Skip to content

Categori: Llywodraethu

Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?

Ym mis Ionawr, rydym yn cynnal seminar a fydd yn anelu at herio’r ffordd y mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ailystyried sut y maent yn sicrhau bod aelodau a swyddogion yn atebol mewn perthynas â chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid mawr i wasanaethau cyhoeddus a chawsom sgwrs gyda’n cydweithiwr Tim Buckle sy’n gysylltiedig â’r ddwy ochr i’r geiniog – gan weithio ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau craffu awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 a helpu i lunio’r seminar hon. Cafwyd sawl sgwrs am… Read more Craffu er mwyn sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol – mwy o gwestiynau nag atebion?

Cau cyfrifon yn gyflymach – mae’n braf siarad

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar ar ‘Gau cyfrifon llywodraeth leol yn gynnar’, mae Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru, yn siarad am ei brofiad o’r diwrnod a’r trafodaethau pwysig a gafodd â’r rhai a fu’n bresennol… Ar 10 Hydref 2017, euthum i seminar dysgu a rennir ddiweddaraf y Gyfnewidfa Arfer Da yng Nghaerdydd ar Gau cyfrifon llywodraeth leol yn gynnar. Yn ogystal â llawer o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, roedd nifer fawr o staff Swyddfa Archwilio Cymru, i gyd yn awyddus i ddysgu gwersi gan y rhai sydd… Read more Cau cyfrifon yn gyflymach – mae’n braf siarad

Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd. Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i mi y gallem wella ein ffordd o drin data. Ond nid trwy casglu data newydd o reidrwydd – dywedodd y rhan fwyaf o’m cydweithwyr mai’r mater pwysicaf iddyn nhw oedd meithrin ymwybyddiaeth well am y data… Read more Bod yn agored yn ddiofyn

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau. Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad. Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod… Read more Mae’r ysgrifen ar y ddesg!