Archifau Categori: Dim categori

Data – mae’n fwy na dim ond tablau diflas

Mae Louisa Nolan o’r Campws Gwyddorau Data @DataSciCampus wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein gweminar ddata ag enghreifftiau o’r posibiliadau cyffrous sydd ar gael o fathau newydd o ddata ac adnoddau dadansoddi newydd. Ymunwch â ni ar yr 16eg er mwyn dysgu mwy am Pam bod defnyddio data’n effeithiol yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell.

Mae data’n gyffrous, ac erbyn hyn, gallwn gael gwybodaeth ddiddorol, nid yn unig o dablau o ganlyniadau arolygon neu wybodaeth reoli (er bod y rhain yn dal yn bwysig wrth gwrs) ond hefyd o nifer fawr o ddogfennau, neu o ddelweddau, neu ddarlleniadau synhwyraidd. Mae gwyddor data yn rhoi’r adnoddau i ni ddadansoddi’r mathau hyn o ddata’n gyflym, mewn ffyrdd na fyddai wedi bod yn bosibl ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Y cyfuniad hwn o gyfleoedd: mathau newydd o ddata + adnoddau newydd i’w dadansoddi, sydd mor gyffrous, gan ei fod yn rhoi cipolwg newydd sbon i ni!

Fel gwyddonydd data arweiniol yng NGhampws Gwyddorau Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol rwy’n cael meddwl am ddata bob dydd (mae hyn yn Beth Da!). Rydym yn datblygu a chyflwyno prosiectau gwyddorau data sy’n mynd i’r afael â chwestiynau anodd i’n cwsmeriaid yn y sector cyhoeddus, rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant ar wyddor data, ac rydym yn cynnal gwaith manwl, hacathonau a gweithdai gyda thimau amlddisgyblaethol er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer heriau data.

Yn y blog hwn, hoffwn rannu rhai enghreifftiau o’r ffordd rydym wedi bod yn defnyddio mathau newydd o ddata a’r ffordd rydym wedi bod yn rhoi technegau gwyddorau data ar waith er mwyn mynd i’r afael â heriau na chânt eu bodloni drwy ddulliau gweithredu mwy traddodiadol. Ddewis yn unig yw’r rhain, felly ewch i’n gwefan, dilynwch ni ar Twitter, neu cysylltwch â ni os hoffech drafod sut y gallem eich cefnogi i fabwysiadu neu addasu’r prosiectau hyn, neu os hoffech drafod eich heriau gwyddor data eich hun.

wales on twitter

Am beth y mae pobl yn siarad pan fyddant yn sôn am Gymru ar Twitter? Gofynnwyd y cwestiwn hwn i ni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd am ddeall yr hyn a oedd o ddiddordeb i bobl wrth iddynt siarad am Gymru. Gwnaeth ein gwyddonwyr data adeiladu adnodd ar gyfer dadansoddi pynciau o destunau trydariadau sy’n cynnwys #Wales. Mae dadansoddi pynciau yn dechneg sy’n rhoi testunau – yn yr achos hwn Trydariadau – mewn grwpiau o bynciau cysylltiedig. Ar gyfer y cyfnod a ddadansoddwyd gennym, daethom o hyd i bynciau ar dwristiaeth, chwaraeon – gan gynnwys rygbi, wrth gwrs, arddangosfa busnes yng Nghaerdydd, ac, yn annisgwyl i ryw raddau, pwnc ar blant ar y strydoedd yn India! Roedd y pwnc hwn yn ymwneud â’r llyfr ‘A Hundred Hands’, a gyhoeddwyd yr wythnos honno gan Diane Noble, sy’n awdures o Gymru. Gellir addasu’r adnodd yn hawdd er mwyn dadansoddi hashnodau eraill sydd o ddiddordeb.

urban forest

Mapio’r goedwig drefol ar lefel strydoedd Gan ddefnyddio delweddau a samplwyd o Google StreetView, mae’r tîm wedi datblygu dull arbrofol i fapio dwysedd coed a’r llystyfiant bob 10 metr mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru a Lloegr – mapio hyper-leol yw hyn! Mae’r tîm wedi creu dull o brosesu a dadansoddi’r delweddau, a allai gael eu defnyddio o bosibl ar gyfer mathau eraill o ddadansoddi delweddau StreetView.

emerging technologies

Dadansoddi’r testun o raglenni patent er mwyn deall technolegau arloesol. Yn y prosiect hwn, cafodd nifer fawr o raglenni patent yr UDA eu dadansoddi, er mwyn ystyried a all technoleg arloesol (h.y. ‘y Peth Poblogaidd Nesaf!’) gael ei nodi o’r testun. Mae hon yn ffordd wych o ddangos sut y gall pŵer gwyddor data ddatgloi data. Bum mlynedd yn ôl hyd yn oed, byddai’n debygol y byddai dogfennau testun fel y rhaglenni patent hyn wedi gorfod cael eu dadansoddi’n llafurus â llaw. Erbyn hyn, gallwn ddadansoddi symiau mawr o destunau yn gyflym er mwyn cael gwybodaeth ddefnyddiol i lywio penderfyniadau.

hierarchical groups

Troi rhestrau di-destun yn grwpiau hierarchaidd.  Weithiau, mae gennym ddisgrifiadau neu restrau di-destun byr – efallai rhestr o gynhyrchion a brynir neu dosberthir. Er mwyn eu defnyddio, mae angen i ni rywsut eu grwpio i mewn i gynhyrchion tebyg, cyfrif am wallau sillafu, gwallau teipio a thalfyriadau gwahanol. Mae hyn yn bosibl â llaw, mewn egwyddor, ond mae fel arfer yn rhy lafurddwys. Mae’r prosiect hwn yn awtomeiddio’r dosbarthiad hierarchaidd. Gan fod y dull yn gystrawennol (sut y caiff y gair ei sillafu) a semantig (yr hyn y mae’r gair yn ei olygu), gallwn grwpio, er enghraifft, wisgi a fodca gyda’i gilydd, a phennu cynhyrchion dur yn gywir, pwt dur, a chynnyrch dur yn yr un categori. Gallai’r adnodd hwn gael ei addasu ar gyfer setiau data amrywiol o ymatebion di-destun.

Gobeithio bod hynny wedi rhoi rhagflas i chi o rai o’r pethau rydym yn gweithio arnynt yn y Campws, ac efallai rhai syniadau o’r hyn y gallwch ei wneud efallai gyda’ch data eich hun. A gobeithio fy mod hefyd wedi eich argyhoeddi nad oes rhaid i ddata fod yn ddiflas!

Creu Cymunedau Cryf: Gwyliwch y Bwlch

Mae Charlotte Waite @charlotwaite o Hyb Cymorth ACE @acehubwales wedi ysgrifennu blog i ni cyn ein digwyddiad Creu Cymunedau Cryf.  Mae hi’n herio ei hun, a phob un ohonom, i fod yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cryf, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cryf.

Mewn gŵyl lefty hyfryd y cefais yr anrhydedd o fynd iddi yr haf poeth hwn, daeth fy merch allan o portaloo a oedd yn rhyfeddol o lân gan ddweud ei bod am gymryd cyngor y toiled a ‘gwenu ar rywun heddiw, oherwydd gall wneud gwahaniaeth mawr’. Yr hyn a’m trawodd oedd y ffaith ei bod wedi darllen y sticer a oedd wedi ffedio ac roedd wedi golygu rhywbeth iddi. Darllenais i’r sticer hefyd (wrth i mi hofran yn strategol) ac aeth y geiriau i mewn trwy un glust ac allan trwy’r llall fel petawn i’n darllen ‘gwyliwch y bwlch’ neu ‘gyrrwch yn ofalus’. Yadayadayada. Mae’n rhaid bod fy ymennydd yn anfon signal i’m hymwybyddiaeth yn dweud “dim byd i’w weld yma, rydym yn gwybod hyn i gyd yn barod” ac felly gadewais y toiled heb eiliad fyfyriol. Wedi’r cyfan, rydw i wedi bod yn cynnig ‘help’ ym maes ‘helpu’ ers sawl blwyddyn.  Rwyf wedi bod ar y cyrsiau ac wedi rhoi’r darlithoedd. Gwenu yw sylfaen yr egwyddor sylfaenol, mae pawb yn gwybod hynny.

Er hyn y gwir yw, rhyngof i a fy merch 9 oed, yr unigolyn a oedd angen ei atgoffa am garedigrwydd oedd fi. Oherwydd hyd yn oed mewn gŵyl o lawenydd roeddwn i’n brysur yn ‘gwneud’ yr ŵyl, yn gwneud y gorau o bopeth, gan wasgu pob un owns o hedoniaeth allan o FY mhenwythnos I fel y gallwn i deimlo fel fy mod wedi cael yr hyn yr oeddwn am ei gael. Yn eironig, rhan o’r hyn yr oeddwn am ei gael, oedd rhannu profiad o hapusrwydd. Mae’n hawdd lledu cariad mewn gŵyl gan fod y risg personol yn llawer llai. Mae gwenu, cofleidio, gwledda, dawnsio, sgwrsio… cysylltu a theimlo’n fyw i gyd yn rhan o’r hyn y telais amdano. Es i gartref yn llawn cariad a hapusrwydd wedi’i rannu a delais amdano. Yn ôl gartref i fy stryd lle dywedais helo wrth fy nghymdogion agosaf, sgwrsio â rhai ohonynt am blant, parcio, estyniadau a chasglu biniau ond yn gyffredinol rydym yn mynd ymlaen â’n bywydau yn annibynnol.

Felly dim llawer o wenu, cofleidio, gwledda, dawnsio…..cysylltu a theimlo’n fyw yn fy nghartref fy hun. Hmm. Yma mae’r risg yn llawer uwch i mi. Wel, beth os nad ydynt am gysylltu? Beth os nad ydynt yn fy hoffi? Beth os byddant yn dysgu sut un ydw i go iawn? A tha beth, dwi’n rhy brysur. Rwy’n rhy brysur yn rhuthro i fy ngrŵp cymunedol sy’n canolbwyntio ar garedigrwydd i ofyn i fy nghymydog sut mae hi, pan rwy’n ymwybodol bod ei gŵr wedi ei gadael hi a’i phlant. Ie wir. Roedd hon yn foment fyfyriol go iawn ar brynhawn dydd Mercher gwlyb pan welais ei thorcalon ar ei hwyneb wrth iddi fynd i’w thŷ wrth i mi fynd i ‘nghar. ‘Gwyliwch y Bwlch’ rhwng fy rhethreg a fy ymddygiad yn glir y tro hwn.

Cymerais y risg a chnocio ar y drws, gwnaethom siarad am ein bywydau, ein plant a gwnaethom ddechrau gwneud cysylltiad. Roedd ofn arnaf a dydw i ddim yn sicr ei bod yn fy hoffi o hyd ond rwy’n teimlo fy mod wedi cyfathrebu nad yw hi ar ei phen ei hun ac mae hynny’n teimlo’n bwysig iawn.  Bydd yn cymryd amser.

Felly, a ydw i’n dweud y dylem fodelu cymunedau cryf ar wyliau? Mewn gŵyl nid oes hierarchaeth, dim cefnogwyr a’r rhai sy’n cael eu cefnogi, yn unig. Mae rhannu gweithgareddau llawn hwyl gyda’n gilydd yn ein cysylltu: rhannu pryd o fwyd, dawnsio, chwarae; colli’r pethau cynhenid sy’n ein cyfyngu yn ein rolau bywyd go iawn fel ‘helpwyr’ neu fel cymdogion hyd yn oed. Dydw i ddim yn awgrymu ein bod yn mynd gartref ac yn cynnal partïon stryd cysurus ond rwy’n awgrymu ein bod yn cymryd risgiau mewn cydberthnasau, heb fod yn agored i niwed ni allwn greu cydberthnasau dilys ond eto rydym yn gwybod mai dilysrwydd mewn cydberthnasau sy’n creu cydnerthedd. Cnociwch ar y drws a’u gwahodd am bryd o fwyd.

Sut y gallwn golli rhai o’n teimladau cyfyngus personol a dod o hyd i ffyrdd o gysylltu’n llawen, lygad wrth lygad (nid sgrin wrth sgrin) heb orfod talu am y profiad? Neu’n broffesiynol heb ‘wneud’ y model arfer gorau pan fyddwn yn gweithio a dangos y canlyniadau i’r rhai hynny sy’n ein talu. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd chwaraeon a grwpiau cymunedol er mwyn creu cydnerthedd mewn plant ond a ydym i gyd yn mynd i’n ceir ac yn mynd â’n plant i’r digwyddiadau hyn wrth i ni ddal i fyny ag amser y tu ôl i sgrin? Rwy’n sylwi ar y ‘gyrrwch yn ofalus’ wrth i mi lywio hyn ar fy nghyfer i fy hun. Gallwn i’n sicr gyfrannu mwy at y parti stryd hwn. Rwy’n herio fy hun i FOD yn rhywun sy’n cyfrannu at gymunedau cydnerth, sy’n wahanol iawn i WNEUD cymunedau cydnerth. Rwy’n atgoffa fy hun i stopio am funud a bod yn chwilfrydig. I weld ‘gwyliwch y bwlch’ a sylwi lle mae’n gymwys i fi ond gallaf ond ei weld os ydw i’n mynd yn ddigon araf i sylwi arno ac yna sylwi ar y ffordd mae’n gwneud i mi deimlo a bod yn ddigon dewr i ddod a mi fy hun i’r parti.

GSWAG: Cadw Data’n Fyw

A oes gan eich sefydliad y math cywir o ddata i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol?

Clywch sut mae Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (GSLLCC) yn edrych heibio i setiau data traddodiadol i wneud eu penderfyniadau am lesiant. GSLLCC eisiau gwybod mwy am amodau lleol ar gyfer lles o brofiadau byw eu trigolion, ac yn edrych ar dueddiadau tebygol yn y dyfodol a allai wynebu ardal Gwent dros y 25 mlynedd nesaf, er mwyn helpu i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn well. Maent yn defnyddio math gwahanol iawn o ddata na’r hyn y maent wedi arfer ag ef, gan fynd allan o’u man cyfforddus i lywio eu penderfyniadau gyda chenedlaethau’r dyfodol mewn golwg. Gwyliwch ein vlog i gael gwybod mwy.

GSWAG: Gweithio Mewn Partneriaeth

Gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd ymlaen ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae partneriaeth yn waith caled, gwyddom hynny. Ond mae’r manteision i wasanaethau cyhoeddus yn enfawr. Yn ddiweddar, cawsom glywed am ddull Grŵp Asesu Lles Strategol Gwent (“GSWAG”), felly aethom i un o’u cyfarfodydd.

Clywsom sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mwy drwy ddysgu oddi wrth ei gilydd, drwy gydweithredu ar yr un eitemau ar yr agenda. Maen nhw’n gweithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan roi rhai o’r pum ffordd o weithio’n ar waith. Maen nhw’n gallu osgoi dyblygu, yn rhannu eu harbenigedd drwy ddefnyddio iaith gyffredin a rhoi lle i’w gilydd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu trafod meysydd dadleuol mewn ffordd adeiladol. Maent yn cydnabod y gallant fynd yn llawer pellach a chyflawni llawer mwy nag y byddent ar eu pen eu hunain drwy weithio mewn partneriaeth. Gallwch gael mwy o fanylion drwy gysylltu â Bernadette Elias (Bernadette.elias@blaenau-gwent.gov.uk) neu Lyndon Puddy (Lyndon.puddy@torfaen.gov.uk)

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

circular economy

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da bob amser yn awyddus i rannau arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu.

Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCE Cymru ac mae Dr Gavin Bunting wedi ysgrifennu blog cyn y digwyddiad ‘Good to Share’ a gaiff ei gynnal ym Mangor a Chaerdydd.

Mae’r grŵp wedi bod ynghlwm wrth ymchwil ddiddorol iawn ar sut y gallwn leihau gwastraff yng Nghymru, a chreu economi gylchol, a allai olygu bod Cymru ar ei hennill o £2 biliwn y flwyddyn. Syniadau fel hyn a fydd yn creu Cymru cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu gwaith. Darllenwch ei flog isod i ddysgu am sut mae’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru wedi cydweithio, gan gymryd camau breision tuag at gyflawni nodau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi, tra bod llawer o’r adnoddau sydd eu hangen at ddefnydd hanfodol, megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn mynd yn fwy prin.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn sefyllfa lle mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn?

Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:

  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch

Mae Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi amcangyfrif y gallai manteision economaidd posibl gweithredu economi gylchol yng Nghymru gyrraedd £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol.

Er mwyn symud tuag at economi gylchol, mae angen gweithredu mewn ffordd amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu ymchwil ac arloesedd mewn meysydd megis: dylunio cynhyrchion i’w hailwampio a’u hailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd a chael gafael ar adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n cymell y gwneuthurwr i ddylunio cynnyrch hir oes; ac ymchwilio i’r ffordd y gallwn gyfleu’r cyfleoedd a herio canfyddiadau o economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau y gallwn fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen yn y system i gyflawni economi gylchol.

Mae cryn dipyn o’r arbenigedd hwn i’w gael mewn prifysgolion yng Nghymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â heriau economi gylchol. Felly gweithiais gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, Canolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) Cymru, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn sefydlu’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru’.

Nod arfaethedig y grŵp yw cysylltu’r arbenigedd a’r profiadau ategol er mwyn hwyluso arloesedd ac ymchwil ar economi gylchol yng Nghymru, drwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da ac i hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng academia, busnes a llunwyr polisïau.
  • Cydweithio er mwyn cynyddu’r gallu ac adnoddau ymchwil economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant er mwyn datblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i lywio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso’r broses o gyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi’r broses o ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar y broses o ddatblygu cwricwlwm a darparu hyfforddiant ar ei gyfer.
  • Cydweithio â rhwydwaith byd-eang y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol (RCE) (a gydnabyddir gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) er mwyn rhannu dysgu ac arfer da ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Cadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp ar 8 Mehefin, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prifysgolion canlynol: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Eglurodd Dr Andy Rees, Pennaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru, y sefyllfa gan ddarparu rhai ystadegau defnyddiol a oedd yn amlinellu offerynnau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesedd economi gylchol.

Bu’n gyfarfod cynhyrchiol, lle y gwnaethom drafod syniadau ar sut y gallwn gydweithio ar ymchwil, addysgu, cyfnewid gwybodaeth a llywio polisïau’r llywodraeth. O ran ymchwil, y farn gyffredinol oedd na ddylwn ganolbwyntio ar geisiadau am gyllid ar gyfer ymchwil a oedd yn ymwneud â’n economi gylchol yn unig – gan fod modd i’r economi gylchol ychwanegu newydd-deb at amrywiaeth eang o feysydd ymchwil. Nodwyd hefyd fod angen i ni edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff yr economi gylchol ei chyfleu i fyd diwydiant a’r cyhoedd er mwyn annog arloesedd a newid. Yn benodol, cytunwyd ei bod yn bwysig sôn am yr elfen o gystadleurwydd wrth gyfathrebu â diwydiant, ynghyd â chanolbwyntio ar y sectorau sy’n bwysig i economi Cymru. Gallai’r Safon Brydeinig ar gyfer Economi Gylchol, BS-8001, fod yn ffordd ddefnyddiol o ymgysylltu â chwmnïau a gall rhwydweithiau academia-diwydiant sydd eisioes yn bodoli megis ASTUTE ddarparu llwybr sefydledig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.

Nod craidd y grŵp yw annog cydweithredu, a hwylusir i gychwyn drwy ddarparu cyfeirlyfr o arbenigedd, fel y gall aelodau nodi cydweithredwyr posibl ar gyfer ymchwil yn hawdd. Yn ogystal, byddwn hefyd yn sefydlu bwletin e-bost rheolaidd a fforwm lle y gall aelodau drafod meysydd o ddiddordeb. Mae angen cymorth ysgrifenyddiaeth da i gadw grŵp fel hyn i weithio, ac mae Ann Stevenson o Brifysgol Caerdydd wedi bod mor garedig â chynnig i ddarparu hyn.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn cynnal cyfarfod arall o’r grŵp yn yr hydref ac yn cynnal sesiynau yng Nghynhadledd RCE Cymru ar 8 Tachwedd 2018, yng Nghaerdydd, lle y byddwn yn cynnal trafodaethau ysbrydoledig a chynhyrchiol gobeithio.

dr gavin
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os

Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

circular-economy

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn bob amser edrych am arloesedd a ffyrdd diddorol o weithio, felly pan wnaethom glywed am waith y Grŵp Ymchwil Economi Gylchol, roeddem yn awyddus i rannu.

dr-gavin

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Gavin Bunting ar g.t.m.bunting@swansea.ac.uk, 01792 602802.

Uchelgais Ddigidol

NeilYn dilyn digwyddiad a gynhaliwyd gennym y llynedd, gwnaethom ddechrau sgwrs Twitter ar-lein gyda Neil Prior @PriorNeil, Cynghorydd Sir Annibynnol ac Aelod o’r Cabinet dros Drawsnewid a TG yng Nghyngor Sir Penfro. I’r rheini ohonoch nad ydych yn ei adnabod – dyma flog gwych am ei flwyddyn gyntaf fel Cynghorydd Sir.

Nid oedd Neil yn gallu dod i’n digwyddiad #WAODigital18, ond roedd am rannu ei stori am y newid mewn hyder digidol yng Nghyngor Sir Penfro, a sut mae hyn yn creu llawer o newidiadau diwylliannol bach i’r ffordd y maent yn gweithio…

Uchelgais Ddigidol

Nid oes angen i chi fod yn ddaroganwr i wybod bod y byd rydym yn byw ynddo wedi newid yn sylweddol, diolch i’r dechnoleg diben cyffredinol, sef, y rhyngrwyd. Mae’r ffeithlun Internet Minute yn dangos y ffordd y mae ‘digidol’ wedi dod yn rhan hanfodol o’n bywydau, gan lywio’r ffordd rydym yn cyfathrebu, siopa, gwylio teledu, gwrando ar gerddoriaeth, caru a rhannu manylion ein bywydau ‘r byd. Fel Cynghorydd ac aelod o’r Cabinet newydd, a gyda phortffolio newydd o weithio ym maes trawsnewid a TG yng Nghyngor Sir Penfro, fy nod yw ymchwilio i’r ffyrdd y gall technoleg ddigidol ein helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Mae fy argraffydd wedi torri, allwch chi ei drwsio?

Barn draddodiadol cynghorau am adrannau TGCh yw eu bod yno i gadw’r goleuadau ymlaen. Maent yn rheoli ac yn cynnal a chadw llinell etifeddol gritigol systemau TG busnesau a oedd wedi’u caffael gan yr adran gyllid fwy na thebyg, maent yn trwsio eich peiriant pan fydd yn torri, maent yn darparu’r rhwydweithiau, y seilweithiau a’r cymwysiadau sy’n galluogi staff y cyngor i fynd i’r gwaith a gweithio. Ond anaml iawn y caiff eich adran TGCh ei hystyried yn arweinwyr strategol yn eich cyngor.  Ac eto, mae’r byd wedi newid.

Ar ôl etifeddu rhaglen drawsnewid nad oedd yn weladwy iawn yn fewnol ac a oedd yn ei chael hi’n anodd datblygu, dechreuais drwy ystyried yr adran TGCh yn fanwl. Gyda Phennaeth Gwasanaeth a oedd yn croesawu’r cymorth gwleidyddol, aethom ati i ail-ysgrifennu’r strategaeth dechnoleg er mwyn ei symleiddio a phennu ein ‘cyrchfan teithio’ ein hun, gan symud o ‘wasanaeth dibynadwy sy’n gwneud y gorau posibl’ i ‘ddatrys problemau busnes drwy weithio mewn partneriaeth’.

Nid oedd hyn yn anodd iawn i’w wneud. Drwy hwyluso gweithdy gyda staff a defnyddwyr TG allweddol, roeddem yn gallu asesu ein sefyllfa a beth oedd ein nodau. Roedd meincnodi’r Gymdeithas er Rheoli Technoleg Gwybodaeth (SOCITM) ac edrych ar yr hyn roedd cynghorau eraill yn y DU yn ei wneud, megis Enfield gydag Amelia ac Aylesbury Vale gydag Alexa, yn golygu bod gen i stori gymhellol am ein huchelgeisiau drwy’r broses wleidyddol, gan dynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad, nid toriadau, ym maes TGCh. Y canlyniad? Buddsoddiad o £600,000 a diogelwch rhag toriadau cyllidebol am y pedair blynedd nesaf.

Pobl Ddigidol Hyblyg

Mae ein strategaeth yn syml iawn. Mae a wnelo â bod yn fwy hyblyg yn y ffordd rydym yn gweithio, sy’n golygu ein bod yn gwneud defnydd doethach o’n gofod swyddfa, gan leihau gwariant ar frics a morter er mwyn gallu gwario ein harian ar bobl a gwasanaethau. Mae digidol yn canolbwyntio ar yr angen i ehangu ein cynnig digidol i gwsmeriaid ac annog hyder digidol ymhlith staff, gan eu hannog i fabwysiadu dull mwy modern o weithredu. Yn olaf, hoffwn i ni ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein hadran TGCh fel y gall fod yn gatalydd ar gyfer newid yn yr Awdurdod ac y caiff ei hadnabod fel arloeswr technoleg sy’n gallu gweithio ar draws y sefydliad i sefydlu prosesau trawsnewid digidol cadarn. Bydd ein sefydliad yn llawn pobl hyblyg a digidol.

Blog pic1

Nid ‘peth’ yw digidol

Nid ‘peth’ yw digidol, mae’n ffordd o wneud pethau. Felly, i ni yma yn Sir Benfro, yr effaith fwyaf a gafodd y strategaeth dechnoleg rydym wedi’i mabwysiadu yn ddiweddar, oedd rhoi prosiect ‘gweithio doethach’ uchelgeisiol ar waith. Yn y prosiect hwn, mae tîm trawsadrannol yn ad-drefnu Neuadd y Sir i greu parthau gwaith doethach a fydd yn golygu y byddwn yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gofod sydd ar gael er mwyn sefydlu amgylchedd gwaith mwy modern. Mae hwn wedi bod yn ddarn enfawr o waith gan dîm bach sy’n llawn egni ac yn ymrwymedig i sicrhau ei fod yn llwyddo. Ar hyd y ffordd, rydym wedi ymgysylltu a chyfathrebu â staff a dwyn perswâd arnynt, ac er ei bod yn deg dweud nad yw rhai yn hapus, nid wyf yn credu y gallai unrhyw un ddadlau â’r rhesymau dros wneud hyn. Gyda dyddiad cwblhau arfaethedig erbyn diwedd yr haf, effaith wirioneddol ein huchelgais digidol yw y byddwn wedi sicrhau’r newid diwylliannol mwyaf ar gyfer ein Hawdurdod ers degawdau.

SWAP pic

Meddylfryd heriol

Rydym wedi cyflawni llawer dros y chwe mis diwethaf, ond nid ydym yn rhoi’r gorau iddi nawr. Rydym yn gwneud pethau da eraill, megis cynyddu ein defnydd o negeseuon testun er mwyn cyfathrebu â phreswylwyr, ehangu cynnig ‘Fy Nghyfrif’ ar gyfer hunanwasanaeth digidol, gweithio gydag adrannau sydd bellach yn cysylltu â’r adran TGCh i ofyn am gymorth, ac mae mwy o’n huwch swyddogion a chynghorwyr ar Twitter (cliciwch yma i weld rhestr nad yw’n gynhwysfawr). Yn fy marn i, dyma hyder digidol ar waith ac mae’n creu llawer o newidiadau diwylliannol bach i’r ffordd rydym yn gweithio. Ond mae fy meddylfryd heriol yn dweud wrthyf fod gennym lawer i’w wneud o hyd a megis dechrau mae ein stori uchelgais digidol.