Skip to content

Tag: craffu

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe. Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad. Yr ochr dda… Read more Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Y tro cyntaf imi ddod yn ymwybodol o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chynnwys y cyhoedd mewn gwaith craffu oedd yn ystod y gynhadledd Graffu a gynhaliwyd yn 2013. Gan fy mod wedi gweithio ym maes cyfranogiad y cyhoedd am ychydig flynyddoedd cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru, fe wnaeth ei ddulliau gweithredu ddenu fy sylw. Gwnaeth natur ymarferol ei becyn cymorth ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gryn argraff arnaf, ac wrth imi glywed rhagor am ei waith, roeddwn yn fwy awyddus i ddysgu. O glywed am ei ddefnydd o… Read more Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

  Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal. Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy… Read more #scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

Rôl Graffu y Cynghorydd Rhwydwaith

Tuag at ddiwedd blwyddyn ddiwethaf mi wnes i redeg un neu ddau o sesiynau Rhwydwaith Cynghorydd mewn cynhadledd Craffu wych a gafodd ei drefnu’n dda yng Nghymru. Un o’r pethau sy’n creu argraff arnaf i pan rwy’n ymweld â Chymru yw’r ymrwymiad gwirioneddol tuag at ddysgu amdano a ffeindio arfer da o fewn llywodraeth genedlaethol a lleol. Un o’r ffyrdd mae’r gynhadledd hon yn gwneud hyn yw trwy ofyn i bob un o’r hwyluswyr i gyfrannu blogbost dilynol. Dyma, yn hwyr braidd, fy ymdrech i. Yn fy marn i o… Read more Rôl Graffu y Cynghorydd Rhwydwaith

Craffu tu hwnt i ffiniau

Dim jyst mewn Llywodraeth Leol ffeindiwch graffu. Mae’n cymryd sawl ffurf ar draws y sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, a gallwch roi’r un egwyddorion craffu ar waith yn unrhyw sector. Canolbwyntiodd cynhadledd Goleuni ar Graffu ar lywodraeth leol, ond serch hynny prif siaradwr y prynhawn oedd Peter Watkin Jones o Eversheds, ac fe wnaeth cyflwyno ei sylwadau ar Ymholiad Canol Swydd Stafford. Roedd y negeseuon yn berthnasol i’r sector cyhoeddus gyfan. Roedd Peter yn ddigon caredig i ganiatáu i ni ei gyfweld ar ôl ei gyflwyniad hynod lwyddiannus er… Read more Craffu tu hwnt i ffiniau