Tag Archif: Asedau

Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni a chyd-asesu – a sut y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol helpu gyda’r rhain i gyd. Yn y blog hwn mae’n canolbwyntio ar un agwedd ar gyd-gynhyrchu – sut y gall Cymru wneud gwell defnydd o’i hadnoddau hynod werthfawr, hyd yn oed mewn cyfnod pan fo cyllidebau yn gyfyngedig iawn.

Ffotograff o Tony Bovaird o Governance InternationalRoedd Gweithdai Llywodraethu, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Gyfnewidfa Arfer Da ym mis Gorffennaf, yn gyfle i fyfyrio ar y materion allweddol a fydd yn pennu sut y gellir rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn effeithiol yng Nghymru. Un mater allweddol a godwyd ar wahanol adegau yn ystod y trafodaethau oedd y ffaith bod adnoddau wedi dod yn llawer mwy prin yn sgil y dirwasgiad economaidd llym ar ôl 2008 a chyllidebau cyni cyllidol parhaus llywodraeth y DU ers 2010.

Pobl

Fodd bynnag, dadleuais ar ddiwedd y ddau weithdy fod yr obsesiwn hwn â chyllidebau yn gyfeiliornus. Yn wir, mae cyllid yn brin mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae mwy i’r stori na hyn – dim ond un adnodd yw’r arian yn ein cyllidebau.

Yn arbennig, mae gan Gymru ddigonedd o adnoddau allweddol megis pobl alluog, adeiladau a chyfarpar gwerthfawr, neu’r TGCh ddiweddaraf. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Gadewch i ni edrych ar yr adnodd gwych sydd gan Gymru o ran pobl. Yr ystadegyn y sonnir amdano fwyaf yw’r gyfradd ddiweithdra ond NID yw’r adnodd a wastraffir mewn gwirionedd yn cael sylw bob mis – nifer y bobl ffit, gweithgar a pharod nad ydynt wedi’u cofrestru fel aelodau o’r gweithlu. Yn 2016, mae hyn yn cyfateb i ychydig yn llai na miliwn o bobl yng Nghymru; mae oddeutu hanner y rheini rhwng 16 a 64 oed, a’r hanner arall dros 65 oed.

Y grŵp y sonnir amdano fwyaf ymhlith y garfan hon o oedolion yng Nghymru nad ydynt yn ‘economaidd weithgar’ yw’r grŵp dros 65 oed. Fodd bynnag, nid ydym yn sôn am y ffaith mai hwn yw’r grŵp mwyaf o bobl brofiadol, addysgedig ac, ar y cyfan, heini ac iach sydd wedi bod ar gael i Gymru erioed, fel ‘byddin wrth gefn o bobl heb eu gwerthfawrogi’n ddigonol’ i wneud pethau sy’n ddefnyddiol yn gymdeithasol ac yn economaidd er mwyn gwella eu llesiant eu hunain a llesiant eu cyd-ddinasyddion. Nac ydym, ddim o gwbl – yn hytrach, tueddwn i sôn amdanynt fel ‘genau tranc’, yn bygwth llyncu ein holl adnoddau sector cyhoeddus, wrth iddynt dyfu’n hŷn a mynd yn llai iach ac yn fwy anghenus. A ydym yn ceisio eu helpu i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a helpu eraill i wella eu hansawdd bywyd hwythau? Wedi’r cyfan, dengys ymchwil fod pobl sy’n weithgar, p’un a ydynt yn ceisio gwella eu llesiant eu hunain neu wella llesiant pobl eraill, yn tueddu i fod ag ansawdd bywyd mwy cadarnhaol. Y diffyg dull gweithredu cydgysylltiedig o ateb yr her hon yw’r gwastraff adnoddau mwyaf, o bosibl, yn ein cymdeithas, sydd â chyfoeth o adnoddau ond prinder syniadau.

Adeiladau

Nid ein pobl yw’r unig adnodd rydym yn ei danddefnyddio. Mae traean ein tai wedi’u tanfeddiannu (a dim ond un preswylydd sydd gan gyfran uchel o’r cartrefi hyn, a’r preswylydd hwnnw’n aml yn unig ac yn ynysig, ac yn eithaf aml yn dioddef o iselder).

Mae mwy nag 20% o’n siopau yn wag, mae’r lloriau uwchben siopau yn wag yn aml iawn, ac, yn aml, dim ond yn rhannol y mae ein hadeiladau cyhoeddus yn cael eu defnyddio.  Mae ein canolfannau hamdden yn wag yn y bore i raddau helaeth, mae ein canolfannau cymunedol yn aml yn wag yn y prynhawn ac mae’r rhan fwyaf o’n hysgolion yn wag gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Mae ein ceir yn tueddu i fod yn wag drwy’r dydd (wedi’u parcio yn y gwaith) ac mae ein trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn wag gyda’r nos, ar y cyfan.

Onid yw hyn yn anochel? Onid yw’r asedau hyn, ar y cyfan, yn eiddo i rywun nad yw’n gweld unrhyw reswm dros sicrhau eu bod ar gael i’r bobl hynny a fyddai’n cael y budd mwyaf o’u defnyddio? Wel, edrychwn yn gyntaf ar y sector cyhoeddus – a oes unrhyw esgus, mewn gwirionedd, dros danddefnyddio asedau cyhoeddus tra bod eraill yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer digwyddiadau, ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, cyfeiriadau ar gyfer rhedeg eu sefydliadau gwirfoddol ohonynt, cyfleusterau ar gyfer gwaith argraffu ar raddfa fach, ac ati? Edrychwn nesaf ar y trydydd sector – a ellir cyfiawnhau rhoi grantiau neu gontractau cyhoeddus i sefydliad nad yw’n fodlon rhannu’r cyfleusterau (a gwirfoddolwyr) nad yw’n eu defnyddio ddigon â sefydliadau eraill sy’n gwneud gweithgareddau tebyg? Ac yn y sector preifat, pam na rown ostyngiadau treth i gwmnïau sy’n gallu dangos cofnod o rannu staff a chyfleusterau â sefydliadau’r sector cyhoeddus neu’r trydydd sector?

Asedau

Fodd bynnag, dim ond rhan fach o’r hyn y gellid ei wneud yw dulliau gweithredu o’r fath. Yn bwysicach na rhannu o’r fath rhwng sefydliadau yw’r potensial ar gyfer paru galluoedd dinasyddion â defnyddwyr posibl yn y gymuned. Dyma’r ‘ap’ delfrydol. Ar hyn o bryd, dim ond yr hyn sydd ei angen ar ddinasyddion gan y sector cyhoeddus a gofnodir gennym – nid y galluoedd sydd ganddynt a’r cryfderau ac adnoddau y maent yn fodlon eu rhannu. Dyma’r her fwyaf sy’n wynebu cyrff cyhoeddus wrth iddynt fynd i’r afael â gwella llesiant yng Nghymru. Wrth gwrs, bydd angen i gyrff cyhoeddus gydgysylltu’r gwaith o gydgynhyrchu â dinasyddion, a bydd angen rhywfaint o wario i gyflawni hyn, ond y gobaith yw y caiff mwy o lawer o adnoddau eu rhyddhau nag a ddefnyddir.

I grynhoi, mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn dibynnu’n fawr ar wneud y gorau o’n hadnoddau presennol a sicrhau eu bod yn datblygu ac yn ehangu yn y dyfodol. Mae gwlad â chyfoeth o adnoddau lle y caiff y rhan fwyaf ohonynt eu tanddefnyddio, a lle mae pobl fedrus yn gwastraffu llawer iawn o amser yn ceisio gwneud y gorau o gyllidebau a grantiau bach (sydd hefyd yn lleihau), yn arwydd bod blaenoriaethau’r llywodraeth yn anghywir. Dylid rhoi blaenoriaeth ar fyrder i ailfeddwl yn sylfaenol sut i baru ein hadnoddau toreithiog ag anghenion dinasyddion Cymru.

Deall Ymddygiadau Staff ac Anghenion Teithiau Busnes

Ffotograff o geir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury

Sut llwyddodd Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury i arbed £90,000 a haneru ei allyriadau? Siaradodd Ena Lloyd gydag Alan Asbury.

Yn ddiweddar, es i seminar a gynhaliwyd gan Enterprise Rent a Car ynglŷn â’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn trafod â’r sector preifat i wella eu trefniadau teithiau busnes. Arweiniodd hyn at gyfraniadau mawr tuag at eu targedau cynaliadwyedd ac at arbedion mawr hefyd.

Holais Alan Asbury, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Ynni yng Nghyngor Dosbarth Bro Aylesbury, am bolisi teithio’r Cyngor. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y modd roeddent wedi canolbwyntio ar ymddygiad staff a’r defnydd hollbwysig a wnaethant o ddata er mwyn cael dealltwriaeth glir o anghenion teithiau busnes y staff.

Dechreuais drwy holi tipyn am y Cyngor. Mae’r Cyngor yn gofalu am hanner uchaf Swydd Buckingham, ac mae’n cyflogi tua 500 o aelod o staff ac mae 220 o’r rheini’n gyrru ar deithiau busnes.

Fe wnaethant greu’r polisi gydag Enterprise er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson â’r ‘economi rannu’ a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer arbed arian. Fe wnaethant ddadansoddi data defnydd y cyngor ac roeddent yn gallu dosbarthu teithiau busnes y gweithwyr yn ôl cost-effeithlonrwydd, gan weld lle byddai llogi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd yn fwyaf effeithiol. Er enghraifft, drwy gyfyngu ar logi yn ôl y dydd i deithiau sy’n fwy na 75 milltir neu wyth awr, llwyddwyd i sicrhau bod cerbydau allyriadau isel y clwb ceir yn cael eu defnyddio’n fwy cyson.

I roi’r polisi ar waith, sefydlwyd ceir cronfa logi yn ôl yr awr ar y safle drwy Enterprise Car Club, i’w darparu i weithwyr a oedd yn gwneud teithiau byrion, ynghyd â cheir llogi yn ôl y dydd gan Enterprise Rent-A-Car ar gyfer teithiau pellach. Maent wedi llwyddo i ddisodli’r ‘fflyd lwyd’ fel opsiwn rhatach sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Newidiwyd y polisi teithio i ganolbwyntio ar ddiogelwch, sy’n hanfodol o ystyried cyfrifoldebau’r cyngor o ran dyletswydd gofal. Mae’r staff sy’n dal i ddefnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer y gwaith yn llenwi ffurflen â blychau ticio arni er mwyn gwirio nifer o agweddau ar gynnal a chadw cerbydau a gyrwyr, fel diogelwch, yswiriant, trwydded yrru, iechyd a ffitrwydd a chyflwr y cerbyd.

Fel rhan o’r fenter, cafodd cyfradd ad-dalu milltiroedd y ‘fflyd lwyd’ ei thorri hyd at 0.65 ceiniog y filltir i 0.15 er mwyn annog y gweithwyr i ddefnyddio cerbydau’r Enterprise Car Club yn ogystal â llogi yn ôl y dydd, o ystyried yr arbedion posibl ar gostau a’r manteision amgylcheddol.

Ar ôl monitro’r cynllun yn ofalus, mae wedi’i gwtogi i wyth o gerbydau’r Enterprise Car Club. Mae pob un ag allyriadau isel, ac maent yn cynnwys tri char Nissan Leaf sy’n rhai cwbl drydanol. Yn y flwyddyn gyntaf o’u defnyddio, mae’r Cyngor wedi arbed £90,000. Mae hyn hefyd wedi eu galluogi i ailgyflwyno cymhorthdal o 50% ar y bysiau ar bedwar llwybr sy’n cael eu gweithredu’n lleol. Yn gyffredinol, mae ei allyriadau carbon cludiant wedi gostwng fwy na’i hanner. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu cerbydau trydan, gan gynnwys BMW i3s.

Wrth feddwl am y polisi teithio newydd, dywedodd Alan: “Roedd ein polisi teithio newydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o’r modd y mae ein gyrwyr yn ymddwyn a beth yw eu hanghenion o ran gallu symud o gwmpas. Fe wnaeth Enterprise ein helpu i ddadansoddi i ble mae’r staff yn teithio, pa mor aml a pham, ac roedd hyn yn hollbwysig os oeddem ni eisiau iddynt wneud hynny’n fwy effeithlon.

“Mae defnyddio clwb ceir wedi’n helpu i arbed degau o filoedd o bunnoedd, ac mae Enterprise wedi ein helpu i weithio gyda’n gweithwyr i ddeall beth yw nodau’r rhaglen ac i ddangos beth roedden ni eisiau ei gyflawni. Bu hyn yn hynod lwyddiannus, ac rydym wedi cael ein gwahodd i siarad â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddangos iddynt be wnaethom ni, a sut.”

Ychwanega Adrian Bewley, Cyfarwyddwr Llogi Busnes y D.U. ac Iwerddon yn Enterprise Rent-A-Car: “Mae’r cyngor wedi gallu defnyddio cyfuniad o logi yn ôl yr awr a llogi yn ôl y dydd, yn ogystal â llogi ar les, er mwyn cael dull mwy effeithiol a mwy gwyrdd o ymdrin â theithau’r gweithwyr.

“Mae’r Cyngor yn cael ei weld, yn gwbl gywir, fel arweinydd o ran teithiau busnes yn y sector cyhoeddus. Cawsant y wobr arian yng Ngwobrau Arwyr Fflyd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ym mis Tachwedd 2015. Yn bwysicaf, mae’r rhaglen wedi llwyddo oherwydd ei bod yn seiliedig ar ddadansoddi ymddygiadau a theithiau gyrwyr. Data yw’r offer pwysicaf i greu polisi teithio gwell ac i newid y modd y mae gweithwyr yn meddwl am yrru.”

Os hoffech ddysgu rhagor am y prosiect a sut y gallai Aylesbury eich helpu chi i wneud rhywbeth tebyg, cysylltwch ag Alan yn aasbury@aylesburyvaledc.gov.uk.

Gwella Eich Gofod

Seminar ar Reoli Adeiladau

Thema ein seminarau dysgu a rennir dros y flwyddyn ddiwethaf oedd asedau, a ni ‘di bod yn gweithio gyda’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol i rannu arfer da rhwng pobl sy’n gweithio ym maes rheoli asedau.

Mae cwpl o’r prosiectau a gafodd eu harddangos eu hariannu gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed, sy’n rhoi cyllid tymor byr i helpu mudiadau gwasanaethau cyhoeddus i drawsnewid y ffordd mane nhw’n gweithio. Mae’r rhain wedi cynnwys y prosiect siaradodd Jonathan Fearn amdano yn Seminar Dysgu a Rennir Tir a Throsglwyddo Asedau, sef yr adolygiad o asedau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Gâr. Mae’r cyflwyniad ar gael ar ein gwefan ni a gallwch hefyd gweld e’n trafod y gwaith yn y fideo isod o’r seminar.

Mae yna astudiaethau achos amrywiol o’r gwaith sydd di gael ei gyllido gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys prosiect diddorol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, lle maen nhw wedi rhesymoli ei llety.

Er bod y rhesymoli yn ymwneud ag arbed arian fel mae’r gronfa’n mynnu, mae’r prosiect hefyd yn edrych i wella darpariaeth ei gwasanaethau. Mae’r gwaith yma wedi dod â gwasanaethau o safleoedd gwahanol at ei gilydd, sy’n gwneud e’n lot haws i adrannau gwahanol i weithio gyda’i gilydd.

Nid jyst hynny, ond drwy symud yr adeilad i ganol y dref mae defnydd wedi cael ei wneud o adeilad gwag sy’n helpu i adfywio canol y dref. A drwy symud yno, mae’r cyngor wedi gallu gwneud yr adeilad yn ganolbwynt i’r gymuned trwy roi ei ganolfan cyswllt cwsmeriaid yno.

Os yw hyn i gyd wedi cael chi i ddechrau meddwl am resymoli adeiladau, mae fe hefyd yn werth edrych ar fanylion gweithdy Antony Wallis yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Adeiladau, lle clywsom am sut mae o Adnoddau Naturiol Cymru yn dod â swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru at ei gilydd a’u bod nhw’n cwrdd ai’i anghenion nawr ac yn y dyfodol.

Y peth trawiadol am bob un o’r prosiectau hyn yw bod nhw’n canolbwyntio ar eu rolau mewn galluogi gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu mwy, yn hytrach nag edrych ar eu swyddogaethau eu hunain. Mae’n wych gweld bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr dim jyst yn arbed arian cyhoeddus, ond bod nhw hefyd yn edrych i wella’i gwasanaethau er budd pobl ei fro.

Dyfrig

Trosglwyddo Asedau: Beth allwn ni ddysgu oddi o Gyngor Dinas Birmingham

Trosglwyddo Tir ac Eiddo

Pan mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn chwilio am enghreifftiau i rannu yn ein digwyddiadau, yn aml byddwn yn dod ar draws prosiectau gwych hoffwn ni rhannu, ond dydyn ni ddim yn gallu arddangos e achos dyw’r bobl ddim ar gael ar ddyddiadau’r seminar. Dyma beth ddigwyddodd yn ein Seminar Dysgu a Rennir ar Drosglwyddo Tir ac Eiddo, lle wnaethon ni clywed am waith diddorol gan Gyngor Dinas Birmingham.

Mae’r prosiect wedi dod i ben, ond mae’n wych i ddarllen yn ei blog nhw bod y dull hwn wedi arwain ato ddull cyson o drosglwyddo asedau ar gyfer yr holl grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Birmingham.

Mae llawer o adnoddau defnyddiol iawn ar gael ar y wefan, gan gynnwys dogfen sy’n helpu cyfrifo’r gwerth cymdeithasol o drosglwyddo ased i’r gymuned. Mae’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo ad-daliad rhent ar gyfer prydlesi o dan Brotocol Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r canllawiau yma.

Llun o set Flickr Trsoglwyddo Asedau Cymunedol / Picture from Community Asset Transfer Flickr Set

Llun gan @podnosh o set Flickr Trsoglwyddo Asedau Cymunedol / Picture by @podnosh from Community Asset Transfer Flickr Set

Wrth drosglwyddo ased i gorff arall neu i’r gymuned, mae’n rhaid mai dyma’r opsiwn synhwyrol. Fe wnaethon ni clywed yn y seminar bod rhai Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu gofyn i gymryd arno asedau, ond rhaid i’r amgylchiadau ariannol fod yn iawn er mwyn i’r trosglwyddiad fod yn llwyddiannus. Yn yr achos hwn, mae’n wych bod y ddogfen gychwynnol a gytunwyd gan y ddau barti yn rhan o’r brydles a’i bod yn cael ei ddefnyddio fel sail i’r adolygiadau.

Rhaid hefyd cysidro gwerth cymdeithasol ased. Fi’n meddwl bod e’n wych bod cyfranogiad y gymuned yn rhan o’r asesiad ar gyfer defnydd a gweithgareddau arfaethedig, achos ar ôl i’r inc sychu ar y cytundeb, bydd y gymuned yn chwarae rhan enfawr mewn llwyddiant y prosiect.

Mae cydweithio hefyd yn ffitio mewn o dan adran Defnyddio Gwasanaeth yr Asiantaeth, sy’n mesur y defnydd a wneir o’r adeilad gan asiantaethau eraill. Yn yr achos hwn, mae’r llawlyfr yn gweithio ar y sail o £10 am bob metr sgwâr o ofod sy’n cael ei rhentu gan y mudiad.
Gallai llawer o agweddau’r pecyn cymorth cael ei haddasu i’w defnyddio yng Nghymru hefyd. Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn seiliedig ar y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ac mae’n ddiddorol gweld sut mae system sgorio’r pecyn cymorth yn edrych os yw’r ased mewn ward difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog.

Gallwch wylio dadansoddiad o’r dull yma ato Drosglwyddo Asedau Cymunedol ar Gwe-ddarllediad Cyngor Dinas Birmingham.

Felly ar y cyfan , mae lot i feddwl amdano yn y pecyn cymorth yma, ac os ydych chi wedi defnyddio fe, yn edrych i ddefnyddio fe neu ei addasu, byddai’n grêt i glywed o chi.

Dyfrig

Pan nid yw rheoli ynni i’r ‘person ynni’ yn unig

Blog gwadd gan Geraint Norman, Gweithgor Asedau Cenedlaethol yw hon.

Ar ddiwedd mis Mehefin, cymerais ran mewn seminar Gyfnewidfa Arfer Da. Roedd yr un yma ar Reoli Ynni. Fel Neville Rookes o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (sydd eisoes wedi blogio am y seminar), helpais i hwyluso’r gweithdy ar y diwrnod. Roedd llawer o arbenigwyr ynni yn y seminar, ond beth oedd mwyaf diddorol i mi oedd yr angen i osgoi agwedd ‘bytiog’ i reoli ynni. Gwnewch reoli ynni yn rhan o waith bob dydd pawb a byddwch yn mynd llawer pellach na gadael y cyfan i’r arbenigwyr ynni yn unig.

National Assets Working Group / Gweithgor Asedau Cenedlaethol

Nid wyf yn gwybod os bydd pob darllenwr yn cytuno â mi ar unwaith. Mewn rhai sefydliadau, cyfrifoldeb y tîm cyfleusterau yw ynni ac nid yw bob amser yn ennyn diddordeb uwch arweinyddiaeth. Ond beth am y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC? Beth am arbed arian mewn cyfnod caled? Gall sicrhau y gall ynni yn cael ei reoli ar draws eich sefydliad arwain at rai manteision gwirioneddol.

Roedd hi’n wych clywed llawer o arfer da gan gynrychiolwyr. Roedd yna hefyd lawer o rannu syniadau ac enghreifftiau lle mae rheoli ynni gwell wedi gwella gwasanaethau. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn tri syniad a drafodwyd yn ystod y seminar.

  1. Cynnwys rheoli ynni mewn adolygiadau perfformiad staff. Mae’n swnio ychydig yn frawychus, ond gallai fod yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pob adran yn cadw ar ben defnydd ynni. Mae hefyd yn ffordd o ddangos sgiliau rheoli da; staff a rheoli cyllideb. Gall gyfarwyddwyr hefyd ddal eu rheolwyr yn atebol os ydynt yn cael eu gwneud yn gyfrifol am yr agwedd benodol hon o arbed arian.
  2. Ennyn diddordeb uwch arweinwyr mewn effeithlonrwydd ynni. Rwyf yn gwybod nid yw bob amser yn hawdd, ond bydd ei wneud yn un o amcanion allweddol eich sefydliad yn rhoi cryn dipyn o drosoledd i gyflawni pethau. Roedd gan Renia Kotynia o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhai enghreifftiau da o sut i gynnwys uwch arweinyddiaeth.
  3. Ceisiwch wneud arbed ynni yn hwyl. Wrth gwrs, dylai fod yn rhan o’ch strategaeth ac wrth gwrs dylid ei fonitro a’i reoli’n ofalus – ond dylai hefyd gynnwys eich cydweithwyr. Yn ystod y seminar, clywais am systemau sticer lliw, blacowts a gofyn i staff eu barn ar brosiectau ynni newydd. Gallai’r rhain fod yn ffyrdd da i wneud yn siŵr bod pawb yn meddwl am arbed ynni wrth iddynt fynd at eu gwaith bob dydd, ac nid dim ond y rheolwr ynni.

Felly, beth ydw i a’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn mynd i gymryd o’r seminar hon? Wel, yn gyntaf fel grŵp mae angen i ni drosglwyddo allbynnau’r seminar i’r sectorau. Yna mae’n rhaid i ni gadw rheoli ynni ar yr agenda ac ystyried yr angen ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Fel Grŵp byddwn hefyd yn cefnogi Swyddfa Archwilio Cymru yn ei seminarau dysgu a rennir dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld rhai ohonoch yno.

Dysgu i Rannu – sut all weithio ar y cyd helpu’r sector cyhoeddus

7. WLGA Blog ImageErthygl gwadd gan Neville Rookes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Yn ddiweddar, gweithiais i gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da yn Swyddfa Archwilio Cymru i helpu rhedeg seminar ar Reoli Ynni. Dwi’n gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac fe drafodwyd nifer o bynciau yn y seminar sydd yn apelio at y rhan fwyaf o awdurdodau lleol. Roedd rhywbeth yna i bawb. Felly, roeddwn i am rannu beth ddysgais i o’r seminar a phamfod y  gwersi yma yn bwysig i lywodraeth leol – ac wrth gwrs, beth fydd camau nesaf CLlLC.

Pam ddewisodd CLlLC weithio ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arfer Da Cymru ar gyfer y seminar? Agorodd y seminar ddrysau i ni o ran datblygu polisïau, oherwydd fe wnaeth i mi sylweddoli bod gan sectorau eraill ddulliau gwahanol o reoli ynni y gellir eu haddasu ar gyfer anghenion llywodraeth leol. Does dim angen ail-ddyfeisio’r olwyn, gan y gallai llywodraeth leol gymryd ysbrydoliaeth gan nifer o sectorau eraill.

A pam ddewision ni rheoli ynni fel pwnc i gydweithio arno? Rydym yn helpu i redeg cyfres o seminarau ar reoli asedau ac fe ddechreuom ni’r gyfres gydag ynni. Rydym yn cydnabod bod asedau yn ardal lle mae angen i ni fod yn fwy clyfar yn cadw ar ben beth sydd gyda ni a sut allwn ni defnyddio hwn yn fwy effeithlon ac effeithiol. Nid yw hwn i wneud â buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf enfawr; mae i wneud ag addasu neu ffitio systemau / technoleg i adeiladau sy’n bodoli eisoes er mwyn rheoli a lleihau defnydd – ac wrth gwrs costau dosbarthu gwasanaethau.

Mae gan y seminarau yma amgylchedd wedi ymlacio sydd yn gwneud y cynrychiolwyr yn gyfforddus i gymryd rhan yn y gweithdai a gweithio â phobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â hwy. Rydym wedi derbyn adborth positif am y darnau dysgu a rhannu o’r gweithdai, lle drafododd y cynrychiolwyr y gwaith maent yn ei wneud a beth maen nhw’n cael trafferth ei wneud. Dwi nawr yn deall y ‘peth traws-sector’ yma – rydym i gyd yn dod ar draws yr un problemau, felly gallwn ni ddysgu o’n gilydd.

Felly, beth yw fy nghamau nesaf ar ôl y seminar yma?

Fel hwylusydd ar gyfer un o’r gweithdai, ni ches i’r cyfle i gymryd rhan yn y rhai eraill ar y dydd, felly byddai’n ail-ymweld â gwefan SAC i weld pa arfer da allai eu cymryd o’r rhain. Trwy’r seminar yma, gallai weld sut allwn ni ddysgu o gyrff cyhoeddus eraill ac fe fydda i’n gwasgaru’r neges. Ond dwi hefyd yn sylweddoli bod yna bobl ac adrannau tu fewn i’n sefydliadau ni y gallwn ddysgu oddi wrthynt ac fe fyddai’n siŵr o chwilio am y cysylltiadau yma a’u rhannu nhw.

O fewn diwrnod neu ddau o gymryd rhan yn y seminar, gofynnodd ein harweinwr cyllid i mi os oeddwn yn  ymwybodol o unrhyw gysylltiadau yn gweithio ar brosiectau goleuadau LED – a diolch i’r seminar roedd gen i gwpwl o enwau i’w rhoi iddo yn syth!

– Neville

5 Ateb Sydyn mewn Rheoli Ynni

4. Energy Management PhotoWythnos diwethaf, daeth grŵp o arbenigwyr mewn ynni – gyda chyfanswm o dros 300 mlynedd o brofiad – at ei gilydd yn ein Seminar Rheoli Ynni. Gyda chyfoeth o wybodaeth fel hyn mewn un ystafell, roedd trafodaeth ddiddorol iawn o ddulliau gwahanol o reoli ynni. Ni ddylai’r wybodaeth yma gael ei gyfyngu i rheini a fynychodd y Seminar, felly hoffwn rhannu gyda chi rhai syniadau a dulliau allweddol fe ddysgais i yn ystod y diwrnod. Y bwriad, fel arfer, yw eich ysbrydoli chi i gymryd risgiau sydd wedi eu rheoli a’u hystyried yn dda ac addasu neu ddewis rhannau o ddulliau llwyddiannus.

  1. Peidiwch ag anghofio dŵr, yr adnodd sy’n aml yn cael ei anghofio. I rai sefydliadau, gall dŵr fod yn gyfle cudd i arbed arian. Roedd rhai esiamplau da yn y seminar o ddefnyddio archwiliadau dŵr a systemau monitro i adnabod problemau (fel gollyngiad) ac ymateb yn gyflym – yn ogystal â newid ymddygiad pan mae patrymau anarferol yn ymddangos. Cyn bo hir, byddwn ni’n llwytho astudiaeth achos newydd o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y pwnc yma; mae’r Bwrdd wedi gweld rhai llwyddiannau da o reoli dŵr effeithiol. Cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter ar gyfer mwy o wybodaeth ar hyn.
  2. Y buddiannau go iawn o fonitro ynni. Mae ffeithiau a ffigyrau yn aml yn cael eu hadrodd i uwch-reolwyr, ond gellir eu defnyddio i greu tabl cynghrair ar gyfer adrannau; mae cystadlu yn aml yn ffordd dda i newid ymddygiad. Trafododd rhai cynrychiolwyr eu defnydd nhw o dablau cynghrair ac fe aeth rhai i ffwrdd yn bwriadu dechrau defnyddio tablau cynghrair – y buddiannau o rannu dysgu.
  3. Ymgorffori rheoli egni yn eich sefydliad. Trafododd y cynrychiolwyr adrodd rheolaidd i lefel uwch-arweinwyr ac ymgysylltu â staff cyn prosiectau newydd. Un syniad arbennig o ddiddorol i mi oedd ymgorffori rheoli ynni o fewn gwerthusiad staff. Mae hwn yn galluogi’r Prif Weithredwr i herio’r Arweinwyr, a’r Arweinwyr i herio’r Rheolwyr Adran. Dadleuol efallai, ond gallai hwn gael ei addasu ar gyfer sefydliadau gwahanol.
  4. Nid yw’n angenrheidiol dechrau prosiectau rheoli ynni o ddim. Mae ffitio technoleg i systemau sy’n bodoli eisoes yn bosib ac fe rannodd y cynrychiolwyr rhai esiamplau da o redeg prosiectau mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes. Fe ganolbwyntiodd cyflwyniad Dŵr Cymru ar reoli beth sydd yno yn barod yn hytrach na gwario arian ar dechnoleg newydd drud.
  5. Gwnewch y maths. Ni fydd pob prosiect rheoli ynni yn addas ar gyfer eich sefydliad, yn arbennig pan fo cyllid yn dynn. Ond peidiwch ag ofni buddsoddi i arbed yn y tymor hir. Yn hytrach, fe ddysgais i o drafodaeth y dydd bod angen ystyried yn ofalus pa brosiectau sydd fwyaf addas i’ch sefydliad. Er enghraifft, cafwyd gyflwyniad diddorol gan Geoff Walsh o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar ffitio goleuadau LED mewn i hen adeilad – ond fe allai hwn weithio’n well mewn adeiladau â goleuni 24/7 yn hytrach nag oriau swyddfa fer.

Dim ond rhai o’r syniadau gwych rhannodd y cyflwynwyr a’r cynrychiolwyr yn ystod y seminar. Cyn bo hir, byddwn yn llwytho’r dulliau rhannodd pobl yn ystod y dydd, yn ogystal â rhai o’r problemau cyffredin. Cymerwch olwg ar yr allbynnau yma i weld os oes unrhyw brosiectau hoffech glywed mwy amdanynt, neu unrhyw un allwch chi eu helpu.