Skip to content

Categori: Digidol

Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital. Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu ffurf bresennol. Mae Phil Rumens wedi ysgrifennu blogbost grêt ar y pum cam o drawsnewid digidol. Mae hyn yn dangos y gwerth ychwanegol o feddwl am wasanaethau o ran darpariaeth ddigidol. Rydw i wedi bod… Read more Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Pam roedd pawb eisiau dweud eu dweud yng Ngwlad yr Iâ mewn cyfnod o ymddiriedaeth isel? Fe wnaeth Dyfrig Williams cymryd rhan mewn sgwrs gwe gyda Kevin Davies a Dean George o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gunnar Grímsson o’r Sefydliad Dinasyddion i ddysgu mwy am Reykjavik Gwell. Roedd 2008 yn adeg anodd yng Ngwlad yr Iâ. Aeth tri phrif fanc sector preifat y wlad i’r wal, a dechreuodd hyn argyfwng ariannol a wnaeth hyd yn oed effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru. Pa mor llwyddiannus oedd y gwefan? Lansiwyd gwefan… Read more Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Defnyddio ystadegau ar gyfer Gwelliant Parhaus

Sut mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn mynd ati i wella’n barhaus? Aeth Dyfrig Williams ar ymweliad â’r Gymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan i ffeindio allan mwy. Cwpl o wythnosau yn ôl fe wnes i fynd i Gasnewydd i ddysgu am ddull Gwelliant Parhaus y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnaeth ennill Gwobr Lean Six Sigma y Sefydliad Ansawdd Prydeinig yn 2014. Beth yw Lean Six Sigma? Mae Six Sigma yn set o dechnegau a dulliau sy’n cael eu defnyddio i wella prosesau trwy nodi a chael gwared ar gamgymeriadau er mwyn… Read more Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Defnyddio ystadegau ar gyfer Gwelliant Parhaus

Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

Cymerodd Dyfrig Williams ran yn Google Atmosphere, gweminar oedd yn archwilio diwylliannau o arloesedd. Yn y blogbost yma, mae’n edrych yn ôl dros y pwyntiau dysgu allweddol. Mae papur Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn amlinellu’n glir ein bod ni mewn cyfnod heriol i wasanaethau cyhoeddus, gan fod yna lot llai o adnoddau i ddarparu gwasanaethau mewn cyfnod o alw cynyddol. Os dydyn ni ddim yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd, sut gallwn ni dechrau newid y ffordd ni’n gweithio? Dyma beth oeddwn i’n pendroni amdano wrth… Read more Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

5 peth i wasanaethau cyhoeddus eu hystyried wrth ddefnyddio Periscope

Sut gall gwasanaethau cyhoeddus ddefnyddio Periscope? Yn y blog gwadd yma, mae Will Barker, Swyddog Cefnogi Prosiect (Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol), 1000 o Fywydau a Mwy, yn edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio’r ap. Ap ffrydio byw newydd yw Persicope sy’n gysylltiedig â Twitter. Dim ond ychydig dros fis oed yw’r ap ac eisoes mae wedi cael ei ddatgan fel un sy’n newid y gêm o ran y ffordd y mae cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar newyddion darlledu. Honnir mai hwn yw’r llwyfan mawr nesaf i ddod i’r amlwg ar… Read more 5 peth i wasanaethau cyhoeddus eu hystyried wrth ddefnyddio Periscope

WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?

Wrth i’r byd newid, mae’n rhyfeddol gweld sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, byddai’n anarferol iawn i sefydliad feddu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol (fel pan grëodd Helen Reynolds dudalen MySpace ar gyfer Neuadd y Sir yn Nhrefynwy). Er bod llawer ohonom yn parhau i geisio deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliadau yn rhyngweithio â chymunedau, mae’n rhan hanfodol o’r ffordd ni’n cyfathrebu fel unigolion o ddydd i ddydd. Nid yw’n syndod felly, ein bod ni’n gallu dysgu… Read more WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?