Creu Cymunedau Cryf: Gwyliwch y Bwlch

Mae Charlotte Waite @charlotwaite o Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf.  Mae hi’n herio ei hun, a phob un ohonom, i fod yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cryf, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cryf.

Mewn gŵyl lefty hyfryd y cefais yr anrhydedd o fynd iddi yr haf poeth hwn, daeth fy merch allan o portaloo a oedd yn rhyfeddol o lân gan ddweud ei bod am gymryd cyngor y toiled a ‘gwenu ar rywun heddiw, oherwydd gall wneud gwahaniaeth mawr’. Yr hyn a’m trawodd oedd y ffaith ei bod wedi darllen y sticer a oedd wedi ffedio ac roedd wedi golygu rhywbeth iddi. Darllenais i’r sticer hefyd (wrth i mi hofran yn strategol) ac aeth y geiriau i mewn trwy un glust ac allan trwy’r llall fel petawn i’n darllen ‘gwyliwch y bwlch’ neu ‘gyrrwch yn ofalus’. Yadayadayada. Mae’n rhaid bod fy ymennydd yn anfon signal i’m hymwybyddiaeth yn dweud “dim byd i’w weld yma, rydym yn gwybod hyn i gyd yn barod” ac felly gadewais y toiled heb eiliad fyfyriol. Wedi’r cyfan, rydw i wedi bod yn cynnig ‘help’ ym maes ‘helpu’ ers sawl blwyddyn.  Rwyf wedi bod ar y cyrsiau ac wedi rhoi’r darlithoedd. Gwenu yw sylfaen yr egwyddor sylfaenol, mae pawb yn gwybod hynny.

Er hyn y gwir yw, rhyngof i a fy merch 9 oed, yr unigolyn a oedd angen ei atgoffa am garedigrwydd oedd fi. Oherwydd hyd yn oed mewn gŵyl o lawenydd roeddwn i’n brysur yn ‘gwneud’ yr ŵyl, yn gwneud y gorau o bopeth, gan wasgu pob un owns o hedoniaeth allan o FY mhenwythnos I fel y gallwn i deimlo fel fy mod wedi cael yr hyn yr oeddwn am ei gael. Yn eironig, rhan o’r hyn yr oeddwn am ei gael, oedd rhannu profiad o hapusrwydd. Mae’n hawdd lledu cariad mewn gŵyl gan fod y risg personol yn llawer llai. Mae gwenu, cofleidio, gwledda, dawnsio, sgwrsio… cysylltu a theimlo’n fyw i gyd yn rhan o’r hyn y telais amdano. Es i gartref yn llawn cariad a hapusrwydd wedi’i rannu a delais amdano. Yn ôl gartref i fy stryd lle dywedais helo wrth fy nghymdogion agosaf, sgwrsio â rhai ohonynt am blant, parcio, estyniadau a chasglu biniau ond yn gyffredinol rydym yn mynd ymlaen â’n bywydau yn annibynnol.

Felly dim llawer o wenu, cofleidio, gwledda, dawnsio…..cysylltu a theimlo’n fyw yn fy nghartref fy hun. Hmm. Yma mae’r risg yn llawer uwch i mi. Wel, beth os nad ydynt am gysylltu? Beth os nad ydynt yn fy hoffi? Beth os byddant yn dysgu sut un ydw i go iawn? A tha beth, dwi’n rhy brysur. Rwy’n rhy brysur yn rhuthro i fy ngrŵp cymunedol sy’n canolbwyntio ar garedigrwydd i ofyn i fy nghymydog sut mae hi, pan rwy’n ymwybodol bod ei gŵr wedi ei gadael hi a’i phlant. Ie wir. Roedd hon yn foment fyfyriol go iawn ar brynhawn dydd Mercher gwlyb pan welais ei thorcalon ar ei hwyneb wrth iddi fynd i’w thŷ wrth i mi fynd i ‘nghar. ‘Gwyliwch y Bwlch’ rhwng fy rhethreg a fy ymddygiad yn glir y tro hwn.

Cymerais y risg a chnocio ar y drws, gwnaethom siarad am ein bywydau, ein plant a gwnaethom ddechrau gwneud cysylltiad. Roedd ofn arnaf a dydw i ddim yn sicr ei bod yn fy hoffi o hyd ond rwy’n teimlo fy mod wedi cyfathrebu nad yw hi ar ei phen ei hun ac mae hynny’n teimlo’n bwysig iawn.  Bydd yn cymryd amser.

Felly, a ydw i’n dweud y dylem fodelu cymunedau cryf ar wyliau? Mewn gŵyl nid oes hierarchaeth, dim cefnogwyr a’r rhai sy’n cael eu cefnogi, yn unig. Mae rhannu gweithgareddau llawn hwyl gyda’n gilydd yn ein cysylltu: rhannu pryd o fwyd, dawnsio, chwarae; colli’r pethau cynhenid sy’n ein cyfyngu yn ein rolau bywyd go iawn fel ‘helpwyr’ neu fel cymdogion hyd yn oed. Dydw i ddim yn awgrymu ein bod yn mynd gartref ac yn cynnal partïon stryd cysurus ond rwy’n awgrymu ein bod yn cymryd risgiau mewn cydberthnasau, heb fod yn agored i niwed ni allwn greu cydberthnasau dilys ond eto rydym yn gwybod mai dilysrwydd mewn cydberthnasau sy’n creu cydnerthedd. Cnociwch ar y drws a’u gwahodd am bryd o fwyd.

Sut y gallwn golli rhai o’n teimladau cyfyngus personol a dod o hyd i ffyrdd o gysylltu’n llawen, lygad wrth lygad (nid sgrin wrth sgrin) heb orfod talu am y profiad? Neu’n broffesiynol heb ‘wneud’ y model arfer gorau pan fyddwn yn gweithio a dangos y canlyniadau i’r rhai hynny sy’n ein talu. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd chwaraeon a grwpiau cymunedol er mwyn creu cydnerthedd mewn plant ond a ydym i gyd yn mynd i’n ceir ac yn mynd â’n plant i’r digwyddiadau hyn wrth i ni ddal i fyny ag amser y tu ôl i sgrin? Rwy’n sylwi ar y ‘gyrrwch yn ofalus’ wrth i mi lywio hyn ar fy nghyfer i fy hun. Gallwn i’n sicr gyfrannu mwy at y parti stryd hwn. Rwy’n herio fy hun i FOD yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cydnerth, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cydnerth. Rwy’n atgoffa fy hun i stopio am funud a bod yn chwilfrydig. I weld ‘gwyliwch y bwlch’ a sylwi lle mae’n gymwys i fi ond gallaf ond ei weld os ydw i’n mynd yn ddigon araf i sylwi arno ac yna sylwi ar y ffordd mae’n gwneud i mi deimlo a bod yn ddigon dewr i ddod a mi fy hun i’r parti.

GSWAG: Cadw Data’n Fyw

A oes gan eich sefydliad y math cywir o ddata i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol?

Clywch sut mae Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (GSLLCC) yn edrych heibio i setiau data traddodiadol i wneud eu penderfyniadau am lesiant. GSLLCC eisiau gwybod mwy am amodau lleol ar gyfer lles o brofiadau byw eu trigolion, ac yn edrych ar dueddiadau tebygol yn y dyfodol a allai wynebu ardal Gwent dros y 25 mlynedd nesaf, er mwyn helpu i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn well. Maent yn defnyddio math gwahanol iawn o ddata na’r hyn y maent wedi arfer ag ef, gan fynd allan o’u man cyfforddus i lywio eu penderfyniadau gyda chenedlaethau’r dyfodol mewn golwg. Gwyliwch ein vlog i gael gwybod mwy.


Tra ydych chi yma, beth am gofrestru i weld ein gweminarau ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol?

Cwmni Bro Ffestiniog

cwmni bro

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru; sef rhwydwaith o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro.

Mae’r Cwmni Bro yn gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000. Roedd Blaenau Ffestiniog yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino mwy na hanerwyd y boblogaeth erbyn y flwyddyn 2000. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model cyfannol ac integredig o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw.

Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.

Yn ôl pob tebyg mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Daeth 13 o fentrau cymunedol yr ardal at ei gilydd dan faner Cwmni Bro Ffestiniog. Rhestrir isod y mentrau sy’n aelodau Cwmni Bro.

Antur Stiniog     www.anturstiniog.com

Barnardos    www.barnardos.org.uk/cabanbach.htm

Cyfeillion Croesor     www.orielcafficroesoratcnicht.co.uk

CellB/Gwallgofiaid    http://www.cellb.org

Cwmni Opra Cymru    http://www.opra.cymru

Deudraeth Cyf.    http://www.deudraethcyf.org.uk

GISDA    http://www.gisda.org

Seren    www.seren.org    Gwesty Seren www.gwestyseren.org

Pengwern Cymunedol http://www.ypengwern.co.uk

Trawsnewid

Y Dref Werdd www.drefwerdd.cymru

Ysgol y Moelwyn/Canolfan Hamdden sg@moelwyn.gwynedd.sch.uk

Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg gwestai, siopau, bwytai, canolfan twristiaeth, canolfan hamdden, canolfan celf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opera, gwaith amgylcheddol, cynhyrchu trydan, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd a dysgu siliau amgylcheddol a chyfryngol.

Rhyngddynt mae aelodau’r Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad diweddar o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu. Ymhellach, dangoswyd bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal. Am bob punt a dderbynnir fel grantiau neu fenthyciadau mae 98 ceiniog yn cael eu gwario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau. Cedwir 53% o’r 1.5 miliwn o bunnau a werir ar gyflogau yn lleol. Mae bron hanner y gwariant ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac felly’n ailgylchu arian yn yr ardal.

Yn mis Awst 2018 cychwynwyd menter newydd, BROcast Ffestiniog, sef gwasanaeth darlledu cymunedol digidol, gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr ardal a’r gymuned ac oddi mewn i’r gymuned. (Gweler BROcast Ffestiniog-YOUTube a facebook.com/BROcastFfestiniog ).

Credir bod y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu gan gymunedau eraill. Bydd Cwmni Bro yn ymateb yn gadarnhaol i wahoddiadau i ymweld ag ardaloedd eraill i esbonio’r hyn a gyflawnwyd ym Mro Ffestiniog ac i drafod potensial cyffredinol y model.

Mae’r model hefyd yn gosod sialens i lywodraeth yng Nghymru i ddatblygu polisïau a chefnogaeth briodol er mwyn hyrwyddo’r model hwn o ddatblygiad cymunedol yn ehangach ledled y wlad.

CYSWLLT

Cwmni Bro Ffestiniog, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3AG

CwmniBro@CwmniBro.Cymru      07799 353588

GSWAG: Gweithio Mewn Partneriaeth

Gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd ymlaen ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae partneriaeth yn waith caled, gwyddom hynny. Ond mae’r manteision i wasanaethau cyhoeddus yn enfawr. Yn ddiweddar, cawsom glywed am ddull Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (“GSWAG”), felly aethom i un o’u cyfarfodydd.

Clywsom sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mwy drwy ddysgu oddi wrth ei gilydd, drwy gydweithredu ar yr un eitemau ar yr agenda. Maen nhw’n gweithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan roi rhai o’r pum ffordd o weithio’n ar waith. Maen nhw’n gallu osgoi dyblygu, yn rhannu eu harbenigedd drwy ddefnyddio iaith gyffredin a rhoi lle i’w gilydd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu trafod meysydd dadleuol mewn ffordd adeiladol. Maent yn cydnabod y gallant fynd yn llawer pellach a chyflawni llawer mwy nag y byddent ar eu pen eu hunain drwy weithio mewn partneriaeth. Gallwch gael mwy o fanylion drwy gysylltu â Bernadette Elias (Bernadette.elias@blaenau-gwent.gov.uk) neu Lyndon Puddy (Lyndon.puddy@torfaen.gov.uk)

Tra ydych chi yma, beth am gofrestru i weld ein gweminarau ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol?

Cymdeithas Pentref Loftus

Pentref Loftus

 

Mae Alison a Bron o Grŵp Pobl wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf ar Gymdeithas Pentref Loftus – cymuned a gafodd ei chreu’n fwriadol y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni o’r dechrau. Dewch i ymuno â ni yn y digwyddiad er mwyn dysgu mwy am y llwyddiannau a’r heriau y mae’r gymuned hon, a Pobl, wedi’u profi yn ystod eu taith gyda’i gilydd.

Dechreuodd taith Cymdeithas Pentref Loftus yn 2014 pan aeth Charter Housing (Grŵp Pobl bellach) ati i geisio dod o hyd i 19 o aelwydydd a oedd yn awyddus i symud i Bentref Gardd Loftus o dan gynllun rhanberchnogaeth, a dod yn gydweithredwyr ar yr un pryd.

Roedd hi’n ffordd anarferol, o’r brig i lawr, o sefydlu cymuned fwriadol.

Yn gyffredinol, mae prosiectau cyd-drigo yn dechrau gyda grŵp o bobl sydd am rannu lle ac amser gyda’i gilydd am resymau amrywiol ond, yn yr achos hwn, roedd gennym y cartrefi, ond nid y bobl!

Roeddem wedi gwneud ymchwil i’r farchnad ac wedi nodi grŵp o bobl oedd â diddordeb yn y syniad yn ôl yn 2012/13.  Felly, aethom ati i gysylltu â’r bobl hynny ac, yn ddiddorol ddigon, dilynodd un o’r bobl hynny y daith hyd at y diwedd a, 6 blynedd yn ddiweddarach, mae’n aelod o bwyllgor rheoli’r Gydweithrediaeth.

Roedd llawer o bobl yn hoffi’r syniad o fyw ym Mhentref Gardd Loftus.  Mae’n ddatblygiad tai newydd hynod o brydferth, felly roedd yn atyniadol iawn.

Hefyd, roedd y rhan fwyaf o bobl yn hoffi’r syniad o fyw mewn stryd lle maent yn adnabod eu cymdogion i gyd cyn iddynt symud i mewn, yn ogystal â stryd ddiogel ag ymdeimlad o gymuned lle gallent fwynhau byw mewn amgylchedd deniadol i’r llygad…. felly, yn fuan iawn, mabwysiadodd Cymdeithas Pentref Loftus y gwerthoedd ‘Byw’n Fwy Gwyrdd, Glân a Darbodus’.  Fodd bynnag, roedd yr holl faterion cyfreithiol/ariannol cysylltiedig yn faen tramgwydd i rai.

Roedd dod o hyd i fodel ariannol a chyfreithiol yn gur pen i Pobl fel sefydliad ac i’n darpar gydweithredwyr hefyd. Gwnaethom ystyried modelau cyfreithiol ac ariannol gwahanol cyn llunio ein model ein hun a oedd yn teimlo’n iawn i ni a’r cydweithredwyr.  Ar ôl gwneud hynny, treuliodd y cydweithredwyr fisoedd yn drafftio cytundeb rheoli, yn ogystal â misoedd o sesiynau hyfforddi ar sut i gydweithio’n effeithiol.   Yn ôl y cytundeb rheoli, mae’r Gydweithrediaeth yn gyfrifol am gasglu rhenti, ailwerthu a phrynu canran uwch yn ogystal â delio â chamau cynnar unrhyw gwynion gan gymdogion (dim un hyd yn hyn).

Gwnaethom golli pobl, denu pobl ac, yn y diwedd, roedd gennym 19 o aelwydydd o faint, oedrannau a chefndiroedd gwahanol.  I rai, dyma oedd eu cartref cyntaf. Os oeddech yn aelod o’r Gydweithrediaeth, gallech brynu â chyfran o 30% yn unig, a oedd yn golygu ei fod yn opsiwn mwy fforddiadwy na’r rhan fwyaf o gynlluniau rhanberchnogaeth.  Roedd eraill yn dechrau arni o’r newydd ar ôl i’w hamgylchiadau newid, ac roedd eraill yn chwilio am gartref ar gyfer ymddeol.

Er mwyn cadw morâl wrth aros i’r adeiladwyr ‘frysio a gorffen y gwaith’, roedd ein cydweithredwyr wedi mwynhau tasgau difyr fel dewis eu cegin a’u hystafell ymolchi, teils a lloriau, trafod beth roeddent am ei wneud â’r ardd a’r adeilad (garej) cymunedol, a dod i adnabod ei gilydd yn gyffredinol.

Gwnaethom ddefnyddio system gwneud cais er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i bobl a oedd am fod yn rhan o gymuned a helpu ei gilydd, yn hytrach na dim ond byw mewn tŷ braf. Roedd yn rhaid i ddarpar gydweithredwyr lenwi adran a oedd yn gofyn iddynt nodi faint o amser y gallent ei gynnig bob wythnos neu bob mis.

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd pobl symud i mewn i’r stryd yn raddol, gyda llawer o gyffro.  Roedd llawer iawn o gyfeillgarwch gyda phobl yn rhoi ‘help llaw’ i’w gilydd gyda’r broses drafferthus o symud i mewn.

Bellach mae gan y Gydweithrediaeth ardd gymunedol brydferth, dau le cymunedol, swyddfa a garej i storio a chadw offer yr ardd.  Maen nhw wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol (sy’n aml yn cynnwys y gymuned ehangach), gan gynnwys Carolau o gwmpas y Goeden Nadolig, Calan Gaeaf, dathliadau’r Pasg, digwyddiad Stryd Chwarae pan gafodd y ffordd ei chau er mwyn i’r plant gael chwarae.  Mae costau fel gwasanaethu bwyleri a thaliadau ynni yn is am eu bod yn bargeinio ar y cyd, ac mae ganddyn nhw ôl troed carbon is na strydoedd eraill am eu bod yn rhannu offer peiriannol.

Maen nhw newydd gynnal eu trydydd cyfarfod cyffredinol blynyddol.  Dydi popeth ddim wedi bod yn fêl i gyd a bydd hynny’n parhau.  Maen nhw’n cwyno am ei gilydd weithiau, yn cwyno am Pobl ac, yn gyffredinol, yn ceisio osgoi gwneud y pethau diflas.

Ond maen nhw’n gymuned ac maen nhw’n sicr yn gwerthfawrogi pŵer hynny, ac ni fydden nhw am newid hynny.

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu.

Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCE Cymru ac mae Dr Gavin Bunting wedi ysgrifennu blog cyn y digwyddiad ‘Good to Share’ a gaiff ei gynnal ym Mangor a Chaerdydd.

Mae’r grŵp wedi bod ynghlwm wrth ymchwil ddiddorol iawn ar sut y gallwn leihau gwastraff yng Nghymru, a chreu economi gylchol, a allai olygu bod Cymru ar ei hennill o £2 biliwn y flwyddyn. Syniadau fel hyn a fydd yn creu Cymru cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu gwaith. Darllenwch ei flog isod i ddysgu am sut mae’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru wedi cydweithio, gan gymryd camau breision tuag at gyflawni nodau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.


Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi, tra bod llawer o’r adnoddau sydd eu hangen at ddefnydd hanfodol, megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn mynd yn fwy prin.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn sefyllfa lle mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn?

Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:

  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch

Mae Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi amcangyfrif y gallai manteision economaidd posibl gweithredu economi gylchol yng Nghymru gyrraedd £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol.

Er mwyn symud tuag at economi gylchol, mae angen gweithredu mewn ffordd amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu ymchwil ac arloesedd mewn meysydd megis: dylunio cynhyrchion i’w hailwampio a’u hailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd a chael gafael ar adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n cymell y gwneuthurwr i ddylunio cynnyrch hir oes; ac ymchwilio i’r ffordd y gallwn gyfleu’r cyfleoedd a herio canfyddiadau o economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau y gallwn fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen yn y system i gyflawni economi gylchol.

Mae cryn dipyn o’r arbenigedd hwn i’w gael mewn prifysgolion yng Nghymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â heriau economi gylchol. Felly gweithiais gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, Canolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) Cymru, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn sefydlu’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru’.

Nod arfaethedig y grŵp yw cysylltu’r arbenigedd a’r profiadau ategol er mwyn hwyluso arloesedd ac ymchwil ar economi gylchol yng Nghymru, drwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da ac i hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng academia, busnes a llunwyr polisïau.
  • Cydweithio er mwyn cynyddu’r gallu ac adnoddau ymchwil economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant er mwyn datblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i lywio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso’r broses o gyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi’r broses o ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar y broses o ddatblygu cwricwlwm a darparu hyfforddiant ar ei gyfer.
  • Cydweithio â rhwydwaith byd-eang y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) (a gydnabyddir gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) er mwyn rhannu dysgu ac arfer da ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Cadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp ar 8 Mehefin, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prifysgolion canlynol: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Eglurodd Dr Andy Rees, Pennaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru, y sefyllfa gan ddarparu rhai ystadegau defnyddiol a oedd yn amlinellu offerynnau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesedd economi gylchol.

Bu’n gyfarfod cynhyrchiol, lle y gwnaethom drafod syniadau ar sut y gallwn gydweithio ar ymchwil, addysgu, cyfnewid gwybodaeth a llywio polisïau’r llywodraeth. O ran ymchwil, y farn gyffredinol oedd na ddylwn ganolbwyntio ar geisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil a oedd yn ymwneud â’n economi gylchol yn unig – gan fod modd i’r economi gylchol ychwanegu newydd-deb at amrywiaeth eang o feysydd ymchwil. Nodwyd hefyd fod angen i ni edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff yr economi gylchol ei chyfleu i fyd diwydiant a’r cyhoedd er mwyn annog arloesedd a newid. Yn benodol, cytunwyd ei bod yn bwysig sôn am yr elfen o gystadleurwydd wrth gyfathrebu â diwydiant, ynghyd â chanolbwyntio ar y sectorau sy’n bwysig i economi Cymru. Gallai’r Safon Brydeinig ar gyfer Economi Gylchol, BS-8001, fod yn ffordd ddefnyddiol o ymgysylltu â chwmnïau a gall rhwydweithiau academia-diwydiant sydd eisioes yn bodoli megis ASTUTE ddarparu llwybr sefydledig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.

Nod craidd y grŵp yw annog cydweithredu, a hwylusir i gychwyn drwy ddarparu cyfeirlyfr o arbenigedd, fel y gall aelodau nodi cydweithredwyr posibl ar gyfer ymchwil yn hawdd. Yn ogystal, byddwn hefyd yn sefydlu bwletin e-bost rheolaidd a fforwm lle y gall aelodau drafod meysydd o ddiddordeb. Mae angen cymorth ysgrifenyddiaeth da i gadw grŵp fel hyn i weithio, ac mae Ann Stevenson o Brifysgol Caerdydd wedi bod mor garedig â chynnig i ddarparu hyn.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn cynnal cyfarfod arall o’r grŵp yn yr hydref ac yn cynnal sesiynau yng Nghynhadledd RCE Cymru ar 8 Tachwedd 2018, yng Nghaerdydd, lle y byddwn yn cynnal trafodaethau ysbrydoledig a chynhyrchiol gobeithio.

dr gavin

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os

Dal y drych i fyny gyda’n gilydd

Ruth MarksCyn ein seminar ‘Gweithio mewn Partneriaeth: Dal y drych i fyny’, mae Ruth Marks @wcvaruth, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), wedi llunio blog inni ynghylch pwysigrwydd cydweithio er mwyn cynnig cymorth gwell i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae edrych ar fywyd o safbwynt gwahanol yn gwneud lles i bob un ohonom.

Weithiau, dros wyliau’r haf, cawn gyfle i ymweld â mannau gwahanol, clywed y diweddaraf gan deulu a ffrindiau a chreu atgofion newydd. Hefyd, edrychwn ymlaen at yr hydref ac at symud cynlluniau ac uchelgeisiau yn eu blaenau.

Fel Prif Weithredwr WCVA, ymysg un o’m huchelgeisiau mae ehangu’r cysylltiadau arwyddocaol ac effeithiol rhwng elusennau a grwpiau cymunedol (y trydydd sector) â llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru.

Mae’n gyfle gwych cael gwneud hyn mewn partneriaeth â Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ac Academi Wales.

Ceir dau ddigwyddiad yng Nghaerdydd a Llanrwst ar 19 a 27 Medi, lle gall partneriaid ddod ynghyd i weld sut y gallwn gydweithio i ganolbwyntio ein hymdrechion yn well ar gefnogi unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Credaf y bydd rhai negeseuon allweddol ynghylch iaith gyffredin, parch, prosesau, tensiynau ac adnoddau. Credaf mai’r agwedd bwysicaf yw parhau, nid yn unig i ddal y drych i fyny, ond i roi sglein arno a sicrhau ein bod ni’n edrych arnom ein hunain ac eraill gyda golwg newydd, egni newydd a’r awydd i wneud ein gorau glas.

blog imageDrwy weithio gyda’n gilydd, parchu cryfderau ein gilydd, cydweithio’n deg, cydnabod gwir werth gwirfoddolwyr, a deall cyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr elusennau, dylen ni allu darparu gwasanaethau gwell.

O lyfrgelloedd, gofal plant, Meddygon teulu, ysgolion, casglu sbwriel, pyllau nofio a thriniaeth ysbyty – darperir gwasanaethau i bob un ohonom ac mae’n debygol y bydd agen rhyw fath o wasanaeth cyhoeddus ar bob un ohonom yn y dyfodol.

Mae angen ystyried a thrafod yn gyson pwy sy’n darparu’r gwasanaethau hyn, ar ba sail a’r trefniadau dan sylw, ac adolygu’n rheolaidd â’r bobl sy’n eu defnyddio.

Bydd y seminarau hyn yn gyfle hynod werthfawr i ddal y drych i fyny – gyda’n gilydd.


Cofrestrwch ar ein digwyddiad ar “brif heriau byrddau partneriaeth rhanbarthol” yma

Hanes cryno Grŵp Bwyd Canolfan Rhanbarthol Arbenigedd Cymru ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Ym mis Medi a mis Tachwedd eleni, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Labordy Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad RCE Cymru – ‘Mae’n dda i rannu’, a gynhelir ym Mangor a Chaerdydd. Cyn y digwyddiad, mae Jane Powell wedi blogio am ei phrofiad o Ganolfannau Arbenigedd Rhanbarthol (RCE) ac hanes diddorol y Grŵp Bwyd.

Mae’n ddiddorol clywed sut mae’r ymchwil hwn wedi esblygu dros y blynyddoedd ac wedi helpu i lunio Maniffesto Bwyd Cymru ynghyd â Deddf Lles Dyfodol Cenedlaethau (Cymru) 2015. Yr wyf yn gyffrous ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd ein pobl ifanc mae pobl yng Nghymru yn helpu i lunio’r system fwyd er gwell.

Dyma Jane Powell yn rhannu ei phrosiect …

Pan ddes i ar draws y syniad o Ganolfan Ranbarthol ar gyfer Arbenigedd addysg gynaliadwy – ac RCE – i Gymru yn 2008, roeddwn yn amheus iawn o’r acronym diweddaraf. Roedd yn swnio mor fiwrocrataidd. Ond wedyn, clywais Julie Bromilow o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn siarad am RCE roedd hi wedi ymweld ag yn Japan, a dechreuodd y posibilrwydd o fod yn rhan o rwydwaith byd-eang er mwyn datrys problem fyd-eang apelio.

Ar y pryd, roeddwn yn Swyddog Gwybodaeth yng Nghanolfan Organig Cymru yn Aberystwyth, yn trefnu i ysgolion ymweld â ffermydd a phrydau ysgol wedi’i gynhyrchu’n lleol ynghyd â’n nyletswyddau golygu arferol. Roedd yn rhoi boddhad, ond roeddwn yn dyheu am fod yn rhan o rywbeth mwy, i gymharu ein gwaith gyda beth roedd eraill yn ei wneud, a gweld pa mor bell gallwn fynd.  Yn fwy na dim, roeddwn yn pendroni am beth yn union roedden i’n ei wneud.  Sut roedd ymweld â ffermydd i fod i newid unrhyw beth? Pam roedd prosiectau prydau ysgol mor bwerus, tra roedd sefyll ar stondin mewn digwyddiad weithiau’n gallu bod mor ddiflas?

Meddyliais efallai byddai’r RCE yn gallu bod yn ffordd o ysgogi pethau. Felly neidiais ar y cyfle i ymuno gyda’r is-grŵp oedd yn edrych ar addysg bwyd, ynghyd â Julie, Dr Jane Claricoates o ysgrifenyddiaeth yr RCE ym Mhrifysgol Abertawe a Dr David Skydomre o Brifysgol Glyndŵr. Ein tasg gyntaf, yn 2011, oedd ‘sgwennu papur pynciol, oedd yn archwilio beth allai ‘addysg drawsnewidiol’ olygu yng nghyd-destun bwyd gan dynnu ar ein profiadau perthnasol yn ogystal â’r llenyddiaeth ymchwil.

acp_5538-1-copy.jpg

Aethom ymlaen i drefnu digwyddiad yng Ngholeg Powys lle roeddem yn defnyddio ymbwyllo a thrafodaeth hamddenol i archwilio sut roedd myfyrwyr, darlithwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i gyd yn perthyn i’r gadwyn fwyd. Bwriad hyn oedd rhoi syniad o sut gall addysg bwyd fod yn effeithiol, drwy gysylltu gyda gwerthoedd a dealltwriaeth bresennol pobl. Datgelodd y cyfoeth o’r profiad dynol sydd tu ôl i’r ffigyrau a ffeithiau am y system fwyd.

Yn dilyn hyn, er ein bod wedi atynnu ambell aelod newydd ac yn parhau i gyfarfod am flwyddyn neu ddwy, dechreuodd y grŵp wasgaru. Roedd salwch a newid swyddi yn rhan o hyn, ac efallai bod yr RCE yn rhy ymylol i’n swydd ddisgrifiadau amrywiol i gael y sylw roedd yn ei haeddu. Er hyn, daeth yn amlwg bod y cysyniad canolog o gydweithio rhwng addysg uwch ac ymarferwyr yn un gwydn iawn, fel ein cwestiwn am beth sy’n gwneud addysg bwyd yn drawsnewidiol. Newidiodd y Grŵp Bwyd i fod yn ymholiad oedd yn cael ei hystyried gan rwydwaith llac.

Yn 2014, galluogodd cyllid o Raglen Datblygu Wledig Cymreig i Ganolfan Organig Cymru i symud hyn i lefel newydd gyda phrosiect ymchwil gweithredol o’r enw Gwerthoedd Bwyd. Daeth hyn ac ymchwil o seicoleg gymdeithasol a’i wneud yn berthnasol i addysg bwyd, a daeth yn amlwg ei fod yn ddull pwerus gan ddod a mewnwelediad newydd i nifer ohonom oedd yn gweithio yn addysg bwyd. Yn ddiweddarach daeth yn sail i Faniffesto Bwyd Cymru sy’n cynnal y weledigaeth i’r system fwyd Cymreig sydd wedi ei ddal ynghyd ar werthoedd o ofal, tegwch a chydraddoldeb.

Roedd Gwerthoedd Bwyd yn enghraifft wych o ethos yr RCE, er nad oedd yn dechnegol yn rhan ohono. Roedd yn gydweithrediad rhwng addysg uwch, rhwng Dr Sophie Wynne-Jones a’i chydweithwyr i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna, ym Mangor, a’r gymdeithas ehangach, er enghraifft Canolfan Ymchwil Diddordeb Cyhoeddus, Canolfan Organig Cymru a nifer o sefydliadau anllywodraethol yn amrywio o Age Concern yng Ngwynedd i’r Synagog Unedig Diwygiedig yng Nghaerdydd. Galluogodd cyfnewid cyfoethog ac ysbrydoledig rhwng academyddion ac ymarferwyr oedd yn fanteisiol i’r ddwy garfan.

au-chris-presents.jpg

Wrth ddysgu grwpiau a threfnu digwyddiadau cymunedol, fel rwy’n ei wneud, mae’n hawdd llosgi’r gannwyll ddau ben a cholli cymhelliant. Mae’r cyswllt gydag ymchwilwyr yn dod a phersbectif ffres sy’n ein galluogi i fynd yn ddyfnach i’n hymarfer, a chael mwy o foddhad o’r hyn ydym yn ei wneud yn dda. I academyddion, dwi’n dychmygu, eu bod yn cael boddhad bod yn rhan o brosiect sy’n dod a buddion yn syth a dangos yr egwyddorion damcaniaethol ar waith mewn bywyd bob dydd. Ni lwyddodd y grŵp wneud cysylltiadau gyda’r rhwydwaith RCE byd-eang, mi fyddai hynny yn amlwg yn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth i’r broses.

Susanne plus two

Mae’r Grŵp Bwyd yn segur ar hyn o bryd, ond mae ei waith yn byw ymlaen, ac mae gymaint mwy gallwn ei wneud. Wrth i ysgolion Cymreig baratoi am ddiwygiad mawr o’r cwricwlwm ac wrth i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ddechrau cymryd effaith, mae’r cyfleoedd yn anferth. Gall RCE Cymru ar ei newydd wedd gynnig y cyfle ar gyfer rhagor o gydweithio ar addysg bwyd? Darllenwch ein blog a chysylltwch gyda Jane Powell.

Gweithiodd Jane Powell i Ganolfan Organig Cymru o 2000 hyd at 2015 ac erbyn hyn mae hi’n ymgynghorydd addysg lawrydd ac ysgrifen wraig. Jane yw’r cydlynydd yng Nghymru ar gyfer LEAF Education, ac aelod o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi, a golygydd Maniffesto Bwyd Cymru. Mae hi’n byw yn ardal Aberystwyth ac yn rhan o brosiectau bwyd lleol gan gynnwys gardd yn y Brifysgol. Ei gwefan yw www.foodsociety.wales.

Gwerth mewn sgwrs – Prifysgolion yn dod at ei gilydd i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith

Rhan o rôl y tîm GPX yw adeiladu perthynasau gydag sefydliadau led led Cymru a tu hwnt, a rhannu gwybodaeth arloesol neu ddiddorol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG) ers ychydig o flynyddoedd yn awr. Mae’r Grŵp yn awyddus iawn i gydweithio â gwasanaethau cyhoeddus ehangach, enwedig I rannu eu gwybodaeth meant wedi casglu i helpu wasanaethau cyhoeddus ac yn y pen draw i bobl Cymru.

Pan ddaeth y syniad o’r digwyddiad hwn i ben, fe wnaeth hi’n synnwyr i ni weithio mewn partneriaeth. Yn enwedig I rhannu eu dulliau o sut maent yn cyfrannu at Ddeddf Lles y Dyfodol.

I esbonio ychydig mwy am y digwyddiad, dyma beth sydd gan Dr Einir Young I ddweud, sef,  cadeirydd y grŵp,  I rannu dyhead o’r digwyddiad …

Fy enw i yw Einir Young, rwy’n Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf hefyd yn cadeirio Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG) sy’n cynrychioli pob sefydliad AU yng Nghymru. Ar ran y grŵp hoffwn gyflwyno ein cyd-fenter newydd a’ch gwahodd i gymryd rhan. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy’n arwain at ddwy gynhadledd, un ym Mangor ym mis Medi ac un arall yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd – digon o amser a gwybodaeth i benderfynu a ydych chi eisiau  ymuno â ni neu beidio.

Ar ôl gweithio gyda’n gilydd fel grŵp ers peth amser, penderfynom ei bod hi’n bryd rhoi egwyddorion y Ddeddf Llesiant ar waith, yn enwedig y pum ffordd o weithio. Dyma’r cwestiynau gododd ymysg ein gilydd:

  • Beth yw cyfraniad hirdymor y grŵp? Beth yw’r pwynt i ni gyfarfod o dro i dro i rannu’n syniadau? Beth sy’n digwydd i’r syniadau hynny? Beth sydd gennym i ddangos am ein hymdrechion?
  • Nid yw cyfarfod er mwyn ticio bocs yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud felly sut allwn ni osgoi syrthni sefydliadol a marweidd-dra a sicrhau fod ein grŵp ni’n berthnasol?
  • Mae cydweithio yn rhywbeth yr ydym yn anelu ato ond yn rhy aml mae’n sefydliadau’n cystadlu â’i gilydd; diffiniodd rhywun ‘cydweithio’ rhyw dro fel ‘gohirio casáu’n gilydd dros dro wrth chwilio am fwy o gyllid’. Cododd hynny wên yn ein mysg gan ein bod i gyd yn adnabod fod llygedyn o wirionedd yna. Sut felly y gallem ni gydweithio go iawn?
  • Mae integreiddio yn ddyhead arall – integreiddio’r hyn a wnawn yn hytrach na dilyn ein hamcanion ni ein hunain mewn sylos. Sut allwn ni wneud yn well?
  • Mae tynnu pobl i ymuno mewn yn syniad sy’n cario llawer o bwysau ond mae’n anodd ei gyflawni. Pwy ddylai fod yn rhan o’r grŵp? Pwy ddylai wneud beth? Pryd? Ble?

Wrth i ni ystyried y cwestiynau hyn fel grŵp yng Nghynhadledd Newid Ymddygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2017, heriodd Yvonne Jones o Brifysgol Abertawe (yr unig aelod craidd sy’n weddill o ysgrifenyddiaeth y RCE Cymru gwreiddiol), ni i adfywio Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (RCE Cymru) i adlewyrchu ein ffordd newydd o feddwl a’r syniadaeth y tu ôl i’r Ddeddf Llesiant. A dyma ni, ddeunaw mis yn ddiweddarach yn awyddus i ail-lansio RCE Cymru ar ei newydd wedd, yn barod i gyfrannu’n weithredol i rwydwaith rhyngwladol o dros 160 o grwpiau tebyg sy’n brysur yn cymhwyso amcanion cynaliadwyedd byd-eang i gyd-destun cymunedol lleol, gyda phwyslais ar les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae gan rwydweithiau’r RCE reolau penodol a’r ddwy reol aur yw i) bod rhaid i RCE gael ei arwain gan Brifysgol a ii) mae’n rhaid iddo ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Felly, rydym wedi dod â grŵp bach o dri o bobl ynghyd i weithredu fel Ysgrifenyddiaeth i ddelio ag adrodd ond mae’r gweddill yn hylif ac yn agored i awgrymiadau.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu nifer o gylchoedd o ddiddordeb ac yn chwilio am gyfranogwyr sydd â diddordeb. Hyd yn hyn mae’r grwpiau canlynol wedi dod i’r amlwg:

  • Yr economi gylchol (wedi’i gydlynu gan Dr Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe)
  • Prifysgolion a Cholegau Iach (wedi’i cydlynu gan Chris Deacy, Met Caerdydd)
  • Adfywio (wedi’i gydlynu gan Dr Sheena Carlisle a Tim Palazon, Met Caerdydd)
  • Addysgu a Dysgu (wedi’i gydlynu gan Dr Carolyn Hayles, Prifysgol Cymru, Drindod Dewi Sant)
  • Mae cyfathrebu yn thema drawsbynciol ac fe’i cydlynir gan fy nhîm ym Mangor.

Mae cylchoedd eraill ar y gweill:

  • Addysgu ar gyfer system fwyd well (Jane Powell)
  • Presgripsiynau Cymdeithasol (wedi’i gydlynu gan Nina Ruddle, Glyndŵr)
  • Iaith a Diwylliant (cydlynwyr i’w cadarnhau)
  • Seinfyrddau ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Nina Ruddle a Dr Einir Young – yng ngogledd Cymru i ddechrau)

Felly i ateb ein pum cwestiwn gwreiddiol, dyma lle rydym ni arni:

Ein gweledigaeth hirdymor yw creu strwythur gwirioneddol ar y cyd (credwn y bydd trefn yr RCE yn hwyluso hyn) i ddarparu ‘lle i feddwl’ ar gyfer cylchoedd o ddiddordeb i drafod eu heriau penodol, yn eu hamser eu hunain a’u ffordd eu hunain. Mater i bob grŵp yw penderfynu sut maen nhw’n rhoi trefn ar eu hunain a mesur llwyddiant.

Bydd y cylchoedd o ddiddordeb yn darparu gofod ar gyfer sgwrs ddwy ffordd rhwng y grŵp RCE craidd a’r cylchoedd yn cynhyrchu llif cyson o syniadau newydd a darparu cyfleoedd ar gyfer croes-ffrwythloni syniadau rhwng y cylchoedd. Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu fel bo’r galw gan y grŵpiau eu hunain er mwyn osgoi diflastod.

Rhaid i gydweithio gael ei seilio ar ymddiriedaeth ac mae hwn yn gyfle i archwilio, yn hollol rydd, sut y gall cyfangorff fod yn fwy effeithiol na chyfanswm y rhannau gwasgaredig. Nid cyllid i gecru drosto, nid oes targedau allanol. Nid oes pwysau i ymuno ac yn bwysicach fydd does dim cywilydd o ran methu – rydym yma i ddysgu gyda’n gilydd.

Mae yna lawer o fentrau o gwmpas sy’n gysylltiedig â’r holl gylchoedd o ddiddordeb yn barod. Bu sawl ymdrech i orfodi sefydliadau i weithio gyda’i gilydd yn ‘oer’, heb ddigon o amser i sicrhau fod sylfeini o gyd ymddiried yn bodoli. Rydym yn gobeithio y bydd natur wirfoddol RCE Cymru drwy’r HEFGG yn hwyluso mwy o integreiddio a rhannu syniadau er mwyn goresgyn y tueddiad i gadw pethau i ni’n hunain a meddwl am bethau mewn termau ‘ni v. nhw’.

Y newyddion da yw y gall unrhyw un a phawb gymryd rhan os dymunwch. Nid yw hwn yn glwb caeedig. Prif gymhwyster cael eich cynnwys yw bod gennych chi feddwl agored, agwedd bosib, meddwl creadigol a pharodrwydd i gymryd risg (lle gallai methu fod yn opsiwn) ac ymrwymiad i drio. Ond nid ydym yn chwilio am ferthyron chwaith – os ydych yn rhy brysur, dim problem. Dylai’r cyd-weitho gyda’r cylchoedd diddordeb ffitio mewn gyda’ch gwaith bob dydd neu fod yn rhywbeth ychwanegol fydd o fudd personol i chi o’ch gwirfodd. Mae cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig

Cadwch eich llygad ar agor am gyfres o flogiau fydd yn esbonio dyheadau pob un o’r cylchoedd o ddiddordeb yn eu tro.

Dwi’n aros yn eiddgar am donau o sylwadau ac adborth. Ymlaen mae Canan!

Einir YoungDr Einir Young yw Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor. Mae ei thîm yn y Lab Cynaliadwyedd yn rhan o Wasanaethau Canolog y Brifysgol ochr yn ochr â’r timau Cynllunio, Llywodraethant ac Adnoddau Dynol er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol i’r Brifysgol.

Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithio â busnesau a sefydliadau sydd wedi eu dadrithio â’r meddylfryd fod ‘un maint yn addas i bawb’. Mae’n croesawu’r her o ddod o hyd i atebion effeithiol i faterion cymhleth ‘cynaliadwyedd’, gan ganolbwyntio ar greu ffyniant trwy barchu pobl a byw o fewn ffiniau adnoddau’r blaned. Yn ei barn hi, mae dyddiau ‘hen werthoedd y pwerus’ a’r rheoli oddi fry yn dod i ben ac mae’n croesawu’r rhwyddineb a’r ffresni sy’n dod yn sgil ‘gwerthoedd y grymoedd newydd’ sydd ynghlwm wrth weithgareddau torfol, tryloywder radicalaidd a rhywbeth mor syml ag ymddiried mewn pobl.

Yn ei hamser hamdden mae cymryd cerdded o ddifri. Y cynllun ar hyn o bryd yw cwblhau Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Llechi Eryri; yn ddiweddar cerddodd o gwmpas Malta. Llinyn mesur llwyddiant ar gyfer unrhyw gyrchfan yw safon ac ansawdd y teithiau cerdded. Cymru sy’n fuddugol bob tro.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Gorau Arf, Dysg

Mae Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi creu blog ar ein cyfer cyn ein gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Camau Bach, Newid Mawr ar 12 Mehefin 2018.

Mae gan Gymru uchelgeisiau i fod yn arweinydd byd-eang o ran trechu, lliniaru ac atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Er mwyn llwyddo yn hyn, rhaid i bawb fod yn ymwybodol o ACEs, yr hyn maent yn ei olygu i ni fel unigolion a phawb o’n hamgylch, a deall ein rôl unigryw wrth eu trechu, yn ein bywydau proffesiynol a phersonol.

Mae’r ffilm Resilience yn dweud wrthym: “Once you give people the information, they will find creative solutions,” ac rydym eisioes wedi gweld hyn yn dechrau digwydd yn y ffordd y mae rhai sefydliadau yng Nghymru wedi ymateb wrth ddysgu am ACEs, gan newid ffyrdd o weithio er mwyn bod yn wybodus am ACE. Er enghraifft, drwy ganolbwyntio ar berthnasoedd a phobl, yn hytrach na phrosesau.

Mae’r Hyb Cymorth ACE wedi cydgynhyrchu Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth a fydd yn helpu pawb yng Nghymru i ddeall ein rhan ni wrth drechu ac atal ACEs. Bydd yn ein helpu i herio ni ein hunain a meddwl “Beth alla i wneud yn wahanol?” ac adnabod yr hyn rydym eisoes yn ei wneud. Mae’r fframwaith yn berthnasol i bawb, nid gweithwyr ac ymarferwyr rheng flaen yn unig, wrth gefnogi pobl y mae trawma wedi effeithio arnynt, adnabod bod effeithiau ACEs yn eang a’u bod yn effeithio ar bobl o bob oedran ac o bob cefndir.

Nid yw’r Fframwaith wedi’i derfynu eto, ac mae’r Hyb Cymorth ACE wedi casglu adborth drwy sesiynau cynnwys gyda gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Mae’r adborth wedi bod yn amrywiol; mae rhai yn meddwl ei fod yn wych ac mae eraill yn gyfarwydd â’r cysyniadau. Mae’r Hyb bellach am ei gyfuno â fframweithiau sydd eisoes yn bodoli.

Rydym ni’n gwybod na fydd hyfforddiant yn unig yn golygu y bydd newid yn digwydd. Bydd y Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE yn sail i weithgareddau drwy ddisgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen ar unigolion a’u sefydliadau er mwyn creu’r amgylchedd ar gyfer newid.

Felly, beth golyga fod yn wybodus am ACEs?

Mae unigolion sy’n wybodus am ACEs yn meithrin perthnasoedd â phobl, gan edrych ymhellach na symptomau ac ymddygiad a chan ddangos caredigrwydd, trugaredd a dealltwriaeth. Maent yn adnabod dangosyddion gydol oes ACEs, gan wybod mai’r cwestiwn yw “Beth ddigwyddodd i chi?” yn hytrach na “Beth sydd ‘o’i le’ gyda chi?” Maent yn deall bod ymddygiad yn ffordd o gyfathrebu a bod yn rhaid i ni gymryd amser i ddeall hyn yn hytrach na beio rhywun am ei ymddygiad. Maent yn cefnogi, yn cyfeirio neu’n diogelu’n briodol. Maent yn defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar seicoleg wrth gefnogi pobl; maent yn ystyried yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn hwnnw a pha gefnogaeth a fyddai’n datblygu ei gryfderau, ei sgiliau a’i adnoddau.

Mae pobl sy’n medrus o ran ACE yn ymarferwyr myfyriol sy’n dangos eu rôl wrth drechu ACEs. Maent yn nodi eu dulliau cefnogi eu hunain, gan eu cyrchu yn ôl yr angen, ac maent yn cyfrannu at welliant parhaus mewn perthynas â’u hymarfer.

Mae’r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE drafft yn pennu gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu ar dair lefel.

  • Mae’r lefel ‘gwybodus am ACEs’ yn disgrifio gwybodaeth a sgiliau cyffredinol sy’n sail i bopeth arall. Mae pobl sy’n wybodus am ACEs yn deall natur ACEs ac maent yn gwybod yr effeithiau gydol oes sydd ganddynt. Maent yn deall sut i gyfathrebu’n effeithiol a phryd y mae angen iddynt ofyn am gyngor a chefnogaeth.
  • Mae’r lefel ‘medrus o ran ACEs’ yn disgrifio gwybodaeth a sgiliau cymhwysol. Mae pobl sy’n medrus o ran ACEs yn wybodus am ACEs ac mae ganddynt wybodaeth a sgiliau mwy manwl a chynhwysfawr o ran deall effeithiau ACEs. Gallant werthuso materion yn feirniadol a defnyddio sgiliau a gwybodaeth i gefnogi pobl.
  • Mae lefel ‘Dylanwadwyr’ yn disgrifio egwyddorion ar gyfer datblygu a chynnal diwylliant sefydliadol a chefnogaeth systemig sy’n galluogi pobl wybodus a medrus i ffynnu a rhoi o’u gorau. Mae Dylanwadwyr ACE yn bobl â rôl arwain a/neu strategol. Maent yn wybodus am ACEs, yn galluogi eraill i fod yn wybodus ac yn fedrus am ACEs ac maent yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’w gweithlu ac y gellir cal mynediad iddi. Maent yn sicrhau ymagwedd at reoli gwasanaethau a thimau sydd wedi’u llywio gan ACEs. Yn bwysicach oll, maent yn sefydlu diwylliant sy’n cydnabod bod ACEs yn gyffredin ac yn systemig a bod angen ymateb o safon iddynt.

SK Framework V1a_CY

Mae’r Hyb Cymorth ACE yn chwilio am gyfleoedd i dreialu’r Fframwaith mewn sefydliadau yng Nghymru. Cysylltwch â Kelly McFadyen os oes diddordeb gennych mewn fod yn rhan o’r gwaith hwn.