Skip to content

Tag: canolfan craffu cyhoeddus

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen. Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Wrth i gyfryngau cymdeithasol… Read more Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

  Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal. Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy… Read more #scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

Beth ydych chi’n ei ddweud go iawn?” – Sicrhau trosolwg a chraffu effeithiol trwy wrando gweithredol

Mae’r gallu i gwestiynu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn agored yn fynegiant cryf o ddemocratiaeth. Ar lawer ystyr, gellir dweud bod y weithred o holi a stilio’r sawl sydd mewn awdurdod yn diffinio ac yn cynrychioli rôl herio trosolwg a chraffu, yn enwedig os gwneir hynny yn yr arena gyhoeddus. Serch hynny, i lawer o bwyllgorau trosolwg a chraffu, mae mwy i gwestiynu na dim ond herio er mwyn herio – mae’n ffordd o sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac o sicrhau bod y system o wneud penderfyniadau’n gynhwysol, yn… Read more Beth ydych chi’n ei ddweud go iawn?” – Sicrhau trosolwg a chraffu effeithiol trwy wrando gweithredol