Tag Archif: Chris Bolton

Dysgu o Fethiant mewn amgylchedd cymhleth

Yn ei ail blogbost am weithdy Dysgu o Fethiant, mae Dyfrig Williams yn edrych ar fethiant mewn amgylchedd cymhleth.

Mae cwpl o wythnosau wedi mynd heibio ers y gweithdy Dysgu o Fethiant, ac mae fe hefyd wedi bod yn sbel ers fy ymateb iddo, ble wnes i gyfaddef fy mod i heb ddysgu lot o fy methiant i. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly roedd ein trafodaeth amdano rôl archwilio mewn dysgu o fethiant braidd yn anochel.

Methiant systematig

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason. Ffynhonnell: BMJ, 2000 Mar 18:320(7237): 768-770

Roedd cyflwyniad Chris Bolton ar Fodel Methiant Caws y Swistir gan James Reason, sy’n cymharu systemau dynol i haenau o Gaws y Swistir. Dewisodd Reason Caws y Swistir am reswm, gan fod pob haen yn amddiffyniad yn erbyn camgymeriadau a gwallau, ac mae pethau’n mynd o chwith pan mae’r tyllau’n galluogi i’r methiant parhau. Mae ‘na feirniadaeth ddiddorol o’r model yn y sylwadau gan Matt Wyatt o Gymhleth Cymru.

Ar ôl sgwrs dda ar Twitter ar wahanol fathau o gaws fel amddiffyniad (fel gwladgarwr dewisais i gaws Caerffili – ‘Rwy’n crymblo yn wyneb methiant’), edrychais i ar fodel mae Matt wedi datblygu o’r enw’r ‘Llinell Amser o Fethiant Anochel.’

Llinell Amser o Fethiant AnochelMae Model Caws y Swistir yn fodel adlewyrchol (gan eich bod chi’n edrych yn ôl ar y methiant ar ôl iddo gymryd lle), ond mae gen i ddiddordeb mewn model Matt achos bod e’n cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar fethiant a’i ganlyniadau ar wahanol gyfnodau. Mae hwn yn cydseinio â’r ymagwedd systematig tuag at fethiant yn fy mlogbost diwethaf ar adlewyrchu ar fethiant yn drylwyr.

Er mwyn gallu unioni’r methiannau yng nghyfnod cynnar y llinell amser, mae’n rhaid i ni fod yn agored a gonest am fethiant, neu bydd materion yn gwaethygu i fod yn broblemau mwy. Os ydym yn gyfforddus â mân achosion o fethiant, rydyn ni hefyd yn allu paratoi’n well ar gyfer pan mae pethau’n mynd yn rili wael. Fel mae Matt yn dweud yn sylw arall, ‘Mae systemau byw cymhleth bob amser yn methu, felly yn hytrach na cheisio dileu methiant, mae’n llawer mwy defnyddiol i’w gwneud yn ddiogel i fethu.’ Mae’n werth darllen blogbost Chris ar ‘Lygod Trojan,’ sef cynlluniau peilot sy’n ddiogel i fethu, cyn gwylio fideo o Dave Snowden sy’n trafod nhw fel rhan o’r Fframwaith Cynefin.

Gallwch weld y dull hwn ar waith drwy waith y Bromford Lab a Phrosiectau Beta Cyngor Dinas Dulyn. O ran Cyngor Dulyn, mae’n werth edrych ar sut mae paentio o flychau goleuadau traffig wedi arwain at lot llai o dagio a graffiti.

Beth mae hwn yn meddwl i archwilwyr a’r cyrff sy’n cael eu harchwilio?

Ar wahân i un awgrym yn y gweithdy i gymryd eich archwilydd allan am ginio i drafod eu hymagwedd tuag at fethiant (ac rydw i’n hollol gytuno â hyn gyda llaw!), mae hyn i gyd yn ymwneud â’r amgylchedd cymhleth mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a’u harchwilio ynddo.

Yng Nghymru, mae’r amgylchedd yma ar fin newid yn sylfaenol pan mae Deddf Lles Genedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gyflwyno. Bydd rhaid i fudiadau meddwl ychydig yn wahanol am eu gwaith, achos bydd rhaid iddynt wella lles pobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y ddeddf hefyd yn her i ni yn Swyddfa Archwilio Cymru – mae’n anodd mesur llwyddiant pan ddydych chi ddim yn gwybod beth fydd y dyfodol yn edrych fel. Mae blogbost wych ar flog Swyddfa Archwilio Cymru ble mae Ann Webster, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Seland Newydd yn amlinellu’r heriau ni’n wynebu.

Rydyn ni eisoes wedi rhannu rhai camau gall mudiadau cymryd i adrodd yn ôl yn effeithiol, gan gynnwys adrodd integredig, mewn seminar wnaethon ni rhedeg gyda’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Ond o ran y digwyddiad yma, wnes i gael fy nharo gan rai camau syml gall mudiadau cymryd i ddangos gwelliant. Rhoddodd Jonathan Flowers enghraifft wych o sut wnaeth Rheolwr Cynllun Rhwydwaith Cymdogaeth gofyn am ddau achos y mis o sut y mae’r gwasanaeth wedi gwella bywydau pobl. Mae’r naratif yn dangos bod y gwasanaeth yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio i werthuso’r prosiectau.

Ble nawr?

O ran ein gwerthusiad, rydyn ni wedi bod yn casglu enghreifftiau o sut mae’n gwaith ni wedi arwain at fudiadau’n mabwysiadu arfer da. Dyw’r rhain ddim yn aml yn fesurau ynddo’u hunain, ond maen nhw’n astudiaethau achos cymhleth o sut mae gwasanaethau wedi newid.

Ac o ran ein gwaith, mae’n bwysig bod ni’n parhau i drafod methiant, fel bod e’n cael ei normaleiddio a gall pobl fod yn fwy onest amdano. Ac os gallwn ni wneud hynny, byddwn ni mewn lle gwell i helpu mudiadau i gymryd camau pellach i wella eu gwasanaethau.

Rheoli rhaglenni a phrosiectau ystwyth

Leading Programmes and Projects / Arwain Rhaglenni a Phrosiectau

Fel rhywun syth byth wedi bod unrhyw le’n agos i reoli prosiect, roedd lot i mi ddysgu o’n seminar dysgu a rennir ar Arwain Rhaglenni a Phrosiectau.

Yn ddiweddar, rydw i wedi gweld y gair ‘ystwyth’ bron ym mhobman. Roedd lot o’r trafodaethau yn GovCamp Cymru ynglŷn â sut mae Gov.UK wedi newid y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus, gyda’r ddisg treth a’r DVLA yn benodol yn cael lot o ganmoliaeth. Gan fy mod i wedi dilyn datblygiad Gov.UK a’i bwriad o symleiddio sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, roedd gen i diddordeb i ddysgu mwy am y dull Ystwyth a gafodd ei ddefnyddio.

Yn ffodus i mi, fe wnes i hwyluso gweithdy James Scrimshire o AdaptAgility ar Arweinyddiaeth Gwas a rheoli rhaglen a phrosiect Ystwyth. Roeddwn i wedi darllen am rai o weithdai James ar blog Chris Bolton, felly roeddwn i’n edrych ymlaen atynt. Yn anffodus doedd dim gêm o Battleships y tro ‘ma, ond roedd y gweithdy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar Arweinyddiaeth Gwas.

Roedd yna lot o dermau newydd yn y gweithdy, ond beth wnaeth taro fi oedd bod rhain yn ddatblygiadau o syniadau sydd eisoes yn cael ei ystyried fel ffyrdd newydd o ddarparu prosiectau gwasanaethau cyhoeddus. Yn y tîm arfer da, ni’n cydnabod yn glir dyw’r un dull ddim yn addas i bawb. Ond o gofio sut mae’r dull yma’n grymuso pobl, mae’n sicr yn werth edrych arno.

Un o’r pethau wnes i hoffi mwyaf amdano Arweinyddiaeth Gwas oedd y ddeinamig pŵer, gan ei fod yn rhoi anghenion pobl eraill yn gyntaf ac yn helpu iddynt ddatblygu a chyflawni’u gwaith. Mae’n groes i rôl draddodiadol y rheolwr, ble maen nhw’n cadw’r pŵer i’w hun. Wrth i mi wrando ar James yn trafod y cysyniad, fe wnaeth e daro fi ei fod wedi’i gysylltu’n agos ag ymgysylltiad da gyda staff. Mae’r dull yn adeiladu ar ysgogi staff a sicrhau bod eu lleisiau nhw’n cael eu clywed.

James Scrimshire o AdaptAgility

James Scrimshire o AdaptAgility

Rôl y Meistr Sgrym yw cael gwared ar rwystrau fel bod y tîm yn gallu diwallu amcanion y prosiect. Er doedd cyflwyniad Richard Wilson ddim ar Reolaeth Ystwyth, roedd yna gysylltiadau uniongyrchol rhwng ei bwyntiau ar yr angen i reolwyr grymuso’r gweithlu a’r athroniaeth ystwyth.

Rhag ofn eich bod chi’n meddwl bod Rheolaeth Ystwyth jyst ar gyfer prosiectau digidol, mae’r blog yma gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhoi digon i feddwl amdano. Mae’r blogbost yma’n rhoi lot o sgôp o’i roi ar waith, o newid sefydliadol i recriwtio.

Achos dydw i ddim wedi gael unrhyw brofiad uniongyrchol o arweinyddiaeth fy hunain, helpodd y sesiwn fi i ailddiffinio fy nealltwriaeth i o arweinyddiaeth dda. Dyw arweinyddiaeth gref ddim amdano bŵer; mae fe amdano alluogi staff i wella eu rhaglenni a’u prosiectau.

Dyfrig

Gall GovCamp Cymru helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r Cyhoedd

Wrth i GovCamp Cymru agosáu, rydw i wedi dechrau meddwl am faterion allweddol gallai’r anghynhadledd delio gyda.

Fe wnes i rhannu fy blogbost diwethaf i ar GovCamp Cymru i grŵp Google Plus LocalGov Digidol, er mwyn rhannu beth sy’n digwydd yng Nghymru ac i gael syniadau ar faterion sydd wedi eu nodi yn anghynadelddau eraill.

Fe wnaeth sylw Simon amlygu bod ‘gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd’ yn broblem yn Awstralia adleisio beth rydyn ni’n wynebu yng Nghymru. Mae hwn yn ffitio’n dda â’n gwaith ni ar y foment ar ail-lunio gwasanaethau â’r cyhoedd.

Gofynnodd Simon Pickthall rhai cwestiynau mawr yn ei weithdy yn y digwyddiad yng Nghaerdydd (mae’n dechrau siarad ar 4:14 yn y fideo uchod). Os oes rhaid i ni weithio mewn ffordd wahanol, sut ydyn ni’n meddwl yn wahanol a beth mae hynny’n edrych fel? Os yw pobl yn dod yn ôl fwy nag unwaith ar gyfer gwasanaeth, sut gallwn ni ddiwallu eu hanghenion yn well?

Rydyn ni mewn sefyllfa da i edrych ar y gwestiynau yma yn GovCamp Cymru, ble byddwn yn edrych ar syniadau newydd a sut gall gwasanaethau cyhoeddus gwella cymdeithas. Bydd y digwyddiad hefyd yn edrych ar sut gall technoleg newydd gwella gwasanaethau cyhoeddus, felly mae’n diddorol iawn bod y cwestiynau yma yn cael eu gofyn am wasanaethau ar-lein yn Lloegr. Mae blogbost diweddaraf Phil Rumens yn edrych ar iaith anhygyrch a sut mae’n gallu stopio trawsnewid digidol.

GovCamp Cymru

Mae blogbost Phil hefyd yn cynnwys fideo gwych o Lorena Sutherland o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n dweud dyw symleiddio iaith ddim yn “gorsymleiddio. Mae’n ymwneud ag agor i fyny.” Fel cysyniad, mae’n esiampl ar-lein sy’n eistedd yn ochr yn ochr â Wasanaeth Sibrwd Barod, sy’n helpu i egluro beth sy’n cael ei thrafod yng nghynadleddau. Mae Chris Bolton wedi edrych ar pam mae hyn yn beth da ar ei blog ef.

Er bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn bobl sy’n darparu gwasanaethau, fe fydd yna bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yno hefyd. Fe fydd yna gymysgedd o bobl yna, sy’n grêt achos bydd angen safbwyntiau amrywiol arnom os ydym yn mynd i geisio mynd i’r afael â’r materion yma.

Yn ei gyflwyniad ef, fe wnaeth Alan Armstrong o Barod siarad am y pwysigrwydd o gwrdd ar dir rhanedig yn seminar ail siapio gwasanaethau. Hynny yw bod angen i ni gwrdd â phobl ar delerau cyfartal. Gan fod GovCamp Cymru wedi’i seilio ar ofod agored, rydym yn cwrdd ar benwythnos a thu allan i’r gweithle, rwy’n gobeithio bod ni’n gallu gweithio tuag ato wneud hwn digwydd.

Dyfrig