Mynd i'r cynnwys

Creu Cymunedau Cryf: Gwyliwch y Bwlch

Mae Charlotte Waite @charlotwaite o Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf.  Mae hi’n herio ei hun, a phob un ohonom, i fod yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cryf, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cryf. Mewn gŵyl lefty hyfryd y cefais yr anrhydedd o fynd iddi yr haf poeth hwn, daeth fy merch allan o portaloo a oedd yn rhyfeddol o lân gan ddweud ei bod am gymryd cyngor y toiled a ‘gwenu ar rywun heddiw, oherwydd gall wneud gwahaniaeth mawr’.… Read more Creu Cymunedau Cryf: Gwyliwch y Bwlch

GSWAG: Cadw Data’n Fyw

A oes gan eich sefydliad y math cywir o ddata i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol? Clywch sut mae Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (GSLLCC) yn edrych heibio i setiau data traddodiadol i wneud eu penderfyniadau am lesiant. GSLLCC eisiau gwybod mwy am amodau lleol ar gyfer lles o brofiadau byw eu trigolion, ac yn edrych ar dueddiadau tebygol yn y dyfodol a allai wynebu ardal Gwent dros y 25 mlynedd nesaf, er mwyn helpu i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn well. Maent yn defnyddio math… Read more GSWAG: Cadw Data’n Fyw

GSWAG: Gweithio Mewn Partneriaeth

Gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd ymlaen ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae partneriaeth yn waith caled, gwyddom hynny. Ond mae’r manteision i wasanaethau cyhoeddus yn enfawr. Yn ddiweddar, cawsom glywed am ddull Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (“GSWAG”), felly aethom i un o’u cyfarfodydd. Clywsom sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mwy drwy ddysgu oddi wrth ei gilydd, drwy gydweithredu ar yr un eitemau ar yr agenda. Maen nhw’n gweithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan roi rhai o’r pum ffordd o weithio’n ar waith. Maen… Read more GSWAG: Gweithio Mewn Partneriaeth

Cymdeithas Pentref Loftus

Mae Alison a Bron o Grŵp Pobl wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf ar Gymdeithas Pentref Loftus – cymuned a gafodd ei chreu’n fwriadol y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni o’r dechrau. Dewch i ymuno â ni yn y digwyddiad er mwyn dysgu mwy am y llwyddiannau a’r heriau y mae’r gymuned hon, a Pobl, wedi’u profi yn ystod eu taith gyda’i gilydd. Dechreuodd taith Cymdeithas Pentref Loftus yn 2014 pan aeth Charter Housing (Grŵp Pobl bellach) ati i geisio dod o hyd… Read more Cymdeithas Pentref Loftus

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu. Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCE Cymru ac mae Dr Gavin Bunting wedi ysgrifennu blog cyn y digwyddiad ‘Good to Share’ a gaiff ei gynnal ym Mangor a Chaerdydd. Mae’r grŵp wedi bod ynghlwm wrth ymchwil ddiddorol iawn… Read more Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru