Tag Archif: Archwilio Sydd ar Flaen y Gad

Archwilio arloesol: Dysgu a rhannu gyda Llys Archwilio yr Iseldiroedd

Ffotograff o fflagiau rhanbarthau'r Iseldiroedd yn amlinellu ochr y dŵr yn yr Hâg

Read this blog post in English

Beth all Swyddfa Archwilio Cymru ei ddysgu oddi wrth ddull Llys Archwilio yr Iseldiroedd o ymdrin ag arloesedd? Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Hâg i weld sut mae’n gweithio ac i rannu gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da.

Ym mis Mai cefais gyfle i ymweld â Llys Archwilio yr Iseldiroedd er mwyn dysgu rhagor am ei brosiect Doen (sy’n golygu ‘Gwneud’) a’i ddull o ymdrin ag arloesedd. Mae ei holl ddulliau gweithredu yn deillio o ddysgu drwy wneud, sy’n fantra gwych. Drwy gydol yr ymweliad, bu staff yn agored wrth rannu eu llwyddiannau a’u methiannau mewn prosiectau newid ymarferol iawn. Mae eu meddylfryd diogel i fethu yn allweddol o ran darparu’r gofod ar gyfer y dysgu a’r gwelliant hwnnw.

Roeddwn wedi rhannu gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da gyda Mark Smolenaars a Sanne Kouwenhoven o Lys Archwilio yr Iseldiroedd yng Nghaerdydd fis ynghynt. Roeddwn i, Steve Lisle (sy’n arwain y prosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad) a Mike Usher (ein Harweinydd Sector Iechyd a Llywodraeth Ganolog, ac sydd hefyd yn gweithio ar ein Hastudiaethau Ymchwilio) yn ffodus i gael ein gwahodd i’r Iseldiroedd i rannu ein gwaith gyda’u cydweithwyr, a hefyd i ddysgu mwy am eu dull o ymdrin ag arloesedd, fel y gallwn addasu eu dulliau gweithredu i ddiwallu ein hanghenion.

Edrych yn wahanol ar archwilio

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da, rydym bob amser yn dweud nad oes yna ddull gweithredu “sy’n addas i bawb”. Efallai bod gennym lawer o bethau’n gyffredin gyda Llys Archwilio yr Iseldiroedd (mae gennym tua’r un nifer o staff ac felly mae gennym yn fras yr un heriau o ran nodi capasiti a chynyddu mentrau newid) ond mae rhai gwahaniaethau hefyd (mae sector cyhoeddus yr Iseldiroedd yn cynnwys casinos – alla i ddim dychmygu sut beth yw’r archwilio hyn!).

Pan wnaethom ddechrau edrych ar ei ddull o ymdrin ag arloesedd, un o’r pethau allweddol a’m trawodd oedd fod ganddo amrywiaeth o staff sy’n cyfrannu pethau gwahanol iawn at y sefydliad. Nid yn unig mae hyn yn osgoi meddylfryd grŵp, mae hefyd yn cyflwyno setiau sgiliau gwahanol yn ei waith.

Cefais gyflwyniad gan Linda Meijer, archwilydd sydd wedi dod yn ddylunydd. Roedd yn ddiddorol clywed sut roedd ei sgiliau dylunio wedi ei arwain at ofyn cwestiynau data mewn ffyrdd gwahanol, fel y dangosodd ei ganfyddiadau. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth archwilio cynnyrch sydd â’r marc CE, sy’n dangos bod cynhyrchion yn ddiogel ac y gellir eu gwerthu ar y farchnad Ewropeaidd.

Gwnaethom hefyd drafod y ffaith fod gan Lys Archwilio yr Iseldiroedd Newyddiadurwr Ymchwilio yn gweithio iddo, a oedd yn hynod ddefnyddiol i Swyddfa Archwilio Cymru gan fod gennym ni ein tîm Astudiaethau Ymchwilio ein hunain. Roedd dealltwriaeth Jaco Alberts o hyn yn ddiddorol wrth iddo sôn am y ffordd y mae’n cymhwyso ei arbenigedd at ei rôl.

Gwnaethom hefyd glywed sut y gwnaeth y Llys rannu ei arbenigedd drwy archwiliad cyfranogol o sefydliadau addysg uwch. Gwnaethant ofyn i aelodau o bob cyngor myfyriwr wirio rhag-fuddsoddiadau ac edrych ar sut mae fframwaith cyllideb y sefydliad yn gweithio, sy’n golygu y cawsant gyfle i fanteisio i’r eithaf ar y wybodaeth sydd ar gael o fewn sefydliadau. Rhoddodd y dull gweithredu rhyfeddol hwn rywbeth i gnoi cil drosto wrth i ni ystyried gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan mai un o’r pum ffordd o weithio a amlinellir yw drwy gyfranogiad.

Data

Un o’r meysydd o ddiddordeb i mi oedd y ffordd y mae Llys Archwilio yr Iseldiroedd yn defnyddio data, gan fy mod wedi bod yn arwain gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ar gasglu data fel rhan o’n gwaith Archwilio Arloesol. Mae’r ffordd y mae’r Llys yn cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd hyd yn oed yn treiddio i’w waith data, wrth i ni glywed sut mae’n manteisio i’r eithaf ar interniaid data.

Fel gydag unrhyw ymarfer a rennir, roedd yn ddiddorol clywed sut mae Llys Archwilio yr Iseldiroedd yn mynd i’r afael â heriau hefyd. Rhannodd Roline Kamphuis wybodaeth am y ffordd mae’r sefydliad wedi sefydlu cymunedau ymarfer o amgylch R, y maent yn gobeithio a fydd yn cynorthwyo’r sefydliad i ryddhau capasiti ei staff data. Gwnaethom glywed sut mae’r Llys ar hyn o bryd yn treulio llawer o’i amser yn glanhau data, sy’n golygu y gall sicrhau bod data a rennir ar gael at ddefnydd ehangach. Drwy lanhau’r data’n effeithiol ar ddechrau’r archwiliad, mae’n gwneud y gwaith yn llawer haws i’r staff wrth i’r gwaith ddatblygu.

Gwnaeth hefyd sôn am y ffordd mae’n defnyddio R ac SPSS yn arbennig, gan fod gan y Llys sgript y gellir ei defnyddio ar gyfer trywydd archwilio. Drwy ddatblygu sgript mewn R a raglennwyd ymlaen llaw, gall sicrhau bod allbynnau yn gydnaws ag arddull mewnol. Hefyd gan fod R yn cynhyrchu dogfennau Word ac Excel, mae’n golygu y gall archwilwyr weld a deall y camau a gymerwyd wrth weithio gyda’r data.

Ffotograff o Steve Lisle yn cyflwyno ar Brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad i Lys Archwilio'r Iseldiroedd

Steve Lisle yn cyflwyno ar Brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad i Lys Archwilio’r Iseldiroedd

Rhannodd Rudi Turksema wybodaeth am sut roedd Llys Archwilio yr Iseldiroedd wedi cynnal digwyddiad hacio atebolrwydd, a olygodd ei fod wedi gallu cynnwys rhanddeiliaid allanol yn ei waith data. Drwy weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau eraill, roedd y Llys yn gallu ehangu mynediad at amrywiaeth o setiau data ar y diwrnod. Soniais fod y Gyfnewidfa Arfer Da wedi cefnogi Diwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd, ond nad oeddwn yn siŵr a oedd gennym y capasiti fel sefydliad i gynnal digwyddiad o’r fath eto. Ond gwnaethant ein hannog i gynnal digwyddiad tebyg gan ei fod wedi eu helpu i rannu eu gwaith a chynnwys ystod eang o bobl. Rydym eisoes wedi gweld beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud data’n agored a hygyrch, gan fod Ben Proctor a’r Sefydliad Data Agored wedi dechrau defnyddio tablau Google Fusion i greu mapiau ac ychwanegu gwerth at ein set data agored gyntaf. Yn sicr rhoddodd hyn rhywbeth i mi gnoi cil drosto o ran sut y gallai digwyddiad o’r fath ein helpu i ddatblygu ein defnydd o ddata ymhellach ac aeddfedrwydd ein data ein hunain.

Dysgais lawer iawn o’m taith i’r Iseldiroedd. Roedd yn ddiddorol gweld teithiau cyfatebol ein sefydliadau i sicrhau bod archwilio yn addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. Diolch i bawb yn Llys Archwilio yr Iseldiroedd am eich croeso a’ch lletygarwch – rydych yn sicr wedi helpu i lywio ein taith dysgu ac mae eich arbenigedd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i symud ymlaen gyda’n gwaith arloesol ein hunain.

Gwneud defnydd o ddata agored

Read this blog post in English

Yn ddiweddar fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein Dataset Agored cyntaf. Beth ddigwyddodd nesaf? Isod mae Ben Proctor o Sefydliad Data Agored Caerdydd yn trafod sut y gwnaeth ddefnydd o’r data.

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Sgrînlun o fap deinamig a grëwyd gan Ben Proctor i ddangos lefelau Treth y Cyngor fesul pen y boblogaeth yng Nghymru

Www! Data newydd

Roeddwn yn gyffro i gyd pan welais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddata fel data agored. Mae data agored yn ddata y gall unrhyw un gael mynediad atynt a’u defnyddio a dyma’r math mwyaf defnyddiol o ddata.

Ysgrifennodd Dyfrig Williams o Swyddfa Archwilio Cymru am y broses roeddent wedi mynd drwyddi er mwyn cyhoeddi’r set hon o ddata (crynodeb o ddata archwilio pob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ). Mae’r data ar ffurf tabl syml a gallwch ei lawrlwytho fel ffeil CSV (yn y bôn ffeil a fydd yn gweithio mewn unrhyw raglen taenlen) yma.

Ond mae problemau

Lawrlwythais y ffeil a gweld rhai problemau’n fuan. Nid gwallau yw’r rhain yn union, ond maent yn bethau sydd ar goll neu’n anghyson a fydd yn gwneud rhai defnyddiau o’r data ychydig yn anoddach. Ond nid cwyn yw hyn, oherwydd mai un o nodweddion deniadol data agored yw y gallwn ddatrys y problemau hyn. Gallaf wneud hyn oherwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi’r data o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn dweud wrthyf nad oes angen ei chaniatâd arnaf i wneud unrhyw beth gyda’r data ac nad oes terfynau o ran yr hyn y gallaf ei wneud gyda nhw (heblaw bod yn rhaid i mi fod yn glir o ble y daethant).

Gallaf unioni’r problemau

Dyma’r pethau a wneuthum i’m copi i o’r data.

Newidiais fformat “y golofn blwyddyn ariannol” oherwydd bod rhai o’r rhain yn rhifau ac mae rhai’n destun yn ffeil Swyddfa Archwilio Cymru.

Ychwanegais golofn o godau Gwasanaeth Ystadegol y llywodraeth (GSS). Mae codau GSS yn godau a ddefnyddir er mwyn nodi awdurdodau lleol (a ffiniau eraill). Mae cael cod GSS yn golygu nad oes rhaid i chi boeni a yw’r data’n dweud Cyngor Môn, Cyngor Ynys Môn neu Anglesey Council. A chyda chod GSS, gallwn ychwanegu “polygonau” ar gyfer pob cyngor. Yn y bôn, mae polygonau’n gyfarwyddiadau ar sut mae darlunio amlinell o bob cyngor a gwybodaeth am ble i roi’r darlun ar fap.

Gyda’r newidiadau hyn, roeddwn yn gallu darlunio cyfres o fapiau a oedd yn dangos lefel y Dreth Gyngor y pen ym mhob awdurdod lleol a sut mae hyn wedi newid gyda threigl amser.

A rhoi ffeil well i Swyddfa Archwilio Cymru

Ac rwyf wedi gallu rhoi ffeil KML yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma ffeil y mae’n addas ei defnyddio mewn meddalwedd mapio. Mae unrhyw un sydd am weld data Swyddfa Archwilio Cymru ar fap yn gallu agor ffeil KML a dechrau arni.

Gallwch lawrlwytho’r ffeil fapio hon eich hun.

Pam gwnes i hyn?

Rwy’n rhan o’r tîm craidd yn ODI-Caerdydd, felly mae data agored yn beth cyffrous i mi.
Cymerodd ychydig iawn o funudau i mi.
Rwy’n ceisio gwella ar ddefnyddio gwasanaeth Google o’r enw Fusion Tables a dyma gyfle da i ymarfer.
Mae gennyf dipyn o ddiddordeb yn yr hyn y gallai’r data hyn ei ddweud wrthym.

Rhyddhau Data Agored

Read this blog post in English

Sut all sefydliadau ryddhau Data Agored? Isod mae Dyfrig Williams yn edrych ar y broses o sicrhau bod y data y tu ôl i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru am Ddatganiadau Ariannol Llywodraeth Leol ar gael yn rhwydd, ac mae’n rhannu’r set data o dan y blogbost yma.

Rydw i wedi blogio o’r blaen ar sut y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried herio ein defnydd presennol o ddata a thechnoleg fel rhan o’r prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Roedd fy rhan i o’r brosiect yn edrych ar sut rydyn ni’n mynd i’r afael â data.

Sut mae Data Agored yn ffitio i mewn i gaffael data?

Mae’r diagram isod yn dangos y rhesymeg y tu ôl i fy ngwaith i. Yn fy marn i, mae rhaid i ni rannu’r data sydd gennym er mwyn i ni ddatblygu ein perthynas â’r cyrff sy’n gleientiaid fel y gallwn gasglu data’n effeithiol. Mae rhan o hyn ynglŷn â “bod y newid yr ydych chi’n dymuno ei weld.” Mae rhai pobl yn meddwl bod archwilwyr yn bobl sy’n ymwrthod â risg, ond yn y Gyfnewidfa Arferion Da rydym wedi gweld ein bod ni’n galluogi eraill i wneud yr un peth pan fyddwn yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi adrodd yn ôl inni am sut y maen nhw wedi gallu herio cyfyngiadau’r gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n cyrchu oherwydd y ffordd rydyn ni’n rhannu gwybodaeth. Drwy sicrhau bod data ar gael yn agored, gallwn ddangos mai ychydig o risg sydd yna, cyn belled â bod y broses yn cael ei rheoli’n dda.

Cylch sy'n dangos bod rhannu data yn arwain ato data agored, sy'n bwydo mewn i sut rydym yn caffael data

Fel y soniais yn fy nodyn gwreiddiol, roedd dod o hyd i set ddata priodol yn fwy heriol nag yr oeddwn wedi disgwyl, gan nad oes gennym yr hawl i rannu’r data yr ydym yn ei gasglu o bob cleient yn ystod ein harchwiliadau. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o ymchwil, canfuom y data y tu ôl i Adroddiad Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol, sef adroddiad ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Roedd hwn yn ddata diogel i’w ryddhau oherwydd ei fod eisoes ar gael ar wefan pob cyngor fel rhan o’u cyfrifon, ond ni yw’r unig sefydliad sy’n casglu’r data hwn. Dadansoddir y data yn yr adroddiad ar sail genedlaethol, ond drwy ryddhau’r set ddata gallwn alluogi cynghorau a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i edrych ar y data fesul sir, a chymharu a chyferbynnu eu cyfrifon yn erbyn eraill. Defnyddir y data gan Swyddfa Archwilio Cymru i gefnogi gwaith archwilio lleol ac ar gyfer meincnodi cyffredinol. Mae’r adroddiad ei hun yn edrych ar ansawdd y cyfrifon, ac mae’n seiliedig ar y data sy’n cael ei ryddhau cyn gwelliannau – nid ydym yn olrhain addasiadau cyfnodau blaenorol.

Sut aethom o gwmpas gwneud y data hwn yn agored?

Ein man cychwyn oedd taenlen a ddefnyddiwn yn fewnol sy’n cynnwys y setiau data sy’n dyddio’n ôl i 2008-09. Roeddem ychydig yn siomedig i ffeindio mas bod y gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu’r data hwn yn y strwythur hwn bellach wedi newid ac felly na fydd data cymharol ar gael y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, roedd y set ddata hon yn brawf da ar gyfer ein dull. Yn y tymor hirach, byddai’n werth inni edrych ar sut y gallem wneud data di-dor ar gael er mwyn lleihau baich y gofynion adrodd. Mae gan Lucy Knight o Gyngor Sir Dyfnaint enghraifft ddefnyddiol yn ei darlith amser cinio ar gyfer y Sefydliad Data Agored ar ‘Gwneud i Ddata Agored Ddigwydd mewn Llywodraeth Leol’.

 

Fe wnaethom ddefnyddio blogbost Hendrik Grothuis ar wneud data’n agored a Rhestr Wirio Defnyddwyr y Sefydliad Data Agored fel canllawiau bras ar gyfer y broses. Ein cam cyntaf wrth lanhau’r data oedd gweld pa ddata yr oedd gennym yr hawl i’w rannu, a pha ddata oedd eisoes ar gael o ffynonellau eraill. Fe wnaethom benderfynu gael gwared ar y data a oedd eisoes ar gael drwy StatsCymru er mwyn osgoi dyblygu, ond pe baech chi’n meddwl am ddefnyddio rhai o’r rhain, efallai y bydd y rhain yn fan cychwyn da:

Wedyn fe wnaethom ddefnyddio CSV Lint i weld a oedd y ffeil yn ddarllenadwy. Roeddem yn falch o ddarganfod bod gennym ffeil ddilys, ond canfuom hefyd ffyrdd y gallem ei gwella. Fe wnaethom droi’r set ddata o gwmpas fel bod yr eitemau data yn mynd yn llorweddol a’r blynyddoedd yn mynd yn fertigol. Fe wnaethom hefyd greu gwerth nwl i ddangos lle nad oedd y data ar gael. Roedd ymchwil sydyn ar Google yn ddigon inni ddarganfod sut i nodi celloedd gwag.

Fel sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’n ofynnol inni sicrhau bod y data ar gael yn ddwyieithog, ac felly fe wnaethom ei anfon at y cyfieithwyr i wneud yn siŵr fod pob term technegol yn hollol gywir gennym.

Cyhoeddi’r data

Pan ddaeth yn fater o gyhoeddi’r data, fe wnaethom benderfynu ei gyhoeddi fel rhan o’r blogbost yma ar flog Y Gyfnewidfa Arfer Da. Byddai’r set ddata yn edrych yn unig iawn ar lwyfan Data Agored ar hyn o bryd, ond y gobaith yw y gallwn nodi setiau data eraill y gallwn eu rhyddhau wrth symud ymlaen. Buom yn edrych ar lwyfannau posibl y gellid eu defnyddio, gan gynnwys dewisiadau ffynhonnell agored fel CKAN a DKAN (y byddai’r ddau ohonynt yn integreiddio gyda’n System Rheoli Cynnwys Drupal), yn ogystal â llwyfannau sy’n seiliedig yn y cwmwl fel Socrata. Fel sefydliad rydym yn symud i’r cwmwl pan fydd hynny’n gwneud synnwyr, ond efallai bod pethau y gallem eu dysgu oddi wrth Barth Arloesi Archwilio’r Alban, a sefydlwyd i alluogi eu staff i roi prawf ar feddalwedd a llwyfannau newydd mewn gofod sy’n cael ei reoleiddio’n ysgafn. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i staff roi prawf ar ffyrdd newydd o weithio.

Fel y nodwyd yn ein gweminar ddiweddar ar Safonau Agored, rydym wedi dewis cyhoeddi’r data mewn CSV yn hytrach na ffurf berchnogol fel Excel. Mae hyn yn golygu y gall gael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o feddalwedd, a, gobeithio, gan amrywiaeth mor eang o bobl â phosibl.

Bellach, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod modd canfod y data hwn drwy ei dagio’n effeithiol, a byddwn hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r set ddata drwy’r rhwydweithiau yr ydym wedi eu hadeiladu drwy ein gwaith blaenorol ar Ddata Agored. Ein her nesaf yw ffeindio mas sut y defnyddir y data. Felly, os byddwch yn defnyddio’r set ddata, byddem wrth ein bodd i gael eich adborth ar y fformat ac i gael gwybod sut y gwnaethoch ei defnyddio.

Dysgu o Lywodraeth Cymru

Roedd Llywodraeth Cymru yn gymorth mawr drwy gydol fy ngwaith ar y Prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Fe wnaethon nhw rannu pethau yr oeddent wedi eu dysgu o’u gwaith nhw, ac fe wnaethom hefyd fynychu cyfarfodydd gyda’n gilydd i ddysgu mwy am ddulliau Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod staff Llywodraeth Cymru eu hunain yn defnyddio StatsCymru i rannu ac i gasglu data gan ei fod yn agored ac yn dryloyw. Mae hyn yn rhywbeth i ni feddwl amdano ar ein siwrne ein hunain – sut allwn ni wneud data yn fwy hygyrch ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Fe wnaethom ddefnyddio ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Metadata fel templed ar gyfer ein gwaith ein hunain. Set o ddata yw Metadata sy’n disgrifio ac yn rhoi gwybodaeth am ddata arall, ac mae’n wirioneddol bwysig oherwydd ei bod yn rhoi cyd-destun o gwmpas y data sy’n cael ei rannu. Gellwch weld y Metadata ar waelod y neges hon ochr yn ochr â dolen gyswllt at y data ei hun.

Adborth

Mae eich adborth am ein dull yn bwysig iawn. Gan mai prawf cychwynnol yw hwn o sut y gallem wneud data yn agored ac yn barod i’w rannu, fe fyddwn yn defnyddio’ch adborth i ddylanwadu ar sut y gallai’r agenda yma symud ymlaen. Rydym yn awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn wneud gwell defnydd o ddata er mwyn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wella, a hefyd i fod yn gyson o ran ein ffordd ni o weithredu’n ddigidol. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn trafod galluogi arloesedd drwy risgiau sydd wedi eu rheoli’n dda o flaen pob un o’n digwyddiadau rhannu dysgu. Rydym yn bwriadu rhannu ein dysgu ni ein hunain fel y gall pobl ddysgu oddi wrth ein profiadau, hyd yn oed os maen nhw’n brofiadau gwael. Rydym o hyd yn dweud nad oes diben ailddyfeisio’r olwyn. Drwy weithio mewn ffordd agored a thryloyw, rydym yn gobeithio y gall sefydliadau adeiladu ar yr hyn yr ydym ni’n ei wneud fel y gallant rannu data mor effeithiol â phosibl er mwyn gwella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Set Data: Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol

Metadata

Teitl Data o Ddatganiadau Ariannol Llywodraeth Lleol 2008-09 i 2015-16
Diweddariad diwethaf 01/04/2017
Diweddariad nesaf Ni chaiff ei ddiweddaru rhagor.
Sefydliad cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru
Tarddiad Datganiadau Ariannol Llywodraeth Lleol 2008-09 i 2015-16
Ebost gyswllt arfer.da@archwilio.cymru
Lefel isaf o dadelfeniad daearyddol Awdurdodau Lleol
Cwmpas daearyddol Awdurdodau Lleol
Ieithoedd Saesneg a Chymraeg
Trwyddedu data Gallwch ddefnyddio ac ail-ddefnyddio’r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu fodd o dan termau trwydded Llywodraeth Agored – gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence

Geirfa

Galluogi staff i ddefnyddio data’n well

Read this blog post in English

Sut gallwn ni alluogi staff Swyddfa Archwilio Cymru i ddefnyddio data’n well? Mae Dyfrig Williams yn edrych yn ôl ar yr hyn a ddysgwyd o’n prototeip ar gyfer Archwilio Iechyd.

Health_Portal

Yn fy ngwaith ar y prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad, rydw i wedi bod yn edrych ar sut y gallwn dynnu data o gyrff cyhoeddus at ei gilydd mewn ffordd sy’n agored i bawb ac yn hawdd cael gafael arno fel y gallwn ni fel archwilwyr gael mewnwelediad pellach. Fe wnaeth y Tîm Archwilio Iechyd wirfoddoli i weithio gyda ni fel y gallem edrych i weld beth allai hyn ei olygu’n ymarferol.

Fe wnes i ddatblygu personau ar gyfer staff mewn swyddogaethau amrywiol fel y gallem ddod i wybod mwy am y gwaith yr oedd angen i ni ei wneud. Roedd hyn yn help mawr i ni wrth i ni nodi sut y mae amser ymchwil yn cael ei ddefnyddio a phwy sy’n gwneud y gwaith ymchwil hwnnw.

Yr adborth a dderbyniais oedd ei bod yn anodd cael mynediad at ddata, felly rydym wedi datblygu prototeip i ddod â data a gwybodaeth iechyd defnyddiol at ei gilydd mewn un lle.

Dulliau profi

Prawf o gysyniad yw ein hymgais gychwynnol i ddod â’r data hwn at ei gilydd mewn un lle er mwyn gweld sut y gellid datblygu hyn ymhellach. Ar y dechrau, roeddem yn meddwl am geisio creu tudalen ar gyfer pob Bwrdd Iechyd, yn ogystal â thudalen ar gyfer gwaith cenedlaethol sy’n ymdrin â Chymru gyfan neu’r DU gyfan. Wrth inni ddyfalu sut y byddai prototeip yn edrych, fe wnaethom benderfynu defnyddio’r enghraifft genedlaethol fel ein prawf.

Fe wnaethom benderfynu defnyddio Sharepoint Online oherwydd ei fod yn rhoi’r cyfle inni edrych ar sut y gallem ddatblygu ein defnydd o’r gwasanaeth i wneud data yn fwy hygyrch yn fewnol. Fe wnaeth hyn gweithio fel prawf cychwynnol, ond doedd e ddim yn bosib i ni rannu’r safle i bawb o fewn y mudiad, gan ein bod ni’n profi’r fersiwn yma o’r meddalwedd gyda grŵp bychan o ddefnyddwyr. Roedden ni eisiau rhannu’r canlyniadau drwy’r sefydliad i gyd fel y gallai archwilwyr ystyried a fyddai’r dull yma’n ddefnyddiol yn eu gwaith nhw. Felly penderfynom roi’r wybodaeth ar ein mewnrwyd (y Hwb), sy’n safle Drupal.

Fe wnaethom ddefnyddio adborth o’r Swyddog Cefnogi Perfformiad er mwyn dod â phorthwyr gwybodaeth at ei gilydd i arbed amser ymchwilio. Fe wnaethom greu widgets o borthwyr RSS lle roeddent ar gael (Really Simple Syndication, sy’n darparu cynnwys sy’n newid yn gyson o’r we, fel safleoedd newyddion, blogiau a chyhoeddwyr ar-lein). Hefyd fe wnaethom gynhyrchu ein widget ein hunain (cymhwysiad bychan y gellir ei osod o fewn tudalen ar y we) ar gyfer cyfrifau Twitter, a gynhyrchwyd o restr ar gyfrif y Gyfnewidfa Arfer Da. Fe wnaethom sefydlu’r porthwyr hyn fel I-Fframiau o fewn y safle.

Gwneud data yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr

Roedden ni hefyd eisiau gwneud data’n haws i’w ddeall a’i ddefnyddio. Roedd teimlad cryf ymhlith y staff a gyfwelais na ddylai gwybodaeth a dealltwriaeth o ddata gael ei chladdu allan o gyrraedd ac felly buom yn edrych i weld sut y gallem wneud data’n fwy hygyrch.

Fe wnaethom benderfynu defnyddio Microsoft Power BI (cyfres o offer dadansoddi busnes i ddatblygu mewnwelediad) i wneud setiau data iechyd yn fwy hygyrch ac yn haws i’w ddeall. Roedd hyn yn meddwl nad oedd angen inni brynu unrhyw feddalwedd ac y gallem gynnal y data’n uniongyrchol drwy Power BI. Wnaethon ni ddim defnyddio unrhyw ddata sensitif ar gyfer ein prawf ac felly doedd ei gyhoeddi yn syth ar y we ddim yn broblem. Roedd yr adborth wnaethon ni gael o staff yn gymysglyd ynghylch a ddylai’r safle gynnwys data preifat, ac felly bydd angen inni edrych ar ein dewisiadau eto os byddwn yn dewis mynd i lawr y llwybr yma.

Mae’r setiau data a ddefnyddiwyd gennym ar gael yn gyhoeddus ac yn defnyddio APIs (Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, sy’n cael gafael ar nodweddion neu ddata system weithredu, cymhwysiad, neu wasanaeth arall ar y we). Mae hyn yn golygu bod offer data Power BI wedi eu cysylltu’n uniongyrchol â StatsCymru ar gyfer y data fel nad oes angen lawrlwytho data â llaw ar ôl ei osod i fyny. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod ni bob amser yn defnyddio’r data mwyaf cyfredol sydd ar gael.

Ble ydyn ni’n mynd o fan hyn?

Mae defnydd ein prototeip bellach wedi’i ddatblygu a’i ymestyn fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Gofal Sylfaenol mewn iechyd. Mae hyn yn meddwl y gall fy nghydweithwyr ei ddefnyddio i ddadansoddi data ar gyfer eu Bwrdd Iechyd eu hunain, felly mae’n wych gwybod bod y gwaith wedi bod o werth ymarferol yn barod.

Mae ein defnydd o ddyfeisiadau ac API yn golygu mai ychydig iawn o waith sydd ei angen i gynnal y wybodaeth gyfredol sy’n cael ei dal ar y safle. Fodd bynnag, os bydd arnom eisiau datblygu’r data y mae’n ei ddal, bydd angen inni feddwl pwy sy’n mynd i fod yn gyfrifol am ei gynnal, pe bai’n cael ei ystyried yn werthfawr.

Y cam nesaf i ni fel sefydliad yw defnyddio’r personau a gynhyrchwyd gennym, yn ogystal ag adborth anffurfiol o’r gwaith hwn, i weld sut y byddai safle a gwasanaeth data effeithiol yn edrych, a sut y gellid addasu hynny ar gyfer rhannau eraill o’r sefydliad. Bydd hynny’n ein galluogi i ddysgu oddi wrth unrhyw gamgymeriadau a wnaethom fel ein bod yn gwneud pethau’n wahanol yn y dyfodol, a hefyd adeiladu ar ein llwyddiannau. Ac os gallwn adeiladu ar y dysgu hwnnw, byddwn mewn sefyllfa dda i ddatblygu ein gwaith er mwyn bod y Swyddfa Archwilio arloesol yr ydym am fod.

Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd.

Logo Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd

Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i mi y gallem wella ein ffordd o drin data. Ond nid trwy casglu data newydd o reidrwydd – dywedodd y rhan fwyaf o’m cydweithwyr mai’r mater pwysicaf iddyn nhw oedd meithrin ymwybyddiaeth well am y data sydd gan y swyddfa yn barod, a gallu cael gafael ar y data hynny mewn ffordd rhwydd.

Mae gan ein sefydliad ddau ymarfer arbenigol – archwilio ariannol ac archwilio perfformiad. Mae’r rhaniad hwn yn hwyluso arbenigedd, fel bod gennym gydweithwyr sy’n hynod wybodus yn eu meysydd arbenigedd. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod rhaid i ni weithio’n galed i chwalu seilos sefydliadol, sydd weithiau’n cael eu hatgyfnerthu gan y systemau sydd gennym ar waith.

Mae diogelu data yn nodwedd bwysig o’r ffordd rydym wedi gosod ein systemau gwybodaeth. Mae ffolderi rhwydwaith wedi’u diogelu. Dim ond timau a phersonél penodol sy’n gallu cael mynediad atynt, sy’n golygu bod y data sydd ynddynt yn gaeedig i bobl eraill yn ddiofyn. Mae ein system SharePoint hefyd wedi’i gosod mewn ffordd debyg ac nid yw’r swyddogaeth chwilio cystal ag y gallai fod. Mae hyn i gyd yn golygu eich bod yn annhebygol o ddod o hyd i ddata oni bai eich bod chi’n gwybod yn union ble mae fe.

Dysgu gan swyddfeydd archwilio eraill

Fe wnes i sôn am gydweithiwr o’r enw Tom Haslam yn fy mlogbost diwethaf ar waith Swyddfa Archwilio Queensland. Mae Tom wedi gweithio yn Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Wellington, Seland Newydd. Nododd ei swyddfa nhw problemau tebyg i’r rhai sydd gennym o ran y ffordd roeddent yn trefnu ac yn dal eu data.

I fynd i’r afael â hyn, rhoddodd y Swyddfa system wybodaeth newydd ar waith sy’n seiliedig ar SharePoint, ac i ategu hyn gwnaethant sefydlu grwpiau peilot traws-swyddfa o’r enw ‘iShare’. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar bynciau swyddogaethol trawsbynciol (er enghraifft yr iShare Trafnidiaeth) gyda’r nod o helpu i chwalu seilos sefydliadol a hyrwyddo dull gweithredu un tîm ar gyfer y swyddfa gyfan.

Roedd mabwysiadu’r system wybodaeth newydd yn gyfle i’r Swyddfa drafod rhinweddau o systemau gwybodaeth sy’n agored neu’n gaeedig yn ddiofyn. Trafodwyd hyn ym mhob rhan o’r swyddfa mewn sawl cyfrwng.

Ar y cyfan, roedd y system wybodaeth flaenorol yn annog dull gweithredu lle’r oedd gwybodaeth yn ‘gaeedig nes ei bod yn agored’. Ond yr ymdeimlad cyffredinol oedd y gallai data caeedig rwystro’r Swyddfa rhag gwneud y gorau o’r wybodaeth a ddelir ganddi. Tueddiad naturiol pob archwilydd yw bod yn ofalus, felly o dan ddull gweithredu lle mae gwybodaeth yn ‘gaeedig oni bai ei bod yn agored’, gellid ystyried bod gwneud gwybodaeth yn ‘agored’ yn risg y byddai’n well ei hosgoi, hyd yn oed os nad oes cyfiawnhad dros wneud hyn. Yn ymarferol, mae gwneud gwybodaeth yn gaeedig yn golygu bod angen gosod hawliau mynediad a chaniatâd amrywiol. Gall hyn ynddo’i hun fod yn rhwystr rhag rhannu data.

Fe wnaeth Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol strwythuro ei system wybodaeth newydd fel bod gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’, gyda metadata er mwyn helpu staff i ddod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano. Roedd y dull gweithredu hwn yn hwyluso rhannu data, gan annog staff i feddwl am sut y gallent ychwanegu gwerth drwy gydgysylltu gwybodaeth. Roedd gosodiad diofyn lle bo gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’ yn gwneud i staff ystyried yn fwy gofalus y rhesymau dros gau mynediad, er enghraifft deunydd ag iddo oblygiadau o ran diogelwch gwladol neu wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Roedd y system Technoleg Gwybodaeth yn rhedeg yn fwy dibynadwy gan ei fod wedi’i ffurfweddu’n fwy taclus heb ganiatadau a chyfyngiadau diddiwedd. Fe wnaeth dibynadwyedd gwell y system SharePoint newydd arwain at arbedion amser a chynnydd yn hyder y staff a’u boddhad â Thechnoleg Gwybodaeth. Gwnaeth y cynlluniau peilot iShare annog aelodau’r grwpiau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Wrth i’r cynlluniau peilot hyn fynd yn eu blaen, ac wrth i’r swyddfa ehangach gael gwybod am eu llwyddiannau, gwnaethant annog agwedd fwy agored o fewn y timau – roedd pobl yn gallu gweld bod modd rhannu data a chydweithio heb i bopeth fynd o chwith.

Roedd Tom hefyd yn meddwl bod ymddiriedaeth yn ffactor. Mae ymdrin â gwybodaeth sensitif am gleientiaid yn rhan o waith bob dydd archwilydd. Felly, roedd gwneud data yn agored yn arwydd clir bod y Swyddfa yn amgylchedd ymddiriedaeth uchel.

Fodd bynnag, mae newid yn daith ac mae’r Swyddfa yn ategu hyn o’i phrofiad ei hun. Mae’n parhau i annog ac anelu at amgylchedd lle bo gwybodaeth yn agored nes ei bod yn gaeedig. Ond nid yw pethau wedi bod yn hollol ddidrafferth ers i’r system wybodaeth newydd gael ei chyflwyno. Mae rhai aelodau o staff wedi croesawu’r cyfle i rannu gwybodaeth yn agored. Mae rhai eraill wedi bod yn fwy petrusgar ynglŷn â rhannu mwy o wybodaeth, neu maent yn dal i weithredu yn yr un ffordd ag o’r blaen a heb newid i fod yn fwy agored. Mae wedi bod yn ofynnol i’r Swyddfa hyrwyddo ac atgyfnerthu’r dull gweithredu newydd o bryd i’w gilydd. Mae’n cydnabod na fydd newid o’r maint hwn yn digwydd dros nos na heb ymdrech barhaus. Ond mae’r diben – sef defnyddio gwybodaeth gyfunol i ddylanwadu ar welliant a gwella atebolrwydd – yn cyfiawnhau’r ymdrech.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da

Mae gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da ar rannu data yn effeithiol yn dangos bod hyn yn dibynnu ar yr egwyddor o fabwysiadu camau cymesur wrth ddiogelu data.

Mewn blog blaenorol fe wnes i ceisio weld os oedd rhannu data yn rhwystr rhag gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac ynddo fe wnes i grybwyll y Comisiynydd Gwybodaeth. Dywedodd ef fod pobl eisiau i’w data personol weithio iddyn nhw, a’u bod nhw’n disgwyl i sefydliadau rannu eu data personol lle bo angen er mwyn iddynt darparu’r gwasanaethau maen nhw eisiau. Dywedodd hefyd fod pobl yn disgwyl i gymdeithas ddefnyddio ei hadnoddau gwybodaeth i atal trosedd a thwyll a chadw dinasyddion yn ddiogel. Mae’n sicr yn werth gwylio Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol Cymru, yn amlinellu sut y gellir rhannu data yn effeithiol.

Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sydd ar ddod yn tynhau’r trefniadau diogelu data i raddau, ond mae fe hefyd yn gyfle i ailystyried sut y gallwn rannu data yn effeithiol. Yn benodol, sut rydym yn sicrhau bod archwilwyr yn ddigon hyderus i wneud y gorau o waith casglu a rhannu data.

Rwyf wedi blogio’n flaenorol am ein digwyddiad ymddiriedaeth staff, lle y clywsom fod ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn i wasanaethau cyhoeddus allu cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, arloesi a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Tom yn arwain prosiect ar wahân o fewn Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio ein systemau gwybodaeth gan gynnwys SharePoint. Un opsiwn rydym yn ei ystyried yw defnyddio SharePoint Online, a fyddai’n ei gwneud yn haws i ni ddatblygu maes y gallai cyrff allanol a phartneriaid gael mynediad ato – porth. Mae blogbost Leigh Dodds yn rhoi trosolwg da o’r hyn y gallai porth ei gynnwys.

Byddai porth yn ein galluogi i rannu data â chyrff a archwilir a phartneriaid yn fwy effeithiol. Rydym wedi profi’r cysyniad hwn gyda phorth prototeip sy’n seiliedig ar SharePoint ar gyfer rhai o’n cydweithwyr ym maes iechyd. Bydd yr hyn a ddysgir drwy hyn yn bwydo’n ôl i brosiect Tom.

A’r prif beth y mae gweithio ar brosiect Archwilio Arloesol wedi’i ddysgu i mi yw mai dulliau gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol yw’r ffordd orau o sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at y gwaith a wnawn.

Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

Beth allwn ni ddysgu o’r ffordd mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi ei data ar gyfer eu harchwiliadau? Cafodd Dyfrig Williams sgwrs ffôn yn hynod o gynnar yn y bore er mwyn darganfod mwy.

Fel rydw i wedi dweud o’r blaen yn fy mlogbost ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rwy’n edrych i nodi ffyrdd o wneud defnydd gwell o ddata a thechnoleg i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Fe wnes i ddod ar draws yr erthygl hon ar sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i gael mewnwelediad gwell iddo. Trwy fy nghydweithiwr Tom Haslam trefnais sgwrs yn gynnar iawn yn y bore rhyngof i a fy nghydweithwyr (Steve Lisle a Nigel Blewitt) a Daniele Bird, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol ar gyfer Archwilio Perfformiad yn Queensland, Ben Jiang, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Ddadansoddi Data Archwilio a David Toma, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Perfformiad.

Beth mae Swyddfa Archwilio Queensland yn gwneud?

Edrychodd y swyddfa ar gyfleoedd i ddefnyddio offer delweddu data mewn ffordd fwy soffistigedig yn ôl yn 2014 er mwyn cael dealltwriaeth well o’r cyrff maen nhw’n archwilio. Fe wnaethon nhw dreialu a phrofi Qlikview, sef meddalwedd sy’n gallu cael ei ddefnyddio trwy’r we neu ar ben desg. Fe wnaethon nhw sefydlu tîm dadansoddi data yn 2015, ble roedd pob un ohonynt yn gyn-archwilwyr. Fe wnaeth y tîm derbyn hyfforddiant i ddechrau, ond ers hynny mae eu datblygiad wedi dod o hunan-ddysgu. Y cynllun ar y dechrau oedd gweithio ar Archwilio Perfformiad. Fodd bynnag, symudodd y ffocws i Archwilio Ariannol gan fod yr un setiau o ddata yn cael ei ddefnyddio tro ar ôl tro, felly roedd yn haws i alluogi gwaith effeithlon ac effeithiol o’i gymharu â’r mathau gwahanol iawn o ddata sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Archwilio Perfformiad.

Y pwysigrwydd o berthnasau

Fe wnaeth ein seminarau yn 2015 a 2016 ar gau cyfrifon yn gynt dangos i mi fod rhaid i’r archwilydd a’r corff sy’n cael ei archwilio i gydweithio’n agos i weithio’n effeithiol. Adeiladodd Swyddfa Archwilio Queensland prosesau a systemau awtomatig i gasglu data, ond roeddwn nhw’n dal i gael cwestiynau o gleientiaid am y diogelwch o beth roedden nhw’n gwneud a beth roedden nhw’n mynd i wneud  gyda’r data. Rhoddir tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml at ei gilydd yn fewnol fel y gallai arweinwyr y timau archwilio tawelu meddyliau’r sefydliadau ac adeiladu ymddiriedaeth. Fe wnaethon nhw hefyd cymryd y baich o newid i ffwrdd o’r cyrff drwy eu galluogi i anfon y data heb ei fformatio. Gwnaeth y Tîm Dadansoddi Data y gwaith o drawsnewid a glanhau’r data, ac maen nhw’n awr yn gallu cynnig mewnwelediad unigryw i’r data gan eu bod nhw’n casglu data o gyrff amrywiol. Maen nhw’n gallu ffurfio trosolwg o faterion yn gyflym, ac maen nhw hefyd yn gallu meincnodi perfformiad cleientiaid er mwyn dangos sut maen nhw’n cymharu â’u cyfoedion (cewch gip ar y sleid isod). Maen nhw hefyd yn gallu defnyddio’r meddalwedd i gynnal ymchwiliadau fel Dadansoddiad Benford, sy’n nodi’n glir pwy sydd yn bell o’r norm. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth nodi twyll.

Graff sy'n dangos llawer o ddotiau at ei gilydd ac un sydd glir ymhell i ffwrdd ar werth dyledion drwg

Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn cael mewnwelediad i werth dyledion drwg

Archwilio Perfformiad

Mae’r Tîm Dadansoddi Data hefyd yn cefnogi staff Archwilio Perfformiad. Mae’r tîm yn defnyddio cloddio testun i archwilio pynciau amrywiol, er enghraifft i weld beth mae athrawon yn nodi fel eu nodau datblygu. Mae hyn wedi galluogi iddynt gynhyrchu Wordclouds a chrynodebau testun o’r 10 datganiad uchaf. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r dechneg yma i ysgubo trwy Hansards.

Mae’r tîm hefyd yn edrych ar sut y gall hyn helpu staff i ddewis pynciau i archwilio iddynt. Maen nhw’n dadansoddi teimlad ar Twitter, sy’n bwydo i mewn i’r cynllunio strategol. Mae hyn yn eu helpu nhw i ddeall y materion sydd yn bwysig i’r byd ehangach a beth mae pobl yn dweud amdano’n nhw. Er bod y dechnoleg wedi cael ei hadeiladu ar gyfer Twitter, gallai hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer rhwydweithiau fel LinkedIn, a fyddai’n galluogi archwilwyr i gael gafael ar wahanol ddefnyddwyr a safbwyntiau. Maen nhw hefyd wedi adeiladu offer sy’n graddio pwysigrwydd y trydar. Mae hyn yn galluogi archwilwyr i ganolbwyntio adnoddau ar y negeseuon pwysig.

Creu amgylchedd gwaith cadarnhaol

Fe wnaeth Daniele, Ben a David gydnabyddi’r pwysigrwydd o arweinyddiaeth gref i greu amgylchedd ble mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data yn ffynnu. Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth o’r lefel uchaf o’r Archwilydd Cyffredinol blaenorol a’r Archwilydd Cyffredinol Dros Dro cyfredol. Mae hyn yn rhywbeth ni’n gweld o’n Harchwilydd Cyffredinol ein hunain yn natblygiad y prosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, a gobeithio y gall canfyddiadau ein gwaith ni ein helpu ni i ddarparu sylfaen i ddatblygu ein ffordd o weithio. Roedd e’n ddiddorol i glywed sut mae’r sefydliad yn edrych yn barhaus i ddatblygu eu gwaith ac adeiladu ar arferion presennol. Ar hyn o bryd maen nhw’n edrych i weld os all symud o Qlikview i Qlik Sense rhoi manteision pellach iddynt.

Mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd, yn bennaf trwy arbed amser y gellir ei ail-fuddsoddi mewn ei gwaith, ond maen nhw hefyd yn edrych i arbed mwy i wneud mwy. Mae’r amgylchedd ehangach yn newid yn gyflym ac mae cyllid cyhoeddus cyfyngedig yn rhoi her i bob gwasanaeth cyhoeddus. Mae Swyddfa Archwilio Queensland wedi wynebu’r her yma ac maen nhw’n gweithio mewn ffordd wahanol i ddarparu gwasanaeth gwell. Mae gwaith ei staff yn awr yn fwy ystyrlon a diddorol, ac mae archwilwyr yn datblygu sut maen nhw’n meddwl yn feirniadol. Fe fyddai’n defnyddio ein hegwyddorion Cyfnewidfa Arfer Da wrth i ni fyfyrio dros ein sgwrs â Swyddfa Archwilio Queensland, fel ein bod ni’n meddwl am sut rydyn ni’n gallu addasu’r dull gweithredu hwn fel ein bod ein gwaith ni, fel y gwasanaethau rydyn ni’n archwilio, yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.

Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol.

Llun o bersonas staff Archwilio Perfformiad

Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n fwy effeithlon fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad.

Rydw i wedi blogio o’r blaen ar fy niddordeb mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol achos y ffocws di-baid ar angen y defnyddiwr. Dyw hwn ddim yn safbwynt sy’n newydd i mi – roedd e’n amlwg yn fy nghwaith yn fy swydd flaenorol ar gynnwys dinasyddion i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu’n effeithiol.

Nawr rwy’n dechrau ar ran ymarferol fy gwaith ar ôl 4 mis o brosiect 6 mis. Ond yn fy hen rôl fe wnes i glywed tro ar ôl tro bod gwasanaethau’n cael eu darparu at hen ragdybiaethau pan nad yw staff yn cael yr amser i ymgysylltu â phobl mewn modd priodol. Doeddwn i ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad yn fy ngwaith, felly datblygais personas ar gyfer y prif ddefnyddwyr o ddata mewn timau archwilio er mwyn sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio ar adeiladu rhywbeth y byddai pobl yn wir ddefnyddio.

Mae personas yn gynrychioliadau o wahanol fathau o gwsmeriaid neu ddefnyddwyr. Maen nhw’n helpu ni i ateb y cwestiwn o “Pwy ydyn ni’n cynllunio ein gwaith ar gyfer?” Maen nhw’n helpu i alinio strategaeth a nodau i grwpiau o ddefnyddwyr penodol. Gan ein bod ni’n profi’r gwaith yma gyda’r Tîm Archwilio Perfformiad Iechyd, datblygais personas a oedd yn amrywio o Swyddogion Cefnogi Perfformiad i fyny i Reolwyr Archwilio, a hefyd aelod o’r Tîm Technegol Archwilio Ariannol ac Archwilydd Ariannol sy’n gweithio gyda’r byrddau iechyd.

Ble i ddechrau?

Roeddwn i’n edrych mlaen i ddechrau fy ngwaith ar y personas er mwyn gweld sut mae fy meddylfryd ymgysylltu yn ffitio gydag arferion digidol cyfredol. Fe wnaeth fy nghydweithiwr Louise Foster-Key, Swyddog Cyfathrebu Digidol Swyddfa Archwilio Cymru, rhoi ychydig o awgrymiadau i mi o’i waith ar fewnrwyd Swyddfa Archwilio Cymru, ac fe wnes i hefyd edrych ar arfer da ehangach. Mae yna blogbost da ar personas defnyddwyr ar Flog Digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond yn y diwedd fe wnes i benderfynu defnyddio Canllaw Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) ar Storiau Defnyddwyr fel seilwaith i’m gwaith. Ceisiais ddefnyddio Trello, ond gan fy mod i’n gwneud y gwaith yma ar ben fy hun (a dim ond prosiect bach ydyw) doedd e ddim mor ddefnyddiol ag on i’n ddisgwyl. Felly defnyddiais Xtensio, gwefan sy’n cynnig gwasnaeth a wnaeth Louise awgrymu i mi.

Penderfynais aros gyda fformat GDS ar gyfer strwythur y gwaith, a chafodd y personas ei roi at ei gilydd trwy gyfweliadau a negeseuon e-bost gyda staff mewn rolau allweddol:

  1. Fel rhywun sy’n… (Pwy yw’r defnyddiwr? Ychydig o eiriau am y person sy’n ceisio mynd i’r afael a’r data)
  2. Rydw i angen / Rydw i eisiau / Rwy’n disgwyl … (Beth mae’r defnyddiwr eisiau gwneud?)
  3. Fel bod … (Pam mae’r defnyddiwr eisiau gwneud hyn?)
  4. Mae’r gwaith wedi gorffen pan… (dyma feini prawf y GDS, sef rhestr o ganlyniadau sy’n cael ei ddefnyddio fel rhestr wirio i gadarnhau bod y gwasanaeth wedi gwneud ei waith ac mae’n cwrdd ag anghenion y defnyddiwr)

Ydy’r ymarfer wedi bod yn ddefnyddiol?

Mae gen i ddealltwriaeth gwell o waith archwilwyr ar ôl siarad gyda staff sydd yn y rolau a gafodd eu mapio. Bydd hyn yn ddefnyddiol i mi ymhell tu hwnt i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, yn enwedig wrth i mi edrych ar sut y gall y Gyfnewidfa Arfer Da gweithio’n fwy effeithiol gyda thimau archwilio, yn enwedig y Tîm Archwilio Iechyd, a wirfoddolodd i weithio gyda ni ar y darn o waith yma.

Prif ddefnydd y personas fydd i wirio pwrpas ein gwaith ac i sicrhau bod ein arbrawf yn cyfateb i’r hyn mae ein harchwilwyr yn dymuno ac yn disgwyl. Nawr maen nhw wedi ein helpu ni i redeg drwy arbrofion damcaniaethol, byddwn yn defnyddio’r personas i stopio ni rhag crwydro’n bell o’r weledigaeth yma.

Bydd eu meddyliau hefyd yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer fy rhan i o’r adroddiad terfynol. Gan mai ni yw awduron yr adroddiad, mae’r holl bŵer yn ein dwylo ni – ni sy’n rhoi’r argymhellion ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol. Bydd y gwaith yma’n sicrhau bod fy argymhellion i wedi’u seilio ar waith dydd i ddydd ein staff.

Mae’r personas terfynol bellach ar-lein ac maen nhw wedi cael eu rhannu’n ddwy ran achos cyfyngiadau’r fersiwn rhad ac am ddim o Xtensio. Mae’r set gyntaf o personas yn seiliedig ar rolau Archwilio Perfformiad, ac mae’r ail set yn cynnwys personas sy’n seiliedig ar rolau’r Tîm Technegol ac Archwilio Ariannol.

Mae’r personas yn rhoi lefel o ddisgwyliad i ni ar gyfer ein gwaith. Os yw’r gwaith yn fethiant, maen nhw’n rhoi meini prawf i ni archwilio ein cynnyrch a ddarpariaeth yn erbyn. Ar ochr arall y geiniog, os mae’r gwaith yn llwyddiant fel ni’n gobeithio, mae gennym gyfle i weld os all personas rhoi ffocws glir i ni mewn agweddau arall o’n gwaith wrth i ni ceisio sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn wir yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus.