Gwerth mewn sgwrs – Prifysgolion yn dod at ei gilydd i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith

Rhan o rôl y tîm GPX yw adeiladu perthynasau gydag sefydliadau led led Cymru a tu hwnt, a rhannu gwybodaeth arloesol neu ddiddorol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG) ers ychydig o flynyddoedd yn awr. Mae’r Grŵp yn awyddus iawn i gydweithio â gwasanaethau cyhoeddus ehangach, enwedig I rannu eu gwybodaeth meant wedi casglu i helpu wasanaethau cyhoeddus ac yn y pen draw i bobl Cymru.

Pan ddaeth y syniad o’r digwyddiad hwn i ben, fe wnaeth hi’n synnwyr i ni weithio mewn partneriaeth. Yn enwedig I rhannu eu dulliau o sut maent yn cyfrannu at Ddeddf Lles y Dyfodol.

I esbonio ychydig mwy am y digwyddiad, dyma beth sydd gan Dr Einir Young I ddweud, sef,  cadeirydd y grŵp,  I rannu dyhead o’r digwyddiad …

Fy enw i yw Einir Young, rwy’n Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf hefyd yn cadeirio Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG) sy’n cynrychioli pob sefydliad AU yng Nghymru. Ar ran y grŵp hoffwn gyflwyno ein cyd-fenter newydd a’ch gwahodd i gymryd rhan. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy’n arwain at ddwy gynhadledd, un ym Mangor ym mis Medi ac un arall yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd – digon o amser a gwybodaeth i benderfynu a ydych chi eisiau  ymuno â ni neu beidio.

Ar ôl gweithio gyda’n gilydd fel grŵp ers peth amser, penderfynom ei bod hi’n bryd rhoi egwyddorion y Ddeddf Llesiant ar waith, yn enwedig y pum ffordd o weithio. Dyma’r cwestiynau gododd ymysg ein gilydd:

  • Beth yw cyfraniad hirdymor y grŵp? Beth yw’r pwynt i ni gyfarfod o dro i dro i rannu’n syniadau? Beth sy’n digwydd i’r syniadau hynny? Beth sydd gennym i ddangos am ein hymdrechion?
  • Nid yw cyfarfod er mwyn ticio bocs yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud felly sut allwn ni osgoi syrthni sefydliadol a marweidd-dra a sicrhau fod ein grŵp ni’n berthnasol?
  • Mae cydweithio yn rhywbeth yr ydym yn anelu ato ond yn rhy aml mae’n sefydliadau’n cystadlu â’i gilydd; diffiniodd rhywun ‘cydweithio’ rhyw dro fel ‘gohirio casáu’n gilydd dros dro wrth chwilio am fwy o gyllid’. Cododd hynny wên yn ein mysg gan ein bod i gyd yn adnabod fod llygedyn o wirionedd yna. Sut felly y gallem ni gydweithio go iawn?
  • Mae integreiddio yn ddyhead arall – integreiddio’r hyn a wnawn yn hytrach na dilyn ein hamcanion ni ein hunain mewn sylos. Sut allwn ni wneud yn well?
  • Mae tynnu pobl i ymuno mewn yn syniad sy’n cario llawer o bwysau ond mae’n anodd ei gyflawni. Pwy ddylai fod yn rhan o’r grŵp? Pwy ddylai wneud beth? Pryd? Ble?

Wrth i ni ystyried y cwestiynau hyn fel grŵp yng Nghynhadledd Newid Ymddygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2017, heriodd Yvonne Jones o Brifysgol Abertawe (yr unig aelod craidd sy’n weddill o ysgrifenyddiaeth y RCE Cymru gwreiddiol), ni i adfywio Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (RCE Cymru) i adlewyrchu ein ffordd newydd o feddwl a’r syniadaeth y tu ôl i’r Ddeddf Llesiant. A dyma ni, ddeunaw mis yn ddiweddarach yn awyddus i ail-lansio RCE Cymru ar ei newydd wedd, yn barod i gyfrannu’n weithredol i rwydwaith rhyngwladol o dros 160 o grwpiau tebyg sy’n brysur yn cymhwyso amcanion cynaliadwyedd byd-eang i gyd-destun cymunedol lleol, gyda phwyslais ar les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae gan rwydweithiau’r RCE reolau penodol a’r ddwy reol aur yw i) bod rhaid i RCE gael ei arwain gan Brifysgol a ii) mae’n rhaid iddo ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Felly, rydym wedi dod â grŵp bach o dri o bobl ynghyd i weithredu fel Ysgrifenyddiaeth i ddelio ag adrodd ond mae’r gweddill yn hylif ac yn agored i awgrymiadau.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu nifer o gylchoedd o ddiddordeb ac yn chwilio am gyfranogwyr sydd â diddordeb. Hyd yn hyn mae’r grwpiau canlynol wedi dod i’r amlwg:

  • Yr economi gylchol (wedi’i gydlynu gan Dr Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe)
  • Prifysgolion a Cholegau Iach (wedi’i cydlynu gan Chris Deacy, Met Caerdydd)
  • Adfywio (wedi’i gydlynu gan Dr Sheena Carlisle a Tim Palazon, Met Caerdydd)
  • Addysgu a Dysgu (wedi’i gydlynu gan Dr Carolyn Hayles, Prifysgol Cymru, Drindod Dewi Sant)
  • Mae cyfathrebu yn thema drawsbynciol ac fe’i cydlynir gan fy nhîm ym Mangor.

Mae cylchoedd eraill ar y gweill:

  • Addysgu ar gyfer system fwyd well (Jane Powell)
  • Presgripsiynau Cymdeithasol (wedi’i gydlynu gan Nina Ruddle, Glyndŵr)
  • Iaith a Diwylliant (cydlynwyr i’w cadarnhau)
  • Seinfyrddau ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Nina Ruddle a Dr Einir Young – yng ngogledd Cymru i ddechrau)

Felly i ateb ein pum cwestiwn gwreiddiol, dyma lle rydym ni arni:

Ein gweledigaeth hirdymor yw creu strwythur gwirioneddol ar y cyd (credwn y bydd trefn yr RCE yn hwyluso hyn) i ddarparu ‘lle i feddwl’ ar gyfer cylchoedd o ddiddordeb i drafod eu heriau penodol, yn eu hamser eu hunain a’u ffordd eu hunain. Mater i bob grŵp yw penderfynu sut maen nhw’n rhoi trefn ar eu hunain a mesur llwyddiant.

Bydd y cylchoedd o ddiddordeb yn darparu gofod ar gyfer sgwrs ddwy ffordd rhwng y grŵp RCE craidd a’r cylchoedd yn cynhyrchu llif cyson o syniadau newydd a darparu cyfleoedd ar gyfer croes-ffrwythloni syniadau rhwng y cylchoedd. Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu fel bo’r galw gan y grŵpiau eu hunain er mwyn osgoi diflastod.

Rhaid i gydweithio gael ei seilio ar ymddiriedaeth ac mae hwn yn gyfle i archwilio, yn hollol rydd, sut y gall cyfangorff fod yn fwy effeithiol na chyfanswm y rhannau gwasgaredig. Nid cyllid i gecru drosto, nid oes targedau allanol. Nid oes pwysau i ymuno ac yn bwysicach fydd does dim cywilydd o ran methu – rydym yma i ddysgu gyda’n gilydd.

Mae yna lawer o fentrau o gwmpas sy’n gysylltiedig â’r holl gylchoedd o ddiddordeb yn barod. Bu sawl ymdrech i orfodi sefydliadau i weithio gyda’i gilydd yn ‘oer’, heb ddigon o amser i sicrhau fod sylfeini o gyd ymddiried yn bodoli. Rydym yn gobeithio y bydd natur wirfoddol RCE Cymru drwy’r HEFGG yn hwyluso mwy o integreiddio a rhannu syniadau er mwyn goresgyn y tueddiad i gadw pethau i ni’n hunain a meddwl am bethau mewn termau ‘ni v. nhw’.

Y newyddion da yw y gall unrhyw un a phawb gymryd rhan os dymunwch. Nid yw hwn yn glwb caeedig. Prif gymhwyster cael eich cynnwys yw bod gennych chi feddwl agored, agwedd bosib, meddwl creadigol a pharodrwydd i gymryd risg (lle gallai methu fod yn opsiwn) ac ymrwymiad i drio. Ond nid ydym yn chwilio am ferthyron chwaith – os ydych yn rhy brysur, dim problem. Dylai’r cyd-weitho gyda’r cylchoedd diddordeb ffitio mewn gyda’ch gwaith bob dydd neu fod yn rhywbeth ychwanegol fydd o fudd personol i chi o’ch gwirfodd. Mae cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig

Cadwch eich llygad ar agor am gyfres o flogiau fydd yn esbonio dyheadau pob un o’r cylchoedd o ddiddordeb yn eu tro.

Dwi’n aros yn eiddgar am donau o sylwadau ac adborth. Ymlaen mae Canan!

Einir YoungDr Einir Young yw Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor. Mae ei thîm yn y Lab Cynaliadwyedd yn rhan o Wasanaethau Canolog y Brifysgol ochr yn ochr â’r timau Cynllunio, Llywodraethant ac Adnoddau Dynol er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol i’r Brifysgol.

Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithio â busnesau a sefydliadau sydd wedi eu dadrithio â’r meddylfryd fod ‘un maint yn addas i bawb’. Mae’n croesawu’r her o ddod o hyd i atebion effeithiol i faterion cymhleth ‘cynaliadwyedd’, gan ganolbwyntio ar greu ffyniant trwy barchu pobl a byw o fewn ffiniau adnoddau’r blaned. Yn ei barn hi, mae dyddiau ‘hen werthoedd y pwerus’ a’r rheoli oddi fry yn dod i ben ac mae’n croesawu’r rhwyddineb a’r ffresni sy’n dod yn sgil ‘gwerthoedd y grymoedd newydd’ sydd ynghlwm wrth weithgareddau torfol, tryloywder radicalaidd a rhywbeth mor syml ag ymddiried mewn pobl.

Yn ei hamser hamdden mae cymryd cerdded o ddifri. Y cynllun ar hyn o bryd yw cwblhau Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Llechi Eryri; yn ddiweddar cerddodd o gwmpas Malta. Llinyn mesur llwyddiant ar gyfer unrhyw gyrchfan yw safon ac ansawdd y teithiau cerdded. Cymru sy’n fuddugol bob tro.

Pa mor uchelgeisiol y gallech fod?

data_speechMae Alice Turner @YLabWales wedi ysgrifennu blog ar ein cyfer yn dilyn ein seminar Ddigidol ddiweddaraf ‘Ysbrydoli gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni annibyniaeth a lles trwy uchelgais ddigidol‘. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am ei phrofiad o’r diwrnod a sut y gall Y Lab helpu i’ch cefnogi os cafoch chi eich ysbrydoli gan ein digwyddiad…

Gwnaethom dreulio’r bore yn  #WAODigital18, yn dysgu a rhannu gan sefydliadau yng Nghymru sydd am ddod â mwy o arloesedd digidol i’w gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Shirley Ayres @shirleyayres o Rwydwaith Connected Care ‘Nid oes gan un sector yr holl atebion i’r problemau drwg. Dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn arwain y ffordd.’

Roedd clywed straeon ac enghreifftiau o wahanol sectorau yn ysbrydoledig, gyda llawer o heriau cyffredin yn cael eu nodi. Fel y dywedodd Shirley, dechrau’r daith yw hon, felly beth yw’r cam nesaf?

Y Lab yw labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru – rydym yn datblygu’r gallu i arloesi, cefnogi syniadau newydd ac ymchwilio i sut a pham bod arloesedd gwasanaethau cyhoeddus yn digwydd.

Os cafoch chi eich ysbrydoli gan y seminar a’ch gadael yn llawn syniadau, rydym ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau am Arloesi i Arbed, rhaglen gwerth £5.8m o gyllid cyfunol a chymorth wedi’i deilwra i sefydliadau sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi wyth sefydliad (gan gynnwys Innovate Trust, a oedd yn rhan o siaradwyr y panel llawn a gyflwynodd weithdy yn y digwyddiad) i brofi ei syniad a gwneud gwaith ycmhwil arno er mwyn gweld a yw’n gweithio. Mae’r cam nesaf ar gyfer y prosiectau hynny bellach yn mynd rhagddo, gyda benthyciad di-log i ystyried a gweithredu ei syniad.

Beth fyddech chi’n ei geisio? Os oes gennych syniad a allai greu arbedion y gellir eu troi’n arian a darparu gwasanaethau gwell, rydym yn eich annog i gysylltu â ni a siarad â ni amdano. Dewch i un o’n trafodaethau i weld beth arall sydd ar gael. Mae’r rhaglen ar agor i bob sefydliad sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a sefydliadau trydydd sector. Pa mor uchelgeisiol y gallech fod?

Ym mis Mehefin a Gorffennaf, rydym yn cynnal nifer o drafodaethau am ddim ar hyd a lled Cymru o arloeswyr gan gynnwys Futuregov, Tîm Gwybodaeth am Ymddygiad, Llywodraeth Cymru a Citymart, a fydd yn arddangos ac yn archwilio arfer gorau a datblygiadau newydd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Beth am ymuno â ni?

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Gorau Arf, Dysg

Mae Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi creu blog ar ein cyfer cyn ein gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Camau Bach, Newid Mawr ar 12 Mehefin 2018.

Mae gan Gymru uchelgeisiau i fod yn arweinydd byd-eang o ran trechu, lliniaru ac atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Er mwyn llwyddo yn hyn, rhaid i bawb fod yn ymwybodol o ACEs, yr hyn maent yn ei olygu i ni fel unigolion a phawb o’n hamgylch, a deall ein rôl unigryw wrth eu trechu, yn ein bywydau proffesiynol a phersonol.

Mae’r ffilm Resilience yn dweud wrthym: “Once you give people the information, they will find creative solutions,” ac rydym eisioes wedi gweld hyn yn dechrau digwydd yn y ffordd y mae rhai sefydliadau yng Nghymru wedi ymateb wrth ddysgu am ACEs, gan newid ffyrdd o weithio er mwyn bod yn wybodus am ACE. Er enghraifft, drwy ganolbwyntio ar berthnasoedd a phobl, yn hytrach na phrosesau.

Mae’r Hyb Cymorth ACE wedi cydgynhyrchu Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth a fydd yn helpu pawb yng Nghymru i ddeall ein rhan ni wrth drechu ac atal ACEs. Bydd yn ein helpu i herio ni ein hunain a meddwl “Beth alla i wneud yn wahanol?” ac adnabod yr hyn rydym eisoes yn ei wneud. Mae’r fframwaith yn berthnasol i bawb, nid gweithwyr ac ymarferwyr rheng flaen yn unig, wrth gefnogi pobl y mae trawma wedi effeithio arnynt, adnabod bod effeithiau ACEs yn eang a’u bod yn effeithio ar bobl o bob oedran ac o bob cefndir.

Nid yw’r Fframwaith wedi’i derfynu eto, ac mae’r Hyb Cymorth ACE wedi casglu adborth drwy sesiynau cynnwys gyda gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Mae’r adborth wedi bod yn amrywiol; mae rhai yn meddwl ei fod yn wych ac mae eraill yn gyfarwydd â’r cysyniadau. Mae’r Hyb bellach am ei gyfuno â fframweithiau sydd eisoes yn bodoli.

Rydym ni’n gwybod na fydd hyfforddiant yn unig yn golygu y bydd newid yn digwydd. Bydd y Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE yn sail i weithgareddau drwy ddisgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen ar unigolion a’u sefydliadau er mwyn creu’r amgylchedd ar gyfer newid.

Felly, beth golyga fod yn wybodus am ACEs?

Mae unigolion sy’n wybodus am ACEs yn meithrin perthnasoedd â phobl, gan edrych ymhellach na symptomau ac ymddygiad a chan ddangos caredigrwydd, trugaredd a dealltwriaeth. Maent yn adnabod dangosyddion gydol oes ACEs, gan wybod mai’r cwestiwn yw “Beth ddigwyddodd i chi?” yn hytrach na “Beth sydd ‘o’i le’ gyda chi?” Maent yn deall bod ymddygiad yn ffordd o gyfathrebu a bod yn rhaid i ni gymryd amser i ddeall hyn yn hytrach na beio rhywun am ei ymddygiad. Maent yn cefnogi, yn cyfeirio neu’n diogelu’n briodol. Maent yn defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar seicoleg wrth gefnogi pobl; maent yn ystyried yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn hwnnw a pha gefnogaeth a fyddai’n datblygu ei gryfderau, ei sgiliau a’i adnoddau.

Mae pobl sy’n medrus o ran ACE yn ymarferwyr myfyriol sy’n dangos eu rôl wrth drechu ACEs. Maent yn nodi eu dulliau cefnogi eu hunain, gan eu cyrchu yn ôl yr angen, ac maent yn cyfrannu at welliant parhaus mewn perthynas â’u hymarfer.

Mae’r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ACE drafft yn pennu gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu ar dair lefel.

  • Mae’r lefel ‘gwybodus am ACEs’ yn disgrifio gwybodaeth a sgiliau cyffredinol sy’n sail i bopeth arall. Mae pobl sy’n wybodus am ACEs yn deall natur ACEs ac maent yn gwybod yr effeithiau gydol oes sydd ganddynt. Maent yn deall sut i gyfathrebu’n effeithiol a phryd y mae angen iddynt ofyn am gyngor a chefnogaeth.
  • Mae’r lefel ‘medrus o ran ACEs’ yn disgrifio gwybodaeth a sgiliau cymhwysol. Mae pobl sy’n medrus o ran ACEs yn wybodus am ACEs ac mae ganddynt wybodaeth a sgiliau mwy manwl a chynhwysfawr o ran deall effeithiau ACEs. Gallant werthuso materion yn feirniadol a defnyddio sgiliau a gwybodaeth i gefnogi pobl.
  • Mae lefel ‘Dylanwadwyr’ yn disgrifio egwyddorion ar gyfer datblygu a chynnal diwylliant sefydliadol a chefnogaeth systemig sy’n galluogi pobl wybodus a medrus i ffynnu a rhoi o’u gorau. Mae Dylanwadwyr ACE yn bobl â rôl arwain a/neu strategol. Maent yn wybodus am ACEs, yn galluogi eraill i fod yn wybodus ac yn fedrus am ACEs ac maent yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’w gweithlu ac y gellir cal mynediad iddi. Maent yn sicrhau ymagwedd at reoli gwasanaethau a thimau sydd wedi’u llywio gan ACEs. Yn bwysicach oll, maent yn sefydlu diwylliant sy’n cydnabod bod ACEs yn gyffredin ac yn systemig a bod angen ymateb o safon iddynt.

SK Framework V1a_CY

Mae’r Hyb Cymorth ACE yn chwilio am gyfleoedd i dreialu’r Fframwaith mewn sefydliadau yng Nghymru. Cysylltwch â Kelly McFadyen os oes diddordeb gennych mewn fod yn rhan o’r gwaith hwn.

Pa mor uchelgeisiol y gall eich sefydliad fod o ran defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Mae Paul Taylor @PaulBromford, o Bromford Housing, wedi ysgrifennu blog ar ein cyfer cyn ein seminar ‘Ysbrydoli gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno annibyniaeth a llesiant drwy uchelgais ddigidol’ ar 5 a 14 o Fehefin. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am newid digidol, y rhwystrau diwylliannol ac am dorri’n rhydd o hen arferion…

Rydym yn byw mewn oes arbennig iawn.

Gallwch brynu llechen Android am lai na £50 yn eich archfarchnad leol. Er na chaiff ei hystyried fel un o’r goreuon ar y farchnad yn y maes technoleg – bydd yn rhoi mynediad i chi at ryngrwyd sy’n gwasanaethu hanner poblogaeth y ddaear.

Mae dros dair biliwn o bobl ar-lein, sy’n rhannu newyddion, sefydlu cymunedau newydd, cofnodi hanes ein planed, ac yn llunio ei dyfodol.  Er hynny, mae sefydliadau sector cyhoeddus yn gymharol araf o hyd yn addasu i gyfleoedd technoleg ddigidol.

Felly os gall dyfais sy’n costio £50 newid bywydau pobl, pam fod sefydliadau yn treulio cymaint o amser ac yn gwario ar adnoddau ‘trawsnewidiadau digidol’ nad ydynt yn cyflawni eu hamcanion yn aml?

Y broblem yw bod newid digidol yn gofyn am ffordd o feddwl hollol wahanol nad yw’n seiliedig ar sgiliau yn unig. Bellach mae ein cwsmeriaid yn derbyn gormod o wybodaeth bob dydd, ac oherwydd hynny mae eu rhychwant sylw wedi gwaethygu’n gyflym.

Mae ail-ddylunio ein gwasanaethau o gwmpas ein cwsmeriaid yn gofyn am feddylfryd mwy diwylliannol na thechnolegol. Mae’n golygu bod angen i ni fabwysiadu ymddygiadau sefydliadol gwahanol.

Gallaf weld rhai o’r rhwystrau diwylliannol sydd angen i ni eu goresgyn os byddwn am gynnal disgwyliadau ein dinasyddion a’n cymunedau:

  • Mae sefydliadau yn parhau i orfeddwl technoleg ddigidol ac maent yn ofalus iawn – gan aros i bethau dawelu cyn penderfynu ar beth i’w wneud. Gellir dadlau bod yr opsiwn ‘aros i weld’ hwn yn fwy tebyg i ‘aros i farw’.
  • Weithiau, rydym yn defnyddio ffyrdd o weithio sydd eisoes yn bodoli ac yn eu digideiddio – gan drosglwyddo problemau heddiw i lwyfan arall mewn gwirionedd.
  • Mae rhai yn gwrthod newid gan eu bod yn meddwl y byddai trafod cudd-wybodaeth artiffisial yn pechu staff neu eu defnyddwyr – fel pe baent yn byw mewn rhyw fyd lle nad yw Siri, Alexa, Cortana a Google yn bodoli.
  • Ac mae rhai sy’n ystyried technoleg ddigidol fel cyfle i dorri costau yn unig. Maent yn canolbwyntio ar y tymor byr yn hytrach na’i ystyried fel buddsoddiad yn eich dyfodol.

Mae’n ymddangos yn syml – ond gellir negodi llawer o’r rhwystrau hyn os byddwn yn dechrau gyda’r defnyddiwr ac yn ffurfio ein cynnig digidol o gwmpas y berthynas sydd ei hangen arnynt.

Yn Bromford rydym wedi lansio dull a elwir yn Hyfforddi’r Gymdogaeth. Dyma ganlyniad yr holl brofi, treialu a’r gwaith archwilio rydym wedi bod yn eu cynnal dros y saith mlynedd diwethaf. Gan ddysgu o’r holl dreialon hyn, ein prif gasgliad yw: dim ond wrth ddod i’w hadnabod yn iawn y gallwn gael yr effaith fwyaf ar ein cymunedau ac yn cael ein rhyddhau o’n harferion blaenorol.

Mae’r arferion hyn yn cynnwys dull seilo o weithio, polisïau cyfyngol, dibyniaeth ar ganolfannau cyswllt a meddalwedd ‘rheoli’ perthynas cwsmeriaid.

Mae gennym gyfle i gefnogi’r berthynas gywir gyda’r dechnoleg gywir – lle mae technoleg ddigidol yn galluogi pwrpas gwell. I ni, mae hyn yn golygu nad ydym yn canolbwyntio ar Bromford fel terfyn y daith ond yn hytrach ei ystyried fel llwyfan ar gyfer cysylltu pobl er mwyn iddynt gyflawni eu dymuniadau.

Caiff rhywfaint o hyn ei gyflawni gan offer digidol, ond ni fydd hynny’n ddigonol. Mae ein dull yn seiliedig ar ein canfyddiadau a’r ffordd orau o’i gyflawni yw sicrhau mai ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid sy’n gyfrifol am dechnoleg a’u bod yn rhoi cynnig ar bethau mewn ffordd sydd â chost a pherygl isel.

Ni all y mwyafrif ohonom roi ein barn ar rywbeth drwy ddarllen amdano yn unig. Mae angen i ni ei weld, ei deimlo a’i brofi. Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar yr hyn a elwir yn ‘brofion’. Mae profion fel arfer yn cynnwys amser cyfyngedig, braidd dim adnoddau a risg isel o ganlyniad i hynny. Gallai enghraifft o hyn olygu creu rhywbeth o’r newydd, megis tudalen we, a gofyn am farn cwsmeriaid, neu roi mynediad iddynt at Alexa Amazon a dadansoddi’r hyn y maent yn ei gyflawni ohono. Mae’r holl egwyddor yn canolbwyntio ar gyflwyno pethau i bobl cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi treulio cymaint o amser a gwario cymaint o arian ar fethiannau drud.

Pa mor uchelgeisiol y gall eich sefydliad fod o ran defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Mae’r ateb gyda’ch cwsmeriaid a’ch defnyddwyr – a bydd yn llai cymhleth o lawer na’r hyn rydych yn ei ddisgwyl fwy na thebyg.

“Gweithredoedd yn fwy na geiriau yw’r gobaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”

Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wedi siarad droeon ynghylch pam bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gyfle i bob un ohonom fesur yr hyn sy’n bwysig, nid dim ond yr hyn y gellir ei gyfrif. Mae Sophie yn blogio cyn gweminar GPX ‘Symud o allbynnau i ganlyniadau’

Mae teitl y blog hwn yn rhan o frawddeg a ddefnyddiwyd gan Nikhil Seth o’r Cenhedloedd Unedig ac a ddyfynnwyd droeon ynghylch pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn 2015. Rwy’n ei ddefnyddio’n aml mewn areithiau a chyflwyniadau, gan fod y dyfyniad llawn yn awgrymu bod Cymru yn arweinydd byd-eang wrth fabwysiadu deddfwriaeth arloesol o’r fath. Ond “gweithredoedd yn fwy na geiriau yw’r gobaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol” sy’n taro tant gyda mi.

Ers degawdau, rydym wedi bod yn gweithredu mewn ffordd ‘adweithiol’, yn delio ag argyfyngau wrth iddynt godi. Mae hyn yn ddealladwy wrth fynd ati i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cadw pobl a sefydliadau yn ddiogel. Yn sgil hynny, rydym yn mesur yr hyn rydym wedi’i wneud – yn cyfri’r bobl a welwyd, yn cofnodi nifer y bobl yr ymdriniwyd â nhw, ac yn gosod amserlenni a phwysau mympwyol arnom ni eu hunain – er mwyn gwneud i bethau ddigwydd…i weithredu. Ond, onid yw’n amser i ni gwestiynu ai’r camau gweithredu hyn oedd y rhai cywir i’w cymryd?

Mae pobl yn aml yn dweud wrtha’ i fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi rhoi caniatâd iddynt gwestiynau’r hyn rydym wedi’i wneud erioed. Mae gosod egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd yr hyn a wnawn fel sector cyhoeddus yng Nghymru yn golygu meddwl yn wahanol a gweithredu mewn ffordd sy’n caniatáu i’r cenedlaethau presennol ddiwallu eu hanghenion heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni feddwl yn hirdymor, ystyried effaith yr hyn a wnawn nawr ar genedlaethau’r dyfodol, cydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig wrth geisio rhwystro problemau rhag digwydd neu waethygu a chynnwys pobl yn ein cymunedau wrth weithio tuag at gyflawni’r saith nod cenedlaethol.

Allwn ni ddim gwneud hyn drwy fesur yr effaith a gawn mewn ffordd draddodiadol. Er mwyn gwneud pethau’n wahanol, mae’n rhaid i ni fesur pethau gwahanol. Yn aml, caiff mesurau perfformiad traddodiadol eu gorfodi ar gyrff cyhoeddus ac anaml y byddant yn adlewyrchu gwraidd y mater neu’n ein helpu i ddeall sut i atal y broblem rhag digwydd yn y lle cyntaf. Y tu ôl i’r mesurau i ddarparu asesiad statudol o fewn 5 diwrnod, ymateb yn gyflymach i alwad neu ddelio â mater o fewn mis mae pobl go iawn, fel ni a’n teuluoedd. Rydym yn defnyddio llu o wasanaethau cyhoeddus, mae sawl ffactor yn dylanwadu ar ein llesiant ac, yn rhy aml, rydym yn wynebu trafodaethau dryslyd am drothwyon ac amodau cymhleth i gyrchu gwasanaethau. Caiff llawer ohonynt eu hysgogi gan y mesurau y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’u pennu iddyn nhw eu hunain. Anaml y gofynnwn ‘Beth sy’n bwysig i chi?’ neu ‘Beth fyddai’n eich helpu fwyaf?’ Anaml rydym yn mesur pa mor dda rydym wedi’i wneud o ran gwella llesiant rhywun.

Yn fy adroddiad diweddar, Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn, rwyf wedi myfyrio ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn symud o wneud pethau syml i arwain y ffordd ym maes datblygu cynaliadwy. Mae’r canllawiau i’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy lywio’r hyn rydych yn ei wneud, sut rydych yn ei wneud a sut rydych yn cyfleu‘r gwahaniaeth rydych yn ei wneud (drwy gyfrwng adroddiadau). Wrth fynd ati i adolygu’r datganiadau llesiant cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017, nid yw’n glir eto sut mae sefydliadau yn gwneud synnwyr o’u dyletswyddau a sut mae hyn yn ymwneud â deddfwriaeth arall, eu hamcanion corfforaethol, trefniadau cynllunio busnes a’u gweithrediadau o ddydd i ddydd. Dylai adroddiad blynyddol fod yn rhan annatod o waith y sefydliad ac ni ddylai’r egwyddor datblygu cynaliadwy gael ei ‘atodi iddo’.

Mae cyfleu’r newid hwn yn bwysig. Mewn adroddiadau blynyddol a datganiadau llesiant y dyfodol, rhaid i gyrff cyhoeddus egluro’r camau a gymerwyd ganddynt i gyflawni eu hamcanion, pa mor effeithiol fu’r camau hynny, sut maent yn olrhain cynnydd a sut maent yn mabwysiadu neu’n addasu ffyrdd newydd o ddangos cynnydd. Mae angen i bobl y tu allan i’r sefydliad, fel chi a fi, ddeall yr hyn y maent wedi’i wneud hyd yn hyn? Beth mae’n ei olygu i mi? Ble hoffet fod ar y mater hwn yn y 5, 10, 25 mlynedd nesaf a thu hwnt? Sut maent yn mynd i gyflawni hynny? Sut byddaf yn gweld gwelliannau yn fy ardal leol neu fy mywyd?

Erbyn hyn, mae llawer o gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus (Prif Weithredwyr ac arweinwyr y sector cyhoeddus lleol yn cydweithio) yn ystyried sut maent yn cyfleu’r newid y maent yn ei wneud. Bydd hyn yn cymryd amser, ond mae’n galonogol gweld eu bod yn ystyried ffyrdd gwahanol o ddiffinio effaith a monitro cynnydd. Mae gweithredoedd yn bendant yn bwysicach na geiriau. Fy nghyngor i yw bod angen mesur yr hyn sy’n bwysig, nid dim ond yr hyn y gellir ei gyfrif.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi ‘Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn’ er mwyn ategu adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Tîm Cadw’n Iach Gartref (SW@H)

Emma Ralph, Stay Well @ Home

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd SW@H yn bresennol yn nigwyddiad ‘Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty’ eleni. Roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol rhoi blas i chi ar ein model gwasanaeth newydd cyffrous cyn y digwyddiad. Ond er mwyn cael cyfle gwirioneddol i glywed am y gwaith gwych y mae’r tîm yn ei wneud, ymunwch â ni yn un o’r gweithdai y byddwn yn eu cynnal yn y De a’r Gogledd.

Mae SW@H yn ffordd newydd ac arloesol o weithio, lle mae partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi dod ynghyd i greu ffordd wirioneddol integredig o gydweithio er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Sut rydym yn gwneud hyn? Rydym yn dîm amlddisgyblaethol, integredig a leolir yn yr ysbyty ac sy’n cynnwys Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a Gweithwyr Cymdeithasol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar atal unigolion rhag cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen drwy gynnig asesiadau cynnar yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, ond rydym hefyd yn gweithio i leihau faint o amser y mae unigolion yn aros yn yr ysbyty drwy gynnal asesiadau amserol a thrylwyr sy’n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ a defnyddio gwasanaethau yn y gymuned i gynorthwyo rhywun yn ei gartref ei hun yn hytrach nag mewn gwely ysbyty.

Beth sy’n newydd am hyn? Wel, rydym yn gweithio patrymau sifft 12 awr dros 7 diwrnod ond, yn bwysicach fyth, rydym wedi gwella ein gwasanaethau yn y gymuned ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, megis gwasanaeth cymorth yn y cartref (Support@Home) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gwasanaeth nyrsio yn y cartref (@Home) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sydd hefyd yn darparu gwasanaeth ymateb 4 awr ac yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos er mwyn cynnig cymorth cynhwysfawr i unigolion yn eu cartref ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. I grynhoi, gallwn gynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Drwy ddatblygu ‘rôl yr Aseswr yr Ymddiriedir ynddo’, gallwn sefydlu pecynnau cymorth o fewn 4 awr, 7 diwrnod yr wythnos
  • Gwasanaethau ymateb cyflym yn y gymuned i gefnogi’r tîm yn yr ysbyty (iechyd a gofal cymdeithasol)
  • Ailddechrau neu gynyddu pecynnau gofal er mwyn hwyluso’r broses o ryddhau unigolion o’r ysbyty i fynd adref, 7 diwrnod yr wythnos
  • Rydym yn defnyddio amrywiaeth o opsiynau datrys problemau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys (gan gynnwys gwasanaethau’r trydydd sector)
  • Cynhelir adolygiad o anghenion unigol pawb a ryddheir o’r ysbyty i fynd adref drwy ein tîm ni o fewn 14 diwrnod

Dewch i ymuno â ni yn ein gweithdai lle y byddwn yn sôn am rai achosion go iawn ac yn trafod sut mae’r model ymarfer hwn wedi gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. #noplacelikehome #rightcareattherighttimeintherigthplace #personattheheart

Tri chwestiwn…

Os gwnaethoch ddarllen ein blog blaneorol, byddwch yn gwybod bod y seminar sydd ar ddod, Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty?, yn ymwneud â chynllunio i ryddhau cleifion a’r gwasanaethau sy’n ymwneud â’r broses honno.  O edrych ar hyn o safbwynt arall, dechreuais feddwl am sut y byddwn yn teimlo pe bawn yn glaf.  Sut byddwn am i’r broses o’m rhyddhau o’r ysbyty gael ei chynllunio?

Rwy’n unigolyn trefnus ac effeithlon *dros ben* yn y gwaith.  Pe bawn yn mynd i mewn i’r ysbyty, rwy’n gwybod y byddwn yn ceisio cynllunio fy nihangfa yn fanwl cyn gynted ag y bo’n bosibl (mae ysbytai’n iawn wrth gwrs, ond byddai’n well gennyf fod gartref!).  Byddwn am wybod yr hyn a oedd yn digwydd i mi, pam ei fod yn digwydd a phryd roedd yn digwydd.  Ac yn sicr byddwn am wybod pa mor gynnar y gallwn fynd adref a’r hyn roedd angen i mi ei wneud er mwyn helpu hynny i ddigwydd.  Gwnaeth hyn fy arwain i feddwl am y tri chwestiwn isod a ddylai, yn fy marn i, helpu unrhyw glaf i sicrhau y gall helpu i gynllunio cael ei ryddhau.

Beth sy’n mynd i ddigwydd tra fy mod yma?

Rwyf am wybod pam fy mod yn yr ysbyty ac ai hwn yw’r lle gorau i mi, y math o ofal y gallwn ei gael a’r hyn y gallaf ei wneud i helpu fy hun.  Pa ofal neu driniaeth sydd ei (h)angen arnaf i wella a phryd bydd y pethau hynny’n digwydd yn ystod fy arhosiad?  A fydd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal eraill yn ymwneud â’m gofal (e.e. gweithwyr cymdeithasol, therapyddion neu weithwyr cymunedol), ac a fyddaf yn cwrdd â nhw tra fy mod yn yr ysbyty neu ar ôl i mi fynd adref?

Rwyf am ddechrau cynllunio cael fy rhyddhau yn syth, nid ar ôl i mi glywed y gallaf fynd adref.  Mae hynny’n ein harwain at y cwestiwn nesaf…

Pryd rydw i’n mynd adref?

Rwyf eisiau gwybod cyn gynted ag rwy’n cyrraedd (o fewn 24-48 awr) pryd rwy’n debygol o fynd adref.  Mae gennyf swydd, plentyn pedair blwydd oed a bywyd i fynd yn ôl atynt ac mae’n rhaid i mi wneud cynlluniau (sôn am gynllunio eto) ar gyfer yr hyn sy’n digwydd gartref tra fy mod yn yr ysbyty.  Rwy’n deall y gall y dyddiad hwn newid wrth i’m triniaeth fynd rhagddi, ond rwyf am i hyn gael ei adolygu’n rheolaidd ac rwyf am gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Beth sydd ei angen arnaf er mwyn mynd adref?

Mae’r cwestiwn hwn yn llawer mwy na bod yn ‘feddygol iach’ i adael yr ysbyty, gallaf fod yn feddygol iach heb fod yn barod i gael fy rhyddhau.  Mae hyn yn golygu y dylai staff ofyn i mi sut rwy’n ymdopi gartref ar hyn o bryd ac am y mathau o gymorth, ffurfiol neu anffurfiol, a gaf eisoes.  Ond mae cwestiynau eraill y mae angen eu hateb hefyd.  I mi, mae’r cwestiynau hyn yn cynnwys yr hyn y gallaf ei wneud i helpu fy hun, ond hefyd a yw popeth y bydd ei angen arnaf yn barod i mi symud yn ôl adref a gwella.  Os wy’n lwcus, byddai fy atebion yn weddol syml – rwy’n gwybod fy mod yn mynd i rywle diogel a bod pobl gartref i ofalu amdanaf.  I eraill, gall hyn fod yn llawer mwy cymhleth.  Rwy’n meddwl am bethau fel:

  • A yw fy nghartref yn addas i mi fyw ynddo ar hyn o bryd? A yw’n gynnes, yn sych a/neu’n hygyrch?
  • A oes gennyf ddillad i’w gwisgo i fynd adref?
  • Pwy sy’n mynd i fynd â fi adref?
  • A oes gennyf fwyd gartref?
  • A oes unrhyw un yn gwybod fy mod yn mynd adref (teulu/gwasanaethau eraill/cymorth/gofalwyr)?
  • A fyddwch yn dweud wrth fy meddyg teulu i mi gael fy nerbyn i’r ysbyty a pham?
  • A fyddwch yn rhoi gwybodaeth i mi am yr hyn y dylid ei wneud os byddaf yn sâl pan gyrhaeddaf adref?
  • A ddylwn ddisgwyl ymweliad cartref neu a fyddaf yn cael apwyntiad arall neu ragor o gymorth neu apwyntiadau dilynol?
  • A fydd fy meddyginiaeth yn barod pan fyddaf yn gadael?
  • A oes unrhyw ffactorau eraill a all effeithio ar fy rhyddhad?

Os byddwch yn glaf yn yr ysbyty, neu os byddwch yn gofalu am rywun ac mae’n mynd i mewn i’r ysbyty, cofiwch y cwestiynau hyn.  Mae’r ddeialog hon rhwng cleifion a staff yn gallu lleihau oedi drwy dynnu sylw at broblemau posibl yn gynnar yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau y cewch chi, neu eich anwyliaid, eich/eu rhyddhau mewn modd diogel ac amserol.

Oes rhaid i mi aros yn yr ysbyty

Bydd ein seminarau ar gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn cael eu cynnal ar 14 a 22 Mawrth.  Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da wedi cydweithio y tro hwn gyda thîm Iechyd Swyddfa Archwilio Cymru.  Gwnaeth Sara gwrdd ag Anne i drafod pam bod y seminar hon yn digwydd nawr.

Os mai dim ond 1,000 o ddiwrnodau oedd gennych ar ôl i fyw,

sawl un ohonyn nhw fyddech chi’n dewis eu treulio yn yr ysbyty? (#last1000days)

Mae cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn broses barhaus er mwyn nodi’r gwasanaethau a’r cymorth y gall fod eu hangen ar rywun wrth adael yr ysbyty (neu symud rhwng ysbytai).  Yn ddiweddar cwblhaodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiadau o drefniadau cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn y byrddau iechyd.  Dangosodd yr adolygiadau, er bod gan y byrddau iechyd y fframweithiau ar waith i gefnogi cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, fod nifer o resymau a oedd yn atal y broses o ryddhau cleifion rhag bod mor effeithiol ag y gallai fod.

Mae’r rhan fwyaf o achosion o ryddhau cleifion yn gymharol syml, ond ar gyfer tua 20% o gleifion mae’r broses o’u rhydau yn llawer mwy cymhleth, am sawl rheswm gwahanol.  Mae nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi bod yn cynyddu’n raddol yn ystod 2017, ac mae nifer y cleifion a oedd wedi gorfod aros 13 wythnos neu fwy yn cynyddu.  Mae’r oedi hwn cyn rhyddhau cleifion yn arwain at ganlyniadau gwaeth i bobl am eu bod yn colli eu hannibyniaeth a’u symudedd.

Am bob 10 diwrnod o orffwys mewn gwely yn yr ysbyty, mae gwerth 10 mlynedd o heneiddio yn digwydd i gyhyrau pobl dros 80 mlwydd oed, ac mae atgyflyru’n cymryd dwywaith yr amser o’i gymharu â’r datgyflyru hwn. Mae un wythnos o orffwys yn y gwely yn cyfateb i golli 10% o gryfder, ac i hen berson sy’n cyrraedd trothwy ei gryfder wrth ddringo’r grisiau gartref, neu godi o’r gwely neu oddi ar y toiled, gall colli 10% o gryfder olygu’r gwahaniaeth rhwng dibyniaeth ac annibyniaeth. [Yr Athro Brian Dolan, mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan hon.]

Un o’r themâu cyffredin yn yr adolygiadau oedd y cyfle i wneud gwaith mwy integredig trwy gydol y broses o ryddhau cleifion, gan gynnwys cysylltiadau cryfach â gwasanaethau yn y gymuned, er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.

Roeddem o’r farn bod y thema hon, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn mynd i’r afael â rhan allweddol o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion – gan roi’r cleifion wrth wraidd popeth.  Nid pwy sy’n darparu gwasanaeth sy’n bwysig i’r cleifion, ond cael help i gyflawni’r canlyniadau unigol gorau posibl.

Yn y bôn, y ffordd orau o fesur amser claf fel y mesurydd allweddol o berfformiad ac ansawdd yw drwy edrych ar hyn o safbwynt y person. Taith yw hi ac nid digwyddiad. [last1000days]

Felly yn y seminar hon, fe welwch brosiectau sy’n gweithio ar draws y sectorau, yn darparu cysylltiadau â gwasanaethau yn y gymuned, yn arddangos partneriaethau gwirioneddol integredig ac enghreifftiau o gydweithio drwy gydol y prosesau cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, ac yn bwysicaf oll, yn cadw’r unigolyn yn ganolog i bopeth.  Maent yn dod o hyd i atebion ar gyfer amrywiaeth o resymau sy’n achosi’r oedi mewn achosion cymhleth o ryddhau cleifion, pa un a ydynt yn ymwneud â throsglwyddo gofal, diogelwch, digartrefedd, iechyd meddwl, tai, asesiadau, neu bob un o’r uchod.

Bwriad y prosiectau hyn yw rhoi rhywbeth i chi feddwl amdano, a syniadau efallai y gallwch eu haddasu i’ch amgylchedd eich hun, neu i ysgogi syniadau newydd.  Ceisiwch weld beth allwch chi ei gyflwyno wedyn yn eich sefydliad neu amgylchedd gwaith a fydd yn helpu eich cleifion i gael canlyniadau gwell.

Hoffem nodi hefyd bod ein hymchwil cefndir wedi tynnu sylw at yr holl waith sy’n digwydd hefyd i atal achosion o dderbyn cleifion yn y lle cyntaf.  Mewn gwirionedd, gan fod cymaint ohonynt, penderfynom fod angen seminar gyfan ar hyn yn unig, felly caiff hynny ei drefnu ym mis Chwefror 2019.

Cau cyfrifon yn gyflymach – mae’n braf siarad

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar ar ‘Gau cyfrifon llywodraeth leol yn gynnar’, mae Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru, yn siarad am ei brofiad o’r diwrnod a’r trafodaethau pwysig a gafodd â’r rhai a fu’n bresennol…

Ar 10 Hydref 2017, euthum i seminar dysgu a rennir ddiweddaraf y Gyfnewidfa Arfer Da yng Nghaerdydd ar Gau cyfrifon llywodraeth leol yn gynnar. Yn ogystal â llawer o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, roedd nifer fawr o staff Swyddfa Archwilio Cymru, i gyd yn awyddus i ddysgu gwersi gan y rhai sydd eisoes yn treialu amserlenni cau cyfrifon yn gyflymach.

Yn y sesiwn lawn gyntaf, cafwyd llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa gyda grwpiau bwrdd yn ystyried nifer o senarios bach ar sut i beidio â rheoli’r prosesau cau ac archwilio cyfrifon. Hyd yn oed gydag “actorion” Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gor-liwio, roedd yn amlwg bod pawb oedd yn yr ystafell yn cydnabod bod angen gwaith tîm a chyfathrebu rheolaidd arnom er mwyn pontio’n llwyddiannus.

Fel sy’n arferol yn nigwyddiadau’r Gyfnewidfa Arfer Da, gwnaethom rannu wedyn yn grwpiau gweithdy llai a oedd yn cwmpasu tair agwedd benodol:

  • Gwneud Asedau’n Addas i’w Cau’n Gynnar – sicrhau bod gwaith prisio asedau a chyfrifyddu cyfalaf yn cael ei symleiddio;
  • Gwybod pam ein bod eisiau’r hyn rydym ei eisiau! – yr hyn sydd ei angen o ran gofynion papurau gwaith; a
  • Phwysigrwydd Sicrwydd Ansawdd Mewnol ar eich Datganiadau Ariannol – tynnu sylw at pam mae gwiriadau sicrwydd ansawdd mewnol yn hollbwysig i archwiliad llwyddiannus.

Roedd y gweithdai hyn yn edrych ar y camau ymarferol y gallem eu cymryd. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol bod prisiwr hyfforddedig yn bresennol yn y gweithdy prisio asedau i esbonio’i waith a rhoi ei safbwynt ef ar sut i roi prisiadau’n gynharach.

Y pwyntiau dysgu mawr i mi o’r gweithdai hyn oedd:

  1. Cytunodd pawb ond, yn bwysicach fyth, derbyniodd y bydd mwy o amcangyfrifon yn y cyfrifon.
  2. Hefyd, mae’n debygol y bydd mwy o gamddatganiadau heb eu cywiro wedi’u nodi yn adroddiadau’r archwilydd (adroddiadau ISA260) – OND, nid yw hyn yn beth drwg o reidrwydd: neges allweddol i’w chyfleu i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu.
  3. Mewn gwirionedd gallwch wneud pethau’n gynharach ar asedau anghyfredol – nid ymarfer diwedd blwyddyn yn unig ydyw wedi’r cyfan – ac mae angen i ni feddwl amdano’n greadigol gyda’n gilydd.
  4. Yn olaf, mae angen i archwilwyr fod yn gliriach o ran y papurau gwaith sydd eu hangen arnynt – nid eu heisiau, ond yn wirioneddol eu hangen – ac ym mha fformat gyda staff cyllid. Ar yr ochr arall, mae angen i staff archwilio hefyd newid y ffordd maent yn paratoi ac yn darparu’r papurau gwaith.

Yn y sesiwn lawn olaf, cefais fy nharo fwyaf gan faint o amser roeddwn wedi treulio’n trafod y trefniadau manwl â staff cyllid Cyngor Caerdydd. Er ein bod yn cwmpasu’r gwaith hwn fel tîm archwilio, fel Rheolwr Cleientiaid, prin dw i’n cael cyfle i drafod y dull gweithredu manwl o ran papurau gwaith fy hun gan fod y tîm cyllid yn eu paratoi. I mi, roedd yn hynod werthfawr cael bron pedair awr i fynd drwy bethau ymarferol a heriau newid dulliau gweithredu’r Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru a’u ffyrdd o wneud pethau.

Yn y man a’r lle roeddem yn gallu cytuno ar nifer o egwyddorion allweddol megis ymgysylltu’n gynnar ar newidiadau, atebion cyflym i ymholiadau gan y ddwy ochr, a rhagor o gyfarfodydd i wella dogfennaeth ategol ar gyfer cyfrifon 2017-18 (cyfarfodydd rydym eisoes wedi dechrau eu trefnu).

Hefyd, yn ogystal â chanfod ein bod yn cytuno ar yr angen i newid dulliau gweithredu’r ddau ohonom (a’n bod yn gadarnhaol am wneud rhywbeth amdano ar gyfer 2017-18), gallwn fynegi’r ffordd golegol o weithio sy’n pennu lefel ein gwaith archwilio yn ymarferol.

Yn olaf, byddwn yn dweud mai cyfathrebu wir yw’r allwedd – siarad â’r bobl iawn wyneb yn wyneb fyddai orau – fel y gallwch siarad am oblygiadau problemau posibl yn gynnar ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr o ran pa mor hwylus y gall proses cyfrifon/archwilio fod. Bydd ymgysylltu’n gynnar ar newidiadau mewn polisïau cyfrifyddu, methodolegau a phroblemau posibl, yn ogystal â chynnal profion yn gynharach, yn sicr yn paratoi’r ffordd i wynfyd cau cyfrifon yn gyflymach!

Sgiliau Gwledig

Gan weithio gyda’n gilydd ers 2009, mae Gwalia (Pobl – @poblgroup) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (@Croesobannaub) wedi datblygu cyfres o brosiectau awyr agored sydd wedi cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw mewn tai â chymorth a chleientiaid allgymorth.

Un o’r mentrau cyntaf oedd Hyrwyddwyr Cymunedol Bannau Brycheiniog a oedd, gyda chyllid CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru @NatResWales), yn cefnogi pobl ifanc mewn hyfforddiant gweithgareddau awyr agored. Cyflawnodd yr holl gyfranogwyr Wobr Efydd y Cynllun Mordwyo Cenedlaethol (@nass_office) ac aethant ymlaen i drefnu gweithgareddau o’u dewis nhw’n annibynnol a chymryd rhan ynddynt.

Rhoddodd gweithgareddau’r prosiect gymaint o ysbrydoliaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau Brecon Foyer (Gwalia) fel y gwnaethant sefydlu pwyllgor lleol a grŵp. Nodau’r grŵp oedd cynnig gweithgareddau a chyfleoedd dysgu cynhwysol a hygyrch drwy arfer gwrthwahaniaethol, gwella’r ddelwedd o bobl ifanc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt. Ers hyn, mae’r grŵp wedi llwyddo i sicrhau arian ar gyfer prosiectau, gan gynnwys taith addysgol i Auschwitz yn dilyn prosiect ar hanes Iddewig; taith gweithgareddau awyr agored breswyl i Ddyfnaint; ymweliadau â Llundain a Rhufain a phrosiect byw’n iach.

Mae rhagor o brosiectau ar y cyd wedi cynnwys Datblygu Geogelcio 2010-12, Sgiliau Gwledig 2012- 2014, Llwybrau Parc 2014, Diwrnod Iechyd Meddwl a Lles 2015 ac, yn ddiweddaraf, sicrhau cyllid Arian i Bawb sydd wedi golygu y gellir bwrw ymlaen â rhaglen hyfforddiant Sgiliau Gwledig 2016/17. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda’r holl gyfranogwyr yn llwyddo i gyflawni achrediad Agored Cymru (@AgoredCymru) mewn Sgiliau Awyr Agored, Torri dail tafol, mieri, gwrychoedd a Sgiliau Coetir Ymarferol.

Bu’r cyfuniad o hyfforddiant a’r cynnydd yn hyder y cyfranogwyr yn ysbrydoledig, gan arwain at y canlyniadau canlynol: mae 1 unigolyn wedi dod o hyd i gyflogaeth amser llawn;

mae 4 unigolyn wedi cymryd rhan yn rhaglen Get into the Brecon Beacons Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog (@PrincesTrustWales) a oedd yn cynnwys rhaglen “Get  Into” pythefnos o hyd ac Archwilio Menter, mae 2 unigolyn wedi cael eu recriwtio’n llwyddiannus i raglen waith 3 mis Get Into the Brecon Beacons partneriaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog/Ymddiriedolaeth y Tywysog fel Ceidwaid dan Hyfforddiant – gweler darllediad ITV Cymru o’r hyfforddeion yma.

Ymunodd Matt Baker â thîm Countryfile y BBC (@BBCCountryfile) â’r grŵp ar ddiwrnod gweithgaredd geogelcio er mwyn darganfod sut y gall yr amgylchedd naturiol ac ychydig o dechnoleg newydd sbarduno ffyrdd newydd o fod yn actif a gwella lles meddyliol.

Dilynodd Inside Housing (@insidehousing) o’r sylw ar y teledu a lluniodd yr erthygl hon sy’n cyfeirio at sut y gall Cymorth Tai gyfoethogi bywydau y tu hwnt i gymorth tenantiaeth yn unig.

Mae brwdfrydedd, cyfranogiad a chynnydd pawb a fu’n rhan o’r prosiectau hyn yn dangos y potensial sydd gan y gwaith hwn i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffyrdd mae grwpiau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol yn ystyried yr amgylchedd awyr agored, yn cael mynediad ato ac yn cael budd economaidd-gymdeithasol ohono.

Yn gryno, mae’r prosiectau lleol hyn wedi’u datblygu gan y ddau bartner er mwyn rhoi’r cymorth gorau posibl i bobl ifanc dan anfantais sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn cynyddu eu mynediad at gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Rural Skills