Skip to content

Categori: Llywodraethu

Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Gall rheoli eich amser mewn swyddfa brysur fod yn dasg fawr yn ei hun. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut mae ef wedi newid ei ffordd o weithio. Mae newid mewn amgylchiadau personol wedi meddwl fy mod i wedi bod yn gweithio mwy o gartref. Nid fy nghartref yng Nghaerdydd, ond cartref fy nghariad yng Nghaerwysg. Mae Kelly yn sgwennu’n lot gwell ‘na fi, felly fe wnâi’ch cyfeirio at ei blogbost gwych ar ein perthynas a rhamant ddigidol yn lle amlinellu sut y dechreuodd hyn i gyd.… Read more Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Chwe mis i mewn…

Fe wnaeth Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy, gyflwyno mewn seminar dysgu ar y cyd ‘nôl ym mis Mawrth, ar y testun Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bryd hynny, nid oedd y ddeddfwriaeth wedi dod i rym, ac roedd eu profiad yn seiliedig ar eu gwaith fel “mabwysiadwyr cynnar” y Ddeddf. Ar ôl chwe mis, mae cryn dipyn wedi newid… Rhoi trefn ar eich tŷ eich hun Yn ôl ym mis Mawrth rhannais adborth o asesiad cyffyrddiad ysgafn Swyddfa Archwilio Cymru o’n gwaith paratoi ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. … Read more Mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Chwe mis i mewn…

Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni… Read more Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe. Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad. Yr ochr dda… Read more Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd i’r afael â nhw. “Nid creu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw’r broblem go iawn, ond gadael lle rydym ni nawr…” Dydw i ddim yn siŵr pwy ddywedodd hynny, gallai fod yn gyfuniad o sawl… Read more Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae technoleg wedi newid yr amgylchedd cymdeithasol sylfaenol rydyn ni’n gweithio ynddo. Yn y blogbost yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut all y ddeddf cefnogi meddylfryd digidol strategol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddeddfwriaeth uchelgeisiol sy’n mynnu bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol iawn i modd y gorffennol. Mae’r Ddeddf wedi bod yn thema o’n gwaith ni dros… Read more Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal Google Hangout ar Ddata Agored. Fe fydd y Hangout yn edrych ar sut all Data Agored helpu ni i ddarparu gwasanaethau ar y cyd sy’n dryloyw ac effeithiol. Yn blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mae gan y Gyfnewidfa Arfer Da diddordeb yn y pwnc. Blwyddyn ddiwethaf fe wnaeth tîm Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau sy’n Agored i Niwed Llywodraeth Cymru gysylltu â ni am y posibilrwydd o wneud ychydig o waith ar amlygu arfer da ar rannu data mewn modd effeithiol.… Read more Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae yna nifer ohonom yn y grŵp sydd heb weithio gyda’n gilydd o’r blaen. Daethom at ein gilydd i bwrpas a rennir,… Read more Adrodd ein Stori NI