Mynd i'r cynnwys

Taclo Anghydraddoldeb

Ers ei lansio yn 2012 mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £4miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol dros ddau gyfnod o’i raglen GalwAmWeithredu mewn 21 prosiect unigol.  Mae wedi arddangos ymarfer rhagorol trwy bartneriaethau arloesol i gyflawni cyfranogiad gan grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae Carwyn Young – swyddog arweiniol Chwaraeon Cymru ar gyfer GalwAmWeithredu yn rhoi ei safbwynt personol ar y dysgu sy’n codi o werthusiad arhydol Gwasanaeth Ymgynghorol Ymchwil y Deyrnas Unedig (RCS) o’r rhaglen a beth allai olygu ar gyfer Chwaraeon Cymru a’r sector. Rwy’n dal i gofio’r sgwrs… Read more Taclo Anghydraddoldeb

ColaBoraBora: Ail-ddiffinio ‘BETH’ trawsffurfio ‘SUT’

Mae Rosa o ColaBoraBora wedi paratoi’r blog isod i ni cyn ei gweithdy yn ein cynhadledd sy’n dwyn y teitl ‘Buddion Cyffredin: Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg’. Mae’n sôn am ethos diddorol ColaBoraBora, cydgysylltu’r gymuned a’r sector preifat, a’r prosiectau y maent wedi gweithio arnynt hyd yn hyn … Gan mai cynhadledd am Wlad y Basg yw hon, mae’r blog hwn wedi’i gyhoeddi mewn Basgeg, Cymraeg a Saesneg. Mae ColaBoraBora yn gwmni cydweithredol o fenter gymdeithasol, sy’n ymroddedig i ddylunio gwasanaethau a helpu i greu amgylcheddau a… Read more ColaBoraBora: Ail-ddiffinio ‘BETH’ trawsffurfio ‘SUT’

Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? gyda Rebecca Evans AC

Cyn ein digwyddiadau Gwlad y Basg, siaradon ni â Rebecca Evans AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Tai ac Adfywio. Roedd hi’n gadarnhaol iawn ynghylch sefydliadau cydweithredol ac arloesedd Gwlad y Basg. Gwnaeth hi sôn am sut gall y sector prydlesu elwa ar ddulliau cydweithredol a’r ffaith fod sefydliadau cydweithredol yn gallu meddwl yn fwy creadigol ynglŷn â’r problemau y mae sefydliadau yn eu hwynebu yn y gymdeithas fodern. Roedd hi’n credu bod digonedd o arfer da draw yng Ngwlad y Basg, y gallwn ni ddysgu o hynny yng Nghymru, yn… Read more Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? gyda Rebecca Evans AC

Cwmnïau Cydweithredol: Ai Nhw yw’r Dyfodol? Gyda Leanne Wood AC

Cawsom sgwrs gyda Leanne Wood AC am gwmnïau cydweithredol ac economi Gwlad y Basg , cyn ein digwyddiad #WAOBasque.  Mae’n dweud bod cwmnïau cydweithredol yn cynnig sefydlogrwydd i gymunedau mewn cyfnodau o galedi economaidd, ynghyd â galluogi pobl i gael rhan yn eu gwaith, gan gymell cynhyrchiant yn y gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gwmnïau cydweithredol, ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd Llun 3 Rhagfyr drwy’r ddolen: https://tinyurl.com/webasq Hoffem hefyd eich gwahodd i ddod i’n cynhadledd ddydd Mawrth 4 Rhagfyr, mewn partneriaeth â Chanolfan… Read more Cwmnïau Cydweithredol: Ai Nhw yw’r Dyfodol? Gyda Leanne Wood AC

Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? Gyda Derek Walker

Cawsom sgwrs gyda Derek Walker er mwyn holi am Wlad y Basg a chwmnïau cydweithredol cyn ein cynhadledd ym mis Rhagfyr. Rydym yn edrych ymlaen at allu cyflwyno rhai cynrychiolwyr gwych o rai o sefydliadau mwyaf llwyddiannus, arloesol a blaengar y rhanbarth. Yn y digwyddiad arbennig iawn hwn, gwahoddir gwasanaethau cyhoeddus i ddysgu am eu dulliau arloesol a newydd o ddelio â heriau sydd gennym yn gyffredin, a sut mae Gwlad y Basg yn rhoi cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd ei heconomi. Derek Walker yw Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru.… Read more Ai Cwmnïau Cydweithredol yw’r Dyfodol? Gyda Derek Walker

“Dewis gwneud, nid gorfod gwneud!” RCE Cymru yn Rhannu ei Wybodaeth â Gwasanaethau Cyhoeddus

Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gymwys i brifysgolion yng Nghymru, felly pam eu bod yn ffurfio rhwydwaith i ymchwilio a rhannu eu gwybodaeth sy’n helpu gwasanaethau cyhoeddus i weithio tuag at nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? Yr ateb syml yw bod gweithio o fewn fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod o fudd i’w hymchwil, ac maent yn croesawu effaith bosibl rhannu eu gwybodaeth. Mae RCE Cymru yn rhwydwaith o’r holl brifysgolion yng Nghymru sy’n cydweithio mewn grwpiau penodol a elwir yn Gylchoedd o Ddiddordeb er mwyn helpu i wella… Read more “Dewis gwneud, nid gorfod gwneud!” RCE Cymru yn Rhannu ei Wybodaeth â Gwasanaethau Cyhoeddus

Community Impact Initiative C.I.C.

Menter gymdeithasol flaengar yw’r Community Impact Initiative C.I.C. (Y Cii) @TheCiiUK a leolir yn Ne Cymru sy’n ceisio datblygu a darparu atebion arloesol i broblemau cyson ac ardaloedd lle mae eu hangen yn ein cymunedau lleol sy’n arwain at amrywiaeth o fanteision personol, cymdeithasol ac economaidd. Wedi’i sefydlu gan Trystan Jones, sefydliad dielw yw’r Cii, lle mae’r incwm a gynhyrchir ar gyfer ei weithgareddau, gyda’r elw’n cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella’i fentrau cymunedol a chaniatáu iddynt barhau, gan ei alluogi i ymdrechu tuag at ei weledigaeth a’i genhadaeth: Gweledigaeth: Dyfodol… Read more Community Impact Initiative C.I.C.