Mynd i'r cynnwys

Jyst Gweithdai WordPress / Just WordPress Workshops

Bydd Tanwen Grover a Dyfrig Williams o dîm y Gyfnewidfa Arfer Dda yn cynnal sesiwn ar blogio yn y 3ydd sector a’r sector cyhoeddus yn ddigwyddiad nesaf Defnyddwyr WordPress Cymru, sef Jyst Gweithdai WordPress. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. Tanwen Grover and Dyfrig Williams from the Good Practice Exchange Wales are holding a session on blogging in the public and third sectors at the nest WordPress Users Wales Event – Just WordPress Workshops. Click here for further information.

Rhannu ymarferion gofal heb ei drefnu

Ar gyfer yr erthygl yma, dwi wedi penderfynu trio rhywbeth ychydig yn wahanol. Byddai’n tynnu at ei gilydd ychydig o ymarfer diddorol mae fy nghydweithwyr wedi darganfod wrth ysgrifennu adroddiad ar Ofal Heb ei Drefnu. Mae rhai darnau bach o arfer da yn yr adroddiad a dwi’n teimlo bod angen eu rhannu. Felly dyma (dim ond) rhai syniadau neis o’r adroddiad fallai bydd yn dal eich sylw – ond wrth gwrs mae’r adroddiad yn cynnig llawer mwy na allai i fan hyn. Dros y byd, cynhaliwyd nifer o ymgyrchoedd i… Read more Rhannu ymarferion gofal heb ei drefnu

Goleuadau, camera, amdani!

Bydd ymhell dros 200 o gynrychiolwyr o’r Gymuned Archwilio yng Nghymru yn mynychu Cynhadledd ‘Goleuni ar Graffu‘, sydd yn cael ei chynnal ar 28 Tachwedd 2013 yn y Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru, y Ganolfan Craffu Gyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’n gwneud synnwyr i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â gwella craffu yng Nghymru uno i gynnal y digwyddiad yma. Mae mynychwyr a ni yn rhannu pwrpas cyffredin, felly mae hwn yn… Read more Goleuadau, camera, amdani!