trydar y byddwch yn eu derbyn yw’r rhai sydd wedi’u cyfeirio’n benodol atoch chi. Byddwch yn colli’r hyn mae’ch partneriaid yn ei wneud a’r hyn y mae’r cyfryngau ac unigolion a grwpiau dylanwadol eraill yn y gymuned yn ei ddweud.

Mae sylwi ar sut mae’r math o wybodaeth y mae cynghorau’n ei thrydar yn amrywio wedi bod yn ddiddorol hefyd. Mae rhai yn tueddu i drydar gwybodaeth am swyddi gwag a phethau fel ysgolion sy’n gorfod cau’n annisgwyl. Mae eraill yn defnyddio Twitter i rannu straeon newyddion da ac i hysbysebu digwyddiadau a gynhelir, drwy ddolenni i wefan y cyngor fel arfer. Mae’r rhai sy’n dilyn eu partneriaid yn aml yn ail-drydar gwybodaeth am eu gwaith.  Yn fy ardal i, er enghraifft, mae’r heddlu’n gwneud defnydd da o Twitter a gall y cynghorau hynny sy’n dilyn yr heddlu gynyddu’r gynulleidfa’n sylweddol ar gyfer negeseuon trydar gan yr heddlu drwy ledaenu’r neges, ynghyd ag ail-bwysleisio’r ffaith fod y cyngor a’r heddlu’n cydweithio’n agos.

Dim ond un cyngor hyd yma sydd wedi defnyddio Twitter i hysbysebu ymgynghoriad sydd ar y gweill – meddyliwch faint yn fwy o bobl a allai ddod i wybod fod yr ymgynghoriad ar waith o gymharu â’r niferoedd a allai fod wedi dod ar draws y wybodaeth ar y wefan! Mae cyngor arall wedi dechrau cynnal ‘cymorthfeydd Twitter’, gydag aelodau’r Cabinet yn ymateb i negeseuon trydar gan aelodau’r cyhoedd am eu meysydd cyfrifoldeb. Does dim ymateb brwd wedi bod hyd yma, ond am syniad da o ran ymgysylltu â’r cyhoedd mewn fforwm sydd ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb!

Anaml ac anghyson iawn y mae gwybodaeth am gyfarfodydd nesaf y pwyllgor yn cael ei thrydar. Mae ein gwaith craffu diweddar yng Nghymru wedi dod i’r casgliad bod y rhan fwyaf o gynghorau’n teimlo y byddai modd iddyn nhw ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r cyhoedd yn y ffordd maen nhw’n dal y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau i gyfrif. Felly, beth am fanteisio ar y cyfle i roi gwybod i’r holl ddilynwyr hynny am gyfarfodydd a fydd yn canolbwyntio ar faterion pwysig? Neu, yn well fyth, beth am ddefnyddio Twitter ymlaen llaw i alluogi pobl i fynegi eu barn ac i glywed barn y cyhoedd? Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Felly, i ddefnyddio ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio byth a hefyd, Beth yw’r PONT?

  • Dydych chi byth yn rhy hen i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu, ond pwyllwch cyn Trydar!
  • Mae defnydd cynghorau o Twitter a natur yr hyn maen nhw’n ei drydar yn amrywio’n fawr.
  • Mae potensial y cyfryngau cymdeithasu fel Twitter i ymgysylltu â’r cyhoedd yn enfawr.
  • Gallai swyddogaethau craffu cynghorau’n arbennig ddefnyddio llawer mwy ar gyfryngau cymdeithasu i ymgysylltu â’r cyhoedd ac adlewyrchu eu safbwyntiau wrth ddal y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau i gyfrif.

Huw

Ydy craffu ar fin dod i oed ………. ?

Scrutiny CYM

Tan yn ddiweddar, mae llawer o bobl wedi ystyried Craffu i fod yn’ gefnder tlawd’ democratiaeth llywodraeth leol yng Nghymru. Mae archwilio wedi cael ychydig o flynyddoedd cythryblus wrth iddo ffeindio’i draed yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain. Mae rhai aelodau o’r gymuned llywodraeth leol wedi amau gwerth craffu ac mae ffeindio enghreifftiau o graffu effeithiol wedi bod yn anodd. Fodd bynnag, rwy’n cael yr argraff bendant fod swyddogaeth bwysig craffu ar fin dod i oed.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio gydag Aelodau Awdurdodau Lleol, y gymuned Swyddogion Craffu, ac eraill sydd â phrofiad o ddemocratiaeth leol dros y flwyddyn ddiwethaf, er mwyn gweld sut mae craffu mewn llywodraeth leol yn cymryd siâp mewn y 22 cyngor yng Nghymru. Penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru i wneud y gwaith yma oherwydd ein bod ni’n credu bod gan graffu rôl bwysig iawn i’w chwarae. Wrth graffu’n effeithiol, gallwn ychwanegu llawer o werth i lywodraeth leol. Gall hyn rhoi’r cyfle i herio swyddogion ac Aelodau gweithredol, a chraffu polisïau, cynlluniau a phenderfyniadau er mwyn ffurfio rhan bwysig o hunan-arfarnu a monitro perfformiad. Trwy ymgymryd â’r rolau yma gall craffu atgyfnerthu trefniadau llywodraethu awdurdod.

Pan ddechreuais gynllunio ein gwaith ni, fe wnes i ofyn i’r gymuned craffu beth oedden nhw’n meddwl byddai’n helpu craffu i ddatblygu’r fwyaf. Fe bwysleisiodd yr ymateb yr angen i rannu a dysgu o’r dulliau gwahanol ac arloesol o graffu mewn awdurdodau gwahanol. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod pob awdurdod wedi ei lunio ychydig yn wahanol a doedd dull ‘un maint i bawb’ ddim o reidrwydd yn mynd i weithio. Felly fe wnaethon ni cynllunio’r gwaith ar yr egwyddor o addasu’r hyn sy’n gweithio i fodloni amgylchiadau lleol, nid mabwysiadu arfer mannau eraill ar raddfa eang.

Doedden ni ddim yn ymgymryd â’r astudiaeth craffu gan ddefnyddio’r dull archwilio ‘draddodiadol ‘ o adolygu awdurdodau unigol, hynny yw trwy gyrraedd barn archwilio a chyhoeddi adroddiad. Roedden ni’n teimlo byddai’r astudiaeth hon yn gweddu i ddull adolygu cymheiriaid, lle byddai Swyddogion ac Aelodau yn rhannu a dysgu oddi wrth ei gilydd a gweld yn uniongyrchol sut mae awdurdodau eraill yn dal eu gweithrediaethau i gyfrif ac yn gwella cefnogaeth. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal astudiaeth yn y fformat yma ac roedd yr adborth ar y dull yn gadarnhaol iawn.

Roedd amseriad yr astudiaeth yn bwysig hefyd. Cafodd ein gwaith ei chario allan yn ystod blwyddyn gyntaf y gweinyddiaethau cyngor newydd yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol 2012. Mewn rhai cynghorau roedd hyd at draean o gynghorwyr yn cael eu hethol o’r newydd. Gyda chymaint o wynebau newydd a phobl mewn rolau gwahanol, roedden ni’n teimlo roedd hwn yn amser da i wneud y gwaith. Gallai aelodau newydd ddysgu o Aelodau eraill sydd gyda blynyddoedd o brofiad, ond gallent hefyd dod â syniadau newydd a chwestiynu’r ffordd mae craffu wedi cael ei wneud yn y gorffennol.

Defnyddiom yr astudiaeth i dreialu cyfres o Nodweddion Craffu Da. Cafodd rhain eu datblygu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus. Roedd yr astudiaeth yn gyfle i brofi a mireinio’r nodweddion cyn iddynt gael eu cwblhau a’u cyflwyno’n eang.

Mae yna ymgyrch gref ar gyfer mwy o gydweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n ffordd o weithio sy’n rhoi’r cyfle i ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal â chynllunio a chyflwyno’r astudiaeth craffu mewn modd cydweithredol, rydym hefyd yn ceisio defnyddio’r astudiaeth fel cyfrwng i annog cynghorau i nodi cyfleoedd i graffu ar y cyd.

Daeth yn glir yn ystod ein gwaith ni gyda’r gymuned craffu fod yna dymuniad i gael digwyddiad i rannu’r hyn a ddysgwyd a’r hyn wnaeth dod i’r amlwg yn ystod yr astudiaeth. Roedd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus i gyd yn bwriadu cynnal digwyddiadau craffu. Felly, mae’n gwneud synnwyr i ni ddod at ein gilydd i gydweithio i ddatblygu a chynnal cynhadledd craffu.

Y canlyniad yw’r Gynhadledd Craffu Cymru Gyfan, sy’n cael ei chynnal ar ddydd Iau 28 Tachwedd, 2013 yn Stadiwm SWALEC. Anelir y gynhadledd ato swyddogion ac aelodau llywodraeth leol er mwyn rhoi:

  • Gwell dealltwriaeth o’r newid yn y rôl a’r potensial ar gyfer craffu;
  • Ffocws clir ar ble gellir gwneud gwelliannau mewn trefniadau craffu; a
  • Syniadau ar gyfer sut y gallant yrru newid ac arloesi drwy rannu profiadau a syniadau.

Rydyn ni’n bwriadu cyflawni hyn drwy roi’r cyfle i fynychwyr rhannu a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn yr amgylchedd o weithdy hamddenol. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni’n casglu syniadau, awgrymiadau ac enghreifftiau ar y diwrnod ac yn rhannu’r wybodaeth hon yn eang ar-lein. Dyma ddull profedig Tîm Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n datblygu a chynnal cyfres o seminarau dysgu a rennir, yn aml mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Chwarae Teg a CIPFA.

Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio cyfryngau cymdeithasol i annog trafodaeth ac ymwybyddiaeth o fewn y gymuned Craffu ym mhob rhan o Gymru. Fe fyddwn yn gwneud hyn cyn, yn ystod, ac ar ôl y gynhadledd. Yr hashnod sydd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw trydar a anfonwyd yw #Scrutiny13.

Bydd cyfres o flogiau gan y partneriaid Gynhadledd Craffu dros yr wythnosau nesaf. Rwy’n eich annog chi i gymryd rhan a rhannu’ch syniadau a’ch barn ar ddatblygu craffu effeithiol yng Nghymru.

Alan