Skip to content

Tag: archwilydd cyffredinol cymru

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd. Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd. Dyma… Read more Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Manteision gweithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da

Mae Sophie Knott yn siarad am ei phrofiad o weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da ar weminar arfaethedig. Yma yn Swyddfa Archwilio Cymru cawn ein hannog i gydweithio ar draws gwahanol feysydd o fewn y sefydliad i rannu gwybodaeth a chynnig gwell gwasanaeth i gleientiaid a’r cyhoedd. Fodd bynnag, weithiau mae pwysau amser ac adnoddau’n golygu ein bod yn esgeuluso agweddau megis defnyddio tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn ystod ein gwaith archwilio arferol. Yn ogystal â rhannu canllawiau arfer da ac astudiaethau achos ar-lein drwy eu gwefan a’u blog, mae… Read more Manteision gweithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da

Bara Brith Camp

Bara Brith Camp: Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus

Mynychodd Dyfrig Williams Brith Bara Camp i rannu dysgu o’n seminar ar Ymddiriedaeth. Dyma drosolwg o’i trafodaeth. Yn ein seminar Ymddiriedaeth Staff, diffiniodd yr Athro Searle ymddiriedaeth fel “y parodrwydd… Read more Bara Brith Camp: Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus

Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth. Roedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. Dyma ddwy seminar ragorol a drefnwyd gan dîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Roedd yn bleser gweld cymaint o ddarparwyr gwasanaeth o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â’r bobl hŷn eu hunain, yn bresennol.… Read more Datganiad o annibyniaeth

Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

Cymerodd Dyfrig Williams ran yn Google Atmosphere, gweminar oedd yn archwilio diwylliannau o arloesedd. Yn y blogbost yma, mae’n edrych yn ôl dros y pwyntiau dysgu allweddol. Mae papur Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn amlinellu’n glir ein bod ni mewn cyfnod heriol i wasanaethau cyhoeddus, gan fod yna lot llai o adnoddau i ddarparu gwasanaethau mewn cyfnod o alw cynyddol. Os dydyn ni ddim yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd, sut gallwn ni dechrau newid y ffordd ni’n gweithio? Dyma beth oeddwn i’n pendroni amdano wrth… Read more Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Mae Michelle Davies wedi bod yn gweithio gyda ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Rydyn ni wedi dysgu lot oddi wrthi hi ei am ei gwaith ac i’r gwrthwyneb. Yn y blog yma, mae Michelle yn dweud wrthym am ei phrofiadau o weithio gyda ni. Yn ddiweddar rwyf wedi cwblhau prosiect Arfer Da lle gwnes i helpu i gyflwyno’r Webinar Wynebu Heriau Ariannol (a gallwch wylio hwn yn llawn ar Vimeo). I’r rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod i, fel arfer rwy’n gweithio yng Nghlwstwr Archwilio Ariannol Canolbarth a Gorllewin Cymru… Read more O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

Rydyn ni wedi cael cwpl o fisoedd prysur yn nhîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ymlacio wrth i Nadolig agosáu, gan fod ni wedi cynnal digwyddiadau ar faterion i ymddiriedolwyr ac ar lywodraethu. Rydyn ni nawr yn casglu’r holl allbynnau at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu hanfon at fynychwyr a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol. Fel tîm rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein digwyddiadau yn cyrraedd cymaint o wahanol sectorau â phosib, gan ein bod ni’n credu bod… Read more Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

%d bloggers like this: