Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Craffu

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen.

Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts.

National Assembly for Wales Google Hangout

Lluniau Google Hangout Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Flickr http://bit.ly/1wd3dwU

Wrth i gyfryngau cymdeithasol ddod yn fwy poblogaidd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau defnyddio nhw i ymgysylltu â’u cymunedau. Gan fod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, mae yna gamsyniad bod y defnydd effeithiol ohonynt yn lot haws a chepach na dulliau traddodiadol. Ond dyw bod ar-lein yn ei hun, ac anfon neges bob nawr ac yn y man, ddim yn ddigon – rhaid i ni alluogi pobl i gymryd rhan.

A dyna pam rydw i wedi fy nghynhyrfu am ddefnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Roeddwn i fach yn amheus i ddechrau. Mae Google Plus wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi o ran gwaith (er enghraifft mae cymuned LocalGov Digital yn llawn syniadau digidol diddorol), ond sa i’n gallu dweud bod lot o bobl eraill ar y platfform.

Felly dyw Google Plus ddim cweit yn ticio’r blwch o ran mynd i bobl. Ond dyma le mae galluogi pobl i gymryd rhan yn dod mewn. Yn hytrach nag aros i bobl ddod iddyn nhw, fe wnaethon nhw weithio gyda phobl i’w helpu nhw i ddefnyddio’r dechnoleg fel bod nhw’n gallu cymryd rhan.

O ran y Hangout ar Addysg Uwch, roedd hyn yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn Lloegr neu’r Alban yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am gyllid. Os doedden nhw ddim yn defnyddio Hangouts neu doedd dim cyfrif Google Plus ganddynt, roedd staff yn gweithio gyda nhw i ddod yn gyfarwydd â’r dechnoleg. Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr â sut mae rhai cyrff yn anfon allan ychydig o drydar neu ddiweddariadau Facebook ac yn disgwyl i bobl dod atynt.

[gigya src=”https://abfiles.s3.amazonaws.com/swf/audioboom_default_player_v1.swf” style=”background-color:transparent; display:block; min-width:320px; max-width:700px;” flashvars=”image_option=small&imgURL=https%3A%2F%2Fd15mj6e6qmt1na.cloudfront.net%2Fi%2F6463661%2F300x300%2Fc&link_color=%2358d1eb&mp3Author=assemblycynulliad&mp3Duration=179867.0&mp3LinkURL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry&mp3Time=01.30pm+21+Nov+2013&mp3Title=Jocelyn+Davies+AC+a+%40JulieMorganLAB+yn+siarad+am+we-sgwrs+gyntaf+y+Pwyllgor+Cyllid+ar+gyfer+yr+ymchwiliad+i+gyllido+%23addysguwch+%2F+Jocelyn+Davies+AM+and+%40JulieMorganLAB+talk+about+the+first+Finance+Comm+web+chat+for+the+%23highered+%23funding+inquiry&mp3URL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry.mp3%3Fsource%3Dwordpress&player_theme=light&rootID=boo_player_1&show_title=true&waveimgURL=” width=”480″ height=”150″ allowFullScreen=”true” wmode=”transparent”]

Mae hwn yn lot o waith, ond mae’r wybodaeth mae’r Cynulliad yn derbyn o’r Hangout yn lot fwy cyfoethog achos hynny. Gallwch glywed Jocelyn Davies AC a Julie Morgan AC yn trafod beth maen nhw wedi dysgu o’r Hangout yn y Audioboom uchod.

Mae fe hefyd yn werth gwylio’r fideo yma o Rhun Ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am ddefnyddio Hangouts i ymgysylltu ynghylch sgiliau STEM, a sut roedd cyfranogwyr yn fwy onest ac yn rhoi adborth mwy uniongyrchol nag mewn sesiwn tystiolaeth.

Beth sydd wedi dod i’r amlwg yw bod cyfranogiad cyhoeddus ar-lein da yn cymryd yr un faint o ymdrech ag ymgysylltu all-lein, ac os ydyn ni’n rhoi ymdrech mewn i wneud e’n dda, gallai gwella ansawdd ein gwaith.

Dyfrig

Mae angen i ni newid y system yn gyntaf

Photo of Simon Pickthall

Simon Pickthall

Blog gwadd gan Simon Pickthall, Vanguard, yn paratoi am ein digwyddiad Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd #ReshapeServices

Mae’r rhan fwyaf o bobl y rheng flaen sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yn meddwl am gyd-gynhyrchu fel cam cadarnhaol. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, rydw i’n cwrdd â phobl sy’n gweithio yn y ffordd yma o dan y radar, neu ymgymryd â gwaith cyffrous ac arloesol er gwaethaf y system y maent yn gweithio ynddi. Yn naturiol, mae hyn yn cyfyngu ar ba mor effeithiol y gallant fod.

Fy nysgu allweddol yw, oni bai eich bod yn newid y system y mae pobl yn gweithio ynddi yn gyntaf, bydd cyd-gynhyrchu drwy’r amser yn wynebu brwydr lan y bryn.

Er enghraifft, rydw i wedi cael y fraint i weithio gyda llawer o bobl ysbrydoledig ym maes gofal cymdeithasol. Fel yr arfer, roeddent wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion sydd angen cefnogaeth. Fodd bynnag, roeddent yn cael eu cyfyngu ac, mewn rhai achosion, atal, i ddarparu’r cymorth hwn mewn ffordd gyd-gynhyrchiol gan y system y maent yn gweithio ynddi.

Drwy dreulio amser yn dilyn gwaith drwy’r system o safbwynt y bobl sy’n derbyn cymorth, o fewn chwe diwrnod roeddent wedi datgelu’r problemau sylfaenol yn y system. Darganfyddont nifer o asesiadau a gollodd stori’r person, dangosyddion perfformiad yn gyrru ymddygiad camweithredol, a nifer o atgyfeiriadau rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n arwain at faint enfawr o fiwrocratiaeth, gan gynnwys rhai gweithwyr proffesiynol a oedd angen cyfeirio at eu hunain!

Fodd bynnag, y mater sylfaenol dysgon nhw, yw bod y system wedi ei thanategu gan y dybiaeth bod angen i ni ddarparu ‘gwasanaethau’ i ddinasyddion. Gan fod gan y rheng flaen dewislen o wasanaethau y gallent eu cynnig, roedd yr unigolion ymroddedig hyn yn asesu’r dinesydd i ffitio i mewn i’r ddewislen hon. Mae’r system hefyd yn trin pob cais am gymorth fel trafodiad sengl, heb fod mewn sefyllfa i ddeall beth sydd wir yn bwysig i’r unigolyn a’u helpu i gyflawni hyn. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at nifer enfawr o ailgyfeiriadau, fel unigolion yn dychwelyd gan nad yw beth sy’n bwysig iddynt wedi cael ei gyflawni. Y rhagdybiaeth y tu ôl i ddyluniad y system yw bod safoni a bwydlenni yn angenrheidiol i reoli’r gyllideb – yn wir, trwy yw cyfyngu gallu’r system i ddelio ag amrywiaeth, a helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt, mae costau yn parhau i godi. Gwaethygir hyn ymhellach drwy ddarparu gwasanaethau i bobl, yn hytrach na gweithio gyda nhw.

Unwaith iddynt sylweddoli hyn, roeddent mewn sefyllfa i herio’r rhagdybiaethau a oedd wedi arwain at gynllun y system gyfredol. Roeddent, felly, yn awyddus iawn i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Dechreuodd y dull gwahanol â chael sgwrs dda gyda’r dinesydd. Yn hytrach na throi i fyny gydag offeryn cofnodi asesiad, fe wnaethant ofyn amrywiadau o “Beth fyddai bywyd da yn edrych fel i chi?”. Mae’r cwestiwn hwn yn creu atebion hollol wahanol. Yn syml, dywedodd dinasyddion pethau fel: “Hoffwn i fynd i siopa”, ac “Hoffwn barhau i wisgo’n smart”. Heb y cyfyngiad o ddewislen o wasanaethau, roedd y gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu meddwl yn greadigol am sut i ddatrys y problemau hyn gyda’r unigolyn, nid dim ond ceisio datrys y broblem ar eu cyfer.

Mae creu system sy’n helpu dinasyddion mynegi beth mae bywyd da yn edrych fel iddynt, a chyd-gynhyrchu dulliau i’w helpu i gyflawni eu bywyd da, yn gwaredu’r anghydbwysedd grym rhwng dinasyddion a’r wladwriaeth. Yn ogystal, mae’n arbed arian.

Isod ceir rhai o’r canlyniadau a gyflawnwyd drwy weithio yn y ffordd hon ym maes gofal cymdeithasol:

  • Gostyngiad o 28% mewn lleoliadau preswyl a gofal nyrsio, ynghyd â gostyngiad mewn oriau gofal yn y cartref – pecynnau gofal ar gyfartaledd wedi gostwng o 12 awr i 9.7 awr yr wythnos.
  • Gostyngiad o 46% mewn cysylltiadau â Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gyllideb gofal yn y gymuned wedi tanwario (osgoi cost o £1.5 miliwn yn 2013-2014).
  • Gostyngiad o 30% mewn asesiadau.

Mae dogni drwy safoni bwydlen yn gyrru costau, ac yn atal unigolion ymroddedig rhag cofleidio cyd-gynhyrchu. Y neges yw bod angen i ni helpu’r gweithwyr rheng flaen yn y sector cyhoeddus wrth adeiladu perthnasau, nid rhoi bwydlenni iddynt. Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Locality a Vanguard, yn dangos y gall dros £16 biliwn o arbedion cael eu gwneud ar draws y sector cyhoeddus os rydym yn symud i’r egwyddorion gwahanol hyn. Mae’r adroddiad ar gael yma: “Saving money by doing the right thing: why local by default must replace diseconomies of scale”.

Gellir gwneud hwn, drwy ymyrryd yn y systemau’r sector cyhoeddus yn uniongyrchol. Unwaith y bydd yr egwyddorion presennol tu ôl i ddyluniad a rheoli gwaith yn cael eu deall, gellir eu herio a’u newid. Allan o hyn, gall system newydd gael ei greu gan alluogi cyd-gynhyrchu i ffynnu a lleihau costau.

Fel hynny, y man cychwyn yw treulio amser yn deall sut a pham y mae’r system bresennol yn gwneud cyd-gynhyrchu mor anodd, yn hytrach na dim ond bolltio cyd-gynhyrchu ymlaen a gobeithio am y gorau.

Newid Meddwl – Newid Bywydau

Gweithiodd Simon Pickthall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am flynyddoedd lawer cyn ffurfio Vanguard Consulting Cymru. Mae wedi bod yn ffodus i weithio gyda llawer o arweinwyr yng Nghymru i’w helpu i ddeall eu sefydliadau gan ddefnyddio’r Dull Vanguard – a’u gwella o ganlyniad. Cafodd Simon digon o fraint i weithio ar yr Adolygiad Munro ar Amddiffyn Plant, ac mae wedi ymrwymo i helpu’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. simon.pickthall@vanguardwales.co.uk

Byd Podlediadau – llawn hud a lledrith

PodcastsFi ‘di creu sawl podlediad ers i mi ddechrau gweithio i’r Gyfnewidfa Arfer Dda. Mae wedi bod yn ffordd wych o gasglu barn pobl a chael tystiolaeth o effaith ein gweithgareddau, a hefyd i glywed beth yw’r ffordd orau i ni wneud ein gwaith yn y dyfodol.

Os ‘da chi eisiau creu podlediadau yn rhad ac am ddim, mae’n haws nag erioed i wneud hynny. Mae ffonau a thabledi yn gallu recordio ffeiliau o ansawdd da y dyddiau yma (ni ‘di bod yn defnyddio ein ipads a thabledi Asus personol), gallwch eu golygu gan ddefnyddio meddalwedd am ddim fel Audacity (sydd yn ffynhonnell agored), a gallwch eu rhoi ar-lein gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Soundcloud (lle gallwch storio hyd at 2 awr o sain yn rhad ac am ddim) neu Audioboo (lle gallwch gynnal nifer diderfyn o ffeiliau sain sydd o dan 3 munud o hyd).

Rydw i wedi bod yn gwneud hyn ers sbel nawr, ond ers i mi ddechrau gweithio yma dwi wedi sylweddoli dyw’r podlediadau fi ‘di bod yn recordio ddim mor dda ag y gallent fod. Fe wnes i gwestiynu pethau’n gyntaf ar ôl i mi glywed podlediad fy nghydweithiwr Chris gyda Helen Reynolds. Roedd fy nghyfweliadau i’n glinigol, ond roedd ymdrech Chris yn dangos personoliaethau fe a Helen. Cafodd y teimlad yma ei atgyfnerthu gan gyfweliad Chris gyda Dr Sharon Evans o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, lle mae’r ochr personol unwaith eto yn glir.

Tua’r adeg hon, dechreuais fynychu digwyddiadau Geek Speak yng Nghaerdydd. Yn y digwyddiad cyntaf wnes i fynd iddo, fe wnaeth Gareth Morlais arwain sesiwn ar storiâu digidol. Ar ôl ei sesiwn (roedd e’n wych), fe wnes i gyfleu beth roeddwn i’n meddwl am fy mhodlediadau.

Mae storiâu digidol Gareth yn llawn emosiwn, a dyma beth sy’n eu gwneud nhw’n wych – maent yn gyfrifon personol iawn o brofiadau pobl. Er roeddwn i’n cael y wybodaeth roedd eisiau arnaf o fy nghyfweliadau, doedd y cynhesrwydd roeddwn i’n chwilio amdano ddim yna. Roeddwn i’n cael barn pobl i ffitio i mewn i stori fi, yn hytrach na gwrando ar bobl yn dweud storiâu eu hunain. Sylweddolais fy mod wedi bod yn cynnal cyfweliadau mewn ffordd hen ffasiwn iawn. Yn y byd o we 2.0, ble ni’n rhannu ac yn rhyngweithio â phobl eraill, roeddwn i’n gweithio mewn modd unochrog iawn.

Nawr rwy’n awyddus iawn i gydweithio â phobl fel bod y ddau ohonom yn berchen ar y podlediad ac yn cael beth ni eisiau allan ohono. Wedi’r cyfan, mae’n anodd bod yn llawn cyffro am rywbeth ‘da chi heb gael unrhyw fewnbwn i.

Mae fy misoedd cyntaf yma wedi bod yn wych. Rwy’n dysgu pethau newydd gan fy nghydweithwyr drwy’r amser, ac rydw i’n edrych ‘mlaen yn arw i roi beth rydw i wedi ei ddysgu ar waith.

– Dyfrig